Y Ddraenen

cymuned yng Nghaerdydd

Cymuned yng Nghaerdydd yw Y Ddraenen[1] neu Draenen Pen-y-graig (Saesneg: Thornhill).[2] Mae'n gorwedd ar gyrion gogleddol y ddinas ar y ffordd i Gaerffili.

Y Ddraenen
Mathcymuned, maestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5386°N 3.1911°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001006 Edit this on Wikidata
Cod OSST17478283 Edit this on Wikidata
Map

Tai sydd yn yr ardal yn bennaf, a'r rhan fwyaf yn dyddio o'r 1980au neu'n ddiweddarach. Mae hefyd sawl tafarn ac archfarchnad Sainsbury's.

Ychydig iawn o safleoedd hanesyddol sydd yn y gymuned. Mae gweddillion castell ar y ffin gyda Chaerffili, sef Castell Morgraig.

Lleolir Draenen Pen-y-graig yn ward Llanisien Cyngor Dinas Caerdydd.

Addysg golygu

Dim ond Ysgol Gynradd y Ddraenen sydd wedi ei lleoli yn yr ardal ei hun. Darperir addysg gynradd Gymraeg gan Ysgol y Wern yn Llanisien.

Bydd plant o'r ardal naill ai yn mynychu ysgol gyfrwng Saesneg, Ysgol Uwchradd Llanisien, neu Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn Ystum Taf.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 27 Tachwedd 2021
Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato