Wassily Kandinsky

Bu Wassily Wassilyevich Kandinsky - Васи́лий Васи́льевич Канди́нский, Vasiliy Vasil’yevich Kandinskiy, (16 Rhagfyr 186613 Rhagfyr 1944) yn arlunydd arloesol, cydnabuwyd am greu rhai o'r peintiadau haniaethol (Abstract) pur cyntaf.[1]

Wassily Kandinsky
Ganwyd4 Rhagfyr 1866 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
Bu farw13 Rhagfyr 1944 Edit this on Wikidata
Neuilly-sur-Seine Edit this on Wikidata
Man preswylMoscfa, Neuilly-sur-Seine, Odesa, München Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Gwladwriaeth Ffederal, Sosialaidd, Sofietaidd Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd, Ffrainc, yr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi Celfyddydau Cain, Munich
  • Cyfadran y Gyfraith, Prifysgol y Wladwriaeth, Moscfa
  • Grekov Odesa Art school Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, academydd, damcaniaethwr celf, athro, cyfreithiwr, darlunydd, gwneuthurwr printiau, arlunydd graffig, drafftsmon, cynllunydd llwyfan, cynllunydd, cerflunydd, drafftsmon Edit this on Wikidata
Swyddcyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amComposition VII Edit this on Wikidata
Arddullpaentio, graffeg, damcaniaeth, celf haniaethol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHaystacks, Lohengrin, Helena Blavatsky, pwyntiliaeth, Fauvisme, Blue Rose, cerddoriaeth, Richard Wagner, Claude Monet, Edvard Munch, Vincent van Gogh, Henri Matisse, Pablo Picasso, Walter Gropius, Rudolf Steiner Edit this on Wikidata
MudiadMynegiadaeth, Symbolaeth (celf), Bauhaus Edit this on Wikidata
PriodNina Nikolajewna Andreevskaja Edit this on Wikidata
PartnerGabriele Münter Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.wassilykandinsky.net Edit this on Wikidata
llofnod

Yn fab i deulu busnes gweddol gyfoethog, treiodd ei blentyndod yn Odessa. Rhwng 1886 a 1889 astudiodd y gyfraith ac economeg ym Moscow. Dechreuodd arlunio'n 30 oed ac ym 1896 gan wrthododd gynnig proffesoriaeth yn y gyfraith ym Mhrifysgol Dorpat er mwyn fynd i Munich i astudio mewn ysgol gelf breifat ac wedyn Academi Celf Gain y ddinas.[2]

Dychwelodd i Foscow ym 1914 wedi dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn anfodlon gyda theorïau swyddogol y llywodraeth Bolsiefic newydd yn dilyn Chwyldro Rwsia ym 1917 dychwelodd i'r Almaen yn 1921. Bu'n athro yn yr ysgol gelf arloesol y Bauhaus nes iddo gael ei gau gan y Natsïaid ym 1933 a oedd yn gweld celf fodern yn groes i'w syniadaeth eithafol. Symudodd i Ffrainc gan ddod yn ddinesydd Ffrengig ym 1939.

Gwaith cynnar

golygu
 
Der Blaue Reiter (Y Marchog Glas) 1903

Yn dilyn ei astudiaethau llwyddiannus o'r gyfraith ac economeg, fe lwyddodd hefyd yn ei astudiaethau yng ngholeg Gelf Munich. Ymwelodd â'r Eidal, Yr Iseldiroedd ac Affrica gan arddangos ei waith ym Berlin ym 1902 a Paris ym 1904.

Roedd ei ddarluniau o ddechrau'r ganrif yn dirweddau a beintiwyd gyda spatiwla gan wneud darnau mawr fflat o'r llun yn un lliw llachar, yn debyg i arddull dwys, y grŵp Fauve[1].

Gweler yn ei waith cynnar yn symudiad tuag at theorïau haniaethol gyda lliwiau'n cael eu cyflwyno ar wahân i'r ffurfiau.

 
Ceunant Byrfyfyr (Improvisation) 1914

Fu'n gymorth i ffurfio'r Neue Künstlervereinigung München (NKVM) – Grŵp Arlunwyr Newydd Munich gan ddod yn llywydd ym 1909[3]. Ond fethodd y grŵp cyfuno â syniadau radicalaidd Kandinsky ac eraill gydag agweddau mwy traddodiadol ac fe roddwyd y gorau i'r grŵp ym 1911.

Ffurfiodd Kandinsky grŵp newydd Der Blaue Reiter (Y Marchog Glas) gydag Franz Marc, August Macke ac eraill a fu'n dylanwad mawr ar Mynegiadaeth (Expressionism) Almaeneg yn ddiweddarach.

Fe laddwyd Marc a Macke yn y Rhyfel Byd Cyntaf a bu rhaid i Kandinsky ddychwelyd i Rwsia.[4]

 
Wassily Kandinsky, Byrfyfyr (Improvisation) 27 (Gardd Gariad II), 1912, olew ar gynfas (120.3 x 140.3 cm), Amgeuddfa Gelf Metropolitan, Efrog Newydd. Arddangoswyd yn yr Armory Show, 1913.

Gwaith haniaethol a'r Bauhuas

golygu

Yn ei ddatblygiad tuag at waith cwbl haniaethol, cafodd Kandinsky ei ddylanwadu gan yr hanesydd celf Wilhelm Worringer a'i waith Abstraktion und Einfühlung (Haniaeth ac Empathi), 1908 yn dadlau nad oedd yr hierarchaeth arferol o werthoedd, yn seiliedig ar y deddfau'r Dadeni bellach yn ddilys wrth ystyried y gelf o ddiwylliannau eraill.[5] Gellir ei ystyried yn artist Avant-garde.

Fel yr arlunydd haniaethol o'r mudiad De Stijl, Piet Mondrian roedd Kandinsky hefyd yn ymddiddori yn Theosoffi, athroniaeth a oedd yn boblogaidd ar y pryd ymhlith rhai arlunwyr a deallusion. Sefydlwyd gan Helena Petrovna Blavatsky ar ddiwedd y 19eg canrif roedd y mudiad Theosoffi yn credu bod gwirionedd wedi'i guddio y tu ôl i'r wyneb ac felly'n darparu rhesymeg amlwg i gelfyddyd haniaethol.[6]

Ym 1913 arddangosodd Kandinsky y darlun Byrfyfyr (Improvisation) 27 (Gardd Gariad II) yn yr Armory Show yn Efrog Newydd ac fe welir yn glir ei symudiad i greu darlun haniaethol gydag elfennau'r darlun wedi'u symleiddio i'w siapiau craidd.

Wedi iddo orfod gadael yr Almaen i ddychwelyd i Rwsia bu Kandinsky'n gweithio fel addysgwr celf ar ran y llywodraeth newydd Bolsieficaidd gan helpu ail drefnu ysgolion celf y wlad. Ym 1920 bu'n un o sylfaenwyr INKhUK (Sefydliad Diwylliant Celf) ond yn fuan bu'n dadlau gyda'r arlunwyr lluniadaeth (constructivist) Kazimir Malevich, Vladimir Tatlin, Varvara Stepanova ac Alexander Rodchenko a oedd yn gomiwnyddion brwdfrydig yn credu mewn defnyddio celfyddyd fel ffordd i adeiladu dyfodol gwell i bobl gyffredin.

Yn dilyn tensiynau gydag arlunwyr Rwsia a diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf derbyniodd Kandinsky gwahoddiad Walter Gropius i fod yn athro yng ngholeg celf a phensaernïaeth newydd y Bauhaus (Gweithdy) yn Weimar.

Dysgodd Kandinsky y dosbarthiadau cynllunio a chwrs ar theori uwch, hefyd bu'n arwain y dosbarthiadau peintio a dadleuodd dros ei theori lliw newydd. Datblygodd ei waith i fod yn haniaethol pur a chywyddwyd ei ail lyfr Punkt und Linie zu Fläche (Pwynau a Llinell i Blên) ym 1926.[7]

Daeth elfennau geometrig yn fwy amlwg yn ei waith yn arbennig y cylch, hanner cylch, llinellau syth a chromliniau a bu'r cyfnod yn nodweddiadol o'i thriniaeth o liwiau cyfoethog a graddiadau o liw.

Datblygodd y Bauhaus i fod yn hynod o allweddol, yn dylanwadu cynllunio, teipograffi a pansaerniaeth modern ac addysg gweledol trwy ail hanner yr 20g. Caewyd y Bauhaus ym 1933 gan y Natsïaid ym 1933 a oedd yn gweld celf fodern yn groes i'w syniadaeth eithafol. Fel llawer o ddarlithwyr ac arlunwyr a oedd yn gysylltiedig â'r Bauhaus bu rhiad iddo ffoi o'r Almaen.

Condemwyd 57 o waithiau Kandinsky'n Entartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan y Natsïad a'u hatal rhag eu harddangos yn gyhoeddus.[3]

O 1933 bu Kandinsky yn byw ym Paris, yn dal i ddilyn ei yrfa fel arlunydd hyd ddiwedd ei oes ym 1944.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 http://www.tate.org.uk/art/artists/wassily-kandinsky-1382
  2. 2.0 2.1 http://www.biography.com/people/wassily-kandinsky-9359941
  3. 3.0 3.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-12. Cyrchwyd 2015-01-06.
  4. Katharina Erling: Der Almanach Der Blaue Reiter, in: Hopfengart (2000)
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-17. Cyrchwyd 2015-01-06.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-28. Cyrchwyd 2015-01-06.
  7. https://archive.org/stream/pointlinetoplane00kand/pointlinetoplane00kand_djvu.txt