Cyrch a chwta
Mae Cyrch a chwta yn un o Bedwar Mesur ar Hugain Cerdd Dafod.
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Llunnir cyrch a chwta gyda chwe llinell saith sillaf gyda phennill o awdl-gywydd yn eu dilyn, gan gynnal un brifodl. Dyma enghraifft o waith Goronwy Owen:[1]
- Neud esgud un a'i dysgo,
- Nid cywraint ond a'i caro,
- Nid mydrwr ond a'i medro,
- Nid cynnil ond a'i cano,
- Nid pencerdd ond a'i pyncio,
- Nid gwallus ond a gollo
- Natur ei iaith, nid da'r wedd;
- Nid rhinwedd ond ar honno.
Mae'r chwe llinell gyntaf yn odli, gydag aceniad y prifodlau yn rhydd. Odla'r llinell olaf gyda'r chwe llinell gyntaf, a cheir odl gyrch rhwng terfyn y seithfed linell a gorffwysfa'r llinell glo i gwblhau'r awdl-gywydd.
Yn ôl y llawysgrifau, un o'r tri mesur y meddyliawdd Einion Offeiriad amdanynt yw cyrch a chwta. Y ddau arall yw'r hir-a-thoddaid a'r tawddgyrch cadwynog.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925