Arwel Gruffydd

actor a aned yn 1967
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 06:28, 18 Chwefror 2024 gan 82.46.181.51 (sgwrs)

Actor, cyfarwyddwr a Chyn-Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru yw Arwel Gruffydd (ganwyd Awst 1967).

Arwel Gruffydd
GanwydAwst 1967 Edit this on Wikidata
Tanygrisiau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, cyfarwyddwr theatr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

Cafodd ei eni yn Arwel Glyn Griffiths, a'i fagu yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog. Yn naw oed ymunodd â'r band pres, Seindorf Arian yr Oakeley, lle y canai'r cornet ac yna'r corn tenor. Parhaodd yn aelod o'r band hyd nes 1985. [1] Yn blentyn dysgodd hefyd i ganu'r piano a'r gitâr ac roedd yn ganwr dawnus, yn ennill gwobrau mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Roedd hefyd yn gystadleuydd brwd mewn cystadlaethau adrodd barddoniaeth a siarad cyhoeddus. Daeth yn ail i Syr Bryn Terfel ar yr unawd bariton o dan 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1987. Mynychodd Ysgol Gynradd Tanygrisiau ac Ysgol y Moelwyn (ysgol gyfun) cyn mynd ymlaen i Goleg Prifysgol Bangor i astudio Cymraeg fel prif bwnc a cherddoriaeth fel ail bwnc. Derbyniodd radd BA yn y Gymraeg yn 1988. Tra yn y Brifysgol roedd yn aelod o Gymdeithas y Ddrama Gymraeg a derbyniodd glod arbennig am chwarae'r prif ran yn un o gynyrchiadau'r gymdeithas, sef cyfieithiad Cymraeg o Woyzeck (gan Georg Büchner). Hefyd tra'n y coleg, chwaraeodd ran flaenllaw mewn pennod o'r ddrama deledu Deryn i S4C (Ffilmiau'r Nant), ei brofiad cyntaf o actio ar sgrin, a chwaraeodd y prif ran yn y ffilm Stormydd Awst gan Endaf Emlyn (Ffilmiau Gaucho) yn 1987 (ei brif ran gyntaf ar sgrin). Dyma'r ffilm nodwedd gyntaf yn yr iaith Gymraeg i'w saethu ar ffilm 35mm a'r gyntaf i'w chynhyrchu ar gyllideb o dros filiwn o bynnau. Derbyniodd ei hyfforddiant fel actor yng ngholeg drama Webber Douglas Academy of Dramatic Art, Llundain, gan raddio oddi yno yn 1989.

Gyrfa

Wedi graddio o Webber Douglas, aeth ymlaen i actio mewn dramâu llwyfan, gyda chwmniau theatr Cymreig proffesiynol, fel Cwmni Theatr Gwynedd, Hwyl a Fflag a Theatr Bara Caws a chwaraeodd rannau blaenllaw mewn ffilmiau, ac mewn dramâu teledu a radio. Ei rôl gyntaf ar lwyfan proffesiynol oedd Obadiah Simon y sioe gerdd Enoc Huws yn 1989, sef addasiad William R Lewis a Sioned Webb o nofel Daniel Owen ar gyfer Cwmni Theatr Gwynedd, dan gyfarwyddyd Graham Laker. Enillodd wobr BAFTA Cymru yn 2002 am chwarae'r rhan Capten Trefor yn y ddrama deledu Treflan i S4C, dan gyfarwyddyd Timothy Lyn. Yn ddiweddarach aeth ati i ysgrifennu a chyfarwyddo ei ffilmiau byrion ei hun. Yn 2002 enillodd Wobr D. M. Davies am un o'r ffilmiau hynny, sef Cyn Elo'r Haul, yng Ngwyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru, Caerdydd.[1]

Roedd yn Rheolwr Llenyddol gyda Sgript Cymru rhwng Mawrth 2006 a Mawrth 2008 ac yna daeth yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Sherman Cymru yng Nghaerdydd (Theatr y Sherman erbyn hyn) rhwng Mai 2008 ac Ebrill 2011, lle roedd yn gyfrifol am raglen Gymraeg y cwmni.[2]

Cafodd ei apwyntio yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2011, a dechreuodd ar y gwaith ar 3 Mai.[3] Ym mis Gorffennaf 2016 cyhoeddwyd bod ymddiriedolwyr Theatr Genedlaethol Cymru wedi ei ail-benodi am bum mlynedd arall[4], ac estynnwyd ei gytuned eto am flwyddyn ychwanegol (yn sgil pandemig Covid 19) yn 2020. Daeth ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru i ben ym mis Mai 2022.

Erbyn hyn mae'n gweithio fel actor a chyfarwyddwr llawrydd. Chwaraeodd ran Wyn Roberts yn y ffilm nodwedd, Y Swn yn 2022, a bydd yn ymddangos yn y cyfresi teledu Creisis (S4C/Boom Cymru) a Lost Boys and Fairies (BBC/Duck Soup Films) yn 2024.

Gwaith

Actio

Ffilmiau

Teledu

  • Ty Chwith (rhaglen i blant meithrin, 1990au, HTV ar gyfer S4C)
  • Troi a Throi (cyflwynydd rhaglen i blant iau, 1990au, HTV ar gyfer S4C)
  • Paradwys Ffwl (cyfres fer, 1993)
  • Caffi Sali Mali (Tomos Caradog, 1990au, Sianco ar gyfer S4C)
  • Chwedlau (storiwr, 1990au, Fiti-Tifi ar gyfer S4C)
  • Treflan (prif gymeriad - Capten Richard Trefor, 2002-2004)
  • Bob a'i Fam (prif cymeriad - Bob, 2002)

Cyfarwyddo

Dramâu llwyfan

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1  Dan Ganu: Holi Arwel Gruffydd. Barn (Mehefin 2011). Adalwyd ar 9 Awst 2016.
  2. (Saesneg) Proffil LinkedIn. Adalwyd ar 9 Awst 2016.
  3. Arwel Gruffydd yn gyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru , Golwg360, 1 Mawrth 2011. Cyrchwyd ar 9 Awst 2016.
  4.  Adeiladu ar Lwyddiannau Diweddar. Theatr Genedlaethol Cymru (27 Gorffennaf 2016). Adalwyd ar 9 Awst 2016.

Dolenni allanol