Baner Glyn Dŵr

(Ailgyfeiriad o Baner Glyndŵr)

Baner Glyn Dŵr yw'r enw a roddir i'r faner sy'n dangos yr arfau a fabwysiadodd Owain Glyn Dŵr yn ystod ei wrthryfel dros annibyniaeth i Gymru ar ddechrau'r 15g. Mae'n dangos pedwar llew ungoes (rampant), dau yn goch ar gefndir meylyn, a dau yn felyn ar gefndir goch.

Baner Glyn Dŵr
Enghraifft o'r canlynolbaner Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Glyn Dŵr
Arfbais neu darian Glyn Dŵr

Crêd rhai fod yr arfau hyn yn gyfuniad o arfau Teyrnas Powys, y gallai Owain hawlio bod yn etifedd iddi trwy ei dad, a Deheubarth, y gallai hawlio bod yn etifedd iddi trwy ei fam. Dywed R.R. Davies, fodd bynnag, mai mabwysiadu'r arfau a ddefnyddid gan Owain Lawgoch, etifedd olaf Teyrnas Gwynedd yn y llinach wrywaidd uniongyrchol, a wnaeth Glyn Dŵr. Roedd yr arfau hyn, a ddefnyddid gan Thomas ap Rhodri, tad Owain Lawgoch, hefyd, yn amrywiad o arfbais Gwynedd yng nghyfnod Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd, lle roedd ystum y llewod yn wahanol. Trwy fabwysiadu'r arfau hyn, roedd Glyn Dŵr yn hawlio bod yn olynydd llinach Aberffraw hefyd.

Baner Gwynedd

Yn ddiweddar mae Diwrnod Owain Glyn Dŵr wedi dod yn ddydd gŵyl answyddogol a ddethlir yng Nghymru ar 16 Medi, y dyddiad y cyhoeddwyd Glyn Dŵr yn Dywysog Cymru yn 1400. Cytunwyd i hedfan baner Glyn Dŵr ar furiau Castell Caerdydd ar 16 Medi 2006, mewn ymateb i bwysau gan y cyhoedd.[1] Yn 2008, gydag Alun Ffred Jones AC (Plaid Cymru) yn Weinidog Treftadaeth yn Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd Cadw eu bod am chwifio baner Glyn Dŵr ar gestyll Caernarfon, Caerffili, Conwy a Harlech.

Cario'r faner

golygu

Ellis ap Richard ap Howell ap Morgan Llwyd oedd cludwr baner (Saesneg: standard bearer) Glyn Dŵr. Bu farw ym Mrwydr Gallt Campston yn 1404.

Cyfeiriadau

golygu

Gweler hefyd

golygu