Agor y brif ddewislen

NodweddionGolygu

Amrywiad ar y rhupunt hir yw'r tawddgyrch cadwynog. Ymdebyga pennill o dawddgyrch cadwynog i ddau bennill o rupunt hir, ond gydag ychydig o newidiadau. Mae gan bob pennill wyth llinell, a cheir wyth sillaf ymhob llinell wedi'u rhannu yn ddwy ran o bedair sillaf yr un. Yn hytrach na bod y tri chymal cyntaf yn odli, dim ond yr ail a'r trydydd cymal sy'n odli, ond mae'r cymalau hyn yn odli'n ddwbwl â'r ail glymiad.

Yn ôl deddfiad Dafydd ab Edmwnd yn Eisteddfod Caerfyrddin 1451, rhaid i bob llinell ffurfio cynghanedd groes, oddieithr y bumed a'r seithfed linell, sy'n odli'n fewnol.

Dyma enghraifft ar y mesur o waith Lewys Glyn Cothi:[1]

Tiriawg ydoedd, tarw i gadau,
Tyr fwriadau trwy'i frodir;
Tarian bydoedd, Twrn heb wadau,
Teg'i radau, hwynt a gredir.
Tad caredig tai rhwymedig
Terfynedig tref a nodir;
Tëyrn, gwledig tref gadwedig,
Tŵr caeedig, traw y cedwir.

Mae pob llinell ar y gynghanedd groes, oni bai am y bumed a'r seithfed, sydd yn odli'n fewnol.

Cynhelir y brifodl ir bob yn ail linell, ac mae patrwm yr odlau rhwng gorffwysfa pob clymiad (dwy linell) yn gyson, er enghraifft:

ydoedd - bydoedd (odl ddwbwl)
gadau - wadau (odl ddwbwl)
fwriadau - radau (odl ddwbwl)
frodir - gredir (odl gyffredin)

Mae'n fesur astrus iawn, gyda llawer o'r penillion arno wedi'u llunio er gorchest yn unig mewn awdlau enghreifftiol. Sylwer ar y cymeriad llythrennol a gynhelir gan Lewys Glyn Cothi drwy gydol y pennill, sy'n dangos meistrolaeth y bardd ar ei gyfrwng.

Dyma enghraifft o waith Gutun Owain allan o'i awdl orchestol I ferch; awdl a gynhwysa chwe thawddgyrch cadwynog:

Adail cerydd, yw dal caru,
I fraenaru y fron irad;
Awr leferydd a'r lafaru,
Edifaru yw dy fwriad:
Anghyffurio, a malurio,
Yn di furio, ein dau fwriad;
A'm dolurio oedd d'anturio,
Am oer gurio, a mawr gariad.

Dyma dawddgyrch cadwynog allan o awdl enghreifftiol Wiliam Llŷn: I ferch, gyda'r odlau pwysig wedi'u duo:

Honnaf curiais hoyw-nwyf caru,
A braenaru bronnau oerion;
A doluriais du alaru,
Edifaru ydwyf wirion.
Cael dirgelu, clwyf annelu,
Cair dy selu croyw, des haelion;
Cyd fatelu, cur ryfelu,
Cryd yw celu cariad calon.

Roedd Guto'r Glyn yn hoff iawn o'r mesur hwn. Gellir ei ystyried fel un o'r tri mesur caethaf yn dilyn deddfiad Dafydd ab Edmwnd yn Eisteddfod Caerfyrddin, 1451, ynghŷd â Gorchest y Beirdd a Chadwynfyr.

CyfeiriadauGolygu

  1. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925

LlyfryddiaethGolygu

Gweler hefydGolygu