Y Bers

(Ailgyfeiriad o Bersham)

Pentref yng nghymuned Esclusham, bwrdeisdref sirol Wrecsam, Cymru, yw Bers[1] neu Y Bers (Saesneg: Bersham).[2] Saif gerllaw Afon Clywedog, ychydig oddi ar y briffordd A483, i'r gogledd-orllewin o bentref Rhostyllen.

Y Bers
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0357°N 3.0349°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ306491 Edit this on Wikidata
Cod postLL14 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruKen Skates (Llafur)
AS/au y DUAndrew Ranger (Llafur)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[3][4]

Mae'r Bers o bwysigrwydd mawr yn hanes y Chwyldro Diwydiannol, yn enwedig diwydiant haearn Cymru. Yma yr oedd gweithdai y Brodyr Davies, yma y dechreuodd cynhyrchu haearn modern am y tro cyntaf ym Mhrydain yn 1670 a lle y sefydlodd John Wilkinson ei weithdy yn 1761. Am gyfnod hir, roedd yr ardal yn un o'r canolfannau cynhyrchu haearn pwysicaf yn y byd. Mae Gwaith Haearn y Bers yn awr yn amgueddfa sy'n adrodd yr hanes. Roedd Pwll Glo Glanyrafon (Saesneg: Bersham Colliery) ym mhentref cyfagos Rhostyllen.

Gerllaw'r pentref mae Coed Plas Power, 33.7ha o goedwig ar hyd Afon Clywedog rhwng Coedpoeth a'r Bers. Ceir rhan o Glawdd Offa yn y coed yma.

Saif tomen mwnt a beili o'r enw Castell Cadwgan‎ nepell o'r pentref.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 16 Tachwedd 2021
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014