Gwawdodyn byr
Mae'r gwawdodyn byr yn un o'r pedwar mesur ar hugain ac felly'n fesur caeth. Dyma'r gwawdodyn gwreiddiol; pan ddatbygwyd y gwawdodyn hir yn ddiweddarach daethpwyd i wahaniaethu rhyngddynt trwy alw'r mesur gwreiddiol yn wawdodyn byr.
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Ceir dwy ran: dwy linell o gyhydedd nawban naw sillaf yr un a ddaw gyntaf a thoddaid yn dilyn gyda chyfanswm o ddeg sillaf ynddo. Mae pob llinell yn cynnal yr un odl.
Ni chaniateir defnyddio'r gynghanedd lusg yn y llinell glo.
Dyma enghraifft gan Wiliam Llŷn:
- Mawr y sych gwynt helynt hwyliad,
- Mawr y gwlych y glaw pan ddel cawad,
- Mawr gryfdwr yw'r dw^r ar doriad - gweilgi,
- Mwy yw'r daioni ym mro Danad.
Dyma enghraifft arall o waith Dafydd Nanmor o'i awdl enghreifftiol i Ddafydd ap Tomas ap Dafydd. Cofier mai unsill yw gwayw:
- Un llaw ydwyd ar wayw yn llidiog
- Â llaw Domas ar wayw lledemog;
- Ef a'th ad Duw Dad odidog - deirgwart
- Yn nhyrau Edwart yn hir oediog.
Erbyn heddiw, nid yw'r gwawdodyn byr cyn bobloged â pherthynas agos iddo, sef ffurf bedair llinell ar yr hir-a-thoddaid.