Llan-non, Sir Gaerfyrddin

pentref yn Sir Gaerfyrddin
(Ailgyfeiriad o Llannon, Sir Gaerfyrddin)

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llan-non. Saif ar y briffordd A476 rhwng Llanelli a'r Tymbl.

Llan-non
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlNon Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,270 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,848.76 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7551°N 4.1175°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000537 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLee Waters (Llafur)
AS/auNia Griffith (Llafur)
Map
Gweler hefyd: Llannon

Yn weinyddol, mae Cymuned Llannon hefyd yn cynnwys pentrefi Cross Hands a'r Tymbl. Fe'i hystyrir yn bentref amaethyddol mewn ardal lofaol. Ceir un eglwys, sef Eglwys Santes Non, ac un capel y Bedyddwyr, sef Hermon. Mae dwy dafarn yn y pentref, Tafarn y Llew Coch a Thafarn y Milgi. Gwasanaethir y pentref gan un ysgol gynradd categori A, sy'n bwydo Ysgol Gyfun Maes-yr-yrfa.

Cysylltir y pentref â Helyntion Beca. Ar gyrion y pentref mae fferm "Gelliwernen" lle y digwyddodd un o derfysgoedd Beca. Erys tollborth yn y pentref ac uwchlaw Llannnon, ar fynydd Sylen y cynhaliwyd un o gyfarfodydd enwocaf Merched Beca. Dyma ardal Jac Tŷ Isha, un o arweinwyr enwocaf y terfysgoedd. Seiliwyd sioe gerdd ar ei fywyd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[2]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato