Agor y brif ddewislen

Croesoswallt

Tref yn Swydd Amwythig, Lloegr
(Ailgyfeiriad oddi wrth Croes-oswallt)

Tref yn Sir Amwythig, Gorllewin Lloegr yw Croesoswallt (Saesneg: Oswestry). Mae gan Groesoswallt gyngor dosbarth, y lleiaf yn Sir Amwythig. Lleolir Ysgol Croesoswallt yn y dref.

Croesoswallt
OswestryMarket.jpg
Math tref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Awdurdod Unedol Swydd Amwythig
Poblogaeth 15,613 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Swydd Amwythig
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 52.8598°N 3.0538°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E04012254 Edit this on Wikidata
Cod OS SJ292293 Edit this on Wikidata
Cod post SY10, SY11 Edit this on Wikidata

Bu'n dref Gymreig ers canrifoedd, yn wir dywed Gwefan Twristiaeth ardal Amwythig a Chroesoswallt: "Today the influence of Wales is still felt and you'll hear a blend of languages as you browse around." Arferid cyhoeddi papur wythnosol Y Cymro yno tan yn ddiweddar.

HanesGolygu

Roedd Croesoswallt mewn bodolaeth mor bell yn ôl a 1086, pan gofnodwyd yn Llyfr Domesday i'r siryf Rainald adeiladu castell yng nghantref Mersete. Er bod Croesoswallt yn sefyll i'r dwyrain o Glawdd Offa, daeth nifer o Gymry i fyw yn y dref yn y 11eg a'r 12eg ganrif. Ymwelwyd â'r dref gan Gerallt Gymro ar ei daith trwy Gymru yn 1188. Derbyniodd Croesoswallt ei siarter gyntaf yn 1189-90, yr hon a elwir 'Y Siarter Gwtta' achos ei hyd; cyfeirir ati fel 'Blancminster' yn y ddogfen. Bwriad y ddogfen oedd cryfhau statws Croesoswallt fel tref farchnad.

Roedd Croesoswallt yn debyg i Berwick-upon-Tweed, yn dref ar ffin Lloegr a newidiodd ddwylo ar achlysuron di-ri yn ystod yr Oesoedd Canol. Pan oedd awdurdod y tywysogion Cymreig ar ei anterth, cipiwyd y dref gan y Cymry, ond ar y cyfan, doedden nhw ddim yn medru cadw'r dref am gyfnod hir cyn i'r brenin Seisnig ei ail-gipio. Enghraifft o hyn yw camp Madog ap Maredudd yn 1149, pan gipiodd y dref a dechrau adeiladu castell yno; roedd y dref yn rhan o Bowys tan o leiaf 1157, ond wedyn, pasiwyd y dref i'r arglwydd William Fitzalan gyda bendith Harri II. Cipiodd Llywelyn Fawr, Dafydd ap Gruffudd, ac Owain Glyndŵr y dref yn 1233, 1282, ac (ar fwy nac un achlysur) yn y 1400au cynnar yn eu tro. Fe'i llosgwyd gan Glyndŵr ar gymaint o achlysuron nes i'r dref dderbyn y ffugenw 'Pentrepoeth'.

Daeth Croesoswallt yn rhan o Loegr yn unol â'r Ddeddf Uno ym 1536.

EnwogionGolygu

CyfeiriadauGolygu

John Pryce-Jones, Historic Oswestry (Shropshire Libraries, 1982); John Pryce-Jones, Oswestry: Parish, Church and People (Gwasg Llanforda, 2005).

Gweler hefydGolygu