Cynhyrchiad cyntaf Theatr Bara Caws oedd Croeso i'r Roial a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977. "Rifiw ddychanol" oedd hi fel gwrthgyferbyniad i ddathliadau Jiwbilî Arian Elizabeth II.[1] "Roedd hi'n sioe hwyliog ac anarchaidd ond yn un hynod amserol hefyd - mor amserol efallai, fel na fyddai ond yn gweithio yn y cyfnod penodol hwnnw."[1]

Croeso i'r Roial
Dyddiad cynharaf1977
AwdurTheatr Bara Caws
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncDramâu Cymraeg
Genrerifiw

Disgrifiad byr

golygu

"Rifíw ddychanol oedd hi, yn portreadu criw o weithwyr yn ffatri ddychmygol Terodo wrth iddynt baratoi at ymweliad y Frenhines. Sioe wrth-frenhiniaeth a gwrth-jiwbili yn unol â gogwydd gwrth-sefydliadol creiddiol y cwmni. Yn ôl Iola Gregory, roedd yn fodd o danseilio syniadaeth asgell dde'r llywodraeth Brydeinig ar y pryd. Roedd elfen hefyd, yn ôl Sharon Morgan, o bortreadu'r taeogrwydd oedd yn rhemp bryd hynny, a dychan y sefydliad Prydeinig i'r pen."[1]

Cefndir

golygu

"Roedd Byw yn y Wlad yn gynhyrchiad gwahanol gyda stamp newydd arno fo", yn ôl y gyfrol Theatr Bara Caws : Dathlu'r Deugain, "ond pan aeth y criw ati i greu sioe gyntaf Cwmni Bara Caws, Croeso i'r Roial, doedd neb i'w dal nhw'n ôl rhag mynd amdani go iawn."[1]

Actorion ifanc o Theatr Antur, dan fantell Cwmni Theatr Cymru, oedd "y criw" y sonir amdanyt uchod. Criw oedd wedi bod yn rhan o'r cynhyrchiad Byw yn y Wlad gyda Cwmni Theatr Cymru. Wedi anghydfod ac anghytuno am weledigaeth dyfodol Cwmni Theatr Cymru, penderfynodd deg ohonynt i sefydlu cwmni newydd eu hunain, a dyna sut y daeth Cwmni [neu Theatr] Bara Caws i fodolaeth.[1]

Ym 1977, roedd yna ddathliadau mawr drwy'r wlad i gofnodi Jiwbilî Arian Elizabeth II. Penderfynodd criw ifanc Bara Caws i drefnu "dathliad eu hunain".[1] "Heb geiniog o grant, na fawr ddim arall chwaith, bwriodd deg ati i greu sioe i'w pherfformio yn Steddfod Wrecsam 1977 - a hynny ar eu cost eu hunain," noda'r gyfrol.[1]

Y criw oedd yr actorion ac ysgrifennwyr Valmai Jones, Iola Gregory, Sharon Morgan, Dyfan Roberts, Mari Gwilym, Dyfed Thomas a Stewart Jones ac yna Catrin Edwards, Bethan Miles a Dafydd Pierce yn y band.

"£10 odd y byjet, yn ôl Valmai Jones, ac aeth Sharon Morgan ati i wario'r pres hwnnw ar wlân, a gwau sgarff yn lliwiau'r Iwnion Jac. Aeth y sgarff honno ddim yn wast, gan i Catrin Edwards gymryd ffansi ati hi a'i gwisgo with gyfeilio i bob perfformiad."

Cafwyd gofod i berfformio yn Theatr Clwyd yn gyntaf, a hynny yn ystod wythnos yr Eisteddfod, cyn sicrhau nosweithiau ychwanegol yn Nghlwb Pêl-droed Wrecsam a Neuadd Gymdeithasol y Rhos.

"Ysgrifennu ar y cyd a chymryd tro bob un i gyfarwyddo oedd y drefn, a bachu ar y cyfle i gael pawb at ei gilydd rhwng ymarferion at sioeau eraill [...] Yn ôl Catrin Edwards, roedd rhyw deimlad 'munud olaf' i Croeso ir Roial, er nad oedd y gynulleidfa fawr callach o hynny erbyn y noson gyntaf [...] Nid y set, y propiau na'r gwisgoedd oedd yn bwysig ond y cynnwys a'r weithred o gynhyrchu'r sioe."[1]

Cymeriadau

golygu
  • Y Frenhines Elizabeth II [Mrs Windsor]
  • Gweithwyr y ffactri
  • Rheolwr y ffactri
  • William Caradog - Gofalwr y tŷ bach
  • Hywel Ffiaidd - pync
  • Blodwen Chwd - pync
  • Rhannau amrywiol eraill

"Cymeriadau na welwyd eu tebyg ar lwyfannau Cymraeg o'r blaen."[1]

Y sioe hon roddodd fodolaeth i'r cymeriad unigryw ac eiconig Doctor Hywel Ffiaidd.[1]

"O safbwynt y [pyncs oedd yn] poeri, mae Catrin Edwards a Sharon [Morgan] yn cofio i'r criw ddefnyddio hynny i greu mymryn o gyhoeddusrwydd i'r sioe. Torrodd y criw o byncs ar draws set gerddorol ar lwyfan y brifwyl [...] Tarfwyd ar noson yng nghwmni Trefor Selway a'r grŵp Shwn, a Iwyddodd i gymryd arnynt nad oedden nhw wedi disgwyl y fath beth. Canwyd y gân a phoerwyd gydag arddeliad. Creodd y ddelwedd byncaidd drafferth i rai, yn ôl Catrin. Roedd gan y rhan fwyaf o'r cast syniad reit dda o beth oedd pync, ac roedden nhw'n cribo'u gwalltiau am yn ôl ac yn rhoi digonedd o eyeliner ac yn y blaen. Ond roedd pync Dyfan Roberts yn un na welwyd ei fath yng Nghymru, nac yn unman arall chwaith [...] Rhyw ddehongliad rhyfedd o bync oedd y wisg honno: siaced o groen dafad heb freichiau arni a theits rhwyd sgota du [...] Anodd iawn, os nad amhosib [...] oedd peidio chwerthin wrth weld y wisg led-ddeurywiol honno am y tro cyntaf."[1]

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y sioe am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977. Cyfarwyddwr cerdd : Catrin Edwards; band: Bethan Miles, Dafydd Pierce; cast:

 
Record Mae o'n brifo 'nghlust i Theatr Bara Caws 1981

"Roedd y cwmni wedi taro ar y nodyn iawn, a'r gynulleidfa Gymraeg yn amlwg yn dyheu am adloniant dychanol, amharchus - a Chymreig [...] Wedi iddynt berfformio i gynulleidfa o 60 y noson gyntaf honno yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam (pan oedd pawb yn hynod nerfus ac ar bigau'r drain, yn ôl Catrin), roedd gweld y 400 o bobol ddaeth i Ystafell Clwyd drannoeth i fwynhau'r peintiau a'r arlwy yn dipyn o sioc. Roedd yr awyrgylch yno'n drydanol hyd yn oed cyn i'r band, Catrin Edwards, Bethan Miles a Dafydd Pierce, ddechrau chwarae'r gân agoriadol."[1]

"Roedd dau begwn y theatr Gymraeg yn cael eu cynrychioli yn Steddfod Wrecsam - y ddrama Feiblaidd saff gan Gwmni Theatr Cymru a sioe hwyliog, egniol Bara Caws oedd yn gwbl amharchus o'r hen Mrs Windsor a'i Jiwbili."[1]

Mae'r gân Croeso i'r Roial o'r sioe wedi'i gynnwys ar y record Mae o'n brifo 'nghlust i gan Theatr Bara Caws a ryddhawyd ym 1981.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 Titus, Llŷr (2017). Theatr Bara Caws : Dathlu'r Deugain. Gwasg Carreg Gwalch.