Cymeriad o lên gwerin Ewropeaidd yr Oesoedd Canol yw'r Preutur Siôn[1] neu Ieuan Fendigaid.[1] Mae'n frenin sy'n teyrnasu dros wlad Gristnogol yn Asia neu Affrica yn ystod cyfnod y Croesgadau. Dywed ei fod yn Nestoriad oedd wedi gwrthod awdurdod y Bysantiaid, ac yn danfon llythyrau i'w gyd-gredinwyr yn Ewrop yn disgrifio'i deyrnas arallfydol. Roedd Cristnogion Ewrop yn credu ynddo o'r 11g hyd y 13g gan obeithio bydd yn gynghreiriad iddynt yn erbyn y Mwslimiaid.

Darlun o'r Preutur Siôn ar fap o Ddwyrain Affrica, 1558.

Dywedir roedd y Preutur Siôn yn disgyn o'r Tri Gŵr Doeth yn y Beibl, a bod ei deyrnas yn gartref i feddrod Sant Tomos, un o apostolion Iesu a gredir ei fod wedi taenu'r efengyl mor bell ag India.[2] Dywed yn gynnar iddo orchfygu'r Mwslimiaid yng nghanolbarth Asia, o bosib ar sail buddugoliaeth wirioneddol un o arweinwyr y Tyrciaid neu'r Mongoliaid, neu o bosib tywysog Tsieineaidd a drechodd swltan Persia ym 1141.

Yn ôl adroddiad o 1145, fe orchfygodd y Persiaid a chynlluniodd i gipio Caersalem o'r Mwslimiaid, ac anfonodd lythyr i arweinwyr Ewropeaidd ym 1165 yn disgrifio paradwys ei deyrnas. Danfonodd y Pab Alecsander III lythyr iddo ym 1177, siŵr o fod yn gofyn am gymorth yn erbyn Ffredrig Barbarosa.[2] Mewn Teithiau Marco Polo, y Preutur Siôn yw brenin y Tartariaid.[3] Yn y canrifoedd i ddod, bu nifer o fforwyr yn ceisio lleoli teyrnas Siôn yn Asia ac Affrica. Yn y 15g, honodd y Portiwgeaid iddynt ei chanfod yn Ethiopia.

Mae'n bosib datblygodd y chwedl wedi i'r Mwslimiaid goncro'r Aifft, gan ynysu Ethiopia, gwlad Gristnogol, o Ewrop. Datblygodd fasnach rhwng yr Ewropeaid a'r Mongoliaid o ganlyniad i'r chwiliad am y Preutur Siôn yn Asia.[2]

Gwreiddiau a chyd-destun y chwedl golygu

Ioan yr Henuriad golygu

O bosib, Ioan yr Henuriad neu'r Presbyter Ioan yw tarddiad yr enw.

Nestoriaeth golygu

Eglwys Ddwyreiniol annibynnol oedd y Nestoriaid a wrthodant awdurdod Patriarch Caergystennin.

Y Croesgadau golygu

Datblygodd y chwedl adeg y Croesgadau, o ddiwedd yr 11g hyd y 13g. Roedd Cristnogion Ewrop yn mynnu adennill y Wlad Sanctaidd, sef Palesteina, oddi ar y Mwslimiaid. Ym 1071 concrwyd Caersalem gan y Seljwciaid. Pobl Dyrcig a drigai yn Anatolia, sef Twrci fodern, oedd y Seljwciaid oedd yn dilyn Islam Sunni, a datblygodd eu diwylliant a’u hymerodraeth yn rhan o’r traddodiad Tyrco-Bersiaidd. Ymestynodd eu tiriogaethau i Bersia a’r Lefant.

Mongoliaid golygu

Mae’n bosib taw Brwydr Qatwan (1141) yw’r frwydr a sonir yr Esgob Hugh o Gebal amdani yn ei adroddiad. Trechwyd Ahmad Sanjar, Swltan yr Ymerodraeth Seljwc, gan Yeh-lü Dashi, sefydlwr chanaeth y Qara Khitai yng Nghanolbarth Asia. Gur-khan neu Kor-khan oedd teitl arweinwyr y Qara Khitai, ac mae’n bosib cafodd ei newid yn seinegol yn yr Hebraeg i Yoḥanan neu yn y Syrieg i Yuḥanan, gan greu’r ffurf Ladin Johannes, neu John. Er taw Bwdyddion Mongolaidd oedd Dashi a’r chaniaid olynol, roedd nifer o ddeiliaid pwysig eu hymerodraeth yn Nestoriaid. Yn ôl adroddiad gan y cenhadwr Ffransisgaidd Willem van Ruysbroeck ym 1235, Cristiones oedd merch y Gur-khan olaf a gwraig Küchlüg, Brenin y Naiman, a ddaeth yn arweinydd olaf y Qara Khitai. Trechwyd Küchlüg, mab Ta-yang Khan (Tsieineeg am y Brenin Mawr Ioan) gan Genghis Khan ym 1218.

Ym 1221 rhodd hanes i Rufain gan Jacques de Vitry, Esgob Acre, Palesteina, a’r Cardinal Pelagius oedd yn cyd-deithio â’r croesgadwyr yn Damietta, yr Aifft, am orchfygiad y Mwslimiaid gan David, Brenin India, mab neu ŵyr y Preutur Siôn. Mae’n debyg taw Genghis Khan oedd y Brenin David. O ganlyniad i sïon a llên gwerin, diffyg gwybodaeth ddibynadwy, a gobaith ofer y Cristnogion, cafodd brwydrau, arweinwyr, a thiriogaethau’r cyfnod eu cydblethu’n rhan o chwedl Siôn.

Ethiopia golygu

Yng nghanol y 13g, daeth Affrica ac yn bennaf Ethiopia neu Abysinia yn ganolbwynt i'r ymchwiliad am y deyrnas yn hytrach nac Asia. Credai taw negus, neu ymerawdwr, Ethiopia oedd Siôn. Goroesoedd yr Eglwys Goptaidd yn Ethiopia drwy gydol yr Oesoedd Canol, a chafodd y tiroedd Cristnogol hyn eu hynysu o Ewrop a’r Dwyrain Agos wedi i’r Mwslimiaid goncro’r Aifft.

Llenyddiaeth teithio anhygoel golygu

Ffynonellau golygu

Tua dechrau yr 11g, taenwyd adroddiad yng ngwledydd Ewrop fod rhyw frenin neilltuol, o'r tu hwnt i derfynau Persia ac Armenia, wedi cyfarfod ag ysbryd sant ymadawedig mewn coedwig, a dychrynwyd ef i'r fath raddau nes troi ohono yn wir gredadun, a gorchmynnodd i'w holl ddeiliaid gymryd eu bedyddio i'r un ffydd. Fel yr elai amser heibio, ymddengys fod yr adroddiad hwn yn cael ei gadarnhau. Daeth cenhadon i Rufain yn proffesu dyfod o'r wlad honno. Ar ôl hynny, taenid awgrymiadau a hysbysiadau ychwanegol yng ngwledydd Ewrop, ond gan bwy, a pha fodd, nid oedd neb yn gwybod. Mynegid fod arferion a moesau y Cristnogion newydd hyn yn ymdebygu i raddau pell i'r eiddo yr amseroedd patriarchaidd. Mynegid fod y blaenor yn offeiriad a brenin, ac oherwydd hyn, adwaenid ef wrth yr enw Preutur neu Bresbyter Ieuan neu Siôn. Arweiniodd ei lwyth fywyd tawel a bugeiliol, gan ddilyn eu diadelloedd drwy yr anialwch, ac ymborthasant ar gigfwyd a llaeth. Roeddynt mor amddifad o ŷd a gwin nes bod yn analluog yn ôl y gorchymyn i ddal ar ddyddiau ympryd, a chyfranogi o'r cymun, Er fod ei deyrnas i raddau pell yn cyfranogi o symledd cyntefig cymdeithas, yr oedd ynddi gyfoeth mawr, ac yntau yn berchen trysorau diderfyn ym mron, a llawer o'r cenhedloedd yn talu teyrnged iddo. Llywodraethai yntau yn oruchaf â theyrnwialen o emrallt.

Y Chronicon golygu

Mae’n debyg taw adroddiad gan yr Esgob Hugh o Gebal, Syria (heddiw Jubayl, Libanus) ym 1145 a ddanfonwyd i lys y pab yn Viterbo, yr Eidal, yw'r ffynhonnell gynharaf sydd yn crybwyll y Preutur Siôn. Gan dynnu ar y ddogfen hon, recordiwyd y stori’n gyntaf gan yr Esgob Otto o Freising, yr Almaen, yn y Chronicon (1145). Sonir am offeiriad (neu bresbyter) a brenin pwerus a chyfoethog o’r enw John, disgynnydd uniongyrchol o’r Doethion o’r Dwyrain a ymwelodd â’r baban Iesu. Honnir iddo drechu brenhinoedd Mwslimaidd Persia, dwyn cyrch ar y brifddinas Ecbatana, a bwriadu arwain ei fyddin i Gaersalem ond wynebodd fethiant wrth geisio croesi Afon Tigris.

Y llythyr golygu

Yn ôl croniclwr o’r 13g, Alberic de Trois-Fontaines, danfonwyd llythyr (Lladin: Epistola Presbyteri Johannis) ym 1165 o Siôn i nifer o arweinwyr Ewrop, gan gynnwys Manuel I Comnenus, yr Ymerawdwr Bysantaidd, a Ffredrig I Barbarossa, yr Ymerawdwr Glân Rufeinig. Ffug-lenyddiaeth amlwg yw’r llythyr i ni heddiw. Yn y cyfnod, bu’n ennyn cyffro a gobaith wrth i Gristnogion Ewrop brofi gorchfygiadau yn y Dwyrain Agos. Cafodd ei drosi o’r Lladin wreiddiol i Hebraeg, Hen Slafoneg, Cymraeg a nifer o ieithoedd eraill. Er y cafodd ei gyfeirio at Manuel, a Groeg oedd iaith yr Ymerodraeth Fysantaidd, ni wyddys am gyfieithiad Groeg o’r llythyr. Gwelir tuedd gwrth-Fysantaidd yn y llythyr, hyd yn oed, wrth iddo alw’r ymerawdwr Bysantaidd yn “llywodraethwr y Rhufeiniaid” yn hytrach nag “ymerawdwr”. Sonir am deyrnas Siôn, “y tair India”: gwlad o gyfoeth naturiol, rhyfeddodau, heddwch, a chyfiawnder dan weinyddiaeth llys o archesgobion, prioriaid, a brenhinoedd. Datganodd Siôn y byddai'n arwain ei luoedd i Balesteina i ymladd y Mwslimiaid ac adennill Beddrod yr Iesu. Mae’r llythyr yn portreadu Siôn fel arweinydd Cristnogol duwiol: roedd well ganddo’r teitl presbyter neu breutur, ac roedd yn warcheidiad cysegrfan Sant Tomos, yr apostol i’r India, ym Mylapore.

Danfonodd y Pab Alecsander III ymateb ym 1177 i Siôn, “brenin ardderchocaf a bendigaid yr India ac annwyl fab Crist”. Mae’n debyg taw bwriad y llythyr oedd i ennill cefnogaeth i’r Babaeth yn erbyn Barbarosa. Ni wyddys tynged y garfan oedd yn meddu ar y llythyr yn ei chais i ganfod lleoliad Siôn.

Y traddodiad Cymraeg golygu

Cyfieithwyd y llythyr honedig at Manuel, Ymerawdwr Caergystennin (tua 1165) i'r Gymraeg, Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit. Ceir yn llawysgrifau Coleg yr Iesu 119, a Peniarth 15, 47 a 267.[4] Cyfeirir at y Preutur Siôn sawl gwaith ym marddoniaeth Guto'r Glyn.[5]

Y chwilfa am Siôn golygu

 
Siart o forlyfr Sbaeneg o'r 16g sy'n dangos teyrnas Siôn yng nghanolbarth Affrica.

Derbynid adroddiadau dymunol o'r fath gyda'r awyddfryd mwyaf gan bobl ofergoelus yr oesoedd hynny, a dechreuwyd gwneuthur ymchwiliadau i'r mater. Dechreuwyd amheu a oedd y wlad ddedwydd hon yn bod, ai rhywbeth iwtopaidd yn unig oedd, ac ai nid person dychmygol hollol oedd y Preutur Siôn. Y teithiwr Ewropeaidd cyntaf a gyfeiria ato ydoedd Giovanni da Pian del Carpine, mynach Ffransisgaidd ifanc, a anfonwyd gan y Pab Innocentius IV ym 1246 ar genadwri at y Mongolwyr. Methodd Giovanni ddarganfod y genedl Gristnogol enwog. ond tybiai eu bod yn preswylio yn rhywle ym mhellach i'r dwyrain. Ym mhen rhai blynyddoedd ar ôl i Giovanni ddychwelyd, fe ddanfonwyd William de Rubruquis, mynach Ffransisgaidd arall, yn genadwr i Dartaria, gan Louis IX, brenin Ffrainc, yr hwn oedd ym Mhalesteina ar y pryd. Chwedl y Preutur Siôn oedd yr achos o'i daith. Ar ôl cyfarfod â llawer o galedi ac anhawsterau, cyrhaeddodd i wersyll Baton Khan, yng nghanolbarth Tartaria, yr hwn a'i danfonodd ef ymlaen ar draws yr anialdiroedd i lys Mangou, sef y Chan Mawr yn Karakorum, a ni chafodd Rubruquis un Preutur Siôn yno. Ond daeth o hyd i rai cenhadon Nestoraidd, ac offeiriad Mwslimaidd, a bu yn ymddiddan â hwynt amryw weithiau. Fel yr addefai, nid oedd ond o ychydig ddiben, gan nad oeddynt yn deall ei gilydd. Dywed Rubruquis fod y Nestoriaid wedi gosod golwg rhy ffafriol ar eu dylanwad yn Nhartaria. Rhoddodd Mangou i Rubruquis lythyr i'w gyflwyno i frenin Ffrainc, a gorchmynnodd ei gyflenwi â phob peth angenrheidiol er ei gynorthwyo i ddychwelyd adref. Ar ei waith yn cyrraedd i Balesteina, ysgrifennodd Rubruquis, ym mynachlog Acre, hanes ei daith anturiaethus yn yr iaith Ladin, ac anfonodd ef i Louis, yr hwn a ddychwelasai i Ffrainc. Y mae yr hanes cywrain hwn wedi ei ysgrifennu yn llawer mwy syml, ac yn llawer cywirach na'r eiddo Giovanni del Carpine. Yr oedd y chwedl yn cael ei chredu yn Ewrop hyd ddiwedd y 15g, fod yn Asia benadur Cristnogol o'r enw Siôn, pan y darfu i'r Portiwgaliaid, y rhai a gyrhaeddasant i India heibio i Benrhyn Gobaith Da, ymosod ar y gwaith o chwilio am y Preutur Siôn yn y wlad honno, ond yn aflwyddiannus – er iddynt ddarganfod cyfundeb o Nestoriaid Cristnogol ar ororau Arfordir Coromandel. O'r diwedd, digwyddodd i Pedro Covilham glywed fod tywysog Cristnogol yn Abysinia, heb fod ymhell o'r Môr Coch, a thybiai mai efe oedd y Preutur Siôn, ac aeth ymlaen i lys brenin yr Habesh, yr oedd ar y pryd yn Shewa. Canlyniad yr holl ymchwiliadau hyn oedd i olrheinwyr roddi i fyny chwilio am y Preutur Siôn a throi i geisio esbonio ei darddiad. Y dybiaeth fwyaf debygol yw yr un a gynigir gan yr hanesydd eglwysig Johann Lorenz von Mosheim. Tybia efe i ryw offeiriad Nestoraidd o'r enw Siôn gael meddiant o orsedd, yng ngwlad y Tartariaid, a'i fod wedi cadw i fyny yr enw "Preutur Siôn" ar ôl esgyn iddi, a bod yr un teitl yn cael ei wisgo gan ei ddisgynyddion, hyd nes y dinistriwyd ei deyrnas gan yr ymerawdwr Mongolaidd galluog Genghis Khan.

Dylanwad ac effaith y chwedl golygu

Llên gwerin a mytholeg Gristnogol golygu

Cysylltiadau economaidd a diwylliannol golygu

Bu nifer o fforwyr, cenhadon a theithwyr lleyg yn ceisio chwilio am y deyrnas wrth iddynt deithio ar draws Asia ac Affrica. Yn eu plith oedd Giovanni da Pian del Carpini, Giovanni da Montecorvino, a Marco Polo. Arweiniodd eu hymdrechion at gysylltiadau uniongyrchol a masnach rhwng yr Ewropeaid a’r Mongoliaid.

Cartograffeg golygu

 
Map o Abysinia, neu Ymerodraeth y Preutur Siôn, gan Abraham Ortelius (1573).

Llenyddiaeth golygu

 
Clawr Prester John (1910).

Ysbrydolwyd sawl gwaith llenyddol modern gan y chwedl, gan gynnwys y nofel Prester John gan John Buchan a'r nofel Baudolino gan Umberto Eco.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1073 [Prester John].
  2. 2.0 2.1 2.2 Jones, Alison. Larousse Dictionary of World Folklore (Caeredin, Larousse, 1995), t. 353–4 [Prester John].
  3. Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 1053.
  4. Gwilym Lloyd Edwards. Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn) (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999).
  5. y Preutur Siôn sef Ieuan Fendigaid, brenin-offeiriad chwedlonol y credid ei fod yn rheoli yn India, Guto'r Glyn.net. Adalwyd ar 4 Mehefin 2017.

Darllen pellach golygu

  • Cates Baldridge. Prisoners of Prester John: The Portuguese Mission to Ethiopia in Search of the Mythical King, 1520-1526 (McFarland & Co, 2012).
  • Keagan Brewer. Prester John: The Legend and its Sources (Crusade Texts in Translation) (Routledge, 2015).
  • Lev Gumilev. Searches for an Imaginary Kingdom: The Legend of the Kingdom of Prester John (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1988).
  • Nicholas Jubber. The Prester Quest (Bantam, 2006).
  • Manuel Joao Ramos. Essays in Christian Mythology: The Metamorphosis of Prester John (University Press of America, 2006).
  • Francis M. Rogers. The Quest for Eastern Christians: Travels and Rumor in the Age of Discovery (University of Minnesota Press, 1962).
  • Robert Silverberg. The Realm of Prester John (1972).
  • Vsevolod Slessarev. Prester John: The Letter and the Legend (Minneapolis: University of Minnesota Press, 1959).
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.