Teisen frau

teisen neu fisged syml o flawd, menyn a siwgr a gysylltir gyda'r Alban a hefyd Teisen 'Berffro yng Nghymru.

Bisged nodweddiadol o'r Alban yw'r teisen frau a elwir hefyd yn gacen Aberffro neu teisen Berffro (short bread yn Saesneg). Caiff ei baratoi'n draddodiadol gydag un rhan o siwgr, dwy o fenyn a thri o flawd, gan ychwanegu cynhwysion eraill o bosibl gan gynnwys wyau.[1] Mae'r enw Saesneg "short bread" yn cyfeirio at natur brau y math hwn o fisged (mae "short" yn hen derm am "friwsionllyd" o'i chymharu â "long" oedd yn fwydach mwy hylaw a di-dor).[2][3]

Teisen frau
MathBisged, Crwst, bwyd Edit this on Wikidata
GwladYr Alban Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'n bosibl dod o hyd i desien frau yn bennaf mewn tri fformat:

  • bysedd, y mwyaf nodweddiadol, gyda siâp hirsgwar hirgul a thrwchus iawn
  • cylchoedd, gyda siâp crwn tebyg i fathau eraill o fisgedi
  • petticoat tails, sef "teisen" fawr wedi'i rhannu'n lletemau gyda phatrwm pais las ("lace") arni

Ceir y cofnod Saesneg cynharaf o'r term "shortbread" yn 1908.[4] gyda'r term yn disgrifio natur y deisen neu'r fisgeden yn gywir. Daw'r enw Cymraeg o Wynedd yn wreiddiol, ac mae'r gair yn fyw iawn yno.[5]

Hanes teisen Berffro'r Alban golygu

 
Tun o deisenau brau gyda brandio Albanaidd o'r Shortbread House, Caeredin

Tarddodd cacen Aberffro yn yr Alban. Er iddo gael ei baratoi yn ystod llawer o'r 12g, ac mae'n debyg iddo elwa o gyfnewid diwylliannol â chogyddion crwst Ffrengig yn ystod yr Auld Alliance rhwng Ffrainc a'r Alban,[6] mae mireinio bara byr yn cael ei gredydu'n boblogaidd i Mary, Brenhines yr Alban yn yr 16g.[7] Roedd y math hwn o teisen frau yn cael ei bobi, ei dorri'n lletemau trionglog, a'i flasu â hadau carwe.

Roedd y rysáit argraffedig gyntaf ar gyfer "short bread", ym 1736, gan Albanwr o'r enw Mrs McLintock.[8]

Roedd teisen frau'n ddrud ac wedi’i gadw ar gyfer achlysuron arbennig fel y Nadolig, Hogmanay (Nos Galan yr Alban), a phriodasau. Yn yr Alban, roedd yn draddodiadol torri cacen bara byr addurnedig (cacen infar neu fara breuddwydiol) dros ben priodferch newydd ar fynedfa ei thŷ newydd.[9] Rhoddwyd bara byr hefyd fel anrheg.[6]

Cyfeiriadau diwylliannol golygu

 
Bysedd teisennau brau
 
Paned Cortado du gyda jwg o laeth poeth, yn cael ei weini gyda sgwaryn o deisen frau, Bwyty Medina, Aberystwyth

Mae short bread ei hun yn tarddu o'r Alban ac fel arfer maent yn un o eiconau'r wlad. Fodd bynnag, maent yn boblogaidd iawn ledled y DU. Maent hefyd yn eang mewn gwledydd eraill fel Denmarc, Iwerddon, Sweden (enw'r amrywiad o Sweden yw Drömmar) ac UDA. Fodd bynnag, fersiwn yr Alban yw'r un fwyaf adnabyddus a Walkers Shortbread Ltd [10] yw allforiwr bwyd mwyaf yr Alban.[11]

Ar Ddiwrnod Ewrop 2006 fe'i dewiswyd i gynrychioli'r Deyrnas Unedig ym menter Sweet Europe.[12][13]

Teisen 'Berffro golygu

Ceiff amrywiad gynhenid Gymreig ar y teisen frau sef, teisen 'Berffro sy'n draddodiadol o bentrefn Aberffraw ar Ynys Môn. Ceir y cyfeiriad cynharaf cofnodedig i'r term "teisen 'Berffro" o 1908 [4]. Cofnodir i'r term teisen frau fod ar lafar yn Sir Frycheiniog ac mae'r term yn disgrifio natur y deisen neu'r fisgeden yn gywir.[4]

Gweini golygu

Mae teisen frau yn ychwanegiad ar gyfer paneidiau coffi neu de yn arbennig yn Yr Alban. Ym Mwyty Medina Aberystwyth caiff darnau bychain sgwâr o deisenau brau eu gweini am ddim gyda phaneidiau o ddiodydd peth fel rhan o'r gwasanaeth. Caiff hefyd eu gweini ar draws Cymru gan gynnwys Prifysgol Bangor.

Caiff tesien frau eu gwerthu ar draws Cymru a'r term ei harddel fel gair Cymraeg am "short bread".[14]

Amrywiad - Teisen Frau'r Miliwnydd golygu

Amrywiad mwy melys o'r deisen frau yw Teisen Frau'r Miliwnydd ("Millionair's Shortbread"). Mae'n cynnwys tair haen: haen waelod yn deisen frau; haen ganol yn caramel a'r haen uchaf yn siocled. Caiff hwn hefyd ei fwynhau gyda phaneidiau o de neu goffi.

Cafwyd amrywiad ychwanegol o'r ddantaith yma ar raglen goginio 'Becws' gyda'r gogyddes, Beca Lyne-Pirkis ar S4C. Roedd y rysait yn cynnwys jeli orennau, menyn, siwgr mân ("siwgr caster"), cnau cyll mâl yna blawd wedyn eu bobi a rhoi ganache siocled ar ei ben.[15]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://cy.unansea.com/bisgedi-teisen-frau-homemade-menyn-rysait-pobi-blasus/
  2. "Dictionary of the Scots Language:: DOST :: schort breid". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-08. Cyrchwyd 2021-11-20.
  3. "Dictionary of the Scots Language:: DOST :: schort adj". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-08. Cyrchwyd 2021-11-20.
  4. 4.0 4.1 4.2 https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?tesien_frau
  5. Geiriadur y Brifysgol (GPC); Golygydd Andrew Hawke
  6. 6.0 6.1 Brown, Catherine (2015-04-01). "Shortbread". The Oxford Companion to Sugar and Sweets (yn Saesneg). Oxford University Press. ISBN 978-0-19-931362-4.
  7. "History of Shortbread". English Tea Store. Cyrchwyd 10 Chwefror 2015.
  8. Hyslop, Leah. "Potted histories: shortbread". The Telegraph (6 Hydref 2013). Cyrchwyd 18 Chwefror 2014.
  9. Historic UK - heritage of Britain accommodation guide. "Scottish Shortbread" (yn Saesneg). Historic-uk.com. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2010.
  10. Walkers Shortbread
  11. Scotland on Sunday - Business
  12. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-17. Cyrchwyd 2007-08-17.
  13. "Sweet Europe" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Hydref 2007. Cyrchwyd 21 Medi 2016.
  14. https://siwgrasbeis.com/cy/products/shortbread
  15. "Fideo". YouTube.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fisged. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.