Sgwrs Defnyddiwr:Anatiomaros/Archif 2
Hindwstaneg
golyguMae Hindwstaneg dim yr un fath yn Hindi? Deb 15:32, 12 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Wps, rwyt ti'n iawn! Too eager to fill in a red link.... Anatiomaros 15:39, 12 Gorffennaf 2008 (UTC)
Afon Cerwin
golyguHelo Anatiomaros! Shw mae? Pete dw i. I speak pigeon Welsh (I'm trying to relearn) so I'll write the rest in English!! (Mae ddrwg 'da fi!)
I'm from Llanpumsaint originally. I wrote out a new English page for Llanpumsaint and (with the help of the BBC welsh online dictionary) translated and incorporated some the information from the welsh page you authored.
You mentioned that the river Cerwin runs through the village. I changed this to the river Gwili. By "river Cerwin" do you mean Nant-cwm-cerwyn that runs into the village along the main road from town? If so I'll need to make some ammendments to the English page because you mentioned five pools on the Cerwin and I also changed that to Gwili! If you have time could you take a quick look over the rest and see if the other parts I translated are correct?
Diolch yn fawr.
Pete en:user:spacebungle cy:defnyddiwr:spacebungle
(p.s. I'm very new to Wicipedia/Wikipedia so please forgive me if I don't do something the correct way!)
- Hi Pete, and thanks for the message. I was mainly going by the OS map for the river, if you say it's Nant-cwm-cerwyn and that the main river is Afon Gwili you should know, as a local, so I've changed the article to match. I think the five pools are definitely on the nant though, not Afon Gwili (source was Aneirin Talfan Davies' book Crwydro Sir Gâr, if I remember rightly). But there again you may know something I don't! Anyway, croeso i'r Wicipedia Cymraeg. If you need any help let me know (btw, to sign your name just add four tildes (~~~~). Fôn, Anatiomaros 17:07, 16 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Diolch yn fawr, Anatiomaros! Dw i'n mynd i cyfnewid yr tudalen seisnig nawr. hwyl Spacebungle 17:20, 16 Gorffennaf 2008 (UTC) 02:20 Japan time
Ystadegau’r Iaith Gymraeg yn Llanpumsaint
golyguHi Fôn, Dw'i wedi gwneud golygiad bychan a'r tudalen Llanpumsaint" (How do I say "*about* Llanpumsaint"? Come to that... how do I say "How do I say..."??) Allet di edrych fy golygiad, os gwellwch un dda? Diolch! Spacebungle 08:46, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
ah, rhywbeth arall: dw'i wedi ysgriffenu hon a'r sgwrs yr tudalen, os mae rhaid i fi dweud rhywbeth yma hefyd? (I mean to say, will you be notified of the remark on the Llanpumsaint discussion page anyway?)
- Fawr dim byd o'i le; nothing much to correct. Diolch am gywirio'r ffeithiau yn yr erthygl. Cofion, Anatiomaros 17:59, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
"ti"
golyguDiolch am dy neges ddiweddar i mi. Dwi newydd sylweddoli dy fod di'n defnyddio "ti", ac felly dwi'n gwneud yr un peth. Fel dysgwr, mae'n ychydig anodd i mi wybod pryd i ddefnyddio "chi". Dwi'n teimlo ei bod hi'n well imi ddechrau gyda "chi" o leiaf (ac eithro gyda defnyddwyr sy'n ymddangos bod yn blant), ond dwi'n gobeithio gallu defnyddio "ti" gyda mwyafrif y bobl cyn bo hir. Alan012 19:19, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Gan ein bod yn rhan o'r un criw yma....! (mater o arfer ydyw, mae'n dibynnu ar y sefyllfa hefyd weithiau). Hwyl, Anatiomaros 19:28, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
creu gweinyddwyr
golyguWel, dwi'n dechrau meddwl bod digon o amser wedi pasio i roi siawns i unrhywun sy fasai am gwrthwynebu'r awgrymiad i roi galluoedd gweinyddwr i Defnyddiwr:Llywelyn2000 ac i mi. Os wyt ti'n cytuno â hyn, allet ti ddefnyddio dy alluoedd biwrocrat newydd gan ei wneud os gweli di'n dda? Diolch! Alan012 19:41, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Ydwyf yn fiwrocrat rwan? Does neb wedi dweud wrthyf fi! Dim neges yma, beth bynnag. Does gennyf ddim syniad sut mae creu Gweinyddwr chwaeth - rhaid imi ofyn - ond dwi'n meddwl fod rhaid i ddau fiwrocrat gytuno. "Dalia" am dipyn felly! Anatiomaros 19:46, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Wyt! Gwelais i hi yn wreiddiol yn y newidiadau diweddar (dim neges, ond y newidiad galluoedd ei hunan). Mae'r rhestr yma hefyd, ac mae'n ymddangos bod pob newidiad galluoedd wedi eu wneud gan un biwrocrat. Dwn i ddim sut, wrth gwrs, ond chwiliaf i yn y tudalennau cymorth... Alan012 21:18, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Wel nefi wen, newydd edrych - rwyt ti'n iawn! Ydy'r siwt lwyd/pinstripe yn y post, tybed? :) Anatiomaros 21:31, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
- :-) Dwi wedi dod o hyd i'r cyfarwyddiadau (ac wedi llosgi fy mwyd yn y ffwrn cyfamser...) -- gwela yma. Alan012 21:37, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Diolch yn fawr. (Ond oes rhaid i'r feddalwedd roi "blocio" wrth ochr enw pawb bob tro yn y newidiadau diweddar?!) Alan012 21:52, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Oes, felly byddwch yn ofalus be ti'n clicio! (jôc - dydi o ddim yn digwydd yn syth). Gyda llaw, os bydd rhaid iti flocio rhywun rhaid rhoi'r cyfnod yn Saesneg yn y blwch sy'n ymddangos (e.e. "2 weeks") neu fydd o ddim yn gweithio. Esboniad byr wedyn. Cofia hefyd fod fandaliaeth "lol" yn ystod y dydd yn aml yn waith plant ysgol ac felly paid a bod yn rhy hallt achos dydym ni ddim isio blocio cyfrifiadur ysgol am hir oherwydd cambihafio un plentyn. O, a llongyfarchiadau! Anatiomaros 22:00, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)
I'm glad you worked that one out for yourself, because I'm not very good at giving instructions. Llongyfarchiadau! Deb 08:19, 19 Gorffennaf 2008 (UTC)
dod yn weinyddwr
golyguDiolch, byddwn yn hoffi cael fy enwebu. Doeddwn i ddim eisiau rhoi fy enw fy hun ymlaen (er dw i'n siwr mai dyna yw'r drefn arferol ta beth). --Ben Bore 15:31, 25 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Grêt. Mi roddaf dy enw i lawr yn y drafodaeth yn y Caffi felly. Siwr bydd 'na ddim wrthwynebiad. Mewn gwirionedd dwi ddim yn meddwl fod pobl yn fod i enwebu eu hunain, yn ôl y rheolau, ond dyna sydd wedi digwydd yma. Ond does fawr o ots am y fformalitis mae'n debyg, gan ein bod yn griw mor bychan ar hyn o bryd! Anatiomaros 15:34, 25 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Rwyf wedi gwneud Ben Bore yn weinyddwr. Rhion 21:11, 27 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Diolch, bydd yn falch o glywed hynny, mae'n siwr. Anatiomaros 21:19, 27 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Rwyf wedi gwneud Ben Bore yn weinyddwr. Rhion 21:11, 27 Gorffennaf 2008 (UTC)
anon user adding phone number
golyguThank you for reverting the addition of phone number by Defnyddiwr:84.161.231.185. The stewards have now permanently removed the revision, as per the link I put on his talk page, hence no apparent edits by the IP. It is worth getting this done if the same happens again -- all it takes is an email to stewards (at) wikimedia.org. It may also be worth blocking the IP, but I'll leave you to do so as appropriate, as I don't have enough experience to decide on an appropriate time period (should there be written guidelines?) Alan012 19:01, 29 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Thanks, Alan. I'll bear that in mind if it happens again. As far as blocking IP addresses goes, it's a matter of personal judgement, I guess. Problem is that blocking an IP addy might block other users as well (fixed IP addresses are becoming more uncommon; could also be an innocent proxy), so it's best to wait and see. If it happens two or three times I'd give it a temporary block of a month or so. This sort of vandalism is probably "spur of the moment" stuff and not likely to reccur from the same person. Anatiomaros 19:19, 29 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Many thanks for the advice. Alan012 19:35, 29 Gorffennaf 2008 (UTC)
pwll tywod / archif
golyguHi, I've deleted the archives of the sandbox. But aside from the 'joke' in there, I am now genuinely curious as to the proper Welsh translation of chick pea! Thanks, Alan 15:44, 1 Awst 2008 (UTC)
- Sorry, that's got me stumped as well. Under pys in Geiriadur Prifysgol Cymru I find pysen y llygod as meaning "chick pea" "ar lafar yn gyffredinol", but pys llygod can also mean "vetch" (the plant) and I'm not familiar with the term pysen y llygod myself. There again we've practically lost so many plant names over the years... such a pity. Anatiomaros 15:56, 1 Awst 2008 (UTC)
- Oh well. But we'd have to decide on something if we want an article on them some time. Have to be something better than either "tsic-pî" (or some such) or the joke version (that you've seen so I needn't repeat). Alan 16:02, 1 Awst 2008 (UTC)
- Pysen y llygod is in the dictionary, so it's ok, just it's possible there are other names "out there", local variations etc. If we have an article I'd go for "pysen y llygod" I suppose - we can always change it later (there's vetch, "pys llygod"="pysen y llygod", but maybe there's an alternative there too). Just one of those things! Anatiomaros 16:07, 1 Awst 2008 (UTC)
- Ok -- may be worth making a quick stub article now, just so as not to lose the benefit of having looked into what it should be called. Alan 16:14, 1 Awst 2008 (UTC)
- Pam lai? Syniad da. Maybe that will bring suggestions for alternative names (you could ask on the tudalen Sgwrs)? Anatiomaros 16:16, 1 Awst 2008 (UTC)
- Ok -- may be worth making a quick stub article now, just so as not to lose the benefit of having looked into what it should be called. Alan 16:14, 1 Awst 2008 (UTC)
- Pysen y llygod is in the dictionary, so it's ok, just it's possible there are other names "out there", local variations etc. If we have an article I'd go for "pysen y llygod" I suppose - we can always change it later (there's vetch, "pys llygod"="pysen y llygod", but maybe there's an alternative there too). Just one of those things! Anatiomaros 16:07, 1 Awst 2008 (UTC)
- Oh well. But we'd have to decide on something if we want an article on them some time. Have to be something better than either "tsic-pî" (or some such) or the joke version (that you've seen so I needn't repeat). Alan 16:02, 1 Awst 2008 (UTC)
Cymraeg da? "Fe all y defnyddiwr 'ma gyfrannu ar lefel uwchraddol y Gymraeg". Shelley Konk 23:15, 1 Awst 2008 (UTC)
Uwchlwytho lluniau
golyguHelo Antiomaros, diolch am y croeso. Dwi braidd yn conffiwsd am y busnes uwchlwytho lluniau i'r wiki Cymraeg. Yn yr un Saesneg mae'r ddolen Upload Ffile ar y chwith yn mynd a fi at y ffurflen yn syth ond mae'r un yn y wiki Cymraeg yn mynd i ddiffiniad o 'upload' ar y wiki Saesneg. Dwi felly yn gorfod golygu llun i dudalen a gwasgu rhagolwg a chael dolen goch gyda theitl y ffeil jpg. Dim ond wrth glicio ar honno wedyn allai gyrraedd y ffurflen GYmraeg. Oes ffordd llai hirwyntog o wneud hyn neu ai fi sy'n dwp? Diolch.Telor Roberts 14:33, 6 Awst 2008 (UTC)
- Od iawn. Newydd drio fo fy hun ac mae'r un peth yn digwydd. Rhaid fod rhyw nam dros dro yn y meddalwedd heddiw - dydi o erioed wedi digwydd o'r blaen! Wna'i gymryd cipolwg arall i weld os medra'i wneud rhywbeth ond dwi'n amau mai mater o aros a thrio eto yw hi. Anatiomaros 14:39, 6 Awst 2008 (UTC)
- Dwi ddim yn gwybod sut, ond mae'r ddolen wedi newid. I fynd rownd hynny am rwan, rhowch y geiriau Arbennig:Upload (yn union fel 'na) yn y blwch Mynd/Chwilio a chliciwch ar "Mynd" ac mi ddylai agor y dudalen iawn i chi. Anatiomaros 14:43, 6 Awst 2008 (UTC)
- HYna i weld yn gweithio diolch. Gwd!
- Mae'n gweithio'n iawn ar fy nghyfrifiadur i. Efallai bod angen ichi clirio'ch storfa. Cofion, —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 21:48, 9 Awst 2008 (UTC)
- HYna i weld yn gweithio diolch. Gwd!
- Dwi ddim yn gwybod sut, ond mae'r ddolen wedi newid. I fynd rownd hynny am rwan, rhowch y geiriau Arbennig:Upload (yn union fel 'na) yn y blwch Mynd/Chwilio a chliciwch ar "Mynd" ac mi ddylai agor y dudalen iawn i chi. Anatiomaros 14:43, 6 Awst 2008 (UTC)
angen biwrocrat
golyguJust to draw your attention to the request for bot status in the Caffi (for Luckas-Bot). Regards, Alan 16:40, 20 Awst 2008 (UTC)
- Hi, thanks for that. More work for you, I'm afraid... I notice that slightly higher up on the page is another request under the title "bot username rename". Also the section "page to request for the flag bot" suggests that another request is coming (though there is not yet enough detail to act on it). Alan 17:00, 20 Awst 2008 (UTC)
- Hi Alan, diolch am gadw golwg ar y pethau 'ma. I noticed the bot re-name request but haven't had the time to look up how to do it yet. Get round to it later on, hopefully. Anatiomaros 17:12, 20 Awst 2008 (UTC)
Bot request
golyguHello could you also manage this request, just above those of Luckas-bot ? thanks --Gdgourou 15:47, 23 Awst 2008 (UTC)
Dy hi ddim yn galed i ddyfalu be' sy wedi dy annog i greu'r erthyglau 'ma... ond wyt ti wedi gweld enwau'r llefydd yn ein herthygl Mapiau Arolwg Ordnans? Alan 15:10, 30 Medi 2008 (UTC)
- Diolch, Alan. Wel, roedd hi'n hwyr yn y nos a minnau'n ceisio meddwl am rywbeth "gwahanol", am newid (a thipyn o hwyl hefyd, wrth gwrs). Your fault for bringing in the incredible "Lord Hereford's Knob" (!). Cefais rhai eraill ar y we, fel Tittybong (Awstralia), Bushy Bottom (rhywle yn Lloegr) a Dildo, Newfoundland, ond y gorau efallai yw Sexmoan (Phillipines). Digon o jôcs sâl am rai o'r llefydd 'ma, dwi'n siwr - roedd 'na un am Twmpa, "Went for a walk in the hills and spent a pleasant few hours sitting on....". Anatiomaros 15:22, 30 Medi 2008 (UTC)
- Unrhyw un wedi bod a'r wyliau i Knob Lick? (dais ar draws hwn ar hap heno, wir i chi)--Ben Bore 19:40, 7 Hydref 2008 (UTC)
- Anhygoel (gwell i mi beidio gofyn am be oeddet ti'n chwilio?!). Mae'n haeddu erthygl, dwi'n meddwl. Efallai dylem ni gael categori "enwau rhyfedd"? Anatiomaros 19:44, 7 Hydref 2008 (UTC)
- Dwi'n anghytuno am y categori... Dim problem creu erthyglau am lefydd ag enwau rhyfedd (os mae'r llefydd yn haeddu erthyglau, ac mae cynnwys yr erthyglau o ddifrif), ond dylem ni gofio mai dim ond barn ydy'r "ffaith" bod yr enwau yn ryfedd, hyd yn oed os basai'r mwyafrif o bobl yn cytuno. Alan 22:05, 7 Hydref 2008 (UTC)
- Smalio oeddwn i. Mae'n debyg fod gennym ni ddigon o waith categoreiddio yn barod (ac fel ti'n deud, mater o farn ydy o, beth bynnag). Diolch am y cyfeiriadau uchod hefyd; diddorol iawn! Anatiomaros 22:27, 7 Hydref 2008 (UTC)
DragonBot
golyguHi Anatiomaros, I have requested for bot flag. Thanks for confirming the link to bot flag request page. Since my original request was archived without action, I was not sure if that was the correct page to request for bot flag. --Jacob.jose 16:42, 11 Hydref 2008 (UTC)
- Thanks. Seems the request was archived without my seeing it. I'll gladly grant bot status. Cheers, Anatiomaros 16:59, 11 Hydref 2008 (UTC)
copyright info
golyguHi, I just noticed an image you uploaded a while ago without full copyright info - [1]. I hope it's clear why this update was necessary to comply with the licence conditions. Merely mentioning "creative commons" and the original website has various problems I can think of: it doesn't attribute the author, and it may not be clear to people what a CC licence is (and in any event there are several to choose from). Essentially, we need this info on wicipedia itself, rather than assuming that people will always be able to follow the link to geograph.org.uk to find it there.
I'm not sure if any other images are affected, but if so then they need to be fixed, tedious as it may be. If you suspect there may be, then let me know and I can try to look through your uploads and try to fix them myself -- as your time is probably better spent writing articles!
Cofion, Alan 14:55, 21 Hydref 2008 (UTC)
- You're right of course, Alan. Problem is the options we have in the scroll down list are frustratingly limited (and I'm usually in a hurry). We have quite a few images from geograph in Wales articles, uploaded by myself (I usually give the author, but may have forgotten in some instances) and others, which is a valuable resource (much used on en: as well). Having the licence on the scroll list or a note for geograph as a source would make life simpler, I guess. Keep up the good work and get back to me if there's any problems or suggestions. Cofion cynnes, Anatiomaros 15:08, 21 Hydref 2008 (UTC)
- Okay, I notice that if you search for "geograph" in the image namespace, there are 83 hits - so a bit of a job to check through, but not hugely so. I'll guess I'll go through them some time in the next week, after creating some sort of template. Alan 18:25, 21 Hydref 2008 (UTC)
fandal disney
golyguDwi wedi ymateb ar fy nhudalen sgwrs fy hun. Alan 17:09, 28 Hydref 2008 (UTC)
Llancarfan
golyguSgwn i beth sy'n gywir, Llancarfan neu Llangarfan ? Darllenais y naill a'r llall. --Llydawr 22:34, 28 Hydref 2008 (UTC)
- Mae rhai pobl yn sgwennu 'Llangarfan', mae'n wir (am fod disgwyl treiglad fel rheol ar ôl Llan-) ond mae 'Llancarfan' yn fwy cyffredin (ac yn ffurf safonol, dwi'n credu), e.e. dyna a geir yn Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a dyna sy gan G. J. Williams hefyd yn ei gyfrol ar Iolo Morganwg, a aned ym mhlwyf Llancarfan. Gobeithio fod hynny o gymorth! Anatiomaros 22:43, 28 Hydref 2008 (UTC)
Diolch yn fawr ! --Llydawr 08:20, 29 Hydref 2008 (UTC)
- Ac o ble daw'r enw Llangar? Nid o "car", dwi'n tybio :) Alan 11:27, 29 Hydref 2008 (UTC)
Blocio
golyguNewydd sylweddoli, dylwn fod wedi'i flocio fo hefyd yn ogystal a gwrthdroi'r dudalen, yn dylwn? Llywelyn2000 23:49, 4 Tachwedd 2008 (UTC)
- Dim problem, weithiau mae nhw'n mynd i ffwrdd weithiau dim. Baswn i'n maddau y stwff am gyffuriau tasa fo wedi gadael pethau fan'na, ond amlwg bod fo/hi jest yma i gael "dipyn o hwyl" (drapia'r bobl 'ma sy'n fandaleiddio un o'r ychydig wefannau Cymraeg yn lle cyfrannu'n gall!). Anatiomaros 23:56, 4 Tachwedd 2008 (UTC)
Ysgol Gyfun Bro Myrddin
golyguS'mae, rwyf just wedi sylwi taw chi creodd tudalen Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Rwyn mynychu'r ysgol ac yn wonderan os yr ydych unrhywbeth i wneud ar ysgol ac os yr wyf yn eich adnabod???? ....sain nabod neb ar wicipedia!!!!
Rhys.
- S'mae, Rhys? Na, does gen i ddim cysylltiad â'r ysgol o gwbl, dwi'n byw yn sir Conwy, i fyny yn y gogledd 'ma. Dwi newydd edrych ar yr erthygl rwan ac mae'n eginyn digon pitw, â deud y lleia! Does gen i ddim syniad o gwbl os ydy rhai o'r cyfranwyr eraill yn dod o ardal Caerfyrddin neu beidio. Mae Lloffiwr yn deud ei bod o dde Ceredigion, a dyna'r agosaf, dwi'n meddwl. Cofion, Anatiomaros 23:00, 10 Tachwedd 2008 (UTC)
- ON O leia da ni'n nabod ein gilydd rwan, mewn ffordd, felly cawn ni ddefnyddio "ti" yn lle "chi" o hyn ymlaen. Beth am ofyn yn y Caffi os oes 'na rywun arall o dy ardal yma? Anatiomaros 23:03, 10 Tachwedd 2008 (UTC)
Y negeseuon codi arian
golyguDiolch am fwrw golwg dros gyfieithiad y negeseuon codi arian cyntaf. Os oes amser gen ti i fynd dros y negeseuon ychwanegol ar meta byddwn yn falch - nid wy'n ei gweld yn rhwydd adnabod fy nghamgymeriadau fy hunan! Lloffiwr 15:59, 15 Tachwedd 2008 (UTC)
- Mi wnaf hynny dros y dyddiau nesaf, gobeithio (atgoffa fi os dwi'n anghofio!). Efallai ei bod yn well cael y negeseuon hyn a rhai tebyg, sydd ar y gweill efallai, gydag ambell fân frycheuyn yma ac acw nag aros nes iddynt fod yn "berffaith"? Mae'n ddigon hawdd eu tacluso nhw wedyn. Anatiomaros 23:00, 15 Tachwedd 2008 (UTC)
- Mae Cdhaptomos wedi gwirio'r negeseuon craidd ac achosi iddynt gael eu cyhoeddi'n barod. Felly fe fentrais holi am gael cyhoeddi'r negeseuon ychwanegol hefyd. Y broblem gyda newid y negeseuon ar ôl eu cyhoeddi yw bod angen holi i weinyddwr ar meta i'w hail-gyhoeddi. Y mae braidd yn lletchwith holi drosodd a thro am gael ail-gyhoeddi. Ond wedi dweud hynny, rwyf wedi gwneud rhai newidiadau eto ac wedi holi am gael ail-gyhoeddi fory. Ac os weli rhywbeth wyt am gywiro wedi fory, bydd yn bosib holi am ail-gyhoeddi unwaith eto - naill ai dy hunan, neu trwyddo fi os oes yn well gen ti hynny. Lloffiwr 23:10, 15 Tachwedd 2008 (UTC)
- Biwrocratiaeth eto - mae'n braf bod ar wici llai weithiau! Wna i edrych drostynt i gyd felly, dros y dyddiau nesaf, ac os oes newidiadau i'w gwneud medrem ofyn i wneud y cyfan gyda'i gilydd wedyn (os caniateir hynny dan "y drefn"). Cofion, Anatiomaros 23:15, 15 Tachwedd 2008 (UTC)
- Dylwn fod wedi ychwanegu at fy neges cynt - paid â theimlo rheidrwydd i edrych dros y negeseuon gan fod Cdhaptomos wedi edrych drostynt ers i mi adael y neges gyntaf uchod, ac wedi gwella sawl peth. Rwyn gwybod dy fod yn brysur iawn, a dwi ddim eisiau achosi gwaith i ti heb eisiau. Cofion cynnes. Lloffiwr 19:40, 17 Tachwedd 2008 (UTC)
Parafeddyg
golyguOes modd cael dy farn di yma Sgwrs:Gwaith y parafeddyg? Diolch. Thaf 21:28, 23 Tachwedd 2008 (UTC)
Coed Talon / Coed-talon
golyguShwmai yr hen ffrind? Dwi'n siwr iti sgwennu erthygl ar Goed Talon ychydig yn ol; oes na sillafiad arall (angen cywiro'r ailgyfeiriad Choed Talon. Diolch Llywelyn2000 06:53, 27 Tachwedd 2008 (UTC)
- Pnawn da, Llywelyn, sut mae? Dwi ddim yn cofio sgwennu erthygl ar Goed Talon ac yn ôl y blwch chwilio does 'na ddim erthygl ar Goed Talon/Coed-talon gennym ni ar Wicipedia. Tipyn o ddirgelwch, felly, ond howld - newydd ffindio cyfeiriad at Goed-talon yn yr erthygl Treuddyn, un o gymunedau Sir y Fflint: dolen goch. Does dim ailgyfeirio i fod heb gael yr erthygl yn y lle cyntaf. Dwi am ddileu'r dudalen ailgyfeirio am rwan; falle cawn ni erthygl ar y lle yn nes ymlaen. Cofion, Anatiomaros 16:45, 27 Tachwedd 2008 (UTC)
Llun cofeb Hywel ab Owain Gwynedd
golyguRwyf wedi llwytho Delwedd:HywelabOwain.JPG ar y comin gyda gwybodaeth hawlfraint. Rwy'n cadw'n glir o'r wici Saesneg erbyn hyn - elli di roi gwybod i Drachenfyre?. Rhion 07:12, 28 Tachwedd 2008 (UTC)
- Diolch, Rhion. Mae Drachenfyre wedi cael y neges ac yn dymuno diolch iti hefyd. Mi fedra i ddeall yn iawn pam wyt ti ddim yn cyboli efo'r Wicipedia Seisnig erbyn hyn hefyd, am fod 'na gymaint o rwts a
ymgecrudadleuo dibaid yno. Cofion, Anatiomaros 23:14, 29 Tachwedd 2008 (UTC)
Wicipedia DU
golyguWikimedians in the United Kingdom are working to set up a chapter of the Wikimedia Foundation, which will aid and encourage people to collect, develop and effectively disseminate knowledge. A board of five members has been elected, and a company has now been set up. Membership applications are now invited, and will be processed as soon as we have a bank account. The organisation needs the support and involvement of people like you.
So far, most participants have been based on English-language projects, but we want to ensure that we work with and for Wikimedians in all languages. As Wicipedia yn Gymraeg is an important language native to the UK, we are making contact with you.
We need to know what a new UK chapter can do to assist your project, and how we can best work together to make that happen. We are also looking for people who can translate short pieces of text, such as the first paragraph of this message, to help publicise the activities of the chapter.
Please do comment, make suggestions, and feel free to ask us any questions, whether here, on MetaWiki, or on the wikimedia-uk mailing list. AndrewRT 23:03, 1 Rhagfyr 2008 (UTC)
Wedi dechrau erthygl yn llydaweg, ond mae'r marwnad yn anodd i fi i'w ddeall (dim ond cymraeg yr oesoedd modern ydwyf fi'n deall) : oes cyfieithiad saesneg o'r gerdd, neu o'r rhan sydd yn yr erthygl cymraeg? Diolch. Bianchi-Bihan 04:15, 7 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Mae 'na dri chyfieithiad Saesneg ar gael, yn ôl Dafydd Johnston, yn y gyfrolau hyn:
- Gwyn Williams, The Burning Tree (Llundain, 1956), tt. 100-05.
- Joseph Clancy, Medieval Welsh Lyrics (Llundain, 1965), tt. 116-19.
- Dafydd Johnston, Medieval Welsh Poems: An Anthology (Binghamston, Efrog Newydd, 1992), tt. 112-14.
- Yn anffodus does gennyf ddim copïau o'r llyfrau hyn (does dim pwynt darllen cyfieithiad os wyt ti'n deall y testun gwreiddiol). Mi fedra'i gynnig fy nghyfieithiad fy hun o'r darnau yn yr erthygl os na fedri gael gafael ar un o'r llyfrau hyn, ond mae cyfieithu barddoniaeth yn waith anodd. Mae pawb yn dweud fod cyfieithiadau Joseph Clancy yn arbennig o dda.
- Gobeithio fod hynny o gymorth i ti. Hwyl, Anatiomaros 16:13, 8 Rhagfyr 2008 (UTC)
Re: Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Wicipedia
golyguDiolch am dy neges, ond mi welais i hi yn rhy hwyr, wedi bod i ffwrdd yn ystod y penwythnos. (Dwi o hyd ddim wedi darllen trwy'r manylion yn y caffi... lot o destun Cymraeg i ddarllen yn araf!) Alan 09:03, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Welais i mo hwn chwaith nes oedd yn rhy hwyr, diolch am y gwaith da.--Ben Bore 09:31, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Diolch. Cawn weld beth fydd yr ymateb i'r ail lythyr. Anatiomaros 20:24, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Fel wyt ti'n nodi yn dy lythyr, cefnogaeth ymarferol sydd ei angen yn bennaf, yn hytrach nag arian, ond petai yna arian ar gael, byddai'n anodd iawn i ni fel Wicipedia fynd amdano gan nad ydym yn corff, gyda cyfansoddiad, pwyllgor, bla..bla..bla - ac yn y blaen. Petai ni rhywbryd eisiau arian, dyma efallai ble fyddai rhyw fath o gysylltiad â Wikimedia DU yn help. Hyd yn oed petai nhw'n cael cadw canran fechan a bod y gweddill yn mynd at gyhoeddusrwydd, byddai ond yn deg dw i'n meddwl, achos yn y pen draw, Wikimedia sy'n gyfrifol am gynnal y wefan nage ddim? Mond rhywbeth i feddwl amdan. Mi bostiaf hwn ar y Caffi.--Ben Bore 20:37, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Diolch. Cawn weld beth fydd yr ymateb i'r ail lythyr. Anatiomaros 20:24, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)
O Paul-L
golyguI've been busy recently, and although you sent me the message on Saturday evening, the printer was broken, so I wasn't able to translate the whole text from Y Caffi before the Monday morning, to be able to reply. I'll try to do so as soon as possible. Paul-L 19:13, 17 Rhagfyr 2008 (UTC)
- [Sorry for writing in your archive]
Due to being busy during the last few months and not being able to get on the Internet regulary, I haven't been able to translate the communications with the WLB and subsequent discussion in Y Caffi, so I won't be translating or joining those discussions, but I can generally keep up with what's going on (BBC Vocab, etc.). Paul-L 19:16, 21 Gorffennaf 2009 (UTC)
Categoreiddio Eisteddfodau
golyguGan bod yn is-gategori 'Eisteddfodau yn ôl blwyddyn' oes yn ddiben gosod erthyglau am esiteddfodau penodol o fewn y prif gategori Eisteddfod Genedlaethol Cymru hefyd? Dw i'n meddwl ei fod yn gor lwytho'r prif gategori.--Ben Bore 09:31, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Cwestiwn teg, Ben. Ond mae'r categori yna, a'r categori '..yn ôl lleoliad' hefyd, yn cynnwys eisteddfodau eraill, e.e. rhai hanesyddol cyn sefydlu'r Steddfod Genedlaethol. Dyna'r broblem. Un ffordd i'w datrys fyddai creu dau is-gategori, 'Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ôl...', ond mae'n dipyn o dasg mynd trwyddyn nhw i gyd (cymerodd awr bron i mi orffen y categorïo neithiwr, felly mi fasa'n golygu tua dwy awr o waith i rywun). Anatiomaros 16:06, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Dyna oeddwn i'n feddwl efallai oedd y rheswm, wel dw i ddim am dreului awr yn ei enwid fy hunan ar hyn o bryd chwaith!--Ben Bore 19:53, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Call iawn. Baswn i ddim wedi dechrau yn y lle cyntaf taswn i wedi gwybod chwaith! Hwyl, Anatiomaros 20:22, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Dyna oeddwn i'n feddwl efallai oedd y rheswm, wel dw i ddim am dreului awr yn ei enwid fy hunan ar hyn o bryd chwaith!--Ben Bore 19:53, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)
Cerdd ar y tudalen Hafan
golyguOh, da iawn! Deb 18:45, 21 Rhagfyr 2008 (UTC)
- Diolch Deb, ond y cwbl a wnes i oedd gosod y llun yno: i Llywelyn (Llywelyn2000) mae'r diolch am y ddelwedd a'r gerdd. Anatiomaros 20:47, 21 Rhagfyr 2008 (UTC)
Newid enw erthygl
golyguSumai Anatiomaros? Ymddiheuriadau, ro'n i'n gwybod hynny, i fod, ond ddim yn cofio. Wedi bod oddi yma yn rhy hir! Beth bynnag, diolch am glirio fy llanast! Nadolig Llawen iawn i tithau hefyd! Hwyl tan toc Jac y jwc 13:52, 24 Rhagfyr 2008 (UTC)
Dod yn weinyddwr?
golyguS'mae? Rwyf just am ofyn sut yr ydych yn gallu ddod yn weinyddwr Wicipedia Cymraeg? Rwyf ond wedi sylwi ar y rhestr gweinyddwyr ac mae pawb yr wyf wedi siarad a hwy dros y rhwydwaith yn weinyddwr (fi'n teimlo ychydig yn left out!!!) Rwyf yn golygu tudalennau ac yn defnyddio wicipedia yn aml iawn erbyn hyn ac am wybod os yr wyf yn amodi fod yn weinyddiwr? Rwyf hefyd wedi sylwi fod llawer o'r defnyddwyr sydd yma yn dysgwyr Cymraeg- rwyn Cymraeg iaith gyntaf (ish!) ac yn cyfrannu at cynifer o erthyglau sy'n ymwneud a Cemeg, Ffiseg a Daearyddiaeth.
Diolch! --Rhys 20:18, 12 Ionawr 2009 (UTC)
- Hi Rhys, diolch am dy neges. Rydym ni mewn sefyllfa anarferol yma ar y Wicipedia Cymraeg cyn belled â mae nifer y gweinyddwyr yn y cwestiwn, gyda chanran uchel o'r cyfranwyr rheolaidd yn cael y "fraint" honno (dydi o ddim yn golygu llawer iawn; gallu blocio fandaliaid a dileu tudalennau, os rhaid wrth hynny). Ar y wici Saesneg, er enghraifft, dim ond canran isel iawn o'r cyfranwyr sy'n weinyddwyr - dwi wedi bod yn cyfrannu'n gyson yno am dros dair blynedd ond dwi'n dal yn "ddefnyddiwr cyffredin" ac mae pawb arall bron sy'n rhan o "Brosiect Cymru" yn yr un sefyllfa, felly paid â meddwl dy fod ar ben dy hun mewn hynny o beth. Does gen i ddim gwrthwynebiad i ti ddod yn weinyddwr yma, rwyt ti'n cyfrannu nifer o erthyglau ond yn bwysicach rwyt ti wedi dangos dy fod yn medru cyfranu'n gall a chyfrifol. Ond dylai hyn gael ei drafod yn agored yn y Caffi, i bawb gael mynegi eu barn (dim fel 'na mae hi ar "en" wrth gwrs, ond does gennym ni ddim llawer o fiwrocratiaeth yma, sy'n beth da ar y cyfan, mae'n debyg).
- Hwyl, Anatiomaros 19:41, 13 Ionawr 2009 (UTC)
- Gofynnodd Rhys yr un cwestiwn i finnau, a buodd fy ymateb (ar ei dudalen sgwrs) yn debyg. Ond does dim ots, yn fy marn i, os ydy canran uchel o'r golygyddion yn weinyddwyr o gymharu gyda'r wici Saesneg. Rhaid i alluoedd y gweinyddwyr gael eu defnyddio er mwyn helpu'r prosiect yn hytrach nag achosi problemau, dyma'r unig fater pwysig. Yn y wici Saesneg, dwedir mai "no big deal" yw bod yn weinyddwr, ond mewn ymarfer does 'na ddim siawns o ddod yn weinyddwr heb fod wedi gwneud 99 biliwn o olygiadau, felly mae hi fel gwobr i bobl sydd wedi treulio pob eiliad o'u bywydau ar y wici. Ydyn ni eisiau'r un peth yma!? Alan 09:09, 14 Ionawr 2009 (UTC)
- Diolch am eich ymatebion. Rwyf wedi gofyn yn y caffi nawr fel dywedodd Alan i phobl cael trafod! --Rhys 11:24, 14 Ionawr 2009 (UTC)
Lluniau ar ddau llinell???
golyguYdy'r lluniau dal yn ymddangos ar ddau llinell?? Rwyf wedi dileu y llun allanol.
Diolch Rhys 21:13, 27 Ionawr 2009 (UTC)
- Ydy, ac yn waeth 'na hynny mae'r logo wici yn sefyll ar ben ei hun yn lle bod yn dwt ac yn daclus ar diwedd y llinell borffor ar draws y dudalen. Gyda llaw, mae gen i fonitor 17 modfedd a dwi'n iwsio Firefox. Anatiomaros 21:27, 27 Ionawr 2009 (UTC)
- ON Efallai bod hi'n well trafod hyn yn Sgwrs yr Hafan: os ydy'n broblem i mi bydd yn broblem i bobl eraill hefyd. Anatiomaros 21:29, 27 Ionawr 2009 (UTC)
diolch
golyguBaswn i'n siomedig iawn 'taset ti wedi peidio â phostio hyn! Alan 09:00, 29 Ionawr 2009 (UTC)
- Dim ond smalio oeddwn i, Alan. Tynnu coes. Weithiau efallai fod fy "hiwmor" yn llai digri nag y bwriadwyd iddo fod? Cofion cynnes, Anatiomaros 21:06, 29 Ionawr 2009 (UTC)
diolch
golyguDiolch yn fawr am dy gynnig i wneud Rhodri yn weinyddwr. Dwi'n cytuno'n llwyr. Alan 21:14, 10 Chwefror 2009 (UTC)
- Mae'n haeddu cael yr "anrhydedd" am ei fod yn un o'r Criw erbyn hyn ac yn gyfranwr da. Os ydy o'n dymuno fod yn weinyddwr mi nodaf dy fod yn cefnogi pan roddaf yr enwebiad yn y Caffi. Hwyl, Anatiomaros 23:33, 10 Chwefror 2009 (UTC)
Sgwrs:Shane Williams
golyguWhat a lovely reply to Elen! I'm so glad someone took the trouble. Deb 21:22, 13 Chwefror 2009 (UTC)
- Diolch Deb. It was such a sweet request - hope she finds Shane! Anatiomaros 21:41, 13 Chwefror 2009 (UTC)
- I see that she has left her real name in the message, and her email address in the edit summary. I think that for her protection someone should delete the talk page (after emailing her a copy of your reply). Do you want to do this, or shall I? Alan 10:43, 17 Chwefror 2009 (UTC)
- Rwyt ti'n iawn, ac mae croeso i ti wneud hynny, Alan. Ond efallai buasai'n haws copio'r testun, dileu'r dudalen, wedyn pastio'r testun ar dudalen sgwrs newydd gyda nodyn o esboniad? Anatiomaros 20:53, 17 Chwefror 2009 (UTC)
- Syniad ardderchog. Af i ati. Alan 20:59, 17 Chwefror 2009 (UTC)
gwrthdroi
golyguMae gen i ddadl bach am hyn. Dwi'n awgrymu cadw'r botwm "gwrthdroi" ar gyfer achosion o fandaliaeth clir yn unig, achos gall ddigalonni'r golygydd os oes posibilrwydd mai cais i gyfrannu mewn ffyddlon da oedd y golygiad. Diolch. Alan 07:10, 17 Chwefror 2009 (UTC)
- Mae hynny'n ddadl ddigon teg, yn gyffredinol, ond yn yr achos yma doedd y golygiad ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl - pendronais amdano am funud cyn ei wrthdroi - ac roeddwn yn meddwl ei fod naill ai yn enghraifft o ychwanegu lol/fandaliaeth neu yn gyfraniad anesboniadwy gan rywun heb fedru llawer o Gymraeg. Roedd gwrthdroi gydag un clic yn arbed amser i mi a doedd o ddim yn golled o gwbl i'r erthygl. Ond diolch am dynnu fy sylw ato, beth bynnag. Yn sicr buaswn i ddim isio bod yn gyfrifol am "ddigaloni" cyfranwr diffuant. Hwyl, Anatiomaros 20:50, 17 Chwefror 2009 (UTC)
- Diolch. Alan 21:05, 17 Chwefror 2009 (UTC)
agglutinative
golyguHi! Dwi'n dechrau ychwanegu at yr erthyglau ieithyddiaeth. Oes syniad gennych chi beth yw agglutinative a inflection yn Gymraeg? Dy'n nhw ddim yn 'y ngeiriadur i. Diolch. Glanhawr 14:40, 21 Chwefror 2009 (UTC)
- Does gen i ddim syniad am agglutinative, ond 'ffurfdro' yw inflection yn ôl Termau Iaith a Llên (piti garw fod 'na ddim rhestr Saesneg-Cymraeg ar ddiwedd y llyfr!). Wna'i adael nodyn yma os llwyddaf i gael y term arall. Hwyl, Anatiomaros 20:42, 21 Chwefror 2009 (UTC)
- Diolch. Sai'n gwybod beth wnaf i yn y cyfamser - dwi eisiau bwrw ymlaen gyda'r erthyglau ieithyddiaeth! Beth am gymreigio'r gair - "iaith aglytinatif" neu rywbeth - ydy hynny'n rhesymol?? Glanhawr 23:02, 25 Chwefror 2009 (UTC)
- Dim problem, Glanhawr. Cyn belled â mae enw'r ethygl yn y cwestiwn mae'n ddigon hawdd newid yr enw yn nes ymlaen trwy symud y dudalen. Dwi ddim yn siwr am "aglytinatif" fel Cymreigiad, er hynny. Dydi o ddim yn edrych yn naturiol iawn. Ond 'ffurfdro' yw'r term cywir am inflexion, yn bendant (wnes i siecio yn Geiriadur Prifysgol Cymru hefyd). Cofion, Anatiomaros 23:12, 25 Chwefror 2009 (UTC)
- A diolch fe wnai 'na te os nad yw'n lletchwyth newid enw'r erthygl. Hwyl. Glanhawr 17:12, 26 Chwefror 2009 (UTC)
- Dwi newydd ddarganfod fod yr erthygl hon yn bodoli'n barod - "iaith ddodiadol" yw "agglutinative language" mae'n debyg - felly 'na fe, s'dim angen y Cymreigiad lletchwyth 'na!. Glanhawr 04:34, 12 Mawrth 2009 (UTC)
Newid enw
golyguOs gallai ofyn am ffafr ganddo ti Anatiomaros: rwyf wedi cael yr enw defnyddiwr yma am dros dair mlynedd erbyn hyn, ond nid wyf bellach yn fodlon cael fy nghyfenw fel rhan o'n enw defnyddiwr (am resymau preifatrwydd, er nid oes cywilydd gen i am fod yn aelod o Wicipedia!). Fel biwrocrat mae gennyt ti'r hawl i newid enwau defnyddwyr gan ddefnyddio'r tudalen Arbennig:RenameUser. Byddai'n ddiolchgar iawn os gallet ti newid fy enw defnyddiwr i "Adam". Hwyl, —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 22:54, 1 Mawrth 2009 (UTC)
- Llongyfarchiadau ar dy ddadeni wicipediaidd, Adam! Anatiomaros 23:40, 1 Mawrth 2009 (UTC)
- Diolch yn fawr iawn! —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 17:35, 2 Mawrth 2009 (UTC)
Ysbryd yn y Peiriant? Neu pardduo?
golyguWnei di gymryd golwg ar fy nhudalen defnyddiwr os g yn dda. Mae rhybweth rhyfedd (sinistr?) iawn wedi digwydd. Gweler: "Latino sine Flexione". Carwn dy ymateb. Diolch. Llywelyn2000 15:42, 7 Mawrth 2009 (UTC)
Ble wyt ti gyfaill?
golyguDa ni'n gweld dy golli. Yn FAWR. Llywelyn2000 22:59, 17 Mawrth 2009 (UTC)
- Ie wir! Yn gyntaf, mae Alan yn gadael (am gyfnod o leiaf) a nawr does 'na ddim son ohonot ti... Dere nol... ry'n ni angen dy arbenigedd!! ;o) Rhodri77 11:47, 18 Mawrth 2009 (UTC)
- Rwyn cytuno :D Rhys Thomas 22:11, 24 Mawrth 2009 (UTC)
- Diolch yn fawr i chwi i gyd am eich negeseuon caredig yn fy absenoldeb annisgwyl. "Crash Mawr 2009" sydd ar fai. Roedd yr hen gyfrifiadur wedi bod yn gwegian ac yn mynd yn fwy fwy araf ers misoedd ond yn y diwedd mi baciodd i mewn yn ddirybudd gan fy adael heb fodd i gyfrannu yma. Mae wedi cymryd oes i'w drwsio ac ailosod windows a phopeth arall bron o'r newydd, ond dwi'n ôl rwan! Mae chwaneg o waith i'w wneud eto rywbryd achos dwi'n mynd i uwchraddio'r cwbl lot, yn cynnwys y mamfwrdd a'r prosesydd ayyb, gyda chymorth cyfaill - ond gyda lwc bydd modd trefnu i wneud y gwaith mewn dirwnod y tro hwnnw ac felly bydda'i ddim yn diflannu am bythefnos! Technoleg - gwych o beth pan mae'n gweithio! Anatiomaros 22:47, 26 Mawrth 2009 (UTC)
- Peidiwch poeni- mae'n digwydd i bawb. Roedd rhaid i mi dalu £30 yn pc world wythnos dwethaf i cael nhw i ailosod popeth- ond cael o ers dolig! Blydi computers! Neis gweld chi nol! Hwyl,Rhys Thomas 22:55, 26 Mawrth 2009 (UTC) :)
- Diolch yn fawr i chwi i gyd am eich negeseuon caredig yn fy absenoldeb annisgwyl. "Crash Mawr 2009" sydd ar fai. Roedd yr hen gyfrifiadur wedi bod yn gwegian ac yn mynd yn fwy fwy araf ers misoedd ond yn y diwedd mi baciodd i mewn yn ddirybudd gan fy adael heb fodd i gyfrannu yma. Mae wedi cymryd oes i'w drwsio ac ailosod windows a phopeth arall bron o'r newydd, ond dwi'n ôl rwan! Mae chwaneg o waith i'w wneud eto rywbryd achos dwi'n mynd i uwchraddio'r cwbl lot, yn cynnwys y mamfwrdd a'r prosesydd ayyb, gyda chymorth cyfaill - ond gyda lwc bydd modd trefnu i wneud y gwaith mewn dirwnod y tro hwnnw ac felly bydda'i ddim yn diflannu am bythefnos! Technoleg - gwych o beth pan mae'n gweithio! Anatiomaros 22:47, 26 Mawrth 2009 (UTC)
- CROESO NôL! Mi roeddwn wedi cychwyn gweithio englyn ar dy gyfer yr hen goes! "Ai marw Anatiomaros?..." OND WELE. Efe a atgyfododd! Bu'n wag hebot. Heb flas dy chwip! Croeso nôl. Llywelyn2000 23:12, 26 Mawrth 2009 (UTC)
- Diolch, gyfeillion - roeddwn i'n dechrau amau fy "atgyfodiad" fy hun am fod cymaint o bethau yn mynd o'i le jest pan oeddwn i'n meddwl fod popeth yn iawn! Yr unig ateb ydy ailadeiladu'r cyfan a chael gwell gyfrifiadur mewn canlyniad - wytnos nesa, efallai. Gobeithio bydd Alan yn ôl cyn hir hefyd. Ac rwan, "Ymlaen!". Anatiomaros 23:18, 26 Mawrth 2009 (UTC)
demonstrative pronouns?
golyguHi Anatiomaros! Dwi'n gwybod bod llyfr arbennig gennyt ti sydd â thermau Cymraeg am y fath 'ma o beth felly o'n i'n meddwl os syniad 'da ti beth yw'r gair am "demonstrative pronouns"? Dwi'n ychwanegu at yr erthygl Gramadeg Lladin a dwi 'di cynnig "rhagenwau arddangos" ond dyw e ddim yn naturiol o gwbl. Diolch. Glanhawr 18:46, 1 Ebrill 2009 (UTC)
- Hi Glanhawr, dwi'n meddwl mai "rhagenw dangosol" yw'r term cywir. Dyna sydd yn Gramadeg y Gymraeg Peter Wynn Thomas, beth bynnag (dydy o ddim yn Termau Iaith a Llên). Ydy hynny o gymorth? Anatiomaros 18:53, 1 Ebrill 2009 (UTC)
- Odi diolch, ddefnyddia'i'r gair 'na te. Hwyl am y tro. :) Glanhawr 18:56, 1 Ebrill 2009 (UTC)
- Os yr ydych am ffeindio termau Cymraeg ar y we, mae'r Termiadur cymraeg a'r Geiriadur prifysgol Llanbedr yn dda :) Rhys Thomas 19:29, 1 Ebrill 2009 (UTC)
- Odi diolch, ddefnyddia'i'r gair 'na te. Hwyl am y tro. :) Glanhawr 18:56, 1 Ebrill 2009 (UTC)
- Diolch am ein hatgoffa, Rhys. Mae'r Termiadur yn dda cyn belled ag y mae'n mynd ond mae 'na lawer iawn o bethau sydd ddim ynddo hefyd. Hen bryd iddo gael ei ehangu yn sylweddol! Dwi'n llai cyfarwydd â geiriadur Llambed. Anatiomaros 19:34, 1 Ebrill 2009 (UTC)
Blocio Defnyddiwr:Boatshops
golyguS'mae? Rwyf just ychydig yn confused pam yr ydych wedi blocio defnyddiwr:boatshops? Rwyf wedi edrych trwy nifer o'i gyfraniadau ac mae'r adeuladau rwyf wedi gweld yn rhai cadarnhaol. Pa erthygl oedd yn cynnwys fandaliaeth?
Sori i bod yn poen! Hwyl, Rhys Thomas 17:44, 2 Ebrill 2009 (UTC)
- Roeddwn i am roi nodyn (arall!) yn y Caffi i atgoffa pobl am y "Disney Vandal". Mae o'n creu hafoc ar nifer o wicipediau, yn enwedig yr un Saesneg. Mae'n glyfar. Gwneud nifer o olygiadau - weithiau mewn tandem a chyfeiriad IP anon neu un o'i enwau eraill - i ddrysu pobl a chuddio ychwanegiadau anghywir. Weithiau mae ei fandaliaeth yn amlwg weithiau'n gyfrwys, ond fandal perygl ydy o. Ewch i "en" a gofyn i Collectonian. Mae gen i wybodaeth ar dudalen sgwrs Alan hefyd. Gwylia am unrhyw gyfraniadau IP i ffilmiau Disney sy'n dechrau gyda 65/67/68 (Georgia neu Alabama). Mae 'na lwyth o bethau i'w ddadwneud. (Hefyd, yn ddiweddar: Boatshops=Rockskeeper=68.220.177.97=65.0.160.15 ac eraill hefyd mae'n bosibl...). Anatiomaros 17:51, 2 Ebrill 2009 (UTC)
- Ah ok! Fi'n gweld! Rwyf allan heno ac felly ni allai eich helpu- nai helpu dadwneud yfory!! Rhys Thomas 18:14, 2 Ebrill 2009 (UTC)
- Diolch. Mae 'na lwyth o olygiadau gan Boatshops. Wedi dechrau ar rai ond mae'r diawl wedi cymryd mantais o'r ffaith fod o ddim wedi cael ei flocio ar unwaith (dwi wedi hen arfer a'i driciau!). Mae o'n nytar go iawn, mewn gwirionedd, ac yn "bla trawswici". Gadawaf nodyn os daw enw arall i fyny. Hwyl. Anatiomaros 18:18, 2 Ebrill 2009 (UTC)
- Nefi wen, dyna ddigon o wrthdroi am rwan! Wedi cyrraedd: 21:25, 18 Mawrth 2009 (hanes) (gwahan) B Beauty and the Beast (ffilm 1991) ar restr cyfraniadau Boatshops. Yr anhawster yw fod Llywelyn wedi cywirio rhai pethau hefyd a bod botiau wedi ychwanegu dolenni rhyngwici: gan fod y fandal (fel arfer!) yn gwneud hanner dwsin o olygiadau dan wahanol enwau mae'n anodd sortio be 'dy be. Sgen i ddim amynedd i wneud chwaneg rwan hyn. Cofia, Rhys, i gadw golwg am enwau defnyddiwr anghyfarwydd neu gyfeiriadau IP fel yr uchod wrth fynd trwy'r rhestr a siecio nhw. Sôn am lanastr! Anatiomaros 18:43, 2 Ebrill 2009 (UTC)
- Cadarnhad gan y wici Saesneg: en:User:Boatshops. Wedi'i flocio fel "sock puppet". Anatiomaros 19:00, 2 Ebrill 2009 (UTC)
- Mae'n dda dy fod di wedi sylweddoli nawr oherwydd mae tudalennau wicipedia yn cael eu copio gan "mirror sites" - gallai gwybodaeth niweidiol fynd dros y we i gyd heb neb yn sylwi. Glanhawr 19:06, 2 Ebrill 2009 (UTC)
- Ia, mae'n gallu cael effaith eang iawn. Digwyddodd hyn i gyd pan oeddwn i "i ffwrdd" (diolch i'r hen gyfrifiadur yn pacio i mewn!). Be dwi ddim yn licio hefyd ydy'r ffaith fod y d***l yn cymryd mantais o bobl yn ddigywilydd tra'n chwerthin yn ei lawes. Gobeithio bydd pawb yn cofio amdano rwan. Anatiomaros 19:20, 2 Ebrill 2009 (UTC)
- Buost wych, Anatiomaros! Llywelyn2000 23:00, 2 Ebrill 2009 (UTC)
- Diolch, Llywelyn, ond mae wedi costio erthygl neu ddwy am yr amser dwi wedi treulio hyd yn hyn - ac mae 'na chwaneg i'w wneud eto hefyd. Newydd rhoi esboniad llawnach yn y Caffi rwan hyn. Be sy'n fy ngwylltio i fwya ydy'r ffaith ei fod yn twyllo pobl clên fel ti! Anatiomaros 23:07, 2 Ebrill 2009 (UTC)
Nodyn prif erthygl?
golyguS'mae? (unwaith eto heno!). Rwyf yn cael ychydig o drwbwl efo'r nodyn prif erthygl sef:
- Prif: blah blah
Mae gen i cwpwl o rhain yn yr erthygl Tywydd ond am rhyw rheswm mae'r magnifying glasses yn rhoi trwbl i mi! Oes unrhywbeth gallwch wneud? Diolch, Rhys Thomas 20:42, 9 Ebrill 2009 (UTC)
- Ia, dwi'n gweld be ti'n feddwl. Mae'n digwydd weithiau pan fo llun neu fap ar ochr y ddalen. Adam greodd y nodyn os cofiaf yn iawn. Falle fod o'n medru datrys o? Ateb arall fyddai tynnu'r ddelwedd o'r nodyn, ond mae'n edrych yn ddeniadol pan mae'n gweithio'n iawn. Sori fedra' i ddim fod o lawer o help y tro yma! Anatiomaros 20:48, 9 Ebrill 2009 (UTC)
- Oke- Diolch. Rhys Thomas 20:50, 9 Ebrill 2009 (UTC)
Disney vandal strikes again
golyguDaeth e nôl heddiw dan yr IP 68.33.164.40 gan ddadwneud eich gwrthdroadau ar yr erthyglau Disney - rhoddais floc amhenodol. Gobeithio bod popeth yn iawn. Glanhawr 15:21, 13 Ebrill 2009 (UTC)
- Update - daeth e nol dan yr IP 72.255.46.5 gan ddadwneud fy ngwrthdroadau cynt ac yna cyn i Rhodri gael y cyfle i'w flocio logiodd dan yr enw Patling a gwneud mwy o fandaleiddio ar yr un erthyglau er mwyn ei gwneud yn amhosib i ni wrthdroi ei olygiadau - mae'n slei ofnadwy! - felly roedd rhai imi fynd drwy bob erthygl a chwilio am y golygiad dilys diwethaf a'i adfer. Dwi'n credu dylen ni ddiogelu'r tudalennau Disney am nawr. Glanhawr 19:41, 13 Ebrill 2009 (UTC)
- Diddorol! Mae'n ymddangos fod ein cyfaill Dinseyaidd wedi bod nol yma eto - IP o dalaith New Jersey y tro hwn. Diolch byth bod y tudalennau wedi eu diogelu - o'r neges uchod, dwi'n cael y teimlad ei fod e'n teimlo braidd yn rwystredig. O wel! ;o) Rhodri77 06:44, 15 Ebrill 2009 (UTC)
- Ia, wnes i sylwi gyda'r "cyfraniadau" IP dwetha fod y lleoliad wedi newid, ond efallai mai newid server IP sy'n esbonio hynny. Mae 'na floc ar ystod reit eang o gyfeiriadau IP o Georgia wedi ei ailosod yma. Roedd 'na rhai tebyg, ond llai, ar "en" hefyd. Dyna pam mae wedi newid ei wasanaeth IP efallai. Yr unig beryg ydy bydd o'n cymryd ei rwystredigaeth allan ar erthyglau eraill, ond gobeithio dim (dim yn meddwl fod hynny'n rhan o'i batrwm arferol). Mae'n gwbl ddigywilydd, beth bynnag, yn cynnig ei "gymorth" fel hyn! 'Sgyno fo ddim byd gwell i'w wneud?! Anatiomaros 16:26, 15 Ebrill 2009 (UTC)
- Awgrym cynnil Anatiomaros: miwn cod: naa roddder gerrrig yngh nghlustiau'r muuul! Llywelyn2000 18:51, 15 Ebrill 2009 (UTC)
- Os ydy safon y "cyfieithiadau" gan raglenni fel y Pysgodyn Babel sydd wedi cael eu rhoi'n anrheg i ni yma ar y wici yn y gorffennol yn nodweddiadol does 'na fawr dim i boeni amdano - roedden nhw'n debycach i'r iaith Vogon na'r Gymraeg! Ond rwyt ti'n iawn, wrth gwrs, er dwi'n siwr fod o'n gwybod hyn i gyd yn barod beth bynnag, a mwy efallai... Anatiomaros 19:00, 15 Ebrill 2009 (UTC)
Polisi Cynnwys Cyfyngedig
golyguHenffych well! Welaist ti'r nodyn bychan gen i yn y caff? Mae angen symud ymlaen efo hwn; dwi'n credu a dilyna llawer os gawn ni'r ddafad gynta 'ma i fewn i'r gorlan. Unrhyw ymateb gan CBAC? Byddai clensio dau neu dri erbyn ein 25,000ed erthygl yn WYCH. Ond y LLGC yn gyntaf. Llywelyn2000 23:36, 3 Mai 2009 (UTC)
- Naddo, dwi ddim wedi gweld o eto ond wna' i edrych rwan. Braidd yn hwyr heno/bore 'ma! Dim gair gan CBAC eto na neges yma chwaith (gw. Sgwrs CBAC). Rhaid i mi anfon e-bost arall, at eu prif gyfeiriad efallai, a gofyn iddyn nhw basio neges ymlaen. Dwi wedi deud wrtho i fwrio ymlaen beth bynnag gan mai mater o ffurfioldeb yn unig ydy o: 'dan ni ddim isio rhoi rhwystrau ar eu llwybr! Anatiomaros 23:41, 3 Mai 2009 (UTC)
- Ie, gwna di hynny, ond mi rof innau alwad ffôn i un o'u prif swyddogion nhw fory. Ffrind. I weld a oes sylwedd yn y cais. Nos da rwan. Llywelyn2000 23:45, 3 Mai 2009 (UTC)
- Diolch i ti, Llywelyn. Eu biwrocratiaeth felltith sydd ar fai (fel arfer!). Nos da, gyfaill! Anatiomaros 23:49, 3 Mai 2009 (UTC)
Pwll tywod newydd!
golyguS'mae? Efallai yr ydych wedi sylwi yn ddiweddar fy mod wedi dirlenwi'r pwll tywod efo nodiadau a bocsys newydd! A oes modd i mi greu rhyw fath o bwll tywod newydd i mi gael defnyddio sy'n gadael i mi clirio'r prif bwll tywod? Hwyl, Rhys Thomas 19:02, 11 Mai 2009 (UTC)
- S'mae Rhys? Y peth gorau i'w wneud ydy creu estyniad o'th dudalen defnyddiwr, e.e. Defnyddiwr:JohnJonesX/PwllTywodPinc. Diolch am y gwaith ar y nodiadau hefyd; mae angen ailwampio nifer o nhw a dweud y gwir, ond mae'n cymryd amser ac mae 'na gymaint o bethau eraill i'w wneud yma hefyd (heb sôn am Y Byd a'r Betws...). Anatiomaros 19:22, 11 Mai 2009 (UTC)
Disney articles
golyguI recommend reducition to semi-protection. All the articles suffer now from lack of iw updates. 69.85.235.3 14:00, 20 Mai 2009 (UTC)
- They also "suffer" from a lack of vandalism, which must be frustrating to some. Anatiomaros 21:01, 20 Mai 2009 (UTC)
- You can STILL semi it - forever, if you want. OK this is still the "Disney vandal", but why am I still banned?! Can't I get a refund?! PLEASE?! I had originally posted this because once I realized that my other iws would not get added, I was like I MUST TRY TO GET THIS FIXED! What if I just left? Then what would you do? And like I said, just semi it indef, block any Disney accounts before they are autoconfirmed, and what will you have left to worry about? Unless you actually think the latest iws are invalid, in which case I pity you. (I already pity you.) So you can kick me out all you want, I still want a more reasonable solution. 70.146.212.80 19:02, 31 Mai 2009 (UTC)
- Why are you so desperate to edit articles in a language that you can not speak? Rhys Thomas 19:19, 31 Mai 2009 (UTC)
- You can STILL semi it - forever, if you want. OK this is still the "Disney vandal", but why am I still banned?! Can't I get a refund?! PLEASE?! I had originally posted this because once I realized that my other iws would not get added, I was like I MUST TRY TO GET THIS FIXED! What if I just left? Then what would you do? And like I said, just semi it indef, block any Disney accounts before they are autoconfirmed, and what will you have left to worry about? Unless you actually think the latest iws are invalid, in which case I pity you. (I already pity you.) So you can kick me out all you want, I still want a more reasonable solution. 70.146.212.80 19:02, 31 Mai 2009 (UTC)