Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Owain Glyndwr (cylfwyniad)

Yn ddisgynnydd i dywysogion Powys, Owain Glyn Dŵr neu Owain ap Gruffudd neu Owain Glyndyfrdwy (1354 – tua 1416) oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Defnyddir yr enw Owain Glyndŵr hefyd, ac Owen Glendower yn Saesneg. Rhoddwyd iddo hefyd y llysenw "Y Mab Darogan".

Ganwyd Owain Glyndyfrdwy yn 1359. Roedd yn etifedd llinach Powys Fadog ar ochr ei dad, a honnai ei fod yn ddisgynnydd i’r Arglwydd Rhys o’r Deheubarth ar ochr ei fam. Etifeddodd arglwyddiaethau Glyndyfrdwy a Chynllaith gyda'i ganolfan yn Sycharth, ger Llansilin, Powys. Astudiodd y gyfraith yn Llundain, a gwasanaethodd gyda lluoedd Henry Bolingbroke, gwrthwynebwr Rhisiart II, brenin Lloegr, a fyddai'n ddiweddarach Harri IV, brenin Lloegr.

Yn 1400 cododd helynt ynghylch tir rhwng Owain Glyndŵr a'r Arglwydd Grey o Ruthun, barwn pwerus o Loegr a oedd yn byw gerllaw. Pan ochrodd Harri IV â Grey, ymosododd Glyndŵr a’i ddilynwyr ar dref Rhuthun a threfi Cymreig eraill ger y ffin â Lloegr, gan achosi difrod mawr. Ddydd Gŵyl Mathew (23 Medi) 1400 llosgodd Owain dref Rhuthun i'r llawr, heblaw'r castell. Erbyn diwedd 1401 roedd yn ymddangos bod y rhan fwyaf o’r wlad yn cefnogi’r gwrthryfel. Rhwng 1401 ac 1404 ymledodd y gwrthryfel ar draws Cymru a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth i Gymru. Cipiwyd cestyll Harlech ac Aberystwyth a threchwyd byddinoedd Lloegr yng Nghwm Hyddgen a Bryn Glas yng nghanolbarth Cymru. Gan sylweddoli y byddai’n rhaid iddo drechu’r Saeson mewn brwydr fawr, cynhaliodd Glyndŵr, a oedd yn galw ei hun yn Dywysog Cymru, senedd arbennig ym Machynlleth i godi arian ar gyfer yr achos (y senedd gyntaf o’i bath yng Nghymru). Yn y Senedd a gynhaliwyd ym Machynlleth roedd cynrychiolwyr o Ffrainc, yr Alban a Sbaen. Ffurfiodd gynghreiriau â Dug Northumberland ac Edmund Mortimer, gelynion Harri IV, a lluniodd gynghrair ffurfiol â Brenin Ffrainc.

Am gyfnod roedd yn rheoli bron y cyfan o Gymru, ond erbyn 1405, fodd bynnag, roedd y llanw wedi dechrau troi a threchwyd byddinoedd Glyndŵr yn y Grysmwnt a Brynbuga. Ni ddaeth cymorth gan y Ffrancwyr a’r Albanwyr, ac ildiodd dynion Morgannwg, Gŵyr, Tywi, Ceredigion ac Ynys Môn i frenin Lloegr. Erbyn 1408 roedd cadarnleoedd pwysig Harlech ac Aberystwyth wedi eu hadennill a daeth y gwrthryfel i ben. Cafwyd rhai cyrchoedd ar ôl hyn ond erbyn 1415 daeth y gwrthryfel i ben, a diflannodd Glyndŵr. Roedd llawer o ddifrod wedi ei wneud a nifer fawr wedi marw, a daeth pethau’n anodd pan gyflwynwyd cyfreithiau gwrth-Gymreig gan Harri IV. I rai teuluoedd cyfoethog, daeth y gwrthryfel â’u hawdurdod i ben. Newidiodd eraill eu teyrngarwch i Harri IV ac aeth llawer o’r dynion a oedd wedi ymladd ochr yn ochr â Glyndŵr ymlaen i ymladd yn erbyn y Ffrancwyr yn Agincourt (1415). Ond yn ystod y gwrthryfel, roedd y Cymry wedi uno o dan arweinydd cenedlaethol gan blannu gweledigaeth o Gymru annibynnol.

Mae Owain Glyndŵr yn sefyll fel unigolyn pwysig yn hanes Cymru, nid yn unig fel un oedd yn cael ei weld fel arweinydd cenedlaethol ond hefyd fel gwleidydd a oedd yn gweld rôl i Gymru o fewn cyd-destun Ewropeaidd. Yn Llythyr Pennal a ysgrifennwyd yn 1406 mae’n ceisio llunio cysylltiadau gyda Ffrainc drwy ddangos cefnogaeth i Bab Avignon, yn hytrach na Phab Rhufain a gefnogwyd gan Loegr. Yn y Llythyr mae Glyndŵr hefyd yn amlinellu ei syniad am sut byddai’n creu Cymru annibynnol drwy sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru (yn y de a’r gogledd), Eglwys annibynnol i Gymru gyda'i chronfa arian ei hunan a Chymry Cymraeg yn cael eu penodi i swyddi uchel yn yr Eglwys.

Ceir y cofnod olaf am Owain yn 1412, ac nid oes neb yn sicr beth ddigwyddodd iddo ar ôl hynny. Saif, fodd bynnag, yng nghof y Gymru gyfoes fel un o arwyr pwysicaf y genedl ac mae cerflun ohono yn oriel yr arwyr cenedlaethol Neuadd y Ddinas, Caerdydd.[1][2]

  1. "Datblygu Rhyfela" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 29 April 2020.
  2. "OWAIN GLYNDWR (c. 1354 - 1416), 'Tywysog Cymru' | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-04-29.