Uwch Gynghrair Iwgoslafia

Adran Gyntaf Iwgoslafia pêl-droed

Cynghrair Gyntaf Ffederasiwn Iwgoslafia (Serbeg: Прва савезна лига у фудбалу; Croateg: Prva savezna liga u nogometu; Slofeneg: Prva zvezna liga v nogometu; Macedoneg: Првата федерална лига; Albaneg: Liga e parë federale), oedd yr adran gyntaf genedlaethol pêl-droed yn Nheyrnas Iwgoslafia (1918–1941) a Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia (1945–1992). Dyma oedd Uwch Gynghrair Iwgoslafia.

Uwch Gynghrair Iwgoslafia
GwladIwgoslafia
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd1923; 101 blynedd yn ôl (1923)
Daeth i ben1992
Lefel ar byramid1
Disgyn iAil Adran Iwgoslafia
CwpanauCwpan Iwgoslafia
Cwpanau rhyngwladolCwpan Ewrop
Cwpan UEFA
Pencampwyr OlafSeren Goch Belgrâd
(1991–92)
Mwyaf o bencampwriaethauSeren Goch Belgrâd (19 teitl)
Prif sgoriwrTeyrnas Yugoslavia Slobodan Santrač (218)

Roedd Pencampwriaeth y Gynghrair Gyntaf yn un o ddwy gystadleuaeth genedlaethol a gynhaliwyd yn flynyddol yn Iwgoslafia, Cwpan Iwgoslafia oedd y llall.

Daeth y gynghrair yn gwbl broffesiynol ym 1967. [1]

Cafwyd sawl newid yn alewyrchu gwleidyddiaeth tymhestlog y wlad. Cydnabu cynghrair olynol Cynghrair Cyntaf Iwgoslafia UEFA, Cynghrair Cyntaf FR Iwgoslafia, er gwaethaf yr olyniaeth a'r un enw "Prva savezna liga", mae wedi'i gynnwys mewn erthygl ar wahân.

Teyrnas Iwgoslafia (1923–1940)

golygu
 
Gradanski a enillodd bencampwriaeth 1923. Meddianwyd asedau a cit Građanski gan dîm comiwnyddol newydd Dinamo Zagreb yn 1945

Hwn oedd y gystadleuaeth clwb gyntaf ar lefel genedlaethol ar gyfer clybiau Teyrnas Iwgoslafia (a enwyd yn Deyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid tan 1930). Dechreuwyd y gynghrair yn 1923 a chafodd y pedwar tymor cyntaf fformat twrnamaint cwpan, tra cynhaliwyd cystadleuaeth gyntaf y rownd-robin ym 1927. Yn y cyfnod rhwng 1927 a 1940 cwblhawyd 17 tymor, gyda'r holl deitlau wedi eu hennill gan glybiau o Croatia (Građanski Zagreb, Concordia Zagreb, HAŠK Zagreb a Hajduk Split) neu Serbia (BSK Belgrade a Jugoslavija Belgrade).

Cafodd ei lywodraethu i ddechrau gan Nogometni Savez Jugoslavije ("Cymdeithas Bêl-droed Iwgoslafia"), a sefydlwyd ym mis Ebrill 1919 yn Zagreb,[2] tan ddiwedd 1929, cododd anghytundebau rhwng canghennau Zagreb a Belgrâd y gymdeithas. Arweiniodd hyn at symud pencadlys y gymdeithas i Belgrâd (prifddinas y wladwriaeth newydd a phrifddinas Serbia) ym mis Mai 1930 lle mabwysiadodd yr enw Serbeg Fudbalski Savez Jugoslavije a pharhaodd i weithredu'r gynghrair nes iddo gael ei atal oherwydd dechrau'r Ail Ryfel Byd. [3] O ganlyniad, wrth i bencadlys symud, mae chwaraewyr a hyfforddwyr Croateg wedi boicotio tîm cenedlaethol Iwgoslafia. Gyda goresgyniad Iwgoslafia gan luoedd yr Echel (Almaen Natsiaidd ac Eidal Ffasgaidd, sefydlwyd cynghreiriau Croateg a Serbiaidd ar wahân, a oedd yn gweithredu yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Pencampwyr Teyrnas Iwgoslafia

golygu

Noder bod pob un tîm o'r Deyrnas Iwgoslafia wedi eu diddymu yn dilyn llwyddiant Comiwnyddion o dan y Cadfridog Tito i gipio grym yn 1945. Cipiwyd adnoddau, citiau, stadiwm y timau gan y Comiwnyddion i ffurfio timau newydd megis Dinamo Zagreb, Seren Goch Belgrâd a F.K. Partizan Belgrâd. Dim ond Hajduk Split a ganiatawyd i barhau fel tîm yn ei henw ei hun oherwydd iddi wrthod gydweithredu gyda'r awdurdodau Eidalaidd Ffasgaidd.

# Clwb Pencampwyr Ail
  1    BSK Beograd  5 4
2 Građanski Zagreb 5 2
3 Hajduk Split 2 5
4 Jugoslavija Beograd 2 3
5 Concordia Zagreb 2 1
6 HAŠK Zagreb 1 0
7 Slavija Sarajevo 0 1
8 SAŠK Sarajevo 0 1

Ail Ryfel Byd

golygu

Cynhaliwyd Српска Лига (Srpska Liga) yn yr 1930au hwyr a rhwng 1941-1944 cynhaliwyd cystadleuaeth o dan nawdd y llywodraeth quizling Serbeg gyda chefnogaeth y Natsiaid. Daeth y gynghrair i ben yn sgil bomio'r Cynghreiriau ar Belgrâd yn Ebrill 1944.

Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, 1945-1991

golygu

Yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd a llwyddiant Tito i gipio grym, ailafaelwyd ar Gynghrair y Prva savezna liga.Noder nawr fod Iwgoslafia yn cynnwys tiroedd nad oedd yn yr hen Iwgoslafia, megis penrhyn Istria a dinas Rijeka. Mewn polisi bwriadol o dorri gafael yr hen drefn gyfalafol ar y wlad, diddymwyd yr hen glybiau a fodolai cyn y Rhyfel (ag eithro Hajduk Split) gan gonffisgadu'r clybiau a'r asedau a chreu clybiau newydd yn yr union yr un stadiwm, yn aml gyda'r un cit ond gydag enwau ac ethos y mudiad comiwynyddol.

Uchafbwynt Ewropeaidd y Prva Liga oedd pan enillodd Seren Goch Belgrâd Gwpan Ewrop (a ddaeth, maes o law yn Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn 1990-91 gan guro'r tîm Ffrengig Olympique de Marsailles yn ninas Bari yn Eidal, 5-3 ar giciau o'r smotyn wedi gêm ddi-sgôr. Cyrhaeoddodd Partizan y ffeinal yn 1965-66 gan golli 2-1 i Real Madrid.

Pencampwyr Prva savezna liga GFfSI

golygu
Clwb Teitlau Tymhorau buddugol
Seren Goch Belgrâd 19 1951, 1952–53, 1955–56, 1956–57, 1958–59, 1959–60, 1963–64, 1967–68, 1968–69, 1969–70, 1972–73, 1976–77, 1979–80, 1980–81, 1983–84, 1987–88, 1989–90, 1990–91, 1991–92
Partizan 11 1946–47, 1948–49, 1960–61, 1961–62, 1962–63, 1964–65, 1975–76, 1977–78, 1982–83, 1985–86, 1986–87
Hajduk Split 7 1950, 1952, 1954–55, 1970–71, 1973–74, 1974–75, 1978–79
GNK Dinamo Zagreb 4 1947–48, 1953–54, 1957–58, 1981–82
Vojvodina 2 1965–66, 1988–89
Sarajevo 2 1966–67, 1984–85
Željezničar Sarajevo 1 1971-72

Cynghreiriau Olynnol Iwgoslafia

golygu

Tymor 1990–91 oedd y tymor olaf a gynhaliwyd yn ei fformat arferol, gyda chlybiau o bob uned ffederal yn cymryd rhan yn y bencampwriaeth. Fe dorrodd y wlad ei chynghrair uchaf i nifer o rai llai.

Slofenia a Croatia yn gadael

golygu

Ym mis Mehefin 1991 datganodd Slofenia annibyniaeth a dilynodd Croatia siwt ym mis Hydref yr un flwyddyn. Roedd hyn yn golygu bod eu cymdeithasau pêl-droed yn gwahanu oddi wrth Gymdeithas Bêl-droed Iwgoslafia fel bod y ddau ohonynt wedi dechrau eu cynghreiriau pêl-droed eu hunain. Lansiwyd PrvaLiga Slofenia ddiwedd 1991, a gwelodd y Prva HNL Croateg ei dymor cyntaf ym 1992. Yn sgil y rhyfel parhaus yn Croatia, cynhaliwyd y tymor yn ystod blwyddyn galendr sengl, o fis Chwefror i fis Mehefin 1992. wedi bod yn digwydd byth ers hynny.

Tymor 1991–92 - Y Tymor Olaf

golygu

Tymor 1991–92 oedd y tymor olaf a gynhaliwyd yn swyddogol o dan enw GFfS Iwgoslafia, er bod clybiau Slofenia a Croatia eisoes wedi gadael y gystadleuaeth i chwarae yn eu cynghreiriau eu hunain. Cymerodd clybiau o'r pedair uned ffederal arall i gyd ran yn y gystadleuaeth, ond ers i Ryfel Bosnia gychwyn tua diwedd y tymor, ni orffennodd clybiau Bosnian erioed, gyda Željezničar o Sarajevo ond wedi llwyddo i chwarae 17 allan o 33 o gemau a drefnwyd, tra daeth Sloboda Tuzla a Velež Mostar i ben y tymor gydag ychydig o gemau'n brin o gwblhau'r tymor. Er hynny, ers i'r rhan fwyaf o'r gemau gael eu chwarae yn ôl y bwriad, mae Crvena Zvezda - Seren Goch Belgrâd yn cael ei gredydu am ennill pencampwriaeth olaf Cynghrair Cyntaf Iwgoslafia.

Macedonia ac Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia

golygu

Gadawodd clybiau Macedonia y gystadleuaeth ar ôl tymor 1991–92 a lansiwyd Uwch Gynghrair Macedonia (Prva Мakedonska Fudbalska Liga) y tymor canlynol. Ar gyfer tymor 1992-93 roedd clybiau Bosnia ar frys oherwydd ymladd chwythu llawn a ddatblygodd yno, ac eithrio Borac Banja Luka (yr clwb Serbiaidd Bosniaidd gryfaf ar y pryd) a symudodd dros dro i Belgrâd ac a ymunodd â'r cynghrair yn cynnwys clybiau o Serbia a Montenegro, y tro hwn yn gynghrair gyntaf FR Iwgoslafia. (Serbia a Montenegro, yr unig rai a adawodd ar ôl i bedair gweriniaeth arall sy'n aelodau ddatgan annibyniaeth, ailenwyd eu gwlad yn Weriniaeth Ffederal Iwgoslafia). Cynghrair Cyntaf Serbia a Montenegro. Yn olaf, ym mis Mehefin 2006, datganodd Montenegro annibyniaeth a gadawodd yr undeb yn heddychlon, felly o dymor 2006-07 ymlaen, dechreuodd Montenegro weithredu cynghrair pêl-droed ar ben ei hun dan oruchwyliaeth ei chymdeithas bêl-droed. Ar y llaw arall, fel olynydd cyfreithiol undeb gwladwriaeth Serbia-Montenegro, cafodd Serbia hefyd barhad cynghrair y wlad a ffurfiwyd fel Prva liga (Adran Gyntaf) ym 1992, a'i hail-enwi a'i hail-frandio fel Superliga' yn haf 2005.

Bosnia a Herzogovina

golygu

Effeithiodd y rhyfel rhwng 1992-95 yn fawr iawn, wrth reswm ar bêl-droed yng ngweriniaeth fwyaf cymysg yr hen Iwgoslafia. Cynhaliwyd gwahanol gystadlaethau yn ystod ail hanner yr 1990au ond bu'n rhaid aros nes 2000 cyn i UEFA a FIFA gydabod Premijer Liga yr N/FSBiH. Ceir gwahaniaethau rhwng cyfundrefn bêl-droed Serbiaid B-H (Republika Srpska) a'r brif uned sy'n cynnwys y Mwslemiaid a'r Croatiaid. Ni gymerodd timau Serbiaid ran yn y tymor gyntaf. Gwelir enghraifft o'r rhaniad pêl-droed yn y wladwriaeth gan enw'r gymdeithas bêl-droed genedlaethol yn "Nogometni/Fudbalski Savez Bosne i Hercegovine" (N/FSBiH) sef cydnabyddiaeth o'r geiriau gwahanol am "bêl-droed" yn Croatieg ("Nogometni") a Serbeg ("Fudbalski").

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Moving with the ball: the migration of professional footballers by Pierre Lanfranchi and Matthew Taylor, pag. 119
  2. "Povijest - počeci" (yn Croatian). Croatian Football Federation. Cyrchwyd 2008-06-28. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. "Fudbalski savez Srbije - History". Football Association of Serbia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 April 2009. Cyrchwyd 2008-06-28. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)