Wicipedia:Y Caffi/archif/12
25,000 erthygl: Trafodaeth
golyguY ddolen i'r drafodaeth am hyn yw: Wicipedia:Y Caffi/25,000 erthygl. PWYSIG: Cyfranwch yno yn hytrach nag ar brif dudalen y Caffi, os gwelwch yn dda. Anatiomaros 17:23, 5 Ebrill 2009 (UTC)
Lluniau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
golyguHelo. Rwy'n rhan o dîm bach sy'n gobeithio ymchwilio, yn ystod mis Awst, i rannu rhywfaint o'r cynnwys digidol sy'n perthyn i Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Un o'r ffyrdd o wneud hyn yw trwy rannu rhai o'n delweddau a ddigidwyd ag erthyglau perthnasol ar Wikipedia a Wicipedia. Byddwn yn ddiolchgar iawn petaech yn anfon unrhyw adborth atom, felly mae croeso i chi bicio draw at ein tudalen 'Defnyddiwr' er mwyn gweld mwy o wybodaeth am y prosiect neu adael sylwadau ar y dudalen Sgwrs. Diolch! Llyfrgell Genedlaethol Cymru 09:32, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Syniad ardderchog : byddai'n hwb mawr i waith y wicipedia Cymraeg. (Gweler hefyd eich Tudalen Sgwrs). Anatiomaros 14:58, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Fedrith rhywun ddweud wrthyf ym mhle mae dod o hyd i'r hen luniau yma? Dwi wedi edrych ymlaen cymaint i'w gweld nhw, ond a ydyw'r Llyfrgell wedi dal at eu gair a'u rhannu ar Wicipedia? Byddai'n wych eu cael a'u defnyddio fel rhan o'n gwersi hanes. Diolch. Yn siomedig ond eto yn hyderus, RWJ.
- Mi osodais rhai mewn categori arbennig Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas, ond ynglyn â'u defnydd fel rhan o wersi hanes, bydda rhaid gofyn i'r Llyfrgell am ganitad penodol dw i'n meddwl, yn ôl proffeil y llyfrgell (ar y gwaelod). Fel arfer, mae popeth sy'n cael ei cynnwys ar Wikipedia a Wicipedia ar gael ei bawb eu defnydido heb unrhyw gyfyngiadau, ond bu rhaid cael trwydded hawlfriant newydd er mwyn i'r Llyfrgell allu rhannu eu delweddau. Er bod hyn yn gores i ysbryd Wicipedia, cerdi'r ei bopd yn syniad da fel arbrawf er mwyn caniatau i'r Llyfgrell fynd ymlaen gyda'r prosiect peilot yma.--Ben Bore 16:42, 9 Chwefror 2009 (UTC)
- Ategaf yr hyn mae Ben Bore wedi dweud. Rwyf wedi cysylltu eto gyda'r Llyfrgell wedi iddynt ychwanegu rhai sylwadau at eu tudalen. Byddant yn ysgrifennu rhagor am ddefnyddio'r lluniau mewn ysgolion ar dudalen y prosiect rwyn credu. Yr hyn ddywedwyd wrthyf oedd bod cytundeb i gael rhwng y Llyfrgell a'r 'National Grid for Learning' ynglŷn â defnyddio lluniau'r llyfrgell mewn ysgolion. Rwyf wedi ail-ddrafftio 'trwydded' y Llyfrgell ar ôl cael ymateb y Llyfrgell iddo felly dylwn allu ychwanegu hwn at eu delweddau cyn bo hir. Ond rhaid pwysleisio hyn: os mai'r lluniau'n unig yr ydych â diddordeb ynddynt yna dylai fod yr un mor hawdd cael gafael arnynt ar wefan y Llyfrgell ag yw hi fan hyn. Cyn uwchlwytho'r lluniau hyn fan hyn bydd rhaid ysgrifennu'r erthyglau y bydd y lluniau yn ymddangos ynddynt. Felly os am weld y llun, ysgrifennwch yr erthygl gyntaf! Mae'n debyg mai hwn fydd y gwaith mwyaf, yn hytrach na datrys problem technegol yr uwchlwytho. Yn ôl tudalen y Llyfrgell fe gawn fynd ati i uwchlwytho (unwaith y bydd y 'drwydded' wedi ei gwblhau) ein hunain. Mae drafft y polisi ar ddefnyddio lluniau pan nad yw'r drwydded yn rhydd yn barod i'w drafod. Byddaf yn cynnig bod lluniau'r Llyfrgell yn eithriad i'r polisi (oherwydd eu bod yn cael eu huwchlwytho ar ddatrysiad sgrin yn hytrach na datrysiad isel). Mae angen ysgrifennu canllaw ar sut i wneud yr uwchlwytho - dyna'r cam nesaf os oes rhywun am fynd ati i ddraftio. Fe af finnau ati os na fydd rhywun wedi achub y blaen arnaf, ond does wybod pryd - mae pwysau gwaith yn gwaethygu arnaf yn lle gwella. Fe fyddaf yn hen ddigon balch o weld diwedd y gwaith anferth hwn. Yn y cyfamser, os oes rhywun am uwchlwytho llun ac heb wybod sut, gallwch roi nodyn ar y Caffi yn gofyn am gymorth ac mae'n siwr y cewch gymorth neu gyngor ar sut i fynd ati. Lloffiwr 18:35, 13 Ebrill 2009 (UTC)
- Beth ydy'r diweddaraf? Llywelyn2000 16:04, 4 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Ia, hoffwn i wybod hefyd. Pwynt arall, fel a nodais rywle neu'i gilydd o'r blaen, mae chwilio am lun yn iawn os wyt ti'n gwybod am be yn union rwyt ti'n chwilio, ond mae'r dewis yn gyfyng ar hyn o bryd - beth am eu deunydd llawysgrifol, er enghraifft? - ac weithiau rhaid chwilio sawl gwaith i gael hyd i ddelwedd berthnasol. Basai'n haws pe bai'r llyfrgell ei hun yn helpu a cheisio cyfrannu lluniau i'r erthyglau sy gennym yma yn barod. Anatiomaros 16:53, 4 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Beth ydy'r diweddaraf? Llywelyn2000 16:04, 4 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Dwi wedi rhoi'r drafodaeth flaenorol ar y dudalen Sgwrs Categori:Delweddau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gan fod hyn heb ei ddatrys eto wna i adael hyn yma am rwan. Gellid ei archifio i'r dudalen sgwrs - yn ogystal a'r lle arferol - yn nes ymlaen? Anatiomaros 13:12, 9 Medi 2009 (UTC)
Tudalen Hafan
golyguMae yna nifer o ddefnyddwyr wedi bod yn cyfrannu cynlluniau arbennig o dda ar gyfer y tudalen hafan dros y misoedd dwethaf odan y teitlau hafan/prawf. Gan fod dim llawer wedi digwydd i'r hafan am amser hir, hoffwn gyflwyno dau cynllun newydd sydd ychydig mwy "bold" na'r un presennol ond heb newid mawr iawn. Mae'r cynlluniau odan y teitlau Hafan/Prawf.
Cynlluniau newydd syml | |
Diolch, Rhys Thomas 22:02, 5 Mehefin 2009 (UTC)
- Gwych. Rhywbeth bych fel newid lliw sydd ei angen. Mae'r un ar y dde yn gret. Ydy'r geiriad hwn yn well?
- Croeso i Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd, Cymraeg
- Ydy, mae yn! Ond "yn y Gymraeg" sydd i gael nawr. Mae angen gwneud rhywbeth i'r hafan ac mae yna ddigon o gynlluniau grêt (fel rhai chi Llywelyn!) i ddewis o!
- Beth yw'r rheolau am addasu'r hafan? Oes hawl i'r gweinyddwyr gwneud newidiadau bychan heb ofyn yn y caffi? Rhys Thomas 12:22, 9 Mehefin 2009 (UTC)
- Su mae, Rhys? Mae'r ddwy ffordd yn gywir, bellach. Mae'r awgrym uchod yn gynilach ac yn fwy eglur, heb y treiglad. Mae lleihau maint y ffont i lawr i 145 yn ei wneud yn lanach fyth. Tria fo. Mae newid yr hafan bob yn hyn a hyn yn beth da. Mae'n dangos ein bod ni'n fyw, fel logos Gwgl. Dwi am gynnig ein bod yn gwneud hynny, gyda newid y frawddeg hon yn unig ar y cychwyn a thrafodaeth eto ar effeithiolrwydd y newid mewn tua 4 mis. Cynnig: ein bod yn newid lliw brawddeg agoriadol yr Hafan, am y 4 mis nesa, fel arbrawf, weithiau i adlewyrchu digwyddiad cyfoes / y tymor ee haul Awst yn y llythrennau "CYMRU". Rhys Thomas i fod a'r gair olaf yn y dewis o luniau / lliwiau. Llywelyn2000 13:45, 9 Mehefin 2009 (UTC)
- Eto, faswn i'n dweud tydy'r dyluniad newydd yn gwneud dim i wella'r dudalen flaen. Mae'n edrych ychydig yn naff os gai fod mor ddigywilydd. Hefyd, a'r Firefox mae'n edrych fel hyn. I barhau ar y trywydd beirniadol, mae atalnod llawn du bychan tu ôl i'r gair 'Wicipedia' ond un gwyrdd maint mwy tu ol i'r gair 'Cymraeg'. Ar y sgrinlun dw i wedi ei dynnu, mae atalnod y llinell uchaf yn cael ei guddio.
- Efallai bod y dudalen flaen oedd gyda ni yn ddi-fflach (er doedd gyda fi dim problem gyda fo), dylai'r duluniad newydd fod yn welliant ac o ddyluniad safonol cyn ei newid yn fy marn i.--Ben Bore 14:27, 9 Mehefin 2009 (UTC)
- Dwi wedi trwsio'r broblem efo firefox. I fod yn onest cefais sioc fy hun pan welais y canlyniad ar firefox! Rwyf wedi lleihau maint y testun yn sylweddol ac rwyf wedi profi'r cynllun ar IE8, Google Chrome, Safari (ar ipod) ac ar Firefox ac mae'n edrych yn iawn nawr. Rwyf wedi hefyd symud yr atalnod allan o'r ffwythiant lliw.
- Dros y misoedd diwethaf mae nifer ohonom wedi bod yn cynllunio hafanau newydd (mae yna tua 6) ond does neb wedi rhoi sylw a does dim byd wedi newid. Os nad yw rhywun yn gwneud rhywbeth- ni fydd unrhywbeth yn cael ei wneud yma- mae fy neges wedi bod yma ers y 5ed, dim ond heddiw cefais atebiad.
- Nol i neges Llywelyn- mae'n syniad grêt cael newid bach pob hyn a hyn ar fel mae google yn gwneud. Rwyf wedi creu enghraifft o newid tymhorol newydd ar Hafan/Nadolig2. Mae'n neis mewn gwirionedd gweld ymateb yma (er bod sylwad Rhys ddim mor gadarnhaol). Rhys Thomas 15:02, 9 Mehefin 2009 (UTC)
- Dros y misoedd diwethaf mae nifer ohonom wedi bod yn cynllunio hafanau newydd (mae yna tua 6) ond does neb wedi rhoi sylw a does dim byd wedi newid.
- Gyda phob parch, dw i'n meddwl does neb wedi gadael sylw gan nad oes neb arall yn rhannu dy frwdfrydedd di na Llywelyn am newid yr hafan, neu efallai ddim yn meddwl llawer o'r cynnigion newydd, a ddim eisiau teimlo'n annifyr (fel dw i rwan) yn dwed nad ydynt yn meddwl llawer ohonynt. Sori am fod mor ddi flewyn ar dafod, ond dw i'n meddwl mai gonestrwydd yw'r polisi gorau!--Ben Bore 15:53, 9 Mehefin 2009 (UTC)
- Mae tudalen Nadolig Rhys yn edrych yn fantastig! Awe! Ysgol Rhiwabon 11:53, 11 Tachwedd 2009 (UTC)
Hafan newydd
golyguRydw i'n hoffi y hafan newydd! Deb 19:44, 9 Mehefin 2009 (UTC)
- Hi pawb, dwi 'di bod mor brysur yn ddiweddar dwi heb cael y cyfle i ddod ar lein; fe fydda'i nôl cyn bo' hir gobeithio. Ynglŷn â'r dudalen hafan newydd, dwi'n hoffi'r screenshots sy 'da ti 'na Rhys, yn enwedig yr un ar y chwyth, ond ar 'y nghyfrifiadur i mae'r testun ar y hafan newydd wedi'u gwasgu 'da'i gilydd am ryw reswm. Byddai well gen i weld yr un arall gyda'r ddraig goch a'r geninhen bedr i ddweud y gwir. Glanhawr 21:38, 9 Mehefin 2009 (UTC)
- Ie, dwi'n ffafrio'r un chwith- ond bydd rhaid gofyn i un o'r biwrocratiaid cyn gwneud newid sylweddol fel yna! Pa browser sydd gennych? A oes modd i chi edrych ar Hafan/Prawf i ceisio dod dros y broblem? Rhys Thomas 22:25, 9 Mehefin 2009 (UTC)
- Hi pawb, dwi 'di bod mor brysur yn ddiweddar dwi heb cael y cyfle i ddod ar lein; fe fydda'i nôl cyn bo' hir gobeithio. Ynglŷn â'r dudalen hafan newydd, dwi'n hoffi'r screenshots sy 'da ti 'na Rhys, yn enwedig yr un ar y chwyth, ond ar 'y nghyfrifiadur i mae'r testun ar y hafan newydd wedi'u gwasgu 'da'i gilydd am ryw reswm. Byddai well gen i weld yr un arall gyda'r ddraig goch a'r geninhen bedr i ddweud y gwir. Glanhawr 21:38, 9 Mehefin 2009 (UTC)
- Hi Rhys, mae'n ymddangos fel hyn i fi am ryw reswm. Glanhawr 22:38, 9 Mehefin 2009 (UTC)
- Mae'n ymddangos yn berffaith ar fy nghyfrifiadur i. Dim problem. Llawer gwell. Llywelyn2000 23:03, 9 Mehefin 2009 (UTC)
- Dylai'r cynllun fod yn iawn efo pawb nawr! Rhys Thomas 08:50, 10 Mehefin 2009 (UTC)
- Mae'n ymddangos yn berffaith ar fy nghyfrifiadur i. Dim problem. Llawer gwell. Llywelyn2000 23:03, 9 Mehefin 2009 (UTC)
Hafan newydd (unwaith eto!)
golyguMae yna cymaint o broblemau wedi bod (roedd yn iawn ar fy nghyfrifiadur i) efo'r cynllun newydd- rwyf wedi newid y cynllun yn llwyr. Gobeithio mae pawb yn hapus nawr! Rhys Thomas 15:57, 10 Mehefin 2009 (UTC)
Cymharu'r Wicipedia
golyguOes rhywun arall wedi bwrw golwg dros y tabl o Wikipedias mwyaf ar Metawiki yn ddiweddar? Yn ôl y tabl, mae'r Wicipedia wedi cael ei basio yn ddiweddar gan y fersiwn Albanian, sydd, erbyn hyn, yn fwy na'r fersiwn Cymraeg gan ryw 50 o dudalennau.
Dwi'n gwybod nad oes gan hyn lawer i ymwneud â safon y fersiwn; serch hynny, tipyn o siom. Gawn ni fynd ati i gru mwy o dudalennau er mwyn cadw i fyny gyda'r Joneses - neu beth bynnag yw'r cyfenw mwyaf poblogaidd yn Albania!... Ynyrhesolaf 16:50, 10 Mehefin 2009 (UTC)
- Mae cadw i fynu efo Albaneg yn darged dda! Ni'n gwneud yn dda yma wrth cymharu niferoedd sy'n siarad y ieithoedd. Mae gan Albaneg tua 6,000,000 o siaradwyr! Rhys Thomas 16:59, 10 Mehefin 2009 (UTC)
- Dim rhaid gofyn - ewch ati! (A phawb arall hefyd!). Fel mae Rhys yn deud, mae tua 6 miliwn o bobl yn siarad Albanieg felly mae 'na fwy o siaradwyr yr iaith honno na siaradwyr Cymraeg. Rhaid cael balans rhwng nifer yr erthyglau a'u safon, wrth gwrs; mewn ffordd mae un erthygl dda yn werth hanner dwsin o 'eginau' ffwrdd-a-hi. Ond ar y llaw arall mae lle i eginau da hefyd - paragraff cryno a llun efallai - yn enwedig os nad ydym yn debyg o gael erthygl am y pwnc fel arall (ond piti gwneud hynny yn achos pynciau mawr sy'n haeddu erthyglau sylweddol...). Anatiomaros 17:01, 10 Mehefin 2009 (UTC)
Datblygiad pwysig
golyguGweler Wicipedia:Y Caffi/25,000 erthygl lle ceir testun y gwahoddiad dwi wedi cael heddiw ar ran y Wicipedia gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn cynnig i ni ymuno â'r brosiect newydd BBC Vocab. Basai'n braf cael sylwadau pawb am hyn a phenderfynu beth i'w wneud. (Trafodaeth ar y dalen '25,000 erthygl' yn hytrach nag yma yn y Caffi, er mwyn cadw popeth gyda'i gilydd). Anatiomaros 23:14, 24 Mehefin 2009 (UTC)
Y Wicipedia yn Trydar
golyguOes rhywun yma'n defnyddio Twitter? Dw i ddim yn siwr o'i werth o fy hun, er mod i newydd agor cyfrif i fy hun i arbrofi. Tra o'n i wrth, mi wnes i greu un ar gyfer y Wicipedia hefyd, fel y bydd yn danogs yr erthyglau newydd fel 'twît'. Efallai mi wnaiff ddenu darllenwyr maes o law ac hyd yn oedd cyfranwyr newydd.--Ben Bore 07:59, 1 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Na syniad da (er dwi'n casau twitter!) Ar y pwnc o gwefannau rhwydweithio cymdeithasol- efallai bydd tudalen facebook yn syniad da i pawb sydd yma allu cwrdd yn iawn! Rhys Thomas 21:15, 1 Gorffennaf 2009 (UTC)
Nodyn Croeso
golyguRwyf wedi creu nodyn croeso newydd. Os oes cyfrif newydd yn ymddangos, rhowch y cod {{croeso}}~~~~ ar dudalen sgwrs y defnyddiwr.
Shwmae, Y Caffi/archif! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. | Message in English | Message en français | ||
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma. | |||
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 281,385 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg. | |||
Y Caffi Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia. |
Cymorth Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia. | ||
Porth y Gymuned Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth sydd angen gwneud yma. |
Golygu ac Arddull Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau. | ||
Hawlfraint Y rheolau hawlfraint yma. |
Cymorth iaith Cymorth gyda'r iaith Gymraeg. | ||
Polisïau a Chanllawiau Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned. |
Cwestiynau Cyffredin Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr. | ||
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial, a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio. |
Y Pum Colofn Egwyddorion sylfaenol y prosiect. | ||
Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".
|
Cofion cynnes, Rhys Thomas 21:26, 3 Gorffennaf 2009 (UTC)
Gall rhywun ei wirio am camgymeriadau! Diolch, Rhys Thomas 21:26, 3 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Diolch am hyn Rhys. Gwelliant sylweddol ar yr hen un. Ambell beth mân i gywirio. Anatiomaros 16:48, 4 Gorffennaf 2009 (UTC)
Proposal for closing Welsh Wikiquote
golyguSorry I am not writing in Welsh. Welsh Wikiquote has been proposed for closure here. --83.44.128.116 11:40, 4 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Thank you for bringing this to our attention. Having just had a quick look at the project I'm not surprised it's been nominated for deletion. Practically nothing there at all. However, it must be admitted that this and similar small projects - just seen the deletion proposals log as well! - is well hidden. I've been contributing to wikipedia in Welsh, English and occasionally other languages for several years and was not really aware of its existence. Personally, I've more than enough on my plate here and elsewhere on Wikipedia to be able do much to improve it and we're short enough on resources here. Anatiomaros 16:47, 4 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Agree with Anatiomaros. Llywelyn2000 21:48, 4 Gorffennaf 2009 (UTC)
- If it's being deleted, will we ever be able to get it back in the future when we have more contributors? Rhys Thomas 19:57, 5 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Mae prif dudalen y Wici hwn yn dweud nad yw'r Wikiquote Cymraeg yn bod o gwbl (ar y gwaelod: 'Prosiectau Wicifryngau nad ydynt ar gael yn Gymraeg'). Allai un o'r gweinyddwyr newid y dudalen flaen i adlewyrchu'r ffaith ei fod yno? Wi'n cytuno ei fod mewn cyflwr gwael, ond byddai dolen o'r brif dudalen yn rhwy fath o help i ganologi pobl i'w fynychu e ac i ychwanegu ato. Daffy 01:40, 20 Medi 2009 (UTC)
- Gwell yn hwyr na hwyrach Daffy - wedi newid yr Hafan i ddangos bod Wikiquote yn bod, ar hyn o bryd ochodyn. Dwi ddim yn gweld bod llawer o obaith i'r prosiect hwn gan nad oes enw Cymraeg wedi ei bathu iddo hyd y gwelaf. Lloffiwr 14:36, 1 Tachwedd 2009 (UTC)
Angen map i'ch erthygl?
golyguUwchlwythwyd map eitha da i'r erthygl La Gomera, map sydd wedi ei greu ar http://www.openstreetmap.org/ - mapiau am ddim, ond ychydig yn gyntefig ar hyn o bryd. System nid anhebyg i Wici, sy'n caniatau i'r defnyddiwr ychwanegu ac addasu. Gallwn eu defnyddio ar Wici, gan mai trwydded CC 2.o sydd iddynt. Llywelyn2000 14:32, 9 Gorffennaf 2009 (UTC)
Defnyddiwr PK2
golyguOes gan rhywun syniad beth mae hwn yn wneud? Ymysg pethau eraill mae newydd greu tudalen Nodyn:Flag er bod Nodyn:Baner yn bodoli.--Ben Bore 10:34, 10 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Mi faswn i'n gadael neges ar ei dudalen yn gofyn iddo stopi a gwneud yn siwr fod y peth ddim yn bodoli'n barod - ys ydio'n parhau bydd rhaid ei flocio dwi'n credu gan ei fod yn creu cymaint o bethau di-angen. Thaf 11:49, 10 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Dwi wedi dileu'r cyfan a gadael neges ar ei dudalen sgwrs. Mae 'na rywbeth od iawn am y defnyddiwr yma - gweler ei dudalen sgwrs ar y wici S., sy'n llawn o rybuddion o bob math am ei ddulliau golygu ayyb. Os gwneiff yr un peth eto blociwch o. Anatiomaros 15:28, 10 Gorffennaf 2009 (UTC)
Enwau gwledydd (eto!)
golyguDim ond gair i'ch cyfeirio i drafodaeth (arall!) am enwau gwledydd yn Gymraeg: yma. Diolch. Llywelyn2000 09:05, 12 Gorffennaf 2009 (UTC)
Wythnos i ffwrdd
golyguAr frys gwyllt: mi fyddaf i ffwrdd dramor am wythnos (archwiliad o lefydd bwyta Rick Stein), ond yn gadael yr hen le 'ma mewn dwylo da, cadarn, medrus. Byddwch wych! Llywelyn2000 19:12, 16 Gorffennaf 2009 (UTC)
Wicipedia yn y cylchgrawn Planet a 'Gorsedd y Gîcs' yn Eisteddfod 2009
golyguEr gwybodaeth, yn ôl blog Daniel Cunliffe, mae erthygl am y Wicipedi yn rhifyn diweddara o Planet.
Hefyd, i'r rhai ohonoch sy'n mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn y Bala, mae digwyddiad ymylol o'r enw Gorsedd y Gîcs yn digwydd ar y dydd Iau 6.8.09 am 5:50pm yn y Plas Coch.
Does dim trefn ffurfiol i'r digwyddiad, ond petai rhywun o'r Wicipedia'n digwydd bod eisiau mynd (alla i ddim oherwydd gwaith), byddai croeso i rhoi ryw gyflwyniad bach am gyflwr y Wici ac efallai trio annog eraill i gyfrnauu a/neu ei hyrwyddo.
Dw i'n nabod sawl un sy'n mynd i fod yn bresenol a maen nhw'n bobl ffein iawn - peidiwch bod yn swil!--Ben Bore 13:23, 21 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Diolch am y wybodaeth, Ben. Yn anffodus fedra' i ddim mynd i'r Steddfod fy hun chwaith, ond gobeithio bydd rhywun sydd yn mynd yn teimlo fel mentro arni yn 'yr Orsedd'. Braf clywed am yr erthygl yn Planed: oes posibl cael cadarnhad a rhoi'r cyfeiriad yn yr erthygl ar y Wicipedia Cymraeg ar 'en'? Anatiomaros 17:32, 21 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Anghofiais am yr erthyg yna ar y Wiki Saesneg. A'i i'r llyfrgell i golwg amdano fo.--Ben Bore 20:38, 21 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Basa'n braf cael hynny yn yr erthygl, sy'n gweithio fel math o hysbyseb i ni hefyd (digywilydd!). Anatiomaros 22:00, 27 Gorffennaf 2009 (UTC)
ymholiad ar llangefni
golyguhelo mae gen i gwestiwn ar hen enw Rallt Station Llangefni, yn yr hen oesoedd roedd ei enw hi yn Allt y Forwylt, rwy yn gwybod ystyr y gair sef Wild Ford ond nid pam roedd yr enw yma wedi cael ei rhoi arni hi, fysau unrhiw wyubodaeth yn helpu y fi...
maen ddrwg gen i am a sillafu
Pa hwyl? Diddorol iawn. Ydy'r enw'n iawn gen ti: y Forwylt? Nid "y Forwyllt"? Dim syniad! Unrhyw gysylltiad efo'r bardd Morwyllt 1839-1921? Llywelyn2000 05:52, 3 Awst 2009 (UTC)
maen ddrwg gen i Forwyllt sydd yn iawn mae fy sillafu yn wael, Mi wnae edrych i mewn ir bardd Morwyllt, diolch yn fawr iawn
Glanhau erthyglau sydd eu hangen
golyguRoeddwn i'n styried glanhau tipyn ar:
http://cy.wikipedia.org/wiki/Arbennig:WantedCategories
drwy greu'r Cats. Be yn union sydd angen ei wneud? Teipio'r hierarci uwch yn y blwch? Llywelyn2000 22:06, 1 Awst 2009 (UTC)
Nage. Nid fi ofynodd y cwestiwn yma. Dyma'r ail waith erioed i hyn ddigwydd. Cwestiwn gan bwy ydy hwn, felly? Llywelyn2000 05:07, 3 Awst 2009 (UTC)
- Mae'r un peth wedi digwydd i fi yn y gorffennol, fan hyn ac ar y Wici Saesneg. Ches i'm mlocio o'r Wici Saesneg am fandaleiddio erthygl am ryw bentref yng Ngogledd Lloegr ond alla i ddweud a'm llaw ar fy nghalon nad oedd dim byd i'w wneud a fi! Glitch o ryw fath yn y system, mae'n rhaid. Rhodri77 08:40, 3 Awst 2009 (UTC)
- Yr hyn sy'n anhygoel ydy cyn lleied o broblemau sydd gennym ni!!! Rhodri - mae Wicipedia Cymraeg yn un o ffynhonellau gwybodaeth gorau sydd gennym fel cenedl. Mae hi'n fraint cael gweithio arni efo pobol mor alluog yn adeiladu un o drysorau'r genedl - ar gyfer y dyfodol. Llywelyn2000 10:44, 3 Awst 2009 (UTC)
Dyddiadau
golyguOs ydy pawb yn cytuno, yna, dwi am gysoni dyddiadau holl erthyglau Wici yn unol â'r canllawiau i'r fformat syml:
13 Tachwedd 2009 yn hytrach na'r dull clogyrnaidd 13eg o Dachwedd, 2009.
Sylwadau os g yn dda? Llywelyn2000 13:07, 2 Awst 2009 (UTC)
- Dim gwrthwynebiad o gwbl mewn egwyddor, Llywelyn, ond wyt ti'n sylweddoli faint o waith mae hynny'n olygu? Mi fyddi di wrthi tan y Dolig! Gwaith bot ydy hyn, a dyna sydd ei angen arnom ni yma i wneud gwaith diflas fel hyn, cywirio
camsillufacamsillafu, newid categorïau ayyb. Gwell treulio ychydig o ddyddiau yn gosod bot ar y Wici yn lle dechrau ar y gwaith diddiwedd hwn? Anatiomaros 21:34, 2 Awst 2009 (UTC)
- M! Diddorol. Mi hola i am fot. Alan fydde'n gwybod ond fe ddiflannodd hwnnw i'r gwynt! Unrhyw syniadau pellach? Llywelyn2000 21:42, 2 Awst 2009 (UTC)
- Dwi ddim yn gwybod lle i ddechrau, heblaw efallai am chwilio am berchennog bot ar en: neu rywle arall a gofyn ei addasu/"benthyg" ar gyfer gwaith yma. Ond am yr ochr dechnegol, does gen i ddim syniad o gwbl. Anatiomaros 21:57, 2 Awst 2009 (UTC)
- OCe. Ie, Bot ydy'r ffordd ymlaen. Mae hwnnw wedi'i sefydlu ar Scgript Peithon, ac mae gen i tipyn o hwnnw (neu mi oedd!). OND, mae'n rhaid i Fiwrocrat roi ei ganiatad, Mr Anatiomaros, Syr... Wnei di gymryd cip ar Steward requests/Bot status a mi weli ddolen o'r enw Special:UserRights. Bydd yn rhaid aros wythnos, rhag ofn fod unrhyw un o'r criw'n gwrthwynebu. Llywelyn2000 22:57, 2 Awst 2009 (UTC)
- Unrhyw newydd am hyn, Llywelyn? Cofia bydd angen botwm mawr coch gyda STOP! arno i'w ddiffodd mewn argyfwng, rhag ofn... Anatiomaros 23:00, 4 Awst 2009 (UTC)
- OCe. Ie, Bot ydy'r ffordd ymlaen. Mae hwnnw wedi'i sefydlu ar Scgript Peithon, ac mae gen i tipyn o hwnnw (neu mi oedd!). OND, mae'n rhaid i Fiwrocrat roi ei ganiatad, Mr Anatiomaros, Syr... Wnei di gymryd cip ar Steward requests/Bot status a mi weli ddolen o'r enw Special:UserRights. Bydd yn rhaid aros wythnos, rhag ofn fod unrhyw un o'r criw'n gwrthwynebu. Llywelyn2000 22:57, 2 Awst 2009 (UTC)
- Dwi ddim yn gwybod lle i ddechrau, heblaw efallai am chwilio am berchennog bot ar en: neu rywle arall a gofyn ei addasu/"benthyg" ar gyfer gwaith yma. Ond am yr ochr dechnegol, does gen i ddim syniad o gwbl. Anatiomaros 21:57, 2 Awst 2009 (UTC)
- M! Diddorol. Mi hola i am fot. Alan fydde'n gwybod ond fe ddiflannodd hwnnw i'r gwynt! Unrhyw syniadau pellach? Llywelyn2000 21:42, 2 Awst 2009 (UTC)
- Sorri! This is where I have to admit that I don't entirely follow the discussion above. There's lots of disagreement on the English wikipedia about date formats, but here I've always kept to the rule of day-month-year and linked all significant dates (mainly to make it easier when creating and amending the year articles). That's the standard/convention I've been using. Deb 22:17, 4 Awst 2009 (UTC)
- Hi. Yes, I agree with all you say. However, you have a comma after the month, yet both Wiki and Wici (sounds like two S4C cartoon characters!), suggest one uninterupted line: 2 Awst 2009 rather than 2 Awst, 2009. Llywelyn2000 22:36, 4 Awst 2009 (UTC)
- I don't think I put that comma there, did I? I may have put one after the year, though. Deb 18:15, 5 Awst 2009 (UTC)
Must have been an oversight! It refers to your edit on Harry Belafonte Y diwygiad cyfredol, am 21:29, 4 Awst 2009 when you wrote: (ganed 1 Mawrth, 1927... (i.e. with a comma). Must have been a typo. Thanks a diolch. Llywelyn2000 22:55, 5 Awst 2009 (UTC)
Hawlfraint Lluniau ar Wefan y Steddfod Genedlaethol.
golyguEbostiais y Steddfgod : Carwn wneud cais i ddefnyddio rhai o'r lluniau sydd ar eich gwefan ar Wicipedia. a ches yr ateb hwn: From: Hywel Wyn Edwards <{{cuddwyd y cyfeiriad e-bost}}> Subject: Re: Hawlfraint lluniau Date: 02/08/2009 06:52:43 To: Hywel Wyn Edwards Sent: 2 Aug 2009 06:34 Subject: Hawlfraint llunia gyda'r cwestiwn:
Dim problem!
Felly.... ewch ati! Llywelyn2000 22:05, 2 Awst 2009 (UTC)
- Gwych! Diolch i ti. Anatiomaros 22:23, 2 Awst 2009 (UTC)
Dolen i'r wefan Llywelyn2000 05:30, 3 Awst 2009 (UTC)
Safoni termau Wici
golyguCarwn gynnig ein bod yn safoni ein termau ar Wici drwy fabwysiadu termau sydd wedi'u cymeradwyo gan y cyrff canlynol:
- termau meddygol: Y Gwyddoniadur Iechyd (gan Y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol) - gweler ein trafodaethau yma
- enwau gwledydd: Bwrdd yr Iaith - gweler ein trafodaethau yma a'r rhestr ei hun sydd Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg.
Awgrymaf ein bod yn cael holiadur ar y ddau yma, ac yna'n ychwanegu atynt fel y cyfyd unrhyw ddadleuon eraill sy'n ymwneud â thermau.
- Ychwanegwch eich barn yn y rhan yma, gan ddechrau pob llinell gyda
*'''Cytuno'''
neu*'''Anghytuno'''
, ac yna arwyddwch yn y drefn arferol fel hyn:~~~~
.
- Cytuno Mae angen cysondeb arnom. Bu trafodaethau ar y ddau set o dermau dros gyfnod o dair blynedd, a mwy!! Mae'n hen bryd i Wicipedia fabwysiadu argymhellion yr arbenigwyr yn y ddau gorff proffesiynol uchod. Llywelyn2000 05:39, 6 Awst 2009 (UTC)
- Cytuno. O leiaf fe fyddai'n atal dadlau, ond fe fydd llawer o waith newid ar erthyglau, categorïau ac yn y blaen. Mae'n anffodus fod "arbenigwyr" Bwrdd yr Iaith wedi creu rhestr enwau gwledydd sydd mor anghyson ynddi ei hun. Rhion 07:32, 6 Awst 2009 (UTC)
- Cytuno Ond sut yr ydym fod mynd ati i cysoni pob term yma? Rhys Thomas 16:54, 8 Awst 2009 (UTC)
- Anghytuno (a Chytuno mewn egwyddor ar yr un pryd). Ni fedraf dderbyn rhestr enwau gwledydd Bwrdd yr Iaith fel ffynhonnell ddibynadwy. Mae nhw wedi dewis gormod o ffurfiau Saesneg yn lle ffurfiau Cymraeg naturiol. Rhowch "yn Affganistan" mewn peiriant chwilio ac mi gewch chi fod y BBC, Golwg, S4C, ymgyrch dotcym, Llywodraeth Cymru a hyd yn oed MI5 yn ei ddefnyddio, ond y ffurf Saesneg 'Afghanistan' sydd gan y Bwrdd. Enghraifft arall: Moroco. Dim angen dwy 'c' (ydy'r Bwrdd am gael 'Criccieth' yn lle Cricieth?) fel sy gan y Bwrdd gyda'i 'MoroCCo' Saesneg (ia, Saesneg!) tra bod y BBC, S4C, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac eraill yn defnyddio'r ffurf Gymraeg naturiol Moroco (sydd i'w gweld hefyd mewn teitl llyfr Cymraeg). Fel mae Rhion yn nodi, "Mae'n anffodus fod "arbenigwyr" Bwrdd yr Iaith wedi creu rhestr enwau gwledydd sydd mor anghyson ynddi ei hun." Gwir bob gair, a does dim angen o gwbl i ni eu dilyn nhw chwaith. Anatiomaros 17:10, 8 Awst 2009 (UTC) ON Pacistan yw'r ffurf - nid y "Pakistan" Saesneg sy gan "arbenigwyr" Bwrdd yr Iaith - a ddefnyddir yng Nghofnodion swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler yma). Mae sawl enghraifft o'r ffurf Gymraeg gwbl dderbyniol Pacistan ar wefannau BBC Cymru, Golwg360, Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth, y BBC ayyb hefyd, felly mae'n rhaid gofyn pwy yn union ydy "arbenigwyr" y Bwrdd, beth yw sail eu dewis mympwyol ac anghyson a pham ddylem ni dderbyn eu "hawdurdod" pan mae'n amlwg fod nifer o sefydliadau eraill yn angytuno â nhw? Byddai derbyn y ffurfiau ar restr y Bwrdd yn ei chrynswth, yn anfeirniadol, yn tanseilio annibyniaeth a hygrededd Wicipedia, yn fy marn i, a dyna'r peth olaf rydym ni eisiau gweld, gobeithio. ONN Does gen i ddim byd yn erbyn derbyn 'Y Gwyddoniadur Iechyd' - dwi ddim yn ddigon o arbenigwr yn y maes hwnnw i farnu. Anatiomaros 18:35, 8 Awst 2009 (UTC)
- Cytuno ac anghytuno yn enwedig ar ol darllen y sylwadau uchod. A oes modd safoni'r termau meddygol am ei fod yn ymddangos nad oes cymaint o amrywiaeth o dermau fan hyn? Ar y llaw arall, dw i'n hoffi'r syniad o gysoni enwau gwledydd a.y.y.b. ond os nad oes cysondeb ymhlith sefydliadau fel ByIG, y BBC ac ati, dw i ddim yn gweld ei fod yn ymarferol bosib i wneud hynny. Rhodri77 18:30, 8 Awst 2009 (UTC)
- Cytuno i fabwysiadu terminoleg y Gwyddoniadur Iechyd (gweler sgwrs rhyngdda i a Llywelyn).
Anghytuno i fabwysiadu awgrymiadau Bwrdd yr Iaith ar enwau gwledydd. Yn fy marn i mae'r dadleuon eisoes ar enwau gwledydd yn dangos bod gormod o anghydfod i ddilyn un o'r nifer o "restrau safonol" sydd ar gael. Fel dywedodd Anatiomaros mae angen amddiffyn annibyniaeth Wicipedia trwy wneud penderfyniadau call ar ba ffurfiau enwau i ddefnyddio, ac mae'r erthygl Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg yn dystiolaeth ein bod yn ymwybodol o'r mater dadleuol hwn ac yn cydnabod safonau sefydliadau a chyhoeddiadau eraill. Rwyf o blaid cadw at yr enwau traddodiadol a mwyaf poblogaidd, a lle bo dadlau mawr ar ba ffurf i ddefnyddio dylsen cynnal trafod ar dudalen sgwrs yr erthygl berthnasol. --Adam (Sgwrs) 21:46, 8 Awst 2009 (UTC)
Dod i gasgliad: Diddorol iawn! A diolch i bawb. Hoffwn eich sylwadau ar y tri phwynt canlynol os gwelwch yn dda, neu'r gair "Cytuno" os ydych? 1. Ga i awgrymu'n gynnil dull o ymgorffori sylwadau creadigol Anatiomaros ac Adam â'r gweddill ohonom sy'n dymuno mabwysiadu termau Bwrdd yr Iaith. Dwi wedi addasu'r Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg; mi newidiaf e'n ôl os nad oes consensws! Fe welwch fod y golofn olaf yn caniatáu eithrio o'r safon pan fo cytundeb i wneud hynny. I fod yn ymarferol, awgrymaf fod un person (Anatiomaros, efallai oherwydd ei sylwadau (creadigol) uchod) yn nodi yn y golofn olaf (Colofn Wici) yr eithriadau mae'n dymuno ei weld. Mi faswn i'n gobeithio y gellid cadw nifer yr eithriadau mor fychan a phosibl i adlewyrchu barn y mwyafrif (uchod, sydd o blaid safon Bwrdd yr Iaith). 2. Mae'r mwyafrif o blaid mabwysiadu terminoleg y Gwyddoniadur Iechyd (er fod rhai bathiadau hurt yn hwnnw hefyd!) 3. Awgrymaf ddalen yn nodi ein bod yn seilio ein termau ar y ddau gorff hyn, ac yn croesawu trafodaeth ar dermau eraill yn y dyfodol.
Llywelyn2000 21:44, 10 Awst 2009 (UTC)
- Roedd fy mhleidlais "Cytuno" i uchod o blaid safoni yn gyffredinol, nid o blaid rhestr Bwrdd yr Iaith yn arbennig. Rwy'n awgrymu y dylai'r golofn olaf fod yn rhestr safonol Wicipedia o enwau lleoedd, gan ddewis y ffurf fwyaf addas o'r rhestri eraill ym mhob achos lle mae gwahanol ffurfiau, ond heb rhoi unrhyw flaenoriaeth arbennig i restr Bwrdd yr Iaith. Rhion 06:08, 11 Awst 2009 (UTC)
- Does dim cytundeb o gwbl i fabwysiadu rhestr anffodus Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae'r drefn sy gennym yn barod yn gwneud synnwyr gan fod y tair rhestr yn anghytuno mewn rhannau. Dof yn ôl at hynny isod. Rhaid i mi ddeud yr oedd yn anheg braidd agor trafodaeth ar y ddau beth yma - enwau'r gwledydd a thermau iechyd - gyda'i gilydd. Pwynt arall: pam gymaint o frys? Mae'n ganol yr haf, rydym wedi trafod hyn am dridiau ac mae cyfranwyr sydd heb gael y cyfle i fynegi eu barn eto. Ac mae'n amlwg fod anghytundeb dwfn yma. Ar y llaw arall, ymddengys fod pawb yn barod i dderbyn y Gwyddoniadur Iechyd a does gennyf ddim problem efo hynny o gwbl: gellid cael pleidlais ar hynny, gan ei adael yn agored am ryw wythnos i roi cyfle i bawb gymryd rhan.
- Mae 'na ragor i ddweud am yr enwau gwledydd. Dwi ddim am fynd trwy'r holl enghreifftiau o anghysondeb a'r dewis mympwyol o ffurfiau Saesneg sydd yn rhestr y Bwrdd, ond yn fy marn i gallai plentyn ysgol wedi gwneud yn well na'r "arbenigwyr", pwy bynnag ydyn nhw. Mae 'na ddiffyg amlwg arall hefyd, sy'n llwyr danseilio unrhyw ddadl dros dderbyn rhestr y Bwrdd (neu un o'r lleill) fel ein hunig awdurdod: mae rhestr Bwrdd yr Iaith yn brin o 49 o wledydd. Be wnawn ni efo nhw? Bydd rhaid i ni ar Wicipedia ddewis, mae'n amlwg. Felly hyd yn oed pe bai rhestr y Bwrdd yn un a fodlonai pawb ni fyddai ei mabwysiadu fel unig awdurdod Wicipedia ar y pwnc yn datrys y broblem. Yr hen drefn sydd orau dan yr amgylchiadau: rhestr Wicipedia (sy'n agored i drafodaeth) yw ein safon, yn seiliedig ar y gorau o'r hyn sy'n cael ei gynnig gan y tair rhestr. Dwi'n awgrymu rhoi'r enwau sydd gennym ni yn y golofn gyntaf ar y dudalen Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg hefyd. Anatiomaros 14:45, 11 Awst 2009 (UTC)
- "Trefn"? "Mae'r drefn sy gennym yn barod yn gwneud synnwyr gan fod y tair rhestr yn anghytuno mewn rhannau." Tydy hyn ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae ein diffyg trefn, ein diffyg cysondeb, ein defnydd rhywsut-rywsut o unrhyw un o'r colofnau, unrhyw sillfiad yn CHWERTHINLLYD! Mae angen safoni Wicipedia - beth bynnag ydy ein daliadau personnol ni am sillafu. Tydan ni DDIM yn arbenigwyr, Llais i arbenigwyr ydy Wicipedia, gadewch i'r llais hwnnw fod yn un safonol, cyson. Byddai derbyn un o'r colofnau yn gwneud Wicipedia yn llawer mwy credadwy; mae ein credinedd ar hyn o bryd yn racs-jibiders gan drwch y mwyafrif. Un o'r rhesymau am hynny yw nad oes gennym ni yw hyn oll. Byddai rhestr safonol o gyrff SAFONOL (nid ffugenwau!) yn help i'n gwneud yn fwy credadwy... a derbyniol.
- Cytunaf ac awgrym Anatiomaros i gadw'r bleidlais ar agor am wythnos arall. Ond mae trafodaethau fel hyn wedi digwydd ers tair blynedd! Mae'n bryd dod i gasgliad.
- Mae Anatiomaros yn holi beth i'w wneud gyda'r "49" enwau gwledydd nad ynt ar rest ByI. Efallai na welodd y frawddeg uchod gen i: "Fe welwch fod y golofn olaf yn caniatáu eithrio o'r safon pan fo cytundeb i wneud hynny." Ein hawgrymiadau a'n hychwanegiadau ni fyddai yn hon. Llywelyn2000 23:08, 11 Awst 2009 (UTC)
- Dyma ddiddorol: mae Bwrdd yr Iaith ei hun braidd yn ansicr am ei safonau. Yn ei Ganllawiau wrth ddynodi enwau gwledydd, ieithoedd a phobloedd y tu allan i Gymru dywed "Pakistan ond Pacistaniad" ond ar ei restr mae'n awgrymu Pacistan fel enw'r wlad! Yn ogystal mae'r canllawiau yn cyfeirio at "Guinea Gyhededdol" tra bo'r rhestr yn rhoi "Guinea Gyhydeddol". Efallai mae'r rhain yn gamgymeriadau bychain, ond yn fy marn i mae hyn yn dweud mwy am gredinedd Bwrdd yr Iaith nag y mae'r diffyg i gydffurfio â safonau un sefydliad/cyhoeddiad arall yn dweud am gredinedd Wicipedia. --Adam (Sgwrs) 23:40, 11 Awst 2009 (UTC)
Newydd weld erthygl gennym o'r enw Gwledydd y byd. Ein trefn bresenol "yw dilyn y ffurfiau yn yr Atlas Cymraeg gan geisio cymryd i ystyriaeth yn ogystal argymhellion Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a gyhoeddodd ei rhestr o enwau lleoedd yn 2007." (Gweler yr erthygl Gwledydd y byd gan Lloffiwr, Marniel ac eraill). Rhyfedd na ddeuthum ar ei thraws cyn hyn! Carwn dynnu fy nghynnig (uchod) yn ôl parthed mabwysiadu safon Bwrdd yr Iaith a chadw'r status quo hy dilyn y ffurfiau yn yr Atlas Cymraeg... Dyma felly rhestr Wicipedia o enwau gwledydd. Glynwn atynt! Byddwn gyson, a dadlau unrhyw newidiadau i ffurfiau'r Atlas Cymraeg ar dudalen y wlad berthnasol. Llywelyn2000 23:08, 13 Awst 2009 (UTC)
- Ond mae hynny allan o ddyddiad - fel llawer o bethau ar y Wicipedia - fel sy'n amlwg o'r sylwadau uchod gan Adam, Rhion a minnau. Ac mae'r rhan fwyaf o'r bobl a gyfranodd at y drafodaeth honno - 2007 neu gynt - a'r un gynharach (gweler Wicipedia:Sgwrs am Gwledydd y Byd) heb gyfrannu yma ers hydoedd. Mae pethau wedi newid ac roedd y newid yn anorfod. Nid yw'r un o'r ddwy restr "swyddogol" yn ffoddhaol: os ydym am dderbyn rhestr yr Atlas Cymraeg Newydd bydd rhaid i ni newid Irac i Iraq, er enghraifft! Does posibl fod hynny'n dderbyniol? Felly nid "rhestr Wicipedia o enwau gwledydd" yw rhestr yr Atlas, na'r Bwrdd chwaith, ac mae 'na reswm da dros hynny. Duw a ŵyr dwi ddim isio i'r ddadl 'ma fynd ymlaen am fyth a'n gweld ni'n ffraeo gyda'n gilydd, ond dwi ddim yn gweld fod unrhywbeth o'i le o gwbl yn y ffaith ein bod yn dewis o'r tair ffynhonnell ac yn cydnabod hynny fel bod pawb yn gwybod sail ein rhestr ni. Anatiomaros 23:30, 13 Awst 2009 (UTC)
Copi o'r hyn rwyf newydd ei sgwennu ar Wicipedia:Arddull: Oni ddylid fod wedi trafod hyn (naill ai yma neu yn y caffi) CYN DILEU penderfyniad, waeth pa mor hen ydyw? Dyma'r geiriad rwyt newydd ei ddileu: Argymhellir dilyn sillafiad yr Atlas Cymraeg Newydd ar Wicipedia, fel ag ar restr gwledydd y byd. O’r rhestr hon y ceir teitlau’r erthyglau ar y gwledydd. Dylai sillafiadau amgen y wlad gael eu cofnodi yn yr erthygl. Ai oherwydd dy fod yn anghytuno gyda dewis-eiriau'r Atlas ee Korea? Awgrymaf yn gry dy fod yn trafod penderfyniadau fel hyn cyn mynd ati i'w newid o dy ben a dy bastwn! Llywelyn2000 23:35, 13 Awst 2009 (UTC)'Testun italig
Copiwyd y canlynol allan o'r erthygl Sgwrs Wicipedia:Arddull:
- Llywelyn, mae'r ateb yn y Sgwrs yn y Caffi (ac uchod, o ran hynny). Dydyn ni ddim yn dilyn rhestr yr Atlas Cymraeg Newydd (wyt ti isio i ni dderbyn barn yr "arbenigwyr" hynny a chael Iraq yn lle Irac a Lithuania yn lle Lithwania ayyb? A chofia pwy benderfynodd symud Corea/De Corea/Gogledd Corea i Korea/De Korea/Gogledd Korea "o'i ben a'i bastwn ei hun", chwarae teg - nodyn o esboniad yw hyn, dim fel newid enw gwlad gyda phopeth mae hynny'n olygu. Anatiomaros 23:41, 13 Awst 2009 (UTC)
- Eh? Does gen i ddim syniad am be wyt ti'n son! "Korea" fyddai fy sillafiad i, nid Corea. Tydw i ddim yn deall dy resymeg. Gawn ni gadw'r sgwrs ar y ddadl hon i'r Caffi? Llywelyn2000 23:51, 13 Awst 2009 (UTC)
- Ac Iraq yn lle Irac hefyd? Mae hyn yn mynd yn wirion, Llywelyn. Anatiomaros 23:53, 13 Awst 2009 (UTC)
- "Does gen i ddim syniad am be wyt ti'n son!" Hyn efallai?. Nos da. Anatiomaros 23:56, 13 Awst 2009 (UTC)
- Korea ydy sillafiad yr Atlas Cymraeg. Korea sydd ar ein rhestr ni'n hunain (gweler Gwledydd y byd. Korea fyddai fy newis innau hefyd - er nad ydy hynny'n berthnasol, gan mai galw am dderbyn un Safon, termau un corff proffesiynol ydw i, ac nid dadlau dros fy marn (amhroffesiynol) i. Ond mae na egwyddor arall pwysig yma. Os oes gennym gytundeb i fabwysiadu enwau gwledydd fel y'i ceir yn yr Atlas Cymraeg (gan hefyd geisio cymryd i ystyriaeth yn ogystal argymhellion Bwrdd yr Iaith Gymraeg) yna dylid glynnu at hynny. Hy os oes gennym gytundeb, dylem lynnu ato; ac yn sicr ni ddylid ceisio'i newid heb drafodaeth synhwyrol. Llywelyn2000 00:09, 14 Awst 2009 (UTC)
- Ateb a chynnig
- Mae angen diweddaru'r datganiad ar ddechrau Gwledydd y byd i adlewyrchu realiti a pholisi ymarferol y Wicipedia Cymraeg: mae'r Wici wedi newid ers iddo gael ei (ail-)sefydlu yn 2003. Rydym ni ar fai am beidio gwneud hynny cyn rwan, mae'n debyg, ond dyna fo - does fawr neb yn edrych ar y dudalen honno, mae'n amlwg. Rydym ar fai hefyd am beidio cael polisi swyddogol newydd, ond mae'r polisi de facto yn un a ddatblygodd dros y blynyddoedd (nid gennyf fi yn unig, Llywelyn, ond gan bawb, fesul dipyn) ac sydd wedi cael ei dderbyn gan bawb hyd yn hyn.
- Parthed y ffurfiau ar enwau gwledydd a geir yn yr Atlas a'r datganiad gan Llywelyn uchod, ynghyd â'r datganiad cynharach ("Llais i arbenigwyr ydy Wicipedia, gadewch i'r llais hwnnw fod yn un safonol, cyson." Gyda llaw, nid "llais i arbenigwyr" yw Wicipedia, waeth pa argraffiad iaith.), hoffwn dynnu sylw at yr agendor rhyngom ni, y Wicipedia Cymraeg, a'r enwau "awdurdodol" yn yr Atlas. Dyma restr o'r 37 o enghreifftiau lle ceir gwahaniaeth, gan nodi ffurf yr Atlas yn gyntaf (italigs) a'r Wici (W:) wedyn:
- Ynys Aruba (W: Aruba); Bahamas (W: Y Bahamas); Belarus (W: Belarws); Ynys Bermuda (W: Bermuda); Bolivia (W: Bolifia); Bosna-Hercegovina (Bosnia a Hercegovina); Burkina (Burkina Faso); Burundi (Bwrwndi); Cameroun/Cameroon (W: Camerŵn); Congo (W: Gweriniaeth y Congo); China (W: Tsieina: Gweriniaeth Pobl Tsieina; Gweriniaeth Tsieina); De Korea (W: De Corea - symudwyd heb gytundeb i ffurf yr Atlas); Gogledd Korea (W: Gogledd Corea - symudwyd heb gytundeb i ffurf yr Atlas); Groeg (W: Gwlad Groeg); Guyane Ffrengig (W: Guyane); Ynys Guadeloupe (W: Guadeloupe; Gweriniaeth De Affrica (W: De Affrica); Iraq (W: Irac); Latvia (W: Latfia); Lithuania (Lithwania); Luxembourg (W: Lwcsembwrg); Macedonia (W: Gweriniaeth Macedonia); Malaŵi (W: Malawi); México (W: Mexico); Moçambique (W: Mosambic: Moldova (W: Moldofa); Panamá (W: Panama); România (W: Romania); St Kitts-Nevis (W: Saint Kitts a Nevis); St Lucia (W: Saint Lucia); St Vincent a'r Grenadines (W: Saint Vincent a'r Grenadines); Slovenija (W: Slofenia); Ynysoedd Tokelau (W: Tokelau); Tufalu (W: Twfalw); Viet Nam (W: Fiet Nam); Ukrain (sic!) (W: Wcráin).
- Mae Llywelyn yn dadlau fod rhaid i ni "dderbyn un Safon, termau un corff proffesiynol". Ond gobeithio fod y rhestr uchod gyda ffurfiau Saesneg fel Iraq ac eraill na ellir ond eu disgrifio fel dewisiadau bizarre, e.e. Ukrain a Malaŵi (rhywle i falu wyau?!) yn dangos nad yw hynny'n ymarferol. Dwi'n cynnig y dylem ni ddiwygio pob datganiad a chanllaw perthnasol, rhoi rhestr gyflawn o ffurfiau Wicipedia (YR UNIG UN GYFLAWN YN GYMRAEG) ar y dudalen Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg a diwygio'r rhestr Gwledydd y byd (dim byd dadleuol fanna - esgeulustod sy'n gyfrifol am y ffaith ei bod wedi aros heb newid). Cynigiaf ein bod yn dweud fod yr enwau gwledydd ar Wicipedia yn seiliedig ar y tair ffyhonnell, gan gymryd i ystyriaeth y gwahaniaethau rhyngddynt. Mae hynny'n ddigon. Gellir trafod achosion unigol ar y tudalennau perthnasol. Anatiomaros 18:52, 14 Awst 2009 (UTC)
Anghytuno Mae i heddwas, athro, mam a thad, swyddog neu weinyddwr swyddfa, neu blentyn 6ed dosbarth weld y geiriau: "Mabwysiadwyd ffurfiau safonol Bwrdd yr Iaith yn Awst 2009 (gyda rhai eithriadau)", neu "Mabwysiadwyd ffurfiau safonol yr Atlas Cymraeg (Dafydd Orwig) yn Awst 2009 (gyda rhai eithriadau)" yn llawer cryfach, gwell a mwy credadwy na, "Mabwysiadwyd ffurfiau ansafonol, mympwyol gan bersonau dienw Wicipedia, dros gyfnod o amser." Llywelyn2000 20:17, 14 Awst 2009 (UTC)
Llythyr gan Fwrdd yr Iaith ar y Datblygiadau Derbyniais yr ebost canlynol heddiw'r bore:
- Annwyl Llywelyn2000
- Diolch ichi am dynnu ein sylw at eich trafodaeth ynghylch enwau lleoedd tramor. Rydym yn falch bod canllawiau'r Bwrdd yn cael eu hystyried yn hyn o beth. Ar hyn o bryd rydym ar ddeall bod ACCAC yn y broses o gyhoeddi Atlas Cymraeg newydd a bydd Tîm Safoni Enwau Lleoedd y Bwrdd yn edrych o'r newydd ar ei ganllawiau ar sail meini prawf yr Atlas o safbwynt enwau lleoedd tramor. Diolch am dynnu ein sylw at yr anghysonderau y gwelwch yn y canllawiau, byddwn yn eu hystyried hwythau wrth adolygu'r rhestr.
- Nid peth hawdd yw pennu dull safonol o enwi enwau lleoedd tramor gan ei fod yn ddibynnol dros ben ar arfer a chwaeth y sawl sydd wrth y gwaith. Mae'r Tîm Safoni Enwau Lleoedd yn cynnwys academyddion, arbenigwyr enwau lleoedd, cyfieithwyr a geiriadurwyr sydd â gwybodaeth helaeth a thrylwyr ynghylch yr iaith Gymraeg. Fel ym mhob achos o ran orgraff y Gymraeg ni fyddem yn dymuno i fympwy unigolion fynd yn groes i gyngor gwrthrychol a ddarparwyd yn dilyn trafodaeth ac ystyriaeth drylwyr. Pe baech chi'n dewis arddel ffurfiau sy'n groes i gyngor y Bwrdd, buasem yn gwerthfawrogi pe bai modd i chi ddarparu rhestr i ni o'r enwau hynny. Bydd hyn yn caniatáu i ni rhoi sylw penodol i'r enwau hynny wrth adolygu'r rhestr maes o law.
- Yn gywir
- Lowri W. Williams
- Arweinydd Uned Safoni Termau a Chyfieithu /
- Leader Terminology Standardisation and Translation Unit
- Bwrdd yr Iaith Gymraeg / Welsh Language Board
Unrhyw sylwadau? Llywelyn2000 02:47, 15 Awst 2009 (UTC)
- Mae angen i ni gymeryd cam yn ôl ar y pwnc yma rwy'n meddwl. Mae yna deimladau cryf, ac os na fyddwn yn ofalus fe aiff yn ffrae ac fe allem golli un neu fwy o gyfrannwyr. Allwn ni ddim fforddio hynny. Fe fuaswn i'n awgrymu, fel cam gyntaf, creu pwll tywod gyda fersiwn o Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg sydd a cholofn yn dangos y ffurf sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar Wicipedia, wedyn gallwn weld faint yn union o'r ffurfiau sydd gennym ar y wici ar hyn o bryd sy'n ddadleuol a faint sydd ddim. Rhion 07:02, 15 Awst 2009 (UTC)
- Cytuno yn llwyr efo Rhion! Rhys Thomas 08:01, 15 Awst 2009 (UTC)
- Diolch Rhys. Rwyf wedi dechrau arni, ar fy nhudalen defnyddiwr yn hytrach na phwll tywod. Fe welwn beth yw'r patrwm cyn bo hir. Rhion 13:14, 15 Awst 2009 (UTC)
- Cytuno yn llwyr efo Rhion! Rhys Thomas 08:01, 15 Awst 2009 (UTC)
- Mae angen i ni gymeryd cam yn ôl ar y pwnc yma rwy'n meddwl. Mae yna deimladau cryf, ac os na fyddwn yn ofalus fe aiff yn ffrae ac fe allem golli un neu fwy o gyfrannwyr. Allwn ni ddim fforddio hynny. Fe fuaswn i'n awgrymu, fel cam gyntaf, creu pwll tywod gyda fersiwn o Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg sydd a cholofn yn dangos y ffurf sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar Wicipedia, wedyn gallwn weld faint yn union o'r ffurfiau sydd gennym ar y wici ar hyn o bryd sy'n ddadleuol a faint sydd ddim. Rhion 07:02, 15 Awst 2009 (UTC)
Angen gwirfoddolwyr i gyfieithu gêm fideo
golyguTranslation appeal on video game Dydy hwn ddim yn ymwneud â'r wici ond meddwl falle fase gan rhai o fan hyn ddiddordeb mewn rhoi cymorth yn y brosiect hon. Mi fasai'n gosod rhagesiampl da ar gyfer y dyfodol dwi'n credu, a gobeithio os bydd yn llwyddianus, bydd eraill yn gweld y gwerth o gyfieithu eu gemau i'r Gymraeg hefyd. Thaf 13:05, 12 Awst 2009 (UTC)
- Fe wna i helpu allan (efo defnydd cysgeir a cysill!!!)- ond sut yr ydym fod cysylltu efo nhw? Does dim cyswllt o wefan y bbc. Rhys Thomas 19:08, 14 Awst 2009 (UTC)
- Roedd yr ebost hwn ar eu gwefan - info@arberthstudios.com Thaf 08:46, 17 Awst 2009 (UTC)
Delwyddau rhydd o Gymru (rhwng 1890 a 1900)
golyguMae'r Library of Congress (UDA) wedi uwchlwytho 167 delwedd o Gymru. Dim cyfyngiadau hawlfraint o beth wela i (Fair use).--Ben Bore 20:29, 27 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Diolch Ben. Ddylai fod dim problem gyda hawlfraint yr ochr yma i'r Pwll chwaith. Dyma'r casgliad llawn ar flickr. (A be ydy'r diweddaraf am y delweddau o gasgliadau'r Gen erbyn hyn, tybed?) Anatiomaros 21:58, 27 Gorffennaf 2009 (UTC)
Geraint Jenkins
golyguNewydd glywed am farwolaeth John Geraint Jenkins cyn Guriadur yr Amgueddfa Werin. Nid oes unrhyw dudalen ar Geraint Jenkins yn y Wicipedia hyd yn hyn. Mae o leiaf dri Geraint Jenkins (mwy na thebyg mwy)yn haeddu dalen yma Yr uchod, Yr Athro Geraint H Jenkins, athro yng Ngholeg Aberystwyth. Hefyd Geraint Jenkins oedd yn adran y gyfraith Aberystwyth ac awdur Tan yn Llyn.
Tybed all rhywun mwy abl na fi greu tudalen gwahaniaeth i'r tri hyn Diolch 212.219.142.119 22:37, 16 Awst 2009 (UTC)
- Rwyf wedi dechrau ar erthygl John Geraint Jenkins. Nodyn: ni ddylid ei roi yn y "Marwolaethau" nes i hyn gael ei gadarnhau yn y cyfryngau. Alla i ddim gweld dim ar hyn o bryd. Rhion 06:25, 17 Awst 2009 (UTC)
- Dafydd Jenkins yw awdur Tân yn Llŷn, nid Geraint Jenkins. Rhion 07:49, 17 Awst 2009 (UTC)
- Roedd ar newyddion S4C Nos Sul. Ond rwyt ti'n iawn Pwyll bia hi. Debyg nad yw wefan Gymraeg y BBC yn cael ei diwygio dros y penwythnos
- Ti'n iawn hefyd mai Dafydd Jenkins yw awdur Tan yn Llyn. Awdur Cyfraith Hywel yw Geraint Jenkins rwyn meddwl os nad ydw i wedi drysu eto!!212.219.142.119 16:01, 17 Awst 2009 (UTC)
- Mae'r BBC wedi cyhoeddi erthygl ar ei farwolaeth: [1]. --Adam (Sgwrs) 22:27, 17 Awst 2009 (UTC)
Cymeriadau Japaneg
golyguShwmae pawb! Dwi'n newydd i Wicipedia (ymunais ddoe) a dwi eisiau gwybod sut i deipio cymeriadau Japaneg mewn i erthygl. Diolch.
Beth am gopio a phastio o'r erthygl gyfatebol Japani (neu'r Saesneg)? Llywelyn2000 19:50, 17 Awst 2009 (UTC)
Neges Wici
golyguMae'r nesges ganlynol ar dop y sgrin: Mae cyfnod cofrestri ar gyfer Wikimania 2009 wedi dechrau. Wneith rhywun f'atgoffa i sut mae ei chywiro? (U sydd ar ddiwedd cofrestru). Llywelyn2000 17:45, 20 Awst 2009 (UTC)
Rhestr o erthyglau Cymraeg Sydd ar Goll
golyguMae'r erthyglau Cymraeg sydd ar goll yn anghywir, gan ei bod yn cynnwys enw sawl erthygl sydd ar gael, bellach. Cafodd ei ddiweddaru ddoe, ond eto mae'n dal i gynnwys dynes (woman) a Niwmonia er bod y rhai wedi cael eu creu ers tipyn, bellach. Unrhyw syniad pam? Llywelyn2000 18:36, 23 Awst 2009 (UTC)
- Dim yn siwr, ond mae 'na bethau eraill yno sy'n anghywir hefyd, e.e. Cynhesu byd-eang a Delhi. Oes rhestrau rhyngwici i'r erthyglau Cymraeg ac os oes 'na ydyn nhw'n gywir? Mae'n debyg fod y bot sy'n hel y wybodaeth yn dibynnu ar hynny yn unig - oni bai fod ei raglen yn cynnwys rhyw 200 o ieithoedd! Anatiomaros 23:01, 24 Awst 2009 (UTC)
- Mae'n anodd gen i gredu nad oes gan y wici Almaeneg erthyglau ar "en:Endangered species, en:Reproductive system, en:Respiratory system a en:Drum" hefyd! Rhestr i'w derbyn gyda phinsiad da o halen. Anatiomaros 23:07, 24 Awst 2009 (UTC)
- Rwy'n credu fod y bot yn chwilio am gysylltiad interwici o en. Does dim cysylltiad i'r erthygl Gymraeg o en:Delhi er enghraifft, na chysylltiad i erthygl Almaeneg o en:Drum, er bod yna dudalen wahaniaethu de:Trommel ar de. Fe allai rhywun sy'n dal i olygu'r Anglopedia eu hychwanegu i weld beth sy'n digwydd. Rhion 06:09, 25 Awst 2009 (UTC)
- Rwyt ti'n iawn. ond mae cysylltiad cy o 'woman' a 'Niwmonia'. Efallai y gwna i holi daliwr / perchennog y bot heno. Llywelyn2000 10:16, 25 Awst 2009 (UTC)
Sorry for not speaking Welsh. In this article about a town in Spain, its repeatedly spelled "Gexto" instead of "Getxo". I corrected the Basque/Basgeg spelling last month or so, but just today I have realized its like that in every mention of the article. Now, I was about to change them all to Getxo, but exercising a bit of caution, I prefer to ask, since maybe instead of a mistake it's just the way you have to say it in your language. So, is it "Gexto" a correct spelling in Welsh, or just a mistake? --Baranda 12:02, 26 Awst 2009 (UTC)
- You'll have to wait for a fluent speaker to confirm this, but I think most likely it is a mistake. Paul-L 12:35, 26 Awst 2009 (UTC)
- Hi, yes, it was a mistake (by me). Thanks for noticing. Rhion 12:37, 26 Awst 2009 (UTC)
- You're welcome, and I'm happy to be of help even when I don't understand the language :-) Baranda 12:47, 26 Awst 2009 (UTC) (I've corrected two more words that you missed. I think now it's alright.)
- Hi, yes, it was a mistake (by me). Thanks for noticing. Rhion 12:37, 26 Awst 2009 (UTC)
"x" is said like "sh" in English, and "t" is just "t". So most pages about Basque say that the combination "tx" sounds like "ch" in English. I guess this probably works, but it does point out here:
http://en.wikipedia.org/wiki/Affricate_consonant#Affricates_vs._stop-fricative_sequences
that "cat shit" and "catch it" don't sound quite the same. So if there was a word "katxit" in Basque, which of the two would it sound like?
Mae'n debyg mai amherthasol dros ben ydy hyn, ond mae'n werth meddwl am "cat shit" os sillafiad cywirach o enwau Basgeg fydd y canlyniad. Y ffordd orau i fod yn gwbl sicr ydy meddwl am cat shit pob dydd cyn brecwast.
Kim Jong ills
golyguShwmae pîps! Sut ydw i'n ddweud 'Korean' yn Gymraeg. Mae 'Coreaeg' yn swnio'n eithaf twp i fy nghlustiau. Diolch :) Stifyn
- Corëeg (mae 'na ffurfiau eraill hefyd, fel 'Coreaeg', yn cael eu defnyddio weithiau ond Corëeg yw'r ffurf safonol). Hwyl, Anatiomaros 12:49, 9 Medi 2009 (UTC)
Homo Insapiens
golyguShwmae pîps! Sut ydw i'n ddweud 'humanoid' yn Gymraeg? 'Tebyg i ddyn', 'Tebyg i fod dynol' ??? Llawer rhy hir er mwyn dal fy sylw! Diolch :) Stifyn 23:39, 9 Medi 2009 (UTC)
dynaidd??
Press release (25,000 erthygl)
golyguHeya dudes, sorry for the english post, but for a welshman my welsh is somewhat lacking. Wikimedia UK would really like to help you guys with the press release, particularly as we have an extensive press contact list. If there is a press release you guys have written (and if possible an english version), we would love to help spread the word. Many Thanks
Joseph Seddon, Wikimedia UK Seddon 16:11, 14 Medi 2009 (UTC)
- Just spotted this. Thank you for your offer of help. We haven't got a press release yet but hopefully we'll have one ready before long. Any other ideas for publicity? Btw, we have a discussion page for the approaching 25,000 at Wicipedia:Y Caffi/25,000 erthygl. Diolch! Anatiomaros 23:25, 14 Medi 2009 (UTC)
Cystadleuaeth Pennawd
golyguShwmae pîps! Pwy sydd eisiau chwarae'r gêm pennawdau gyda'i? Yn gyntaf, mae rhaid i chi ymweld a'r 'Wikimedia Commons' [[2]], wedyn teipiwch enw unrhyw anifail mewn i'r chwilblwch (os nid yw hynny'n gair, mae yn nawr). Wedi hynny, dewisiwch llun ac ysgrifennwch pennawd difyr iddi, wedyn postiwch y llun ar eich tudalen Defnyddiwr. Dwi barod 'di gwneud cwpwl. Diolch :) Stifyn 09:42, 16 Medi 2009 (UTC)
- Chwilflwch, efallai? --Adam (Sgwrs) 22:54, 16 Medi 2009 (UTC)
Gwyliau
golyguRhag ofn i rywun feddwl fy mod wedi diflanni'n barhaol, mi fyddaf i ffwrdd yn Seland Newydd hyd ganol Hydref. Rwy'n gobeithio gweld fod y wici wedi cyrraedd 25,000 erbyn i mi ddod adref! Rhion 07:21, 17 Medi 2009 (UTC)
What this means for you
golyguLocal messages have an impact on the performance of our system. It is best when messages are as much as possible part of the system messages. In order to remove unnecessary duplication, all the messages that have a local localisation and are exactly the same as the system message will be removed. What we ask you to do is to compare and proof read the messages in translatewiki.net and the local messages. You can then either remove local messages when the translatewiki.net message is to be preferred or, you can update the message at translatewiki.net.
Messages that are specific to your project will have to stay as they are. You do want to check if the format and the variables of the message are still the same.
Why localise at translatewiki.net
golyguWhen you localise at translatewiki.net, your messages will be used in all Wikimedia projects and eventually in all MediaWiki based projects. This is how we provide the standard support for your language. When messages change, at translatewiki.net you will be prompted to revisit your translations. Localising is more efficient because we have innovated the process to make you more efficient; there is text explaining about messages and we have applied AJAX technology to reduce the number of clicks you have to make.
Translatewiki.net update
golygu- Currently 98.54% of the MediaWiki messages and 27.40% of the messages of the extensions used by the Wikimedia Foundation projects have been localised. Please help us help your language by localising and proof reading at translatewiki.net. This is the recent localisation activity for your language. Thanks, GerardM 18:05, 28 Medi 2009 (UTC)
- Currently 97.80% of the MediaWiki messages and 24.79% of the messages of the extensions used by the Wikimedia Foundation projects have been localised. Please help us help your language by localising and proof reading at translatewiki.net. This is the recent localisation activity for your language. Thanks, GerardM 10:34, 1 Tachwedd 2009 (UTC)
- Currently 98.22% of the MediaWiki messages and 30.88% of the messages of the extensions used by the Wikimedia Foundation projects have been localised. Please help us help your language by localising and proof reading at translatewiki.net. This is the recent localisation activity for your language. Thanks, GerardM 16:31, 30 Tachwedd 2009 (UTC)
How can we improve the usability for your language
golyguWe expect that with the implementation of LocalisationUpdate the usability of MediaWiki for your language will improve. We are now ready to look at other aspects of usability for your language as well. There are two questions we would like you to answer: Are there issues with the new functionality of the Usability Initiative Does MediaWiki support your language properly
The best way to answer the first question is to visit the translatewiki.net. Change the language to your language, select the “vector” skin and add the advanced tool bar in in the preferences and check out the new functionality. And make some changes in your user page. When there is a need to improve on the localisation, please make the necessary changess . It should update your localisation straight away. We would like you to report each issue individually at http://meta.wikimedia.org/wiki/Usability_issues.
When there are problems with the support of MediaWiki for your language, we really want to know about this. It is best to report each issue separately. In this way there will be no large mass of issues to resolve but we can address each issue on its own. Consider issues with the display of characters, the presentation of your script, the position of the side bar, the combination of text with other languages, scripts. It is best to try this in an environment like the prototype wiki as it provides you with a clean, basic and up to date environment. The prototype wiki is available for five languages but you can select any of them, change the preferences to your language and test out MediaWiki for your language.
We would like you to report each issue individually at http://meta.wikimedia.org/wiki/Language issues. The issues you raise will all be assessed. It is important to keep each issue separate, because this will make it easier to understand the issues and find solutions.
PS This text has been approved by Naoko, Brion and Siebrand. Thanks, GerardM 18:05, 28 Medi 2009 (UTC)
Llef o'r Anialdir
golyguBle mae pawb y dyddiau hyn? Mae'n teimlo'n unig iawn yma yn ddiweddar gyda neb ond fandaliaid yn gwmni ambell sesiwn! Mae Rhion ar ei wyliau o hyd, ac mae gan Rhys a Rhodri waith coleg ar eu dwylo ac mae Llywelyn yn brysur, ond 'rargian, basa'n braf cael tipyn bach mwy o gwmni yma. Cofiwch mi fyddaf i ffwrdd ar ddiwedd y mis hefyd, tan ganol Rhagfyr. Dwi'n dechrau pryderu am y sefyllfa, ar ôl yr holl waith caled sydd wedi mynd i mewn i'r Wicipedia. 'Dan ni angen hwb o rywle. Anatiomaros 17:27, 15 Hydref 2009 (UTC)
- Hi Anatiomaros. Dwi'n flin am fy abnsenoldeb yn ystod y misoedd diwethaf. Dwi di bod yn gweithio shifftiau nos yn ddiweddar a hynny 'da phroblemau personol eraill dwi heb gael y cyfle i gyfrannu. Dwi'n gobeithio bydd pethau'n tawelu nawr flwyddyn nesa a galla i ddod nôl. Hwyl am y tro. ;) Glanhawr 00:26, 16 Hydref 2009 (UTC)
- Rwyf wedi cyrraedd adref o'r gwyliau, ond yn dal yn teimlo effeithiau jet-lag ar hyn o bryd. Mi ddylwn fod mewn cyflwr i ail-ddechrau cyfrannu mewn diwrnod neu ddau. Rhion 07:36, 16 Hydref 2009 (UTC)
- Croeso nôl i Wlad y Gân, Rhion. A diolch am yr esboniad, Glanhawr - dwi'n deall dy sefyllfa ac yn cydymdeimlo. Doeddwn i ddim yn beio neb, wrth gwrs, jest lleisio fy rhwystredigaeth! Anatiomaros 15:51, 16 Hydref 2009 (UTC)
- Diolch Anatiomaros. Bydda i nol cyn bo hir gobeithio. :) Glanhawr 19:32, 19 Hydref 2009 (UTC)
25,000: Llongyfarchiadau i bawb (a hwyl tan ganol mis Rhagfyr)!
golyguFel y gwyddoch, byddaf i ffwrdd ym Moroco o fory hyd 17 Rhagfyr. Ac rydym wedi cyrraedd yr 25,000 heddiw, o'r diwedd! Dwi'n cofio nad oedd gennym ni ond tua 3,500 o erthyglau (pitw, gan mwyaf!) pan ddechreuais yma. Cynnydd anhygoel. Gwych gweld yr holl gyfraniadau yn ddiweddar : medraf fynd i ffwrdd yn dawel fy meddwl gan wybod fod y Wicipedia mewn dwylo diogel, ymroddgar. Efallai caf gyfle i gyfrannu rhyw bwt o erthygl bob hyn a hyn, yn enwedig gan fod y gaeaf yn dod a byddai'n braf cael eistedd mewn caffi rhyngrwyd cynnes am awr neu ddwy, ond fel arall dwi ddim yn disgwyl cyfrannu yn aml dros y saith wythnos nesaf. Byddwch wych! Anatiomaros 21:03, 28 Hydref 2009 (UTC)
- Ia wir. Mwynha'r gwyliau. Llywelyn2000 23:56, 28 Hydref 2009 (UTC)
- Llongyfarchiadau i bob gweithwr yn y wicipedia cymraeg. Mae'r wicipedia llydaweg wedi cyrraedd 30,000 disul diwetha. Bianchi-Bihan 16:03, 29 Hydref 2009 (UTC)
mwynhewch yr haul a chofiwch ni yn y glaw Defnyddiwr:More data added
Optative mood
golyguHi pawb. Dwi eisiau creu erthygl ar foddau gramadegol gwahanol ond s'dim syniad 'da fi beth ydy'r enw Cymraeg am "optative mood". Wi'n gywbod taw'r conditional yw'r amodol, y subjunctive yw'r dibynnol ond alla'i ddim dod o hyd i'r gair am "optative" mewn unrhwy eiriadur. Oes syniad da rhywun? Glanhawr 15:08, 31 Hydref 2009 (UTC)
- "Dymunol" fuaswn i'n feddwl, ond alla i ddim ei weld mewn geiriadur chwaith Rhion 15:23, 31 Hydref 2009 (UTC)
- Diolch Rhion. Dwi'n credu fydd "Modd dymunol" yn iawn. Glanhawr 19:01, 8 Tachwedd 2009 (UTC)
Cyfieithu negeseuon ymgyrch codi arian 2009
golyguCyfarchion. Mae Arwel Parry a finnau wedi bod wrthi'n drafftio fersiynau Cymraeg o'r negeseuon i'r ymgyrch codi arian 2009, ar Wikimedia. Alle rhywun fynd draw yno i gywiro'r drafft, neu i gynnig gwelliannau ar y sloganau ag ati? Wedi gosod unrhyw gywiriadau bydd angen newid statws y cyfieithiad o 'proofreading' i 'done'. Rhaid i'r gwaith hwn gael ei orffen erbyn diwedd yfory, mae'n debyg, i osgoi cael negeseuon Saesneg yn ymddangos ar ben pob tudalen. Lloffiwr 15:32, 31 Hydref 2009 (UTC)
Mae'r negeseuon yn rhy neis o bell ffordd. Os mae rhaid i ni oddef y plant lleol fydd yn galw wrth ein tai heno i gael fferins drwy fath o blacmel, dwi'm yn deall pam lai i'r wikimedia foundation ddefnyddio bygythiadau i godi arian :)
- Mae'n debyg bod hyd at yr 9fed o Dachwedd gennym i gwblhau'r 'proofreading' o'r cyfieithiad o'r negeseuon ymgyrch codi arian 2009. Byddant yn dechrau cael eu cyhoeddi ar y 10fed mae'n debyg. Lloffiwr 20:55, 5 Tachwedd 2009 (UTC)
- Diolch i Arwel Parry am wneud y proofreading a newid statws y cyfieithiad. Yr ymgyrch wedi dechrau erbyn hyn. Lloffiwr 08:52, 11 Tachwedd 2009 (UTC)