Cwm Gwendraeth
(Ailgyfeiriad o Cwm Gwendraeth Fawr)
Bro neu ardal wledig yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Cwm Gwendraeth. Er bod yr enw Cwm Gwendraeth yn cael ei ddefnyddio am yr ardal, ceir dau gwm Gwendraeth mewn gwirionedd, sef Cwm Gwendraeth Fawr a Chwm Gwendraeth Fach, a ffurfir gan afonydd Gwendraeth Fawr, sy'n tarddu yn Llyn Llech Owain, a Gwendraeth Fach, sy'n tarddu ym mryniau Dyffryn Tywi. Gorwedd y fro rhwng Rhydaman, Llanelli a Caerfyrddin.
Math | dyffryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Mae Cwm Gwendraeth yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg ac yn cael ei ystyried fel arfer yn rhan o'r Fro Gymraeg.
Yn ddiweddar, sefydlwyd Menter Cwm Gwendraeth, menter iaith i hyrwyddo'r defnydd ymarferol o'r iaith Gymraeg yn y fro.
Yn rhan uchaf Cwm Gwendraeth, rhwng Y Tymbl, Dre-fach a Cross Hands, ceir Parc Coetir y Mynydd Mawr.
Pentrefi a threfi
golyguEnwogion
golyguLlyfryddiaeth
golygu- 'Cwm Gwendraeth a Llanelli', D. Huw Owen, Cyngor Bwrdeistref Llanelli, 1989, ISBN 0 906821 09 6
- 'Glofeydd Cwm Gwendraeth', Ken C. Treharne, Llyfrgell Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Llanelli, 1995
Dolenni allanol
golygu- BBC Cymru "Hanes Cwm Gwendraeth"
- Menter Cwm Gwendraeth Archifwyd 2016-04-06 yn y Peiriant Wayback