Cyhydedd hir
Rhennir y cyhydedd hir (sy'n un o'r pedwar mesur ar hugain) yn bedair rhan, gyda'r tair rhan gyntaf yn bum sillaf yr un a'r rhan olaf yn bedair sillaf. Ceir 19 sillaf, felly, mewn un llinell o gyhydedd hir. Mae'r tair rhan gyntaf yn odli gyda'i gilydd a'r rhan olaf yn cynnal y brifodl. Dwy linell o gyhydedd hir sy'n gwneud un pennill fel arfer.
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Dyma enghraifft gan Tudur Aled allan o'i gerdd 'Marwnad Sian Stradling':
- Cilio'r lloer, cloi'r llan,
- Cyfrif rhif a rhan,
- Can gwin ac arian cyn ei gorwedd;
- Ceirw ogawg creigiau,
- Agwrdd beneigiau,
- Seigiau o'r eigiau, a'r ewigedd.
Gall y llinellau ddiweddu'n acennog neu'n ddiacen; yn aml mae llinellau sy'n diweddu'n ddiacen yn cynnwys odlau dwbwl - "creigiau" a "beneigiau".
Dyma enghraifft gyfoes o gwpledi cyhydedd hir o waith y Graig Arw'n sôn am Odre'r-graig yng Nghwm Tawe:
- Godre'r oferedd rhanna wirionedd
- Naddu tirion wedd Tarren Wyddon.
- Cofio darfod oes, awr fu'n fawr o foes
- Yw'r unig loes, Tarreni Gleision.
- Am eiliad melys o'r sur a'r sawrus,
- Halen ar wefus Glan yr Afon.
- Ger y Graig Arw'n gwrlid clyd, cryd crwn
- Hynod hoff yw hwn, Pantyffynnon.