Esgyryn

pentref ym mwrdeistref sirol Conwy

Pentref bychan yng nghymuned Conwy, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Esgyryn[1][2] (amrywiad: Esgyrn). Fe'i lleolir yn ardal y Creuddyn ar gyrion gogleddol Cyffordd Llandudno.

Esgyryn
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2936°N 3.7908°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH807789 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
Map

Bu cymuned fechan yn Esgyryn ers canrifoedd. I'r gogledd-orllewin ceir allt goediog a'r tir yn perthyn i ystad Bodysgallen. I'r gogledd-ddwyrain o'r pentref ceir pentref bychan Pydew (Bryn Pydew).

Nodwedd amlycaf Esgyryn heddiw yw'r obelisg trawiadol a godwyd gan unigolyn.

Yr olygfa o'r Obelisg yn cynnwys Llansanffraid, Afon Conwy, Cyffordd Llandudno i gyfeiriad y mynyddoedd a Phenmaenmawr
Yr olygfa o'r Obelisg yn cynnwys Llansanffraid, Afon Conwy, Cyffordd Llandudno i gyfeiriad y mynyddoedd a Phenmaenmawr

Yr Obelisg ar Allt Ffrith

golygu

Cyfeirnod Map -SH80507 78924 N 53° 17.622 W 003° 47.654

 
Yr Obelisg ar Allt Ffrith, Bryn Esgyryn
 
Yr Obelisg- llun a dynnwyd ar yr A470

Mae'r obelisg i'w weld wrth deithio oddi ar yr A55 o'r Gath Ddu i gyfeiriad Llandudno (ar yr A470); saif ar Allt Ffrith, Bryn Esgyryn, ger Cyffordd Llandudno. Fe'i codwyd yn 1993 gan Richard Broyd, perchennog Bodysgallen ar y pryd, er gwaethaf llawer o wrthwynebiad lleol ac yn groes i ddeddfau cynllunio. Mae'n 64 troedfedd o uchder ac ar ffurf tebyg i Nodwydd Cleopatra. Dynodwyd y tir o gwmpas yr obelisg yn fan o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac mae'n rhyfeddol bod cymaint o wahanol flodau gwyllt a phlanhigion yn ffynnu yno er gwaethaf yr holl wningod sydd o gwmpas.

Blodau a phlanhigion

golygu

Misoedd Mai a Mehefin yw'r adeg gorau i weld y carpedi lliwgar o flodau.

Briallu Mair

golygu
 
Briallu Mair ar lethr Allt Ffrith yn edrych i gyfeiriad Llandudno a Phen y Gogarth

Yn ystod mis Mai mae yna fôr o Friallu Mair ar y llethrau. Tynnwyd y llun ar Fai 13, 2015,yn wynebu i gyfeiriad Llandudno ac fe welir Pen y Gogarth yn y cefndir.

Planhigyn bach lluosflwydd gyda blodau persawrus melyn yw Briallen Fair Sawrus (Saesneg: Cowslip). Mae'n perthyn i deulu'r friallen a elwir yn Lladin yn Primula veris. Enwau eraill: Allweddau Pedr, Briallu Mair Sawrus, Briallu Dwbl, Dagrau Mair, Llysiau'r Parlys, Teth y Fuwch, Sawdl y Fuwch, Troed y Fuwch, Tafod yr Ych, Sgemran yr Ych, Symylen, Shwmbwls, Tewbanog Fechan. Rhinweddau meddygol: Dywedir bod rhoi poltis ohono ar yr arlais yn beth da at ddiffyg cwsg.

Seren y Gwanwyn

golygu
 
Carped o Seren y Gwanwyn yn wynebu Afon Conwy

Golygfa a dynnwyd o'r Obelisg gan edrych dros Cyffordd Llandudno a Llansanffraid (Glan Conwy) gydag Afon Conwy yn llifo i gyfeiriad y môr. Pen Llithrig y Wrach yw'r pig sydd yn y cefndir. Mae'n blanhigyn sy'n gynhenid i Orllewin Ewrop gyda blodau bychain o siap seren. Fel arfer mae ei faint yn amrywio o bump i bymtheg centimedr gyda dwy o'r saith deilen yn codi o waelod y planhigyn. Does dim arogl ar y blodyn sydd â chwech o sepalau o liw fioled-glas. Gwelir ran amlaf yn agos i'r môr ble mae yna wair byr sych yn tyfu. Dyma’r enwau Cymraeg: Seren y gwanwyneb, Seren y Gwanwyn, Serennyn, Serennyn y Gwanwyn a Wynwyn y Môr. Yr enw Saesneg yw ‘spring squill’ a’r enw Lladin – ‘Scilla verna’.

Troed y golomen

golygu
 
Amrywiaeth o 'Troed y Golomen'

Tynnwyd y llun ar 8 Mehefin 2015 ac erbyn hynny roedd y rhan helaethaf o Friallu Mair wedi gwywo. Mae cipolwg o'r Fardre yn y pellter a Phenmaenmawr a Phenmaenbach

Llysieuyn blodeol bychan yw Troed y golomen sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Ranunculaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Aquilegia vulgaris a'r enw Saesneg yw Columbine.] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Blodau'r Sipsi, Blodau Colomennod, Blodau yr Eryr, Bonet Nain, Cap Nos Mamgu, Clychau Llundain, Colwmbein, Madwysg, Madwysg, Troed y Glomen, Cyffredin, Troed y Ceiliog, Troed y Glomen. Mae'r blodau'n gymesur ac yn ddeuryw. Nodwedd arbennig y planhigyn hwn yw bod y sepalau'n lliwgar ac yn edrych yn debyg iawn i betalau. Ceir ychydig lleia erioed o wenwyn o fewn y planhigyn: protoanemonin,sy'n wenwyn i anifail a dyn, alcaloidau neu glycodidau.

Golygfeydd o bwys hanesyddol a welir o'r Obelisg

golygu

Y Fardre

golygu
 
Y Fardre yn y pellter

Ar y gorwel mae Sir Fôn ac Ynys Seiriol. O edrych i'r gorllewin fe welwch yn y pellter ddau fryncyn - Y Fardre, oedd o bwys yn hanes Cymru. Hefyd gwelir rhan o Ddeganwy. Yn ôl traddodiad,yma y sefydlodd Cunedda wedi iddo ddod o'r Hen Ogledd i adfer trefn yng Ngogledd Cymru yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid. Yma hefyd roedd Llys Maelgwn Gwynedd yr honnir iddo gynnal eisteddfod go anghyffredin pan fu'n rhaid i'r beirdd a'r cerddorion orfod nofio ar draws Afon Conwy cyn cystadlu. Roedd y telynau wedi eu difetha yn y dŵr. Yn ôl traddodiad bu farw Maelgwn o'r Fad Felen ar ôl ceisio cael lloches yn Eglwys Llanrhos. Aeth ei gywreinrwydd yn drech nag ef- aeth i sbecian drwy dwll y clo a chafodd ei daro!

Fferm Hendre Wen

golygu
 
Fferm Hendre Wen, Lôn Pabo, Cyffordd Llandudno

Mae nifer o ffeithiau diddorol am y fferm yma. Yn hanes 'Damwain Bryn Pydew' yn Hydref 1944, yn y cae ar y dde i'r maes carafanau y disgynnodd dau o'r criw, Millar a Wagstaff, gyda pharasiwt a chael eu hachub gan Richard a Lilian Owen. Yn ddiweddar,daeth i feddiant y perchenogion presennol fap yn dangos enwau'r caeau yn 1919 a'r cyfan yn Gymraeg.

Paentiwyd darlun o'r ffermdy gwreiddiol, Yr Hendre, yn gelfydd, gan Rowena Wyn Jones a enillodd glod mewn arddangosfa ym Mharis. Hi hefyd fu'n gyfrifol am y lluniau yng nghyfres wreiddiol llyfrau darllen Sali Mali.

 

Codwyd Ysgol Awel y Mynydd ar dir fu'n rhan o Fferm Hendre Wen yn 2017 ar gaeau Cae Maes a Twll Llwynog. Mae'r olygfa yn edrych dros y caeau i gyfeiriad y fferm. Mae'r obelisg yn y cefndir ar y chwith.

 
Map yn dahgos y newidiadau fu yn Fferm Hendre Wen ers 1919
 
Ysgol Awel y Mynydd (ar 27 Ebrill 2017) Agorwyd ym Medi 2017 i gymryd lle Ysgol Maelgwn ac Ysgol Nant y Coed gyda rhyw 480 o ddisgyblion ar hen gaeau Cae Maes a Twll Llwynog

Plasdy Gloddaeth a Theulu Mostyn

golygu
 
Plasdy Gloddaeth sydd bellach yn ysgol fonedd, Coleg St. David

Teulu Mostyn yw'r teulu pwysicaf yn hanes Llandudno ac mae Stad Mostyn yn berchen llawer o dir yno o hyd. Etifeddodd y teulu stad y Gloddaeth trwy briodas yn y 1450au gan adeiladu'r plasdy a welir yn y llun, -ysgol breifat, Coleg St. David sydd yno bellach- yn yr 16g. Ddwy ganrif yn ddiweddarach, yn sgil priodas arall, cafodd Syr Roger Mostyn afael ar stad Bodysgallen. Ar dir y stad honno y codwyd yr obelisg. Roedd Syr Roger Mostyn yn berchen ar lyfrgell o lawysgrifau Cymraeg pwysig. Ŵyr iddo oedd yr Arglwydd Mostyn cyntaf (teitl a grewyd yn 1831) ac erbyn ei farwolaeth yn 1854 roedd Llandudno yn datblygu fel tref ffasiynol. Dan awdurdod Deddf Seneddol 1843, caewyd y tir comin gwastad yng nghysgod y Pen y Gogarth.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 22 Tachwedd 2021
 

Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'r testun yma yn wreiddiol mewn erthygl gan Gareth Pritchard yn Y Pentan, papur bro Dyffryn Conwy a'r Glannau.