Windham Wyndham-Quin, 5ed Iarll Dunraven a Mount-Earl

milwr a gwleidydd

Roedd y Cyrnol Windham Henry Wyndham-Quin, 5ed Iarll Dunraven a Mount-Earl, CB , DSO (7 Chwefror 1857 - 23 Hydref 1952) yn Swyddog ym myddin Prydain yn Aelod Seneddol Ceidwadol ar gyfer De Morgannwg, 1895-1906 ac yn aelod o’r bendefigaeth Wyddelig.[1]

Windham Wyndham-Quin, 5ed Iarll Dunraven a Mount-Earl
Ganwyd7 Chwefror 1857 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw23 Hydref 1952 Edit this on Wikidata
Swydd Limerick Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmilwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, ynad heddwch, ynad heddwch, Uchel Sirif Edit this on Wikidata
TadWindham Henry Wyndham-Quin Edit this on Wikidata
MamCaroline Tyler Edit this on Wikidata
PriodEva Bourke Edit this on Wikidata
PlantRichard Wyndham-Quin, Valentine Wyndham-Quin, Olein Wyndham-Quin, Kathleen Wyndham-Quin Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Gwasanaeth Nodedig, Cydymaith Urdd y Baddon Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Wyndham-Quin yn Llundain, yn ail fab i Windham Henry Wyndham-Quin, ail Iarll Dunraven a Mount-Earl, a Caroline, merch y Llyngesydd Syr George Tyler o Barc Cotrel, Bro Morgannwg.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a'r Coleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst.

Priododd y Fonesig Eva Constance Aline Bourke, merch Richard Southwell Bourke, 6ed Iarll Mayo. Bu iddynt dau fab ac un ferch.[2]

Gyrfa filwrol golygu

Ymunodd â'r 16eg Lancers yn 1878 a bu'n gwasanaethu yn Rhyfel Cyntaf y Boer ym 1881. Daeth yn gapten ym 1886 gan wasanaethu yn India ym 1889. Bu'n adjutant gyda'r Royal Gloucester Hussars rhwng 1890 ac 1894 a chafodd ei ddyrchafu'n uwchgapten yn y 16th Lancers ym 1893. Gwasanaethodd yn Ne Affrica eto yn Ail Ryfel y Boer. Fe'i penodwyd yn gapten yn yr Iwmyn Imperialaidd ar 14 Chwefror 1900.[3] Cododd a gorchmynnodd 4ydd Cwmni (Morgannwg) yr Iwmyn Imperialaidd a adawodd Lerpwl ar yr SS Cymric ym mis Mawrth. Yn Ail Ryfel y Bore bu son amdano mewn cadlythyrau ac enillodd Fedal y Frenhines gyda thri chlesbyn a medal yr Urdd Gwasanaeth Nodedig (DSO). Fe'i hurddwyd yn Gydymaith Urdd y Baddon ym 1903.

Ar ôl dychwelyd o Dde Affrica, cododd a gorchmynnodd Iwmyn Imperialaidd Morgannwg fel catrawd lawn a olynodd y 4ydd Cwmni. Fe'i penodwyd yn Gyrnol anrhydeddus y gatrawd ar 19 Hyd 1901.

Gyrfa Wleidyddol golygu

Yn etholiad cyffredinol 1895 fe'i hetholwyd yn Aelod Seneddol dros De Morgannwg, gan ennill sedd i'r Blaid Geidwadol.[4] Fe'i ail etholwyd ym 1900, ond collodd y sedd i'r Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol 1906.[5]

Fe wasanaethodd fel Uchel Siryf Swydd Kilkenny ym 1914.

Fe'i dyrchafwyd i'r Iarllaeth ar farwolaeth ei gefnder Windham Wyndham-Quin, 4ydd Iarll Dunraven a Mount-Earl, a fu farw ym 1926 heb olynydd gwrywaidd. Gan fod Iarll Dunraven a Mount-Earl yn deitl yn y bendefigaeth Wyddelig yn hytrach na phendefigaeth Prydain Fawr, nid oedd yn eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Marwolaeth golygu

 
Maen coffa

Bu farw yn Adare Manor, Swydd Limerick a rhoddwyd ei weddillion i orffwys yn Eglwys St. Nicholas, Adare, Swydd Limerick.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, J. G., (1997). WYNDHAM-QUIN, WINDHAM HENRY, 5ed IARLL DUNRAVEN a MOUNT-EARL (1857 - 1952), milwr a gwleidydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 14 Ion 2019, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-WYND-HEN-1857
  2. (2007, December 01). Dunraven and Mount-Earl, 5th Earl of, (Col Windham Henry Wyndham-Quin) (7 Feb. 1857–23 Oct. 1952). WHO'S WHO & WHO WAS WHO. Ed. Retrieved 13 Jan. 2019, from http://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-236804.
  3. "MajorWyndhamQuin - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-05-04. Cyrchwyd 2019-01-14.
  4. "GLAMORGAN SOUTH 14227 - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1895-07-20. Cyrchwyd 2019-01-14.
  5. "Barry in Line with Wales II - Barry Herald". Barry Herald Company. 1906-01-26. Cyrchwyd 2019-01-14.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Arthur John Williams
Aelod Seneddol De Morgannwg
18951906
Olynydd:
William Brace
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
Windham Wyndham-Quin
Iarll Dunraven a Mount-Earl
18761876
Olynydd:
Richard Wyndham-Quin