Defnyddiwr:Corgimwch/Bioleg esblygiadol

Coeden esblygol yn dangos y berthynas rhwng ewcaryotau (coch), archaea (gwyrdd) a bacteria (glas).

Adran o fywydeg yw bioleg esblygiadol sy'n ymdrin â sut mae esblygiad, drwy brosesau fel detholiad naturiol wedi arwain o un hynafiad cyffredin at yr ystod o fywyd ar y Ddaear heddiw

Dechreuodd bioleg esblygiadol ddatblygu fel maes penodol yn dilyn gwaith Julian Huxley a'i gyfoedion ar glymu detholiad naturiol, amrywiaeth genetig a gwaith Gregor Mendel ar etifeddiaeth genetig i ffurfio'r cyfuniad modern yn y 1930au.[1]

Bellach, mae'r maes wedi helaethu i gynnwys astudiaethau ar ffurfiannau genetig ymaddasiad, esblygiad moleciwlaidd a'r gwahanol rymoedd sy'n cyfrannu at esblygiad y tu hwnt i ddetholiad naturiol, gan gynnwys detholiad rhywiol, drifft genetig a bioddaearyddiaeth.[2][3]

Is-feysydd

golygu

Esblygiad yw'r cysyniad canolog sy'n uno bywydeg i gyd. Gellir rhannu bywydeg ei hun yn is-feysydd mewn nifer o ffyrdd gwahannol. Un ffordd gyffredin o rhannu'r maes yw yn ôl molecular to cell, organism to population. Mae trefnu'r maes yn ôl grŵp tacsonomegol yn ffordd fwy traddodiadol o rannu'r maes, ond mae termau megis sŵoleg, botaneg, a microfioleg yn dal i gael eu defnyddio hyd heddiw. Ffordd arall o rannu bywydeg yw fesul dull o weithio. Er eu bod nhw'n rhan o'r un prif bwnc, mae meysydd fel bioleg maes, bioleg damcaniaethol a paleontoleg yn defnyddio technegau a syniadau gwahanol iawn i'w gilydd. Gellir cyfuno'r is-feysydd hyn o fewn bywydeg gydag esblygiad i greu is-feysydd mewn bioleg esblygiadol hefyd, megis ecoleg esblygiadol, bioleg esblygiadol arbrofol a bioleg datblygiad esblygiadol (evo-devo).

Datblygodd bioleg esblygiadol fel maes ei hun o fewn bywydeg yn ystod amser y cyfuniad modern yn y 1930au a'r 1940au.


Cyfeiriadau

golygu
  1. Gould, Stephen Jay (2002). The Structure of Evolutionary Theory. Gwasg Prifysgol Harvard, tud. 187. ISBN 0-674-00613-5
  2. (2013) Sexual Conflict. Princeton University Press
  3. (2007) Evolution. Cold Spring Harbor Laboratory Press. ISBN 978-0-87969-684-9