Benedict Anderson

Gwyddonydd gwleidyddol ac hanesydd o Wyddel oedd Benedict Richard O’Gorman Anderson (26 Awst 193613 Rhagfyr 2015) sy'n nodedig am ei waith ynghylch cenedlaetholdeb, yn enwedig ei lyfr Imagined Communities (1983).

Benedict Anderson
GanwydBenedict Richard O'Gorman Anderson Edit this on Wikidata
26 Awst 1936 Edit this on Wikidata
Kunming Edit this on Wikidata
Bu farw13 Rhagfyr 2015 Edit this on Wikidata
Batu City Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • George McTurnan Kahin Edit this on Wikidata
Galwedigaethacademydd, gwyddonydd gwleidyddol, ysgrifennwr, anthropolegydd, athronydd, hanesydd Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amImagined Communities, Under Three Flags: Anarchism and the Anti-Colonial Imagination Edit this on Wikidata
TadJames Carew O'Gorman Anderson Edit this on Wikidata
MamVeronica Beatrice Bigham Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Fukuoka Diwylliant Asiaidd, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Albert O. Hirschman Prize Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Benedict Richard O'Gorman Anderson yn Kunming, Yunnan, yng Ngweriniaeth Tsieina, ar 26 Awst 1936. Roedd ei dad, James Carew O’Gorman Anderson,[1] yn gweithio'n gomisiynydd i Wasanaeth Toll Morwrol Tsieina ac yn disgyn o deuluoedd Albanaidd (Anderson) a Gwyddelig (O'Gorman). Daw enwau canol Benedict o Richard O'Gorman, un o'i hynafiaid a fu'n brwydro yng ngwrthryfel y mudiad Éire Óg/Young Ireland yn 1848. Saesnes o'r enw Veronica, Bingham gynt, oedd ei fam.[2]

Symudodd y teulu i Galiffornia yn 1941 i ddianc rhag goresgyniadau'r Japaneaid yn Tsieina, a mynychodd Benedict yr ysgol yn yr Unol Daleithiau am gyfnod. Ymfudodd y teulu i famwlad James Anderson, Iwerddon, yn 1945.[1] Yn ystod ei fachgendod dechreuodd dysgu ieithoedd, gorchwyl a difyrrwch a arferid ganddo am weddill ei oes: dysgodd Ladin yn 9 oed, Groeg yn 12 oed, a Ffrangeg, Rwseg, Almaeneg, a Sbaeneg yn ystod ei arddegau.[3]

Danfonwyd Benedict i Loegr yn 11 oed i dderbyn ei addysg yng Ngholeg Eton. Astudiodd y clasuron yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt, a derbyniodd ei radd baglor ddosbarth cyntaf yn 1957. Dychwelodd i'r Unol Daleithiau i astudio llywodraeth ym Mhrifysgol Cornell, ac enillodd ei ddoethuriaeth yno yn 1967. Pwnc ei draethawd ymchwil oedd gwleidyddiaeth Indonesia, maes a fu Anderson yn arbenigo ynddo am weddill ei yrfa.[4]

Gyrfa academaidd golygu

Addysgodd Anderson yng nghyfadran llywodraeth Prifysgol Cornell am 37 mlynedd, ers ei ddyddiau'n fyfyriwr ôl-raddedig yn 1965 hyd at ei ymddeoliad yn 2002. Yn 1988 cafodd ei benodi'n Athro Emeritws Astudiaethau Rhyngwladol, Llywodraeth, ac Astudiaethau Asia, swydd a enwir er anrhydedd Aaron L. Binenkorb.[4] Er i ysgolheigion gwleidyddol eraill yn yr Unol Daleithiau ganolbwyntio ar ddulliau gwyddonol a pholisi cyhoeddus, aeth Anderson ati i ymdrin â gwleidyddiaeth a llywodraeth o safbwynt hanesyddol-ddiwylliannol, a chafodd ran yn y dadleuon academaidd ynghylch damcaniaeth gymdeithasol.

Roedd gwaith doethurol Anderson yn sail i'w ddiddordebau ysgolheigaidd. Dysgodd Indoneseg, Iseldireg, a rhywfaint o Japaneg i ymchwilio i hanes trefedigaethol Indonesia. Treuliodd y cyfnod 1961–64 yn cyflawni gwaith maes yn Indonesia, yn ymchwilio i'r chwyldro yn erbyn yr Iseldirwyr (1945–49) ac yn dysgu am ddiwylliant traddodiadol Jawa a'r iaith Jafaneg.[2] Yn 1966 sefydlodd Anderson y cyfnodolyn Indonesia i gyhoeddi astudiaethau am y wlad honno, a bu'n olygydd yr hwnnw nes 1984.[4] Addasodd ei thesis ar gyfer y llyfr Java in a Time of Revolution: Occupation and Resistance, 1944-1946 (1972), gwaith hynod o bwysig yn hanes gwleidyddol Indonesia ac yn hanesyddiaeth chwyldroadau cenedlaethol.[2] Ymhlith ei weithiau eraill am gymdeithas Jawa mae Mythology and the Tolerance of the Javanese (1965) a The Idea of Power in Javanese Culture (1972).

Pan oedd Anderson yn gweithio ar ei ddoethuriaeth, cydweithiodd gyda Ruth McVey, academydd yn y gyfadran lywodraeth, i ysgrifennu adroddiad am y coup yn Indonesia yn 1965 a'r lladdfeydd torfol a ddilynodd. Cafodd yr adroddiad hwnnw, "Papur Cornell" fel y'i gelwir, ei rannu rhwng ysgolheigion a'i ddangos i The Washington Post yn 1966.[3] Cyhoeddwyd yr adroddiad yn swyddogol yn 1971. O ganlyniad, cafodd Anderson ei wahardd rhag Indonesia o 1972 nes cwymp Suharto yn 1998.[1] Trodd Anderson ei sylw at wledydd eraill yn Ne Ddwyrain Asia, a dysgodd Thai a Thagalog er mwyn ymchwilio i hanes Gwlad Thai a'r Philipinau.[2] Ysgrifennodd sawl llyfr am y cydberthnasau rhwng cenedlaetholdeb, gwleidyddiaeth grym, trais, iaith, credoau, a syniadau.

Ei ysgolheictod ar bwnc cenedlaetholdeb golygu

Llyfr mwyaf ddylanwadol Anderson yw Imagined Communities: Reflections on the Origin and Spread of Nationalism a gyhoeddwyd gyntaf yn 1983. Dadleuodd bod y wasg argraffu a'r oes lythrennog wedi creu llenyddiaethau poblogaidd sydd yn safoni gwahanol dafodieithoedd y werin yn ieithoedd cenedlaethol cyffredin, a thrwy hynny yn ffurfio ymdeimladau o gymunedau ar raddfa fawr – sef cenhedloedd. Cyflymodd y broses hon yn sgil twf y gyfundrefn gyfalafol sy'n galluogi cyhoeddi torfol, er enghraifft papurau newydd, a anelir at gynulleidfaoedd cenedlaethol ac sy'n cynhyrchu disgwrs unigryw. Ystyr ei enw ar genhedloedd, "cymunedau dychmygedig", ydy'r ffaith na fyddai'r unigolyn yn gallu cyfarfod ac adnabod pob un aelod arall o'i genedl; er gwaethaf, mae'n ystyried ei hunan yn debyg i bawb arall sy'n rhannu ei genedligrwydd.

Roedd Anderson yn un o nifer o leisiau yn astudiaethau cenedlaetholdeb yn y 1970au a'r 1980au, ac yn wahanol i ysgolheigion eraill fe ddadleuodd bod datblygiad y genedl-wladwriaeth fodern yn Ewrop yn ymateb i dwf ymwybyddiaeth genedlaetholgar yn yr Amerig yn niwedd y 18g, ac felly chwyldroadwyr America Ladin a'r Unol Daleithiau oedd y cenedlaetholwyr cyntaf, nid yr Ewropeaid yn y 19g. Dylanwadodd gwaith Anderson yn gryf ar syniadaeth wleidyddol a diwylliannol ynglŷn â chenhedloedd, ac ystyrir Imagined Communities yn un o'r llyfrau pwysicaf ar bwnc cenedlaetholdeb. Cafodd y gwaith ei feirniadu gan ambell ddamcaniaethwr ôl-drefedigaethol, er enghraifft Partha Chatterjee a fynnai taw dyfais ideolegol a gynhyrchwyd gan ymerodraethau Ewropeaidd oedd cenedlaetholdeb a orfodwyd ar wledydd a orchfygwyd.[4]

Bywyd personol golygu

O ran cenedligrwydd ei hunan, etifeddodd Anderson ddinasyddiaeth Wyddelig drwy ei dad, ac er iddo dreulio cyfnod hir o'i ieuenctid yn Lloegr, yn derbyn addysg fonedd Seisnig, "roedd yn anodd [iddo] ddychmygu ei hun yn Sais".[2] Roedd ganddo frawd, yr ysgrifwr ac hanesydd Marcsaidd Perry Anderson (g. 1938), a chwaer, yr anthropolegydd Melanie Anderson. Mabwysiadodd ddau fab o Indonesia, Yudi a Beni.[3]

Wedi iddo ymddeol, symudodd Anderson i Bangkok yng Ngwlad Thai. Bu farw ar 13 Rhagfyr 2015 mewn gwesty yn Batu ar ynys Dwyrain Jawa, Indonesia, yn 79 oed, o fethiant y galon.

Llyfryddiaeth golygu

  • Some Aspects of Indonesian Politics under the Japanese Occupation, 1944–1945 (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1961).
  • Mythology and the Tolerance of the Javanese (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1965).
  • A preliminary analysis of the October 1, 1965, coup in Indonesia (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1971). Gyda Ruth McVey.
  • The Idea of Power in Javanese Culture (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1972).
  • Java in a Time of Revolution: Occupation and Resistance, 1944–1946 (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1972).
  • Notes on Indonesian Political Communication (Cambridge, Massachusetts: Center for International Studies, Massachusetts Institute of Technology, 1974).
  • A Time of Darkness and a Time of Light: Transposition in Early Indonesian Nationalist Thought (Dinas Mecsico: Congress of Human Sciences, 1976).
  • Interpreting Indonesian Politics: Thirteen Contributions to the Debate (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1982). Gydag Audrey Kahin.
  • Imagined Communities: Reflections on the Origin and Spread of Nationalism (Llundain: Verso, 1983).
  • Language and Power: Exploring Political Cultures in Indonesia (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1990).
  • Long-distance Nationalism: World Capitalism and the Rise of Identity Politics (Amsterdam: Centre for Asian Studies, 1992).
  • The Spectre of Comparisons: Nationalism, Southeast Asia, and the World (Llundain: Verso, 1998).
  • Violence and the State in Suharto's Indonesia (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 2001).
  • Under Three Flags: Anarchism and the Anti-Colonial Imagination (Llundain: Verso, 2005).
  • The Fate of Rural Hell: Ascetism and Desire in Buddhist Thailand (Kolkata: Seagull Books, 2012).
  • Exploration and Irony in Studies of Siam over Forty Years (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 2014).
  • A Life Beyond Boundaries: A Memoir (Llundain: Verso, 2016). Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Japaneg.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Expert on southeast Asia and theorist of rise of nationalism", The Irish Times (19 Rhagfyr 2015). Adalwyd ar 1 Medi 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 (Saesneg) Anthony Reid, "Benedict Anderson obituary", The Guardian (1 Ionawr 2016). Adalwyd ar 31 Awst 2019.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Blaine Friedlander, "Benedict Anderson, who wrote ‘Imagined Communities,' dies", Cornell Chronicle (15 Rhagfyr 2015). Adalwyd ar 1 Medi 2019.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 (Saesneg) Benedict Anderson. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Awst 2019.

Darllen pellach golygu

  • Alistair McCleery a Benjamin A. Brabon, The Influence of Benedict Anderson (Caeredin: Merchiston Publishing, 2007).
  • Pheng Cheah a Jonathan D. Culler, Grounds of Comparison: Around the Work of Benedict Anderson (Efrog Newydd: Routledge, 2003).