Syr Eubule Thelwall
Cyfreithiwr, academydd a gwleidydd Cymreig ariannog oedd Syr Eubule Thelwall (c.1562 – 8 Hydref 1630)[1] a oedd yn aelod o Dŷ'r Cyffredin rhwng 1624 a 1629. Roedd hefyd yn Brifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen, Rhydychen rhwng 1621 a 1630. Ceir llun ohono'n blentyn a chofeb iddo yng Ngholeg yr Iesu. Roedd yn or-ewyrth i Eubule Thelwall a gysylltir gyda Nantclwyd y Dre.
Syr Eubule Thelwall | |
---|---|
Ganwyd | 1557 |
Bu farw | 1630 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1624–5, Member of the 1626 Parliament, Member of the 1628-29 Parliament |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
- Gofal: ceir Eubule Thelwall arall o'r un teulu (1622–1695)
Y dyddiau cynnar
golyguEubule oedd pumed mab John Wynne Thelwall ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Westminster cyn mynychu Coleg y Drindod, Caergrawnt ble derbyniodd radd Bachellor yn y Celfyddydau ym 1577[2] cyn ei throi hi tua Rhydychen ar 14 Gorffennaf 1579 ble derbyniodd radd Meistr yn y Celfyddydau ar 13 Mehefin 1580. Ym 1595 cafodd ei alw i'r bar. Chwe mlynedd yn ddiweddarach fe'i apwyntiwyd yn stiward a chofnodydd yn Rhuthun ble adeiladodd Plas Coch (bellach yn Glwb y Ceidwadwyr) ac ar 28 Rhagfyr daeth yn Glerc y Goron yn Sir Fôn, Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd am oes. Daeth yn aelod o Gray's Inn ar 16 Mehefin 1612. Rhwng 1617 a 1630 ef oedd Meistr y Siawnsri.[3]
Y diwedd
golyguNi phriododd Eubule Thelwall pan fu farw ar 8 Hydref 1630 yn 68 oed. Fe'i claddwyd yng Ngholeg yr Iesu a chodwyd cofeb iddo gan ei frawd Syr Bevis Thelwall. Ei nai John a etifeddodd ei ystâd.
Y teulu Thelwall
golygu- Prif: Thelwall (teulu)
Roedd nifer o'r teulu dros y blynyddoedd yn gyfreithwyr. Cysylltir y teulu gyda: Plas y Ward, Bathafarn a Phlas Coch, Sir Ddinbych. Daeth John Thelwall i ardal Rhuthun o ardal Thelwall yn Sir Gaer, tua'r flwyddyn 1380 a hynny gyda Reginald de Grey. Priododd ei fab John Ffelis, merch ac etifeddes Walter Cooke neu Ward, o Blas y Ward, a dyna gysylltu'r ffermdy hwnnw gyda'r teulu. Gor-ŵyr i John a Ffelis oedd Richard Thelwall a fu farw yn Eisteddfod Caerwys ym 1568 tra'n eistedd ar y comisiwn. Etifedd Richard Thelwall oedd Simon Thelwall (1526 - 1586), a wnaed yn fargyfreithiwr ar 8 Chwefror 1568, ac yn aelod seneddol dros Sir Ddinbych. Yn ddirprwy-farnwr Caer yn 1584 dyfarnodd ef Rhisiart Gwyn y merthyr Catholig o Lanidloes i'w farwolaeth.[4]
Mab hynaf Simwnt Thelwall o'i briodas gyntaf oedd Edward Thelwall (m. 1610) a briododd (yn drydedd wraig iddo) Catrin o Ferain a phriododd Simon, ei fab o'r ail briodas Gaenor, merch Elis Prys (Y Doctor Coch) o Blas Iolyn, ac o'r briodas hon y disgynnodd Thelwaliaid Rhuthun.
Gweler hefyd
golygu- Eubule Thelwall (g. 1622) (Nantclwyd)
- Simon Thelwall
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 4 Gorffennaf 2014
- ↑ "Thelwell, Eubule (THLL573E)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.
- ↑ W R Williams The Parliamentary History of the Principality of Wales
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 4 Mehefin 2014.