Croateg
Iaith a siaredir yng Nghroatia a rhai gwledydd cyfagos yw Croateg. Mae'n iaith swyddogol yn Croatia, a cheir nifer sylweddol yn ei siarad yn Bosnia-Hertsegofina hefyd, gyda chyfanswm o 6.2 miliwn trwy'r byd yn ei siarad fel mamiaith.
Enghraifft o'r canlynol | amrywiolyn iaith, standard variety, iaith fyw |
---|---|
Math | Eastern Herzegovinian |
Enw brodorol | hrvatski jezik |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | hr |
cod ISO 639-2 | hrv |
cod ISO 639-3 | hrv |
Gwladwriaeth | Croatia, Bosnia a Hertsegofina, Serbia, Montenegro, Awstria, Hwngari, yr Eidal, Rwmania, Slofacia, Slofenia, Tsiecia |
System ysgrifennu | Gaj's Latin alphabet |
Corff rheoleiddio | Institute of Croatian Language |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Croateg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafoneg a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Serbeg a Bosneg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel iaith, ac mae llawer o ieithyddion yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosnieg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosnieg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.
Mae Croateg yn iaith swyddogol Croatia ac yn Bosnia-Hertsegofina, Burgenland (Awstria), a Molise (Yr Eidal)
Tafodieithoedd
golyguMae tair prif tafodiaith i'r Groateg, sy'n cael eu hadnabod yn ôl y gair ar gyfer y cwestiwn beth? - sef što, ča, neu kaj:
- Štokavski ("što-eg"), a siaradir yn hanner Croatia - yn Slafonia, Zagora, ac ardal Dubrovnik, yn ogystal ag yng nghanolbarth Bosnia a Hertsegofina. Dyma'r dafodiaith sy'n sail i'r iaith Croateg safonol, ac yn sail ar gyfer Bosnieg, Serbeg a Montenegreg safonol hefyd.
- Čakavski ("čak-eg"), a siaradir yn Istria, ardal Lika, ar ran fwyaf o ynysoedd Môr Adria, ar yr arfordir i'r gogledd o Dubrovnik, ac ar y tir mawr yn nyffryn Gacka a'r cyffiniau. Y dafodiaith "Čak-eg" hon oedd iaith Teyrnas Croatia rhwng y 12fed ganrif a'r 16eg ganrif
- Kakajkavski ("kaj-eg"), a siaradir yng ngogledd-orllewin a chanol-orllewin y wlad (yn rhanbarthau Zagorje, Prigorje, Turopolje, Gorski Kotar, Međimurje, Podravina, Žumberak, Banija, Moslavina) ac yn ardal Zagreb. Y "Kaj-eg" hon oedd y dafodiaith uchaf ei statws rhwng yr 16eg ganrif a'r 19eg ganrif. "Kaj" yw'r gair ar gyfer beth? yn Slofeneg hefyd - mae tafodieithoedd Slafig De-Ddwyrain Ewrop yn ffurfio continwwm tafodieithoedd, gyda thafodieithoedd dwyrain Slofenia yn agos at rai gorllewin Croatia.
Yr wyddor Croateg
golygu-
(a)
-
(be)
-
(ce)
-
(če)
-
(će)
-
(de)
-
(dže)
-
(đe)
-
(e)
-
(ef)
-
(ge)
-
(ha)
-
(i)
-
(je)
-
(ka)
-
(el)
-
(elj)
-
(em)
-
(en)
-
(enj)
-
(o)
-
(pe)
-
(er)
-
(es)
-
(eš)
-
(te)
-
(u)
-
(ve)
-
(ze)
-
(že)
Tabl Cymhariaeth
golyguCymraeg | Croateg | Serbeg |
---|---|---|
Cymharu | Usporedba | Поређење (Poređenje) |
Ewrop | Europa | Европа (Evropa) |
Yr Iseldiroedd | Nizozemska | Холандија (Holandija) |
Eidalwyr | Talijani | Италијани (Italijani) |
Bydysawd | Svemir | Васиона (Vasiona) |
Asgwrn cefn | Kralježnica | Кичма (Kičma) |
Aer | Zrak | Ваздух (Vazduh) |
Addysg | Odgoj | Васпитање (Vaspitanje) |
Wythnos | Tjedan | Седмица (Sedmica) |
Hanes | Povijest | Историја (Istorija) |
Pantaloons | Hlače | Панталоне (Pantalone) |
Bol | Trbuh | Стомак (Stomak) |
Gwyddoniaeth | Znanost | Наука (Nauka) |
Yn bersonol | Osobno | Лично (Lično) |
Persona | Osoba | Лице (Lice) |
Cenhedloedd Unedig | Ujedinjeni Narodi | Уједињене Нације (Ujedinjene Nacije) |
Bara | Kruh | Хлеб (Hleb) |
Artiffisial | Umjetno | Вештачки (Veštački) |
Croes | Križ | Крст (Krst) |
Democratiaeth | Demokracija | Демократија (Demokratija) |
Detection | Spoznaja | Сазнање (Saznanje) |
Ynys | Otok | Острво (Ostrvo) |
Swyddog | Časnik | Официр (Oficir) |
Traffig (ar y ffyrdd) | Cestovni promet | Друмски саобраћај (Drumski saobraćaj) |
Traffordd | Autocesta | Аутопут (Autoput) |
Hyd | Duljina | Дужина (Dužina) |
Cymdeithas | Udruga | Удружење (Udruženje) |
Ffatri | Tvornica | Фабрика (Fabrika) |
Cyffredinol | Opće | Опште (Opšte) |
Crist | Krist | Христoс (Hristos) |
Geirfa syml
golyguCymhariaeth rhifau | |
Cymraeg | Croateg |
---|---|
un | jedan |
dau | dva |
tri | tri |
pedwar | četiri |
pump | pet |
chwech | šest |
saith | sedam |
wyth | osam |
naw | devet |
deg | deset |
Cymhariaeth y misoedd | |
Croateg | Cymraeg |
---|---|
Siječanj | Ionawr |
Veljača | Chwefror |
Ožujak | Mawrth |
Travanj | Ebrill |
Svibanj | Mai |
Lipanj | Mehefin |
Srpanj | Gorffennaf |
Kolovoz | Awst |
Rujan | Medi |
Listopad | Hydref |
Studeni | Tachwedd |
Prosinac | Rhagfyr |
Cyffredin | |
Croateg | Cymraeg |
---|---|
Da/Ne | Ie/Na |
Dobro Jutro | Bore da |
Dobar Dan | P'nawn da |
Laku Noć | Nos da |
Govorite li Velški? | Ydych chi'n siarad Cymraeg? |
Ja malo govorim hrvatski jezik. | Dw i ddim yn siarad llawer o Groateg. |
Dva piva | dau lager |
Molim | plis |
Hvala | diolch |
Oče naš, koji jesi na nebesima,
sveti se ime Tvoje.
Dođi kraljevstvo Tvoje,
budi volja Tvoja,
kako na Nebu, tako i na Zemlji.
Kruh naš svagdašnji daj nam danas,
i otpusti nam duge naše,
kako i mi otpuštamo dužnicima našim.
I ne uvedi nas u napast,
nego izbavi nas od zla.