Ceiniog Mynydd Parys

Arian cyfred cyfreithlon oedd Ceiniogau Mynydd Parys. Defnyddid yn ystod y Chwyldro Diwylliannol yn Amlwch, Ynys Môn, yn yr 18g.

Ceiniog Mynydd Parys
Enghraifft o'r canlynoldarn arian tocyn Edit this on Wikidata
Enghraifft o geiniog Mynydd Parys
Ceiniog Parys a llun o'r Derwydd arni (chwith)

Gwerth ceiniog a dimai o 1789 heddiw fyddai tua 50 ceiniog a byddai swllt (12 ceiniog) o’r un flwyddyn werth tua £3.00. Aiff neb yn bell ar yr un o’r ddwy swm ond yn 1789 yr oedd bod a swllt yn eich poced yn eich gwneud yn gyfoethog ond tua diwedd y 18g (oes aur gwaith copr Mynydd Parys) yr oedd prinder o ddarnau arian cyfreithlon yn y wlad. Dedfrydwyd y gosb eithaf am ffugio darnau arian ond caniatawyd cynhyrchu tocyn (token). Manteisiodd Thomas Williams ar hyn a throi at gynhyrchu ceiniogau a dimeiau ar gyfer ei weithwyr i’w defnyddio yn lle darnau arian o’r Bathdy Brenhinol.

Ymddangosodd y "Ceiniogau Mynydd Parys" cyntaf yn 1787 a’r rheini wedi eu gwneud o gopr o’r mynydd ei hun.[1] Cysidrir darnau pres Mynydd Parys ymysg goreuon y 18g. Hwy oedd y rhai cyntaf i’w bathu; yr oeddynt o safon uchel a’r ceiniogau yn pwyso owns ac yn cynnwys eu gwerth o gopr. Caniatawyd eu newid yn unrhyw un o siopau neu swyddfeydd y cwmni ac yn ôl y geiriad arnynt yn unrhyw le ym Môn, Lerpwl a Llundain.[2]

Sefydlodd Williams ddau fathdy ar gyfer cynhyrchu’r darnau – un yn Nhreffynnon, Fflint a’r llall ym Mirmingham. Gwnaed ceiniogau 1787 yn Nhreffynnon a rhai 1788 ym Mirmingham. Cynlluniwyd y darnau gan John Gregory Hancock, yr Hynaf. Er i’w waith fod yn fanwl ac o safon uchel, bychanwyd Hancock gan y wasg. Yn 1792, ymddangosodd pennill dychanol amdano yn y Gentleman’s Magazine:

The artist paused awhile in great suspence
To make a penny of some consequence,
And having Stukeley or old Dugdale read,
Stamp’d the pittance with a Druid’s head;
To make his own resemblance next he tried,
And struck a cypher on the counterside.[3]

Ceiniogau ffug

golygu

Yn 1788, cynhyrchwyd y dimeiau cyntaf. Yn anffodus, mater cymharol hawdd oedd eu ffugio. Dim ond ceiniogau wedi eu cynhyrchu yn 1787 – 1791 a dimeiau o 1788 i 1791 sydd yn ddilys. Ar flaen y darnau mae darlun o dderwydd mewn plethdorch o ddail derw ac ar y cefn mae prif lythrennau enw’r cwmni ac addewid y gellid eu defnyddio i dalu am nwyddau. O’u hamgylch, enwir Môn, Lerpwl a Llundain fel llefydd lle gellid cyfnewid y tocyn am ddarnau arian go iawn.[4]

Cynhyrchwyd dros dri chan tunnell o’r tocynnau – 250 tunnell neu 8,960,000 o geiniogau a 50 tunnell neu 3,584,000 o ddimeiau. Buont mewn defnydd cyfreithlon hyd at 1818. "Lle mae, yr aiff." Meddai yr hen ddywediad Cymreig ac yn sicr yr oedd hynny yn wir yn hanes Thomas Williams. Roedd yn ddigon cefnog nid yn unig i allu cynhyrchu darnau arian ar gyfer ei gwmni ei hun ond, hefyd, sefydlodd fanc – y “Chester and North Wales Bank” yn 1792 yng Nghaer, Caernarfon a Bangor. Sefydlwyd partneriaeth rhwng Thomas Williams a’r Parchedig Edward Hughes. Ymunodd H. R. Hughes – mab y Parchedig â’r banc hefyd. Yn 1797, bu cryn redeg ar y banc ond er mwyn osgoi trafferthion ariannol, caewyd ei drws ac ni ail-agorodd hyd nes fod y sefyllfa wedi gwella. Wedi marw’r sefydlwyr, bu gwahanol aelodau o’r ddau deulu ac ambell bartner newydd yn gyfrifol am reolaeth y busnes nes iddo gael ei gymryd drosodd gan gwmni’r Ceffyl Du – Lloyds.

Llyfryddiaeth

golygu
  • D. A. Pretty, Anglesey: The Concise History (Gwasg Prifysgol Cymru, 2005)
  • P.Steele a R. Williams, Y Deyrnas Gopr (Llyfrau Magma, 2010)

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. J. R. Williams, Mynydd Parys (Gwasg Carreg Gwalch, 2011)
  2. J. R. Harris, The Copper King (Landmark Publishing, 2003)
  3. Gentleman's Magazine, 1792
  4. J. Rowlands, "Copper Mountain", CHaNM (1981)