Thomas Edward Ellis

aelod seneddol dros Feirionnydd (1886-99) a phrif chwip y blaid Ryddfrydol (1894-5)
(Ailgyfeiriad o T. E. Ellis)

Roedd Thomas Edward Ellis, neu Tom Ellis (16 Chwefror 18595 Ebrill 1899) yn wleidydd radicalaidd o Gymro ac un o feddylwyr politicaidd mwyaf gwreiddiol a blaenllaw ei ddydd, a aned yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, Meirionnydd (Gwynedd). Ei fab oedd y llenor T. I. Ellis, a ysgrifennodd ei gofiant ar ôl ei farwolaeth.

Thomas Edward Ellis
Ganwyd16 Chwefror 1859 Edit this on Wikidata
Cefnddwysarn Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ebrill 1899 Edit this on Wikidata
Cannes Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, llywydd corfforaeth Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
PriodAnnie Jane Hughes Griffiths Edit this on Wikidata
PlantThomas Iorwerth Ellis Edit this on Wikidata
Am Tom Ellis, y gwleidydd Llafur ac wedyn SDP, gweler Robert Thomas Ellis.
Y cerflun o Tom Ellis yn Y Bala.

Cefndir ac addysg golygu

Roedd yn fab i Thomas Ellis, ffarmwr o Anghydffurfiwr a ffermai dyddyn yng Nghefnddwysarn, a'i wraig Elizabeth. Cafodd Tom Ellis ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bala, lle daeth yn gyfaill i O. M. Edwards, ac aeth yn ei flaen i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth 1875 ac yna i'r Coleg Newydd, Rhydychen 1879, lle cafodd radd mewn Hanes.

Gyrfa gwleidyddol golygu

Yn 1886 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Feirion. Erbyn 1894 Tom Ellis oedd Prif Chwip y blaid yn San Steffan.

Gweithiai'n ddiwyd dros addysg Gymraeg (yn arbennig yr ymdrech i greu ac ehangu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor), datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, Diwygio'r Tir ac Ymreolaeth i Gymru (hunanlywodraeth). Chwaraeodd ran flaenllaw ym mudiad Cymru Fydd.

Ym mis Medi, 1890, gwnaeth araith enwog yn y Bala yn galw am senedd lawn i Gymru. Gyda'i gyfeillion agos D. R. Daniel a W. J. Parry, datblygodd gysyniad newydd o genedligrwydd Cymreig, wedi'i ysbrydoli gan yr alwad cynyddol am ymreolaeth yn Iwerddon. Yn ôl gweledigaeth Ellis byddai hanes Cymru, ei thraddodiadau, diwylliant a'i hiaith a llenyddiaeth, ynghyd â'r sefydliadau cenedlaethol oedd i ddod, yn ffurfio un uned organig gydag ysbyrd y werin yn ei uno. Mewn hyn o beth gwelai ei hun fel olynydd i'r sosialydd cynnar o Gymro Robert Owen o'r Drenewydd.[1]

Trwy gydol ei oes roedd ei iechyd yn fregus. Daliodd deiffoid tra'n teithio yn yr Aifft yn 1889. Bu farw ddeg mlynedd yn ddiweddarach yn Cannes, gan fyrhau gyrfa addawol i'w sir a'i wlad. Fe'i claddwyd yng Nghapel Ddwysarn yn ei bentref genedigol.

Roedd yn anwyl iawn gan y werin a mawr fu'r golled ar ei ôl. Roedd pobl yn meddwl bod Cymru wedi colli ei harweinydd disgleiraf. Saif cofgolofn i Twm Ellis yn y Bala, a godwyd yn fuan wedi ei farwolaeth.

Gwaith llenyddol golygu

Roedd yn ŵr diwylliedig a ymddiddorai'n fawr yn llenyddiaeth ei wlad (golygodd gyfrol o waith Morgan Llwyd). Cyn ei ethol yn AS ysgrifennai'n gyson i'r wasg yng Nghymru ar bynciau diwylliannol a gwleidyddol, er enghraifft i'r Goleuad, y South Wales Daily News, a'r Carnarvon and Denbigh Herald.

Teulu golygu

Ar 1 Mehefin 1898 priododd Annie Jane Davies,[2] merch Robert Joseph Davies, Cwrt Mawr, Llangeitho, Ceredigion.[3] ac or-wyres y Parch. Peter Williams[4]. Bu iddynt un mab a anwyd ar ôl farwolaeth Tom Ellis, yr awdur a'r ysgolhaig Thomas Iorwerth Ellis.[5] Roedd yn daid i'r awdur a'r ymgyrchydd iaith Meg Elis

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau Tom Ellis
  • T.E. Ellis, Speeches and Addresses (1912)
Llyfrau amdano
  • T.I. Ellis, Cofiant Tom Ellis, 2 gyfrol (1944, 1948)
  • Neville Masterman, The Forerunner: the Dilemmas of Tom Ellis (1972)
  • O. Llew Owain, Tom Ellis: Gwladgarwr a Gwleidydd (Caernarfon, 1916)

Cyfeiriadau golygu

  1. Kenneth O. Morgan, Rebirth of a Nation. Wales 1880-1980 (Rhydychen, 1981), tud. 113.
  2. Owain, O Llew (1916). Tom Ellis:Gwladgarwr a Gwleidydd. Caernarfon: Cwmni y Cyhoeddwyr Cymraeg. t. 23.
  3. "DAVIES, ROBERT (1790-1841), blaenor Methodist | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-06-02.
  4. "WILLIAMS, PETER (1723 - 1796), clerigwr Methodistaidd, awdur, ac esboniwr Beiblaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-06-02.
  5. "ELLIS, THOMAS IORWERTH (1899 - 1970), addysgydd ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-06-02.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry Robertson
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
18861899
Olynydd:
Owen Morgan Edwards