Gwlad yr Iâ

ynys a gweriniaeth sofran yng Ngogledd Ewrop
(Ailgyfeiriad o Ynys-yr-iâ)

Mae Gweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Wlad yr Iâ yn ynys yng Ngogledd y Cefnfor Iwerydd rhwng yr Ynys Las a Phrydain. Iaith Lychlynaidd yw Islandeg, ac mae mwyafrif yr ynys yn dilyn Eglwys Lwther. Yn y cyfrifiad diweddaraf roedd poblogaeth y wlad yn 364,260 (31 Rhagfyr 2019)[1], sydd ychydig yn llai na phoblogaeth Caerdydd Fwyaf (yr Ardal Drefol).

Gwlad yr Iâ
Ísland
Mathynys-genedl, gwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Edit this on Wikidata
PrifddinasReykjavík Edit this on Wikidata
Poblogaeth364,260 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 17 Mehefin 1944 (Sefydlu Gwlad yr Iâ) Edit this on Wikidata
AnthemLofsöngur Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBjarni Benediktsson Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+00:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Islandeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolArdal Economeg Ewropeaidd, Gogledd Ewrop, Gwledydd Nordig Edit this on Wikidata
Arwynebedd103,004 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYr Ynys Las, Ynysoedd Ffaröe, Svalbard Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau65°N 19°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholAlþingi Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Llywydd Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethHalla Tómasdóttir Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBjarni Benediktsson Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$27,842 million Edit this on Wikidata
ArianIcelandic króna Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.93 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.959 Edit this on Wikidata

Ei llenor amlycaf, efallai, oedd Snorri Sturluson. O Wlad yr Iâ daw'r gantores pop Björk, Magnús Scheving o'r rhaglen deledu Lazytown, a'r nofelydd Halldór Laxness, enillwr Gwobr Nobel am lenyddiaeth ym 1955.

Mae gan yr Althing 63 o aelodau, a etholir pob pedair mlynedd. Y Prif Weinidog sy'n bennaeth ar y llywodraeth, tra bod yr arlywydd, a etholir am 4 mlynedd, yn penodi'r Prif Weinidog.

Ymsefydlodd Norwy-wyr yng Ngwlad yr Iâ gyda'u caethweision o'r Alban ac Iwerddon yn hwyr yn y 9g a'r 10fed. Nhw a sefydlodd y Senedd hynaf yn y byd, yr Althing, yn y flwyddyn 930.

Roedd Gwlad yr Iâ yn annibynnol am dros 300 mlynedd, ond cyn hir daeth o dan reolaeth Norwy a Denmarc. Sefydlwyd rheolaeth cartref ym 1874, ac annibyniaeth ym 1918. Arhosodd brenin Denmarc, Christian X, yn frenin ar Wlad yr Iâ tan 1944 pan sefydlwyd gweriniaeth.

 
Map o 17g o Wlad yr Iâ.
 
Pentref pysgota canoloesol (neu Ósvör) wedi'i ail greu nepell o Bolungarvík.

Daearyddiaeth

golygu

Mae Gwlad yr Iâ ar fan poeth daearegol ar y Grib Canol-Iwerydd. Mae yna lawer o losgfynyddoedd, yn enwedig Hekla. Hyd heddiw mae llosgfynyddoedd yn cael eu creu— crëwyd ynys newydd Surtsey ar ôl ffrwydrad ar 14 Tachwedd 1963. Mae tua 10% o'r ynys o dan iâ, ac mae ei rhewlifoedd yn enwog ledled y byd. Mae gan y wlad lawer o giser (gair Islandeg), ac mae ynni daearthermol yn rhoi dŵr poeth a gwres cartref rhad yn y trefi.

Mae mwyafrif y trefi ar lan y môr. Y prif drefi yw Reykjavík, Keflavík—lleoliad y maes awyr cenedlaethol— ac Akureyri.

Mae geneteg pobl Gwlad yr Iâ yn debyg ac yn unigryw hyd heddiw, gan nad oes llawer o fewnfudo wedi digwydd dros y canrifoedd. O ganlyniad mae gwyddonwyr ar draws y byd yn astudio pobl yr ynys er mwyn darganfod mwy am etifeddu genynnau.

Rhanbarthau

golygu

Ceir wyth rhanbarth yng Ngwlad yr Iâ, yn bennaf er mwyn hwyluso trefniadaeth ystadegol ac o ran côd-post y wlad. Mae system gyfreithiol y llysoedd hefyd wedi'i sefydlu ar y drefn hon o wyth rhanbarth. Yn rhyfedd iawn, ni ddiffinir yr wyth rhanbarth yn ôl cyfraith y wlad ac nid oes iddynt drefn weinyddol fel sydd gan siroedd Cymru.

# Cyfieithiad o'r enw Enw mewn
Islandeg
Poblogaeth
ddiweddaraf
Arwynebedd
(km²)
Pobl./
Arwynebedd
ISO 3166-2 Canolfan
weinyddol
Rhanbarthau Gwlad yr Iâ
1 Rhanbarth y Brifddinas Höfuðborgarsvæði 233,034 1,062 201.14 IS-1 Reykjavík
 
2 Penrhyn y De Suðurnes 27,829 829 27.15 IS-2 Keflavík
3 Rhanbarth y Gorllewin Vesturland 17,541[2] 9,554 1.65 IS-3 Borgarnes
4 Ffiords y Gorllewin Vestfirðir 7,379[3] 9,409 0.73 IS-4 Ísafjörður
5 Rhanbarth y Gogledd-orllewin Norðurland vestra 7,322 12,737 0.56 IS-5 Sauðárkrókur
6 Rhanbarth y Gogledd-ddwyrain Norðurland eystra 30,600 21,968 1.33 IS-6 Akureyri
7 Rhanbarth y Dwyrain Austurland 11,227 22,721 0.55 IS-7 Egilsstaðir
8 Rhanbarth y De Suðurland 28,399 24,526 1.01 IS-8 Selfoss
Gwlad yr Iâ Ísland 364,260[1] 102,806 3.23 IS


Siroedd

golygu
 
Siroedd y wlad.

Mae Gwlad yr Iâ yn cynnwys 23 sir neu sýslur:

* Árnessýsla * Mýrasýsla * Suður-Múlasýsla

Economi

golygu

Mae'r diwydiant pysgota yn bwysig iawn i'r economi. Mae 60% o enillion allforion y wlad a swyddi 8% o'r gweithlu yn dibynnu arno. Y prif allforion yw pysgod, alwminiwm a ferrosilicon.

Mae mwyafrif yr adeiladau wedi eu hadeiladu o goncrit gan fod mewnforio pren yn ddrud. Yn y 1990au dewisodd llywodraeth Gwlad yr Iâ amrywio'r economi drwy ganolbwyntio mwy ar ddiwydiannau gwneuthur a gwasanaeth, gyda datblygiadau ym miotechnoleg, gwasanaethau ariannol, a chynhyrchiad meddalwedd. Mae twristiaeth hefyd yn dod yn bwysicach.


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Population in the end of the 4th quarter of 2019".
  2. https://www.hagstofa.is/talnaefni/ibuar/mannfjoldi/sveitarfelog-og-byggdakjarnar/.
  3. https://px.hagstofa.is/pxen/pxweb/en/Ibuar/Ibuar__mannfjoldi__2_byggdir__sveitarfelog/MAN02001.px/?rxid=2706e15c-ae8b-4bcc-ba86-44eec403768b.

Dolenni allanol

golygu