nodyn sy ddim yn gweithio

S'mae. Ga i dynnu'ch sylw at Sgwrs Nodyn:Cuddiwyd? Diolch yn fawr! Alan 18:18, 1 Awst 2008 (UTC)

Uwchlwytho ffeil

Am ryw reswm dydi "Uwchlwytho ffeil" yn y blwch offer ddim yn gweithio (mae nodyn amdano yn y Caffi dan y bennod "Llun", ar y gwaelod). Oes gen ti syniad sut i'w drwsio? Mae "Arbennig:Upload" yn gweithio'n iawn ond mae'r ddolen yn y blwch offer yn arwain i dudalen gwybodaeth ar "en". Anatiomaros 21:36, 6 Awst 2008 (UTC)

A, roeddet ti wedi sylwi yn barod! Anatiomaros 21:38, 6 Awst 2008 (UTC)
Wnes i ddim siecio i weld os oedd yn gweithio echdoe, ond dydy o ddim yn gweithio rwan, beth bynnag, ond yn arwain i'r erthygl Saesneg. Fedri di gael golwg arall ar hyn? I bobl sy ddim yn gwybod amdano mae'n mynd i fod yn amhosibl i lwytho ffeil i fyny. Diolch. Anatiomaros 20:39, 9 Awst 2008 (UTC)

Nodiadau ar gyfer y ffurflen uwchlwytho

Dwi ddim yn gwybod a wyt ti wedi gweld y nodyn ar y Caffi yn holi am gymorth gyda creu'r nodiadau ar gyfer gosod trwyddedi yn y ffurflen uwchlwytho ffeiliau? Rwyf wedi mynd i drybini gyda'r nodyn i roi'r nodyn Information yn y blwch gwybodaeth ar y ffurflen. Rwyf wedi drafftio'r nodyn Manylion ar sail Vorlage:Information yn Almaeneg a Template:Information yn Saesneg. Ond dwi ddim yn siwr a ydy fe'n gweithio'n iawn. A dwi ddim yn gwybod sut i'w osod yn yr input box ar y ffurflen uwchlwytho. Dwi ddim yn siwr a oes rhaid ymhel â'r negeseuon .css a .js neu beth. Allet ti fwrw golwg dros hwn a gweld a chei di oleuni ar y mater? Os na chei, fe dreia'i holi ar mediawiki ond yn anffodus nid yw'r help fan hynny'n fawr o help. Yn ddiffuant. Lloffiwr 21:12, 13 Awst 2008 (UTC)

Wicipedia DU

Wikimedians in the United Kingdom are working to set up a chapter of the Wikimedia Foundation, which will aid and encourage people to collect, develop and effectively disseminate knowledge. A board of five members has been elected, and a company has now been set up. Membership applications are now invited, and will be processed as soon as we have a bank account. The organisation needs the support and involvement of people like you.

So far, most participants have been based on English-language projects, but we want to ensure that we work with and for Wikimedians in all languages. As Wicipedia yn Gymraeg is an important language native to the UK, we are making contact with you.

We need to know what a new UK chapter can do to assist your project, and how we can best work together to make that happen. We are also looking for people who can translate short pieces of text, such as the first paragraph of this message, to help publicise the activities of the chapter.

Please do comment, make suggestions, and feel free to ask us any questions, whether here, on MetaWiki, or on the wikimedia-uk mailing list. AndrewRT 23:02, 1 Rhagfyr 2008 (UTC)

Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Wicipedia

Sut mae, Rhion? Ga'i dynnu dy sylw at y nodyn yn y Caffi am ymateb Bwrdd yr Iaith i gais am gymorth? Hoffwn fedru anfon ein hymateb i'r cynnig i fod ar eu desg erbyn bore dydd Llun. Hwyl, Anatiomaros 18:13, 13 Rhagfyr 2008 (UTC)

Hide/Show on navigation templates

Hi Adam. Unfortunately I can't speak Welsh so I have to resort to using English. I was wondering if you know about the hide/show functions in the navigation templates that generally appear at the bottom of articles. I've been trying for quite some time now to enable the same function on the Manx language wikipedia but so far to no avail. If you get a chance at all we at gv:WP would be very grateful if you could provide some assistance on the issue. Kind regards, --MacTire02 20:21, 10 Chwefror 2009 (UTC)

B*ll*cks

Diolch, Adam. Es i i lawr i wneud panad jest rwan a dod yn ôl a gweld y llanast - rhaid ein bod ni wedi bod o fewn eiliadau o'n gilydd yn blocio'r hurtyn! Anatiomaros 22:19, 13 Chwefror 2009 (UTC)

diolch

am hyn Alan 23:05, 17 Chwefror 2009 (UTC)

Media studies

Hi Adam, I saw that you have opened a category for en:media studies ("Categori:Astudiaethau cyfryngau"). Can you translate the introduction of the article? One or two sentences would be enough and a great help. Thanks --Kolja21 13:53, 24 Mawrth 2009 (UTC)

Afiechyd

Jest er gwybodaeth i ti, mi ddechreuais i lenwi'r Gwybodlen Afiechyd ar un o tua 25 o erthyglau a sgwennais ar afiechydon (anwyd oed hwnnw. Ond roedd un llythyren goch! Ac ni fedrwn gael gwared ohono! Felly rhoddais y ffidil yn y to. Ond o leiaf roedd Rhys wedi creu Nodyn bach da.

Cymer olwg hefyd ar {{afiechyd}} ar yr un erthygl (Annwyd) sydd reit o dan y wybodlen. Mae rhestr o afiechydon ar hwnnw - afiechydon cyffredin (ar wahan i un cansar y dylid ei dynnu oddi yno, efallai.)

Yn olaf, bydd yn ofalus o dy ddefnydd o "llid" gan ei fod yn golygu "afiechyd" (a ddefnyddir y rhan fwyaf o amser gennym hyd yma).

Pob hwyl, mi dria innau sgwennu / addasu chwaneg ar afiechydon a meddygaeth yn dy gysgod! Llywelyn2000 21:43, 5 Awst 2009 (UTC)

Newidiadau i'r nodyn:gwybodlen

S'mae? Gallwch chi ychwanegu rhywbeth fel hyn (i arddangos y paramedrau gwahanol) i'r nodyn:gwybodlen ohewrydd rwyf ychydig ar goll ar ol eich newidiadau diweddar? Y rheswm wnes i greu'r nodyn gwybodlen oedd i cael ffordd syml o greu gwybodlenni effeithiol ar unrhyw erthygl heb gael llond lle o sgript ar yr erthygl ei hun- ond nawr mae'n edrych yn cymhleth iawn!! Diolch, Rhys Thomas 15:43, 14 Awst 2009 (UTC)

Diolch yn fawr! Bydd rhaid i mi hefyd arbrofi da un newydd chi!! Hwyl, Rhys Thomas 16:26, 14 Awst 2009 (UTC)

Erthygl yn bodoli'n barod

Sut mae? Newyddion drwg i ti - mae'r erthygl ar y Pandemig ffliw yn bodoli'n barod yma. Os wneid di "Chwilio" (ar y dde i "Mynd") cyn cychwyn, fel ddylet ti weld a oes erthyglau tebyg etc. Llywelyn2000 22:56, 19 Awst 2009 (UTC)

Wps Na! Dwy erthygl wahanol gen ti! Sori! Llywelyn2000 22:58, 19 Awst 2009 (UTC)

Dodrefn

Ti'n iawn! Dwi angen sbecs... :-) Anatiomaros 19:53, 14 Hydref 2009 (UTC)

Question

Annwyl Adam! I would like to ask a fast linguistic question. I need to translate this to Cymraeg, is it good in Welsh?:

O, dwi ddim un gallu anadlu tân! - Oh, I can't breathe fire! (a dragon should say this)

Is it wrong or right in Cymraeg.

Diolch! --Eino81 00:06, 29 Tachwedd 2009 (UTC)

By the way, this is the dragon, who could say such things:

 

Neges bwysig i bob gweinyddwr

Yn dilyn trafodaeth yn y Caffi (gweler yma), mae Luke wedi creu tudalen newydd ar gyfer materion gweinyddol, sef Negesfwrdd gweinyddiaeth. Y syniad yw defnyddio'r Caffi ar gyfer negeseuon cyffredinol a defnyddio'r bwrdd newydd fel lle i drafod a datrys - gobeithio - materion fel nodiadau, categorïau, fandaliaeth a phethau eraill sy'n rhan o waith gweinyddwyr. Bydd yn gymorth i gadw trafodaethau gyda'i gilydd ac yn rhyddhau lle yn y Caffi. Hoffwn ofyn i bawb sy'n weinyddwr ei roi ar eu rhestr gwylio a'i ddefnyddio. Gobeithio bydd yr arbrawf yn llwyddiant ac yn gwneud ein gwaith yma yn haws. Anatiomaros 21:46, 3 Ionawr 2010 (UTC)

Angen dy wybodaeth

S'mae Adam? Ga'i dynnu dy sylw at Sgwrs Nodyn:Navbox yn y gobaith y medri di fod o gymorth? Anatiomaros 17:10, 11 Ionawr 2010 (UTC)

Joseph Stiglitz

Re this:

I see that what I warned has come true :-) Luke 17:21, 27 Ionawr 2010 (UTC)

Can you update the iws in Charlotte's Web 2 please

Charlotte's Web 2: Wilbur's Great Adventure can only be edited by admins. Please update the iws. 74.249.126.231 04:02, 27 Mai 2010 (UTC)

Helo, could you help us, please!

ói bore da! Sorry this is the only thing I'm able to write in Welsh for now. I'm Claudi Balaguer, member of a Catalan association "Amical de la Viquipèdia" which is trying to become a Chapter but has seen this rejected because it doesn't belong to a/one state! Since you're Welsh you understand too well what it is to be a speaker of a minorized language. If you think that our action may help all the minorized or stateless languages and preserve our cultures you can paste the following template on your user page Wikimedia CAT. Thanks/diolch for your help! I wish you a pleasant and sunny summertime. Take care, hwyl fawr! Capsot 17:33, 14 Mehefin 2010 (UTC)

Blwch defnyddiwr

Helo, s'mai? Dwi newydd greu blwch i'w ddefnyddio i ddweud bod rhywun yn weinyddwr. Defnyddia'r cod {{Defnyddiwr:Xxglennxx/Blychau/Gweinyddwr}} os hoffet ti :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:39, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)

Baner Azerbaijan

Cafodd hyn ei newid eto. Ymddengys fod y cyfranwr yn ddidwyll a bod y newid yn cael ei derbyn gan rai wicipediau, e.e. Ffrangeg a Rwseg, ond dwi ddim yn siwr fy hun. Y broblem ydy natur y dystiolaeth. Dwi wedi codi'r pwynt ar dudalen Sgwrs Defnyddiwr:Interfase a hoffwn gael dy farn. Hwyl, Anatiomaros 17:26, 25 Awst 2010 (UTC)

Libya

Cymer olwg ar Gwrthryfel Libya, 2011 os gweli di'n dda. Llywelyn2000 06:37, 22 Ebrill 2011 (UTC)

♥ Caru ti =] beca 19:13, 19 Mai 2011 (UTC)

Ffeiliau

Gweler eich tudalen sgwrs Defnyddiwr:Enw defnyddiwr/Ffeiliau am ragor o wybodaeth. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 18:47, 24 Mai 2011 (UTC)

Pa bryd mae ymosodiad yn troi'n gyflafan?

Henffych, gyfaill! Dw i wedi gadael awgrym bychan yma i'th sylw caredig. Dim ond awgrym ydy o! Diolch. Llywelyn2000 23:15, 25 Gorffennaf 2011 (UTC)

Wedi ymateb. :) —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 23:24, 25 Gorffennaf 2011 (UTC)

Hei, diolch!

Diolch am eich helpu! Ydy'n ok i ddysgu fi pa dwi'n creu cyfeiriad ar Wicipedia?

TheFartyDoctor Sgwrs 23:27, 2 Medi 2011 (UTC)

verbs

Adam, Thank you for your help with the parasiwt article. What part of the verb is "ddefnyddir" please? Thanks. Oxford 07:48, 6 Medi 2011 (UTC)

No problem! "a ddefnyddir" means "that is used". —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:29, 6 Medi 2011 (UTC)
Great, thanks for your help. Oxford 18:47, 6 Medi 2011 (UTC)

Ffynhonnell iaith Howard Marks

Diolch am dy waith ar famiaith Howard Marks: diddorol iawn. Mae'r ffynhonnell yn dangos yn glir ei fod yn medru'r Gymraeg. Llywelyn2000 05:25, 27 Hydref 2011 (UTC)

Dwi'n falch fy mod yn gallu taflu goleuni ar y mater! —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 15:34, 27 Hydref 2011 (UTC)

Arallfydol...

Yn dy erthygl ddiddorol Digwyddiad y Berwyn dw i wedi newid y term Cymraeg am UFO o "gwrthrych hedegog anhysbys" i "gwrthrych hedegog arallfydol" gan fod 99.9% o'r UFOs yn dod o'r gofod (paid a gofyn am gyfeiriadaeth!) Mi wna i ei newid yn ol, wrth gwrs, os wyt ti'n dymuno. Yn ail, efallai fod "bodau arallfydol" hefyd yn fwy naturiol na "bywyd y tu hwnt i'r Ddaear"? Diolch. Llywelyn2000 07:20, 19 Rhagfyr 2011 (UTC)

Nid oeddwn yn gwybod dy fod yn gredwr, Llywelyn! Mae'n rhaid imi anghytuno: mae UFO yn cyfeirio at wrthrych, golau, neu rywbeth arall yn yr awyr ni ellir ei adnabod, nid o reidrwydd rhywbeth o'r gofod. Mae dweud bod "gwrthrychau hedegog anhysbys" yn bodoli felly'n ffaith, ond mae dweud bod "gwrthrychau hedegog arallfydol" yn bodoli yn ddadleuol iawn! —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 23:55, 19 Rhagfyr 2011 (UTC)
Ond eto, pa UFO sydd o'r Ddaear? Llywelyn2000 00:08, 20 Rhagfyr 2011 (UTC)
Mae Cysgeir yn awgrymu "ehedbeth anhysbys" ar gyfer "UFO"... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:28, 20 Rhagfyr 2011 (UTC)
Mae nifer ohonynt yn "arallfydol" (sêr gwib ayyb) ond mae nifer ohonynt yn dod o'r Ddaear, neu yn ffenomenau o fewn atmosffer y Ddaear: awyrennau, balwnau, cymylau, goleuadau o'r Ddaear, rhithluniau, ac eraill. Dwi'n awgrymu'n gryf eu galw'n "gwrthrychau hedegog anhysbys", sydd yng Ngeiriadur yr Academi ac mae ganddo ychydig o drawiadau Google. Mae "ehedbeth anhysbys" yn ymddangos yng ngeiriadur y BBC hefyd, ond nid yw'n cael ei ddefnyddio unrhywle arall ar y we. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 01:24, 20 Rhagfyr 2011 (UTC)
Mae dy erthygl Goleuadau Egryn yn hynod ddiddorol a dw i'n derbyn dy bwynt fod posibilrwydd (bychan iawn, iawn) mai tarddu o'r Ddaear oedd y golau. Dwn im fyddai Mari'n disgrifio'r golau'n "hedfan" fodd bynnag, gwendid arall yn y term. Mae golau dwyfol (auora), fodd bynnag yn olau o fyd arall, ysbrydol. Dw i ddim yn credu y byddai neb yn galw'r math hwn o olau yn UFO! Ond os mai cyfieithu'n llythrennol wyt isio yna awê! Ond y term? Unrhyw beth sydd ddim yn gyfieithiad annaturiol, ac yn llond ceg i'w ddweud! Beth am "olau neu wrthrych llonydd neu symudol, bydol neu arallfydol anhysbys ! Llywelyn2000 07:57, 20 Rhagfyr 2011 (UTC)
Yn sicr mae cyfyngiadau gan y term os ydym yn ei gymryd yn llythrennol, ond caiff ei ddefnyddio i ddisgrifio ystod eang o ffenomenau. Eto dwi'n awrgrymu'n gryf i ni ddefnyddio'r term mwyaf cyffredin, "gwrthrychau hedegog anhysbys". —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:04, 22 Rhagfyr 2011 (UTC)

Arddull y ddalen

Bore da! Wnei di gymryd golwg ar cylch cerrig os gweli di'n dda? Dw i'n trio cael y tabl a'r lluniau ochr-yn-ochr, ond does dim yn tycio! Diolch. Llywelyn2000 08:34, 28 Rhagfyr 2011 (UTC)

Newidais y tabl i alinio i'r dde. Llwyddiant? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 08:53, 28 Rhagfyr 2011 (UTC)
Perffaith!!! Sut goblyn na welais y linell berthnasol yn syllu arnaf??? !!! Diolch Adam. Llywelyn2000 09:06, 28 Rhagfyr 2011 (UTC)

Request for translation. Yanka Kupala and Yakub Kolas

Warm greeting from Belarusian Wikipedia! This year we celebrate 130. birthday of Belarusian great poets en:Yanka Kupala and en:Yakub Kolas Could you help us to translate articles into your unique and honourable language? Thank you in advance! --Rymchonak 16:17, 15 Ionawr 2012 (UTC)

Return to the user page of "Adda'r Yw/Archif 2".