Sgwrs Defnyddiwr:Adda'r Yw/Archif 3

Eginyn

Bore da. Dw i'n sylwi dy fod yn gosod y Nodyn "eginyn" ar rai erthyglau eitha cynhwysfawr, e.e. Smyglo. Pwrpas y Nodyn yma ydy clustnodi'r erthygl i'w wella / ddatblygu. Dw i'n gweld lle iddo gydag erthyglau un frawddeg, ddylai fod yn flaenoriaeth; ond dydw i ddim yn gweld erthyglau fel hyn - efo 3 paragraff eitha hir mor bwysig. Be wyt ti'n ei feddwl? ON Mae Wiki-en yn dileu pob erthygl sydd HEB gyfeiriadau arnyn nhw; efallai gwiro'r refs ar cy yn bwysicach? Llywelyn2000 (sgwrs) 04:28, 5 Mai 2012 (UTC)

Mynd trwy'r erthyglau yn Categori:Egin oeddwn i, gan ychwanegu nodiadau manylach, heb feddwl os oedd angen barnu presenoldeb y nodyn eginyn o gwbl. Byddai'n rhoi mwy o feddwl iddo! Cytuno bod angen mwy o ffynonellau, dwi'n bwriadu yn yr wythnosau nesaf i lunio awgrymiad o bolisi cyfeiriadau, troednodion a ffynonellau a'i gyflwyno yn y Caffi. Dim byd sy'n torri tir newydd, mond canllaw syml. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 04:38, 5 Mai 2012 (UTC)
Syniad da. Fe ddylwn fod wedi dweud (uchod) fod Wiki-en yn mynnu DAU gyfeiriad fel ffynhonnell - o leiaf! Nid jest un! Fe ddylem ninnau hefyd. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:46, 5 Mai 2012 (UTC)

Penod/Rhandal

Diolch! Deb (sgwrs) 18:10, 7 Mai 2012 (UTC)

Marathon: y ras

Bore da! Mi wnes i beidio a chynnwys llathenni, gan nad ydym yn ei ddefnyddio mewn erthyglau eraill. Mi fydda i wastad yn rhoi'r metrau, weithiau troedfeddi (ee uchder mynyddoedd) ond byth llathenni! Ond chwaeth bersonnol ydy hwnna! Ond pam lai? Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:52, 12 Mai 2012 (UTC)

Gwyliau

Be ydy ystyr "Gwyliau"? Dydy o ddim yn fy ngeiriadur! LOL. O leiaf mi fyddi di'n ol ar gyfer Caerdydd ar y 30ain! Dw i am roi gwybodaeth ar Wicipedia:Golygathon Caerdydd 2012 yn hysbysu pobl fod costau teithio ar gael (a rhannu car os yn bosibl), a bwyd ar gael ar y diwrnod. Byddai'n braf dy gyfarfod. Mi roi le pwrpasol i nodi os ydych am hawlio cludiant.Llywelyn2000 (sgwrs) 19:18, 2 Mehefin 2012 (UTC)

Cyfeiriadau

Sdim wedi ei bederfynu eto am beth rydym am wneud, ond mae trafodaeth yn Y Caffi am y ffaith bod cymaint o erthygalu yma a dim cyfeiriadau o gwbl. Yn y cyfamser, alli di ychwnegu (o leiaf dau os yn bosib) cyfeiriad wrth greu erthyglau newydd o hyn ymlaen o.g.y.dd. Diolch.--Ben Bore (sgwrs) 12:20, 21 Mehefin 2012 (UTC)

Symud tudalen defnyddiwr

Diolch yn fawr i ti am symud y dudalen i Defnyddiwr:Llywelyn2000/Olympic Countries. Sut goblyn fethais i'r gair 'Defnyddiwr'?! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:18, 29 Gorffennaf 2012 (UTC)

Dim problem! —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:50, 30 Gorffennaf 2012 (UTC)

Diolch!

Diolch am ffindio be oedd y broblem [Gemau Olympaidd yr Haf 2012 yma]. Fy mai i oedd e! Diolch! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:58, 2 Awst 2012 (UTC)

Two thumbs up

Hi Adam, I was looking at your userpage and saw a massive list of articles you will be working on here at cywp. Quite impressive. But what is especially impressive is that Gopnik has made it into Welsh Wikipedia PMSL. Two thumbs up for that. Although I don't speak Welsh, if you want any help with the Russian relations articles you have listed, feel free to drop me a line; I've written several on English Wikipedia, including w:Australia-Russia relations, w:Kuwait-Russia relations, w:Russia-Swaziland relations, w:Russia-South Ossetia relations, etc, etc. Russavia (sgwrs) 19:17, 14 Awst 2012 (UTC)

I forgot to ask if you understand Russian. If so, I can share with u some fantastic sources. Just drop me a line anytime. Cheers Russavia (sgwrs) 02:28, 16 Awst 2012 (UTC)
Thanks, I created Gopnik to accompany our chav article! Unfortunately my Russian is non-existent. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 23:03, 16 Awst 2012 (UTC)
OK, no problem. In any case, if you are like me, I write my articles by doing my own research, and writing them from scratch...although I might refer to other articles on other projects for background. If you are the same, feel free to drop me a line when you do get around to writing those articles, and I might have some sources for you that aren't otherwise known about or easily found...and they will be in English and Russian. Russavia (sgwrs) 09:58, 17 Awst 2012 (UTC)

Dyfrhau'r holl egin...

Adam. Wnei di gymryd cip ar pwt a osodais yn y Caffi os gweli di'n dda. Rwyt ti wedi gosod Nodyn:Eginyn er enghraift ar erthygl Argws brown, sy'n cynnwys 5 paragraff. Os oes mwy nag un paragraff (fel yr uchod) yna, nid yw'n eginyn. Diolch iti, ar yr un pryd, amd dynnu'r "Egin:Anifail" o'r erthyglau: mae nhw'n llawer rhy hir i fod yn egin. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:33, 1 Hydref 2012 (UTC)

Newid {{eginyn anifail}} i {{eginyn glöyn byw}} o'n i. Byddai'n fwy gofalus yn y dyfodol i ystyried os oes angen nodyn eginyn o gwbl (ond dwi'n gwybod fy mod wedi dweud hyn unwaith yn barod!). —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 12:43, 1 Hydref 2012 (UTC)

Nodyn:Angen diweddaru

Gweld mai ti greodd Nodyn:Angen diweddaru. Ro'n i eisiau ei newid fel bod unrhyw erthygl gyda'r nodyn arni hefyd yn cael eu cynnwys mewn categori perthnasol. O edrych ar cod Nodyn:Cyfoes dw i'n meddwl bod eisiau gosod

{{#if:{{NAMESPACE}}||[[Categori:Erthyglau sydd angen eu diweddaru}}<noinclude>

yn rhywle, ond dw i ddim yn siwr lle! Alli di helpu?--Ben Bore (sgwrs) 12:11, 5 Hydref 2012 (UTC)

Mae'n gwneud hynny'n barod! {{DMCA|Erthyglau sydd angen eu diweddaru}} sy'n rhoi erthyglau efo'r nodyn yn Categori:Erthyglau sydd angen eu diweddaru. Hwyl, —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 15:10, 5 Hydref 2012 (UTC)
Aah, Categori Cuddiedig! Diolch am yr esboniad.--Ben Bore (sgwrs) 20:19, 6 Hydref 2012 (UTC)

Categori:Meddalwedd Cymraeg

Dw i wedi creu erthygl am Agored sef fersiwn Cymraeg o'r meddalwedd OpenOffice. Mae Categori:Meddalwedd eisoes yn bodoli, ond hoffwn i hefyd gael gategori Meddalwedd Cymraeg. Pan es ati i greu un, daeth rhybudd i fyny yn gofyn o'n i wir eisiau creu hwn gan bod y categori wedi ei ddileu yn y gorffenol (ganddot ti). Yn y crynopdeb, nodaist di angen. Dw i'n bersonol o'r farn y byddai'n fuddiol cael categori o'r fath. Mae mwy a mwy o feddalwedd ar gael yn Gymraeg, a tra mae gwefannau eraill megis meddal.com a hedyn.net yn gwneud job dda ar restru'r rhain y gorau gallant, mae braidd fel ailddyfeisio'r olwyn os gellir jyst eu categoreiddio'n hawdd yma. Mae ganddon eisoes.--Ben Bore (sgwrs) 09:05, 26 Hydref 2012 (UTC)

"28 Medi 2008" – amser maith yn ôl! Mae'n debyg imi ei ddileu gan nad oedd unrhyw erthyglau ynddo, ac o edrych ar y hanes cafodd ei blancio gan Lloffiwr yn 2006. Ewch ati i'w adfer! —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 19:12, 26 Hydref 2012 (UTC)

Piso ar dy tsips

Bore da Adam! Dw i ddim isio piso ar dy jips (!) ond mae 'na erthygl ar droeth yn bodoli'n barod: piso. Gelli ychwanegu'r agwedd wyddonol (fel rwyt ti wedi'i sgwennu yn yr erthygl 'troeth', wrth gwrs) i' fewn i'r erthygl ar biso. Rwan am fy uwd! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:22, 9 Tachwedd 2012 (UTC)

Mae gan y Wicipediau eraill erthyglau ar wahân ar gyfer yr hylif a'r weithred (gweler y dolenni rhyngwici ar troeth a piso). —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 12:59, 9 Tachwedd 2012 (UTC)
Digon teg! Yr un stwff ond geiriau gwahaol i'w ddisgrifio! Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:11, 10 Tachwedd 2012 (UTC)

Y defnydd o fots

Gwych gweld rhestr Cymdeithas Edward Llwyd (anifeiliaid) yn cael ei roi ar waith gennyt! Beth am ddolen ayn nhw, gan mai nhw sydd wedi bathu'r termau / enwau Cymraeg? Cofai hefyd y gallem ailgyfeirio o'r Lladin i'r enw Cymraeg efo bot. Dw i am wneud cais am hyn yn Bot Request ar gyfer y gwyfynod, gallwn wneud yr un peth efo rhywogaethau eraill. Gyda llaw - y categoriau - unrhyw newid o niferoedd mawr - mae'r bot yn ei wneud yn sydyn a didrafferth, fel y gwnes efo'r map / cyfesurynnau ar copaon mynyddoedd Cymru (tua 800 ohonyn nhw). - Llywelyn2000 (sgwrs) 05:51, 30 Tachwedd 2012 (UTC)

Roeddwn i'n cael yr enwau o Eiriadur yr Academi. Ble mae rhestr Cymdeithas Edward Llwyd? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 06:02, 2 Rhagfyr 2012 (UTC)

Llywio

Os ei di i fama mi weli fod y gair "Llywio" yn fawr ac yn ddu ac yn y lle anghywir; mae ym mhob tudalen pan dw i'n sgrolio i lawr. Efallai mai ar fy nghyfrifiadur i yn unig mae hyn yn digwydd - wnei di gadarnhau hyn a checio'r côd yn Nodyn:Lliwio os gweli di'n dda. Can diolch! - Llywelyn2000 (sgwrs) 10:05, 7 Rhagfyr 2012 (UTC)

Dwi methu ei weld. Efallai bod angen clirio'r storfa? Rhowch wybod imi os yw'r broblem yn parhau. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 15:37, 9 Rhagfyr 2012 (UTC)

Cysylltu dolennau WPC i Wicadur

Haia. Mae na sgwrs yn fama, efallai y medri di gyfrannu ato. Parthed: llythyren fach ydy'r ddolen, ond mae ateb i'r broblem. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:22, 23 Ionawr 2013 (UTC)

Article requests

Hi! Where do I put article requests on the Welsh Wikipedia? Thanks WhisperToMe (sgwrs) 22:06, 2 Chwefror 2013 (UTC)

Croeso! You can post requests here: Wicipedia:Erthyglau a geisir. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 23:56, 2 Chwefror 2013 (UTC)
Thank you! WhisperToMe (sgwrs) 23:10, 6 Chwefror 2013 (UTC)

Cyfnewid nodyn mewn blwch

Haia. Dw i'n trio gwneud rhywbeth yn Porth:Llwybr yr Arfordir na welais mohono'n unlle - felly efallai mod i'n trio gwneud yr amhosib! Tybed fedri di helpu? Fy nod ydy cyfnewid y map o Gymru am un gyda threfi pan fo'r defnyddiwr yn clicio'r ddolen oddi tano "Trefi'r Arfordir" (efo Aberystwyth arno). Ar hyn o bryd mae'r ddolen yn agor tudalen newydd yn hytrach na bwydo'r map trefi yn lle'r map llwybrau. Mae croeso i ti arbrofi gyda'r tudalennau hyn, os fedri di. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:15, 9 Ebrill 2013 (UTC)

Nol yma!

Sut wyt ti Adam? Drwg iawn gennyf am beidio ateb dy e-bost, rhai misoedd yn ol, ond mae amgyclhiadau wedi bod yn reit anodd ers sbel. Dal heb fod yn berffait - salwch ayyb - ond dwi'n ôl rwan (dim mor aml ac yn y gorffennol efallai, ond dwi ddim yn bwriadu 'diflannu' eto). Anatiomaros (sgwrs) 19:52, 13 Mai 2013 (UTC)

Ha, roeddwn i'n meddwl dy fod wedi diflannu oddi ar wyneb y ddaear! Gobeithio bydd dy amgylchiadau'n gwella'n fuan, a chroeso 'nôl! —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:16, 13 Mai 2013 (UTC)

Egin

Mae sylw wedi ei adael ar dudalen Sgwrs Botwm Crys. Diolch. 2.26.185.158 05:01, 7 Mehefin 2013 (UTC)

Mae'r newid wedi ei wneud yma, bellach. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:09, 29 Mehefin 2013 (UTC)
Gwych, diolch yn fawr! —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 18:24, 30 Mehefin 2013 (UTC)

Newid Nodion

Er gwybodaeth: fe drafodwyd yn y Caffi chydig fisoedd yn ol, Adam, na ddylid caniatau i ddefnyddwyr newydd focha efo Nodion. Mae Defnyddiwr:Dynogymru wedi newid miloedd o lefydd sy'n cynnwys map: newid o'r un 3D gyda insert i un hollol syml gwyn blanc. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:17, 22 Mehefin 2013 (UTC)

Dwyrain Swydd Efrog

Haia Adam. Wnei di gymryd cip ar hwn os gweli di'n dda. Cafwyd trafodaeth yn ddiweddar arno. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:17, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)

Nudge, nudge.... :-} Llywelyn2000 (sgwrs) 06:31, 11 Gorffennaf 2013 (UTC)

Y 50,000fed erthygl

Llongyfarchiadau Adam! Dyma 50,000fed erthygl ar Wicipedia Cymraeg. Carreg filltir arall o dan dy felt! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:46, 19 Gorffennaf 2013 (UTC)

Ha, gwych! Diolch yn fawr! :D —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:53, 19 Gorffennaf 2013 (UTC)
Ia, llongyfarchiadau! A gydag erthygl am 'Adda' hefyd. Hollol ddigywilydd! :-] Anatiomaros (sgwrs) 23:10, 19 Gorffennaf 2013 (UTC)

Llenwi'r bylchau

Wedi'r holl waith ar y Cymunedau, dw i am fynd gam ymhellach a llenwi'r bylchau efo gweddill y pentrefi sydd eu hangen. Cymer olwg ar Defnyddiwr:Llywelyn2000/Rhestr trefi a phentrefi yng Nghymru; Os wyt yn dymuno mi wna i ddanfon dolen i Gwgl doc, neu'n well byth at y feil Excel (er mwyn cadw'r acen grom). Wyt ti gem? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:53, 31 Gorffennaf 2013 (UTC)

Gemau'r Gymnwlad

Noswaith dda! Ddim yn siwr os ydw i wedi gwneud y peth iawn, ond gweld dy fod wedi bod yn golygu lot heno, dyma fwrw ati i ofyn y cwestiwn! Dwi wedi dechrau ar greu tudalennau Gemau'r Gymanwlad gan gychwyn efo Hamilton 1930 - dwi am fwrw ati efo'r gweddill yn y man, ond dim ond holi sut mae cael 'infobox' a 'template' ar gyfer y dudalen?. Diolch Blogdroed (sgwrs) 23:46, 13 Medi 2013 (UTC)

Noswaith dda! Gallwch copïo a phastio gwybodlenni (infoboxes) a nodiadau (templates) eraill o'r Wicipedia Saesneg. Edrycha yn Categori:Gwybodlenni am y rhai sy'n bodoli'n barod. Nid oes un am Gemau'r Gymanwlad eto, felly ewch ati i'w chopïo os wyt yn dymuno. Nid oes angen cyfieithu'r holl paramedrau i'r Gymraeg, dim ond y testun sy'n ymddangos ar y dudalen. Er enghraifft, o edrych ar en:1930 British Empire Games, bydd angen cyfieithu'r testun "Host city/Nations participating/Athletes participating" ayyb. Pob hwyl, a chroeso i Wicipedia :) —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 00:00, 14 Medi 2013 (UTC)
Hmmmm, wedi methu - ofn creu mwy o lanast!! Meddwl bod angen dileu yr hyn dwi wedi wneud ... trio eto fory!!! Diolch Blogdroed (sgwrs) 00:38, 14 Medi 2013 (UTC)

Gwerthfawrogiad

  Gwerthfawrogiad o'th waith Arbennig
Carwn gyflwyno'r seren hon i ti, rhen gyfaill, fel gwerthfawrogiad o'th waith arbennig. Cyflwyniad personnol ydyw, ond gwn hefyd fod dy waith yn cael ei werthfawrogi gan y gymuned a'r darllenydd. Diolch. Llywelyn2000 Llywelyn2000 (sgwrs) 12:24, 6 Hydref 2013 (UTC)
Gwych, diolch yn fawr! —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 16:36, 6 Hydref 2013 (UTC)

Hierarchaeth Nodion

Be ydy 'tad' y categori yma - 'Llyfrau heb ddelwedd o'r clawr'? Dydy o ddim yn ffitio'n daclus o dan 'Llenyddiaeth' (!) na 'Nodion gyda gwallau'. Unrhyw gynnig? Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:54, 9 Tachwedd 2013 (UTC)

Un arall, os cei amser: Categoriau Wici. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:26, 10 Tachwedd 2013 (UTC)

Discussion about a redirect you have created

Apologies for not contacting you earlier, but as you are the creator of the C:CYF redirect page, your opinion is most needed at Wicipedia:Y Caffi#Requests for comment/Wikimedia Commons interwiki prefix. TeleComNasSprVen (sgwrs) 21:57, 14 Mawrth 2014 (UTC)

MAIB

Thank you so much for starting the Welsh article on the MAIB (Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol)! WhisperToMe (sgwrs) 11:53, 22 Ebrill 2014 (UTC)

Categori:Cyfraith eiddo deallusol yr Unol Daleithiau

Haia. Diolch am hwn: Categori:Cyfraith eiddo deallusol yr Unol Daleithiau - a chant a mil o bethau tebyg!!! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:21, 1 Awst 2014 (UTC)

Ydy 10 gair yn 'erthygl'?

Gwelaf dy fod yn creu pytiau 10 gair, sy'n debyg iawn i eiriadur, nid gwyddoniadur. Onid oes gennym reol - lleiafswm o dair brawddeg, os cofiaf yn iawn? 2.26.170.4 21:33, 12 Awst 2014 (UTC)

Diolch, rydw i wedi ceisio ehangu rhai o'r erthyglau hwn. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 21:38, 1 Medi 2014 (UTC)

Uwchlwytho ffeiliau, Dewin Uwchlwytho?

 

Hello! Sorry for writing in English. As you're an administrator here, please check the message I left on MediaWiki talk:Licenses and the village pump. Thanks, Nemo 19:22, 18 Medi 2014 (UTC)

Return to the user page of "Adda'r Yw/Archif 3".