Roedd Shirley Verrett (31 Mai 1931 - 5 Tachwedd 2010) yn fezzo-soprano operatig American Affricanaidd oedd wedi llwyddo i drosglwyddo i rolau soprano. Daeth Verrett I amlygrwydd mawr yn y byd opera o ddiwedd y 1960au drwy'r 1990au, yn arbennig am ganu gweithiau Verdi a Donizetti.[1]

Shirley Verrett
GanwydShirley Verrett Edit this on Wikidata
31 Mai 1931 Edit this on Wikidata
New Orleans Edit this on Wikidata
Bu farw5 Tachwedd 2010 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Ann Arbor Edit this on Wikidata
Label recordioRCA Victor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Ysgol Juilliard, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, athro cerdd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Math o laisdramatic soprano, mezzo-soprano Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarian Anderson Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://shirleyverrett.com/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Cafodd Verrett ei eni i deulu American Affricanaidd- o Adfentyddion y seithfed dydd yn New Orleans, Louisiana, ac fe'i magwyd yn Los Angeles, California. Bu'n canu yn yr eglwys ac yn dangos galluoedd cerddorol cynnar, ond i gychwyn roedd ei theulu yn gwgu ei gyrfa canu. Yn ddiweddarach aeth Verrett ymlaen i astudio gydag Anna Fitziu a gyda Marion Szekely Freschl yn Ysgol Juilliard yn Efrog Newydd. Ym 1961 enillodd Clyweliadau Cyngor Cenedlaethol y Metropolitan Opera, Dinas Efrog Newydd.

Gyrfa ryngwladol

golygu

Ym 1957, gwnaeth Verrett ei ymddangosiad operatig proffesiynol cyntaf yn The Rape of Lucretia gan Benjamin Britten. Ym 1958, gwnaeth ei pherfformiad cyntaf yn Opera Dinas Efrog Newydd fel Irina yn Lost in the Stars gan Kurt Weill. Ym 1959, fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Ewrop yn Cwlen, yr Almaen gan berfformio yn opera Dmitri Nabokov Rasputins Tod. Ym 1962, cafodd glod beirniadol am ei pherfformiad yn rôl teitl yr opera Carmen yn ninas Spoleto, gan ailadroddodd y rôl yn Theatr Bolshoi ym 1963, ac yn Opera Dinas Efrog Newydd ym 1964 (gyferbyn â Richard Cassilly a Norman Treigle). Ymddangosodd Verrett am y tro cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ym 1966 fel Ulrica yn Un ballo in maschera.

Ymddangosodd yn y cyngerdd cyntaf erioed a ddarlledwyd o Ganolfan Lincoln ym 1962.[2] Ymddangosodd yn ddiweddarach yr un flwyddyn yn y cyntaf o Gyngherddau Pobl Ifanc Leonard Bernstein a ddarlledwyd o'r lleoliad hwnnw, yn yr hyn sydd bellach yn Avery Fisher Hall.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Metropolitan Opera ym 1968, gyda Carmen, ac yn La Scala ym 1969 yn Samson a Dalila. Ymhlith rolau mezzo Verrett roedd Cassandra a Didon (Les Troyens Berlioz) - gan gynnwys y perfformiad cyntaf yn y Met, pan ganodd y ddwy rôl yn yr un perfformiad. Ymysg perfformiadau mezzo nodedig eraill ganddi bu:

Recordiwyd llawer o'r rolau hyn, naill ai'n broffesiynol neu'n breifat

O'r 1970au hwyr dechreuodd perfformio rolau soprano gan gynnwys:

  • Selika yn L'Africaine gan Giacomo Meyrbeer
  • Judith yn opera Bartók Castell Bluebeard
  • Arglwyddes Macbeth yn Macbeth, Verdi,
  • Madame Lidoine yn Dialogues des Carmélites Francis Poulenc (Met1977)
  • Rôl teitl Tosca, Puccini
  • Rôl teitl Norma, gan Vincenzo Bellini
  • Rôl teitl Aida, Verdi
  • Desdemona yn Otello, Verdi (1981),
  • Leonore yn Fidelio, Beethoven (Met 1983)
  • Iphigénie yn Iphigénie ên Tauride, Gluck (1984-85),
  • Rôl y teitl yn Alceste, Gluck (1985),
  • Rôl y teitl yn Médée gan Luigi Cherubini (1986).

Darlledwyd ei pherfformiad o rôl Tosca gan gwmni PBS ar y rhaglen Live from the Met ym mis Rhagfyr 1978,[3] chwe diwrnod cyn y Nadolig. Canodd y rôl gyferbyn â Luciano Pavarotti yn rôl Chavaradossi o

Ym 1990, canodd Verrett rôl Dido yn Les Troyens yn ystod agoriad swyddogol yr Opéra Bastille ym Mharis, ac ychwanegodd rôl newydd i'w repertoire: Santuzza yn Cavalleria rusticana yn Siena. Ym 1994, gwnaeth ei début ar Broadway yn adfywiad sioe gerdd Rodgers a Hamerstein Carousel yn Theatr Vivian Beaumont yng Nghanolfan Lincoln, gan chwarae Nettie Fowler; enillodd y sioe gwobr Tony

Ym 1996 ymunodd Verrett â chyfadran Ysgol Cerddoriaeth, Theatr a Dawns Prifysgol Michigan fel Athro Llais a death yn Athro Cerddoriaeth ym Mhrifysgol James Earl Jones [4]

Hunangofiant

golygu

Yn 2003, cyhoeddodd Shirley Verrett hunangofiant, I Never Walked Alone (ISBN 0-471-20991-0), lle siaradodd yn onest am yr hiliaeth y daeth ar ei thraws fel person du ym myd cerddoriaeth glasurol America. Pan wahoddodd yr arweinydd Leopold Stokowski hi i ganu gyda Symffoni Houston ar ddechrau'r 1960au, bu'n rhaid iddo ddiddymu ei wahoddiad pan wrthododd bwrdd y gerddorfa dderbyn unawdydd du. Fe wnaeth Stokowski iawn iddi yn ddiweddarach trwy roi cynnig gwell iddi gyda Cherddorfa Philadelphia a oedd yn gerddorfa llawer mwy adnabyddus.[5]

Priododd Verrett ddwywaith, yn gyntaf ym 1951, â James Carter, ac yna, yn 1963 i'r artist Lou LoMonaco.[6]

Marwolaeth

golygu

Bu farw Verrett yn Ann Arbor, Michigan, yn 79 oed, ar 5 Tachwedd 2010, o fethiant y galon yn dilyn salwch heb ei ddatgelu. Cafodd ei goroesi gan LoMonaco, eu merch fabwysiedig, Francesca, a'u hwyres.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Tommasini, Anthony (6 Tachwedd 2010). "Shirley Verrett, Opera Singer of Power and Grace, Is Dead at 79". The New York Times. Cyrchwyd 1 Mai 2019.
  2. Opening Night at Lincoln Center (1962). IMDb
  3. Tosca (19 Dec. 1978). IMDb
  4. Nash, Elizabeth. "Autobiographical Reminiscences of African-American Classical Singers, 1853–Present". Edwin Mellen Press, 2007; ISBN 0-7734-5250-8
  5. Tommasini, Anthony "MUSIC; Shirley Verrett Finally Tells Us Where She's Been", The New York Times, 2003-07-27. adalwyd 1 Mai 2019.
  6. https://www.theguardian.com/music/2010/nov/08/shirley-verrett-obituary
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: