Herbert Kitchener, Iarll 1af Kitchener
Milwr ac ymerodraethwr Prydeinig oedd y Maeslywydd Horatio Herbert Kitchener, Iarll 1af Kitchener KG, KP, GCB, OM, GCSI, GCMG, GCIE, PC (24 Mehefin 1850 – 5 Mehefin 1916). Arweiniodd sawl ymgyrch drefedigaethol gan y Fyddin Brydeinig yn Affrica, a daeth yn enwog am ei greulondeb yn erbyn y boblogaeth, yn enwedig ei bolisi tir llosg a'i wersylloedd crynhoi yn ne'r Affrig.[1][2] Ef oedd concwerwr y Swdan yn sgil methiant Gordon, a phennaeth y lluoedd yn ystod Ail Ryfel y Boer. Penodwyd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw ger Ynysoedd Erch pan gafodd ei long ei suddo gan un o ffrwydron yr Almaenwyr. Ei deitlau llawn oedd Horatio Herbert Kitchener, Iarll 1af Kitchener o Khartoum ac o Broome, Is-iarll Broome o Broome, Barwn Denton o Denton, Barwn Kitchener o Khartoum ac o Aspall, ac Is-iarll Kitchener o Khartoum, o'r Vaal, ac o Aspall.
Herbert Kitchener, Iarll 1af Kitchener | |
---|---|
Ganwyd | Horatio Herbert Kitchener 24 Mehefin 1850 Ballylongford |
Bu farw | 5 Mehefin 1916 Môr y Gogledd |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, peiriannydd, swyddog milwrol, director of land survey, swyddog y fyddin |
Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, llysgennad |
Adnabyddus am | A trigonometrical survey of the island of Cyprus |
Tad | Henry Horatio Kitchener |
Mam | Frances Anne Chevallier |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Urdd y Gardas, Livingstone Medal, Knight of St. Patrick, Knight Grand Commander of the Order of the Star of India, Knight Grand Commander of the Order of the Indian Empire |
Fe'i ganwyd yn Ballylongford ger Listowel, Swydd Kerry, yn fab i rieni Seisnig, y milwr Henry Horatio Kitchener (1805–1894) a'i wraig Frances Anne Chevallier (m. 1864). Cafodd ei fagu yn Iwerddon nes i'r teulu symud i'r Swistir ym 1864. Mynychodd ysgol breswyl Saesneg yn Rennaz ger Montreux.[3] Dychwelodd i Loegr ym 1867 a chafodd ei hyfforddi'n swyddog milwrol yn yr Academi Filwrol Frenhinol, Woolwich. Cafodd ei gomisiynu i'r Peirianwyr Brenhinol a'i ddanfon i wasanaethu yn y Dwyrain Canol. Ym 1886, penodwyd yn Llywodraethwr Taleithiau Eifftaidd Dwyrain Swdan a Glannau'r Môr Coch, teitl rhwysgfawr ond mewn gwirionedd dim ond Porth Suakin oedd dan reolaeth y Prydeinwyr ar y pryd. Fe ddringodd ysgol yr yrfa filwrol-lywodraethol, trwy wasanaethu'n ddirprwy gadfridog yng Nghairo ac yna'n sirdar, neu bencadfridog, ar fyddin yr Aifft ym 1892.[4]
Daeth i sylw'r cyhoedd ym 1898 am iddo ennill Brwydr Omdurman a thrwy hynny dwyn y Swdan i reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig. Fe'i wobrwyd gyda'r teitl Arglwydd Khartoum. Yn y frwydr bu'r milwr ifanc Winston Churchill, a ysgrifennodd i'w fam: "Our victory was disgraced by the inhuman slaughter of the wounded and Lord Kitchener was responsible for this."[5] Penodwyd yn Bennaeth Staff yn Ail Ryfel y Boer ac yn y Transvaal bu'n allweddol yn ymgyrch yr Arglwydd Roberts i orchfygu Gweriniaethau'r Boeriaid. Dyrchafwyd Kitchener i swydd Roberts, y pencadfridog, a sefydlodd wersylloedd i garcharu sifiliaid tra'n ymladd yn erbyn herwfilwyr Boeraidd. O 1902 hyd 1909, arweiniodd Byddin Brydeinig India a bu'n cweryla gyda'r Rhaglaw Yr Arglwydd Curzon. Dychwelodd Kitchener i'r Aifft yn Asiant a Phrif Gonswl Prydeinig, hynny yw llywodraethwr y wlad.
Ar gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914 penodwyd Kitchener yn weinidog cabinet yn llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel. Rhagfynegodd y byddai'r rhyfel yn para tair blynedd o leiaf, a threfnodd fyddin wirfoddol (Byddin Kitchener) a chynydd mewn cynhyrchu ar gyfer yr ymdrech frwydro ar Ffrynt y Gorllewin. Daeth yn symbol o gryfder ewyllys Prydain ar ddechrau'r rhyfel, ac mae'r poster recriwtio ohono yn pwyntio'i fys yn gyfarwydd hyd heddiw. Er ei ymdrechion, cafodd ei feio am brinder sieliau ym 1915 a'i amddifadu o'i reolaeth dros arfau a strategaeth. Bu foddi Kitchener pan suddwyd HMS Hampshire ger Ynysoedd Erch, ar ei ffordd i Rwsia.[4] Bu farw mwy na 600 o bobl eraill ar y llong.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas Pakenham. The Boer War (Jonathan Ball, 1979), tt. 493–95. ISBN 978-0868500461
- ↑ Hefin Jones. Celwydd a Choncwest: Yr Ymerodraeth Brydeinig ar draws y byd (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2016), tt. 209–10.
- ↑ (Saesneg) "Herbert Kitchener, 1st Earl Kitchener". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. 2004. doi:10.1093/ref:odnb/34341.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) Horatio Herbert Kitchener, 1st Earl Kitchener. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Mai 2017.
- ↑ Jones, Celwydd a Concwest (2016), t. 218.