Hominini: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 06:17, 23 Hydref 2015

Hominins
Amrediad amseryddol: 5.4–0 Miliwn o fl. CP
Penglog Sahelanthropus tchadensis, aelod cynharaf llinell yr hominin, yn ôl llawer.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Is-urdd: Haplorhini
Teulu: Hominidae
Is-deulu: Homininae
Llwyth: Hominini
Gray, 1825

Llwyth o fewn isdeulu'r Homininae yw Hominini. Mae gan y llwyth hwn dri is-lwyth: Hominina, a'i genws Homo; Australopithecina, sy'n cynnwys sawl genera darfodedig; a Panina (neu Tsimpansî), a'i un genws, sef y Pan.[1][2] Gelwir aelodau cytras bodau dynol (yr Hominini), gan gynnwys Homo a'r rhywogaethau australopithecines hynny a ffurfiwyd ar ôl hollti oddi wrth y tsimpansî yn hominins; cf. Hominidae; termau "hominids" a hominins).

Cangen "dynol" yw'r is-lwyth Hominina; hynny yw, mae'n cynnwys y genws Homo'n unig. Cynnigiodd anthropolegwyr y term tacson Hominini ar sail y dylai'r rhywogaeth lleiaf tebygol gael ei wahanu oddi wrth y ddau arall. Y tsimpansî cyffredin a bonobo'r genws Pan yw perthnasau agosaf bodau dynol, o ran esblygiad. Maen nhw'n rhannu yr un hynafiad a bodau dynol, hynafiad a drigai ar y Ddaear 4-7 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP).[3] Mae ymchwil a wnaed yn 1973 gan Mary-Claire King yn dangos fod 99% o'r DNA yn gyffredin rhwng y tsimpansî a bod dynol.[4] Addaswyd y ffigwr hwn yn ddiweddarach gan ymchwilwyr i 94%.[5]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Bradley, B. J. (2006). "Reconstructing Phylogenies and Phenotypes: A Molecular View of Human Evolution". Journal of Anatomy 212 (4): 337–353. doi:10.1111/j.1469-7580.2007.00840.x. PMC 2409108. PMID 18380860. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2409108.
  2. Wood and Richmond.; Richmond, BG (2000). "Human evolution: taxonomy and paleobiology". Journal of Anatomy 197 (Pt 1): 19–60. doi:10.1046/j.1469-7580.2000.19710019.x. PMC 1468107. PMID 10999270. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1468107.
  3. "Chimps and Humans Very Similar at the DNA Level". News.mongabay.com. Cyrchwyd 2009-06-06.
  4. Mary-Claire King (1973) Protein polymorphisms in chimpanzee and human evolution, Doctoral dissertation, University of California, Berkeley.
  5. Minkel JR (2006-12-19). "Humans and Chimps: Close But Not That Close". Scientific American. http://www.scientificamerican.com/article.cfm?id=human-chimp-gene-gap-wide.