Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Walter Raleigh

Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Walter Raleigh
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr


Roedd Walter Raleigh (1554 - 8 Tachwedd 1618) yn awdur, bardd, gwleidydd, marchog, ysbïwr a fforiwr o Loegr a ddaeth i enwogrwydd yn ystod teyrnasiad Elisabeth I.

Roedd yn un o ffefrynnau llys Elisabeth I a amlygodd ei hun fel un o fforwyr gorau'r cyfnod. Perthynai i gyfnod pan oedd bycaniriaid, môr-ladron ac anturwyr yn rheoli’r moroedd, a morwyr fel Francis Drake a Raleigh yn ymosod ar longau trysor Sbaen wrth iddynt ddychwelyd o’r Byd Newydd gyda llongau wedi eu llwytho â thrysorau. Roedd Elisabeth yn awyddus i sefydlu gwladfeydd i Loegr y byddai modd eu defnyddio fel canolfannau masnach i fasnachwyr Lloegr, ac a fyddai’n dwyn cyfoeth i’w theyrnas. Dyma pam y rhoddodd Elisabeth I sêl ei bendith i ymgyrch Raleigh yn 1585 i geisio chwilio am aur yn America a pherchnogi tir yn ei henw. Ceisiwyd sefydlu gwladfa newydd ger Ynys Roanoke, (Gogledd Carolina yn awr) ond methiant fu’r ymdrech. Enwyd y tir newydd yn ‘Virginia’ ar ôl y frenhines.

Cafodd Raleigh fywyd a gyrfa amrywiol, ac mae’n cael ei ystyried fel yr un cyntaf i ddod â thatws a thybaco draw o’r trefedigaethau yn America i Loegr. Dienyddiwyd ef yn Llundain yn 1618 wedi iddo dorri telerau ei bardwn gan Iago I.[1]

Bywyd cynnar golygu

 
The Boyhood of Raleigh gan John Everett Millais, 1871

Credir bod Walter Raleigh wedi ei eni ar 22 Ionawr 1552 neu o bosib 1554.[1] Magwyd ef yn ne Dyfnaint, y brawd ieuengaf o bump o feibion a anwyd i Walter Raleigh (1510-1581), Maenordy Fardel, yn ne Dyfnaint, a Katherine Champernowne, sef trydedd wraig ei dad. Mae modd olrhain hanes teulu ei dad i deulu’r de Raleigh, a oedd wedi bod yn arglwyddi’r faenor yn yr 11eg ganrif yn Raleigh, Pilton, yng ngogledd Dyfnaint. Ar ochr ei fam, roedd aelodau o’r teulu wedi bod yn athrawon ar Elisabeth I[2], yn Aelod Seneddol, ac yn Siryf swydd Dyfnaint. Roedd gan ei frodyr eraill, John Gilbert, Humphrey Gilbert ac Adrian Gilbert (plant ei fam o’i phriodas gyntaf i Otes Gilbert), gysylltiadau â theulu dylanwadol Champernowne, a oedd yn golygu bod y brodyr Gilbert a theulu Raleigh wedi esgyn i fod yn bobl bwysig a dylanwadol yn ystod teyrnasoedd Elisabeth I ac Iago I.

Roedd teulu Raleigh yn Brotestaniaid ffyddlon ac wedi osgoi cael eu cosbi’n llym ar sawl achlysur adeg teyrnasiad Mari I (neu ‘Mari Waedlyd’ fel yr adnabuwyd hi oherwydd y modd roedd hi'n trin Protestaniaid). Dim ond oherwydd iddo guddio mewn tŵr y llwyddodd ei dad i osgoi cael ei ddienyddio, ac oherwydd profiadau tebyg magodd Raleigh gasineb tuag at Babyddiaeth Rhufain. Ni oedodd rhag dangos ei farn am Babyddiaeth unwaith y daeth Elisabeth I i’r orsedd gan fod Elisabeth yn arddel safbwynt mwy cymhedrol am faterion crefyddol.

Adeg Rhyfeloedd Cartref Crefyddol Ffrainc aeth Raleigh allan i Ffrainc i ymladd gyda’r Hiwgonotiaid (Protestaniaid Ffrengig). Cofrestrodd fel myfyriwr yng Ngholeg Oriel, Rhydychen yn 1572 ond gadawodd ar ôl blwyddyn heb radd. Aeth ymlaen i gwblhau ei addysg drwy gael ei dderbyn i sawl llys y gyfraith yn Llundain. Er enghraifft, yn 1575 derbyniwyd ef i’r Deml Ganol (Middle Temple) a chwblhaodd ei hyfforddiant cyfreithiol. Er, adeg ei achos llys yn 1603, dywedodd nad oedd erioed wedi astudio’r gyfraith. Yn ei lyfr History of the World honnodd ei fod wedi bod yn llygad-dyst ym Mrwydr Montcontour yn Hydref 1569 yn Ffrainc. Dychwelodd i Loegr tua 1575 neu 1576.

Iwerddon golygu

Rhwng 1579 a 1583 bu Raleigh yn rhan o ymgyrchoedd Elisabeth I i ddistewi Gwrthryfeloedd Desmond yn Iwerddon. Adeg Gwarchae Smerwick arweiniodd grŵp o filwyr a ddienyddiodd tua 600 o filwyr Sbaenaidd ac Eidalaidd.[3] Rhoddodd Elisabeth I tua 40,000 o erwau (tua 0.2% o dir Iwerddon) iddo fel gwobr am drechu’r gwrthryfelwyr, gan gynnwys tref gaerog Youghal a phentref Lismore. Roedd y tiroedd hyn yn rhai a ysbeiliwyd oddi wrth y gwrthryfelwyr ac a ail-ddosbarthwyd gan y Frenhines. Drwy hynny, gwnaed Raleigh yn un o brif dirfeddianwyr Munster,[4] ond ni chafodd llawer o lwyddiant yn ceisio denu tenantiaid o Loegr i ymsefydlu ar ei ystadau fel tenantiaid yn Iwerddon.

Yn ystod ei gyfnod fel tirfeddiannwr yn Iwerddon, bu’n byw yng Nghastell Killua, Clonmellon, Sir Westmeath a bu’n faer yno rhwng 1588 hyd at 1589. Un o gyfeillion Raleigh ym Munster oedd y bardd o Loegr, Edmund Spenser, ac yn ystod y 1590au teithiodd y ddau o Iwerddon draw i lys Elisabeth I yn Llundain er mwyn i Spenser gyflwyno ei gerdd alegorïaidd, ‘The Faerie Queene’ i Elisabeth I.

Y Byd Newydd golygu

Yn 1584 rhoddodd Elisabeth I siarter brenhinol i Raleigh a oedd yn rhoi’r awdurdod iddo fforio a darganfod, gwladychu a rheoli ‘unrhyw diroedd neu wledydd anghysbell, anwaraidd a barbaraidd, nad oedd ym meddiant unrhyw Dywysog Cristnogol neu lle'r oedd Pobl Gristnogol yn byw’.[5] Golygai hyn bod Elisabeth I yn rhoi caniatâd iddo sefydlu trefedigaeth newydd ar ran Lloegr yn y Byd Newydd. Yn gyfnewid am ganiatáu’r awdurdod hwn roedd Elisabeth am gael cyfran o’r holl aur neu arian fyddai’n cael eu cloddio yn y tiroedd hynny. Roedd y siarter yn rhoi saith mlynedd i Raleigh greu anheddiad.

Bwriad Elisabeth a Raleigh wrth gynnal menter o’r fath oedd y byddai Lloegr yn elwa ar adnoddau a nwyddau'r Byd Newydd a’u bod wedyn yn medru eu masnachu. Byddai porthladdoedd yn y rhannau hyn o’r byd yn dod yn ganolfannau lle byddai herwlongwyr Lloegr yn medru lansio ymosodiadau ar longau trysor Sbaen, sefydlu Lloegr fel pŵer morwrol a masnachol a hefyd atal Sbaen a Ffrainc rhag sefydlu eu trefedigaethu eu hunain yn yr ardal. Mantais arall i berchnogi’r tir oedd ei fod yn darparu gwaith i bobl ddi-waith Lloegr.

Trefnodd Raleigh ddwy ymgyrch i archwilio’r Afon Orinoco yn Ne America yn 1595 ac 1617 ac yn 1585 trefnodd ymgyrch Gwladfa Roanoke, a ddaeth i gael ei hadnabod fel ‘Y Drefedigaeth Goll’.

Gwladfa Roanoke golygu

Er nad oedd Raleigh yn arwain pob un o’r mordeithiau hyn nac ychwaith yn llwyr gyfrifol am eu cyllido, roedd yn buddsoddi cyfran o arian ynddynt ac roedd yn sicr yn symbyliad cryf yn y gwaith o'u trefnu a’u lansio. Ni wnaeth Raleigh erioed ymweld â Gogledd America, ac yn 1585 anfonodd criw o drefedigwyr/gwladychwyr i sefydlu Trefedigaeth Roanoke, a ddaeth i gael ei hadnabod fel y ‘Drefedigaeth Goll’. Hon oedd ymdrech gyntaf Raleigh i sefydlu trefedigaeth Brydeinig yn y Byd Newydd, sef ar arfordir dwyreiniol Gogledd America, yn yr ardal a elwir yn Ogledd Carolina heddiw. Glaniodd y criw ym Mehefin 1585 gyda chyflenwad bwyd o 20 diwrnod a dychwelodd Syr Richard Grenville i Loegr gan adael tua 100 o griw i fod yn gyfrifol am y drefedigaeth. Cytunodd Elisabeth I bod y tir newydd yn cael ei enwi ar ei hôl ac fel gwobr, urddodd Raleigh yn Syr Walter Raleigh a phenodwyd ef yn ‘Arglwydd a Llywodraethwr Virginia’. Yn anffodus, methiant fu’r ymdrech i sefydlu trefedigaeth yno, oherwydd gwrthdaro rhwng y trefedigaethwyr a rhai o’r brodorion lleol.

Erbyn dechrau’r 17eg ganrif, roedd Prydain yn rheoli nifer o drefedigaethau ar arfordir dwyreiniol Gogledd America. Fe wnaeth, er hynny, arwain taith fforio yn 1595 ac 1617 ar hyd Afon Orinoco yn Ne America wrth chwilio am ddinas goll euraidd El Dorado. Gan mai Raleigh a’i ffrindiau oedd yn ariannu’r teithiau fforio hyn ni fu byth digon o gyllid i fedru ariannu’r trefedigaethau hyn yn y tymor hir.

Yn 1587, lansiodd Raleigh ail daith fforio gan geisio eto sefydlu trefedigaeth ar Ynys Roanoke. Y tro hwn roedd mwy o amrywiaeth ymhlith y bobl a anfonwyd i sefydlu’r drefedigaeth ac arweiniwyd hwy gan John White.[6] Wedi cyfnod byr yn America, dychwelodd White i Loegr er mwyn dod ag adnoddau yn ôl i’r drefedigaeth, gan addo y byddai’n dod yn ôl i’r ynys ymhen blwyddyn. Yn anffodus, trodd hyn yn dair blynedd oherwydd bod angen llongau ar Elisabeth I i frwydro yn erbyn yr Armada Sbaenaidd, a phenderfynodd criw White eu bod am alw yn Ciwba cyn hwylio ymlaen am Ynys Roanoke.[4]

Pan gyrhaeddodd White nid oedd sôn am y gwladychwyr newydd, gyda rhai yn credu eu bod wedi symud i ynys arall, wedi dioddef newyn a marw neu wedi boddi adeg tywydd garw ar y môr yn 1588.[7]

1580au golygu

Dychwelodd Raleigh i Loegr o Iwerddon yn Rhagfyr 1581 a daeth yn un o ffefrynnau Elisabeth I yn ei llys oherwydd ei ymdrechion i gynyddu presenoldeb yr Eglwys Brotestannaidd yn Iwerddon. Yn 1585 urddwyd ef yn farchog a phenodwyd ef yn Arglwydd Raglaw Cernyw ac yn Is-lyngesydd ar Gernyw a Dyfnaint. Bu’n Aelod Seneddol dros Ddyfnaint yn 1585 ac 1586 a rhoddwyd yr hawl iddo wladychu America.[8]

Comisiynwyd yr adeiladwr llongau, R. Chapman o Deptford, swydd Caint, gan Raleigh i adeiladu llong iddo a enwyd yn ‘Ark Raleigh’. Prynodd Elisabeth I y llong gan Raleigh yn 1587 am £5,000 ac ail-enwyd hi yn ‘Ark Royal’. Dyma’r llong a oedd yn fanerlong i’r Arglwydd Uwch Lyngesydd Howard adeg rhyfel Lloegr yn erbyn yr Armada yn 1588.

Collodd Raleigh ffafr Elisabeth I yn y cyfnod hwn oherwydd iddo briodi Elizabeth Throckmorton, un o foneddigesau preswyl Elisabeth I, heb ganiatâd y frenhines genfigennus. Ganwyd mab iddynt a fu farw’n fabi, a charcharwyd Walter a ‘Bess’ gan Elisabeth I yn Nhŵr Llundain. Ganwyd dau fab arall iddynt, sef Walter a Carew, ond erbyn 1593 roedd Raleigh wedi cael ei ryddhau o’r carchar.[4]

Mordaith gyntaf i Guiana golygu

Yn 1594 daeth Raleigh o hyd i adroddiad Sbaenaidd am ddinas euraidd a leolwyd ar lan yr Afon Caroni yn Feneswela, De America, sef ‘El Dorado’. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1595, aeth i fforio yn Gaiana a dwyrain Venezuela wrth iddo geisio chwilio am y ddinas chwedlonol. Wedi iddo ddychwelyd i Loegr, cyhoeddodd ei adroddiad am ei fordaith, sef ‘The Discovery of Guiana’[9], a oedd yn ôl yr hanes yn gwneud honiadau gormodol am beth oedd wedi cael ei ddarganfod. Mae’r chwedloniaeth ynghylch ‘El Dorado’ a’r mwynfeydd aur yr honnwyd eu bod wedi cael eu darganfod gan Raleigh yn Venezuela, yn deillio o’r adroddiad hwn.[10]

1596-1603 golygu

 
Raleigh a'i fab yn 1602

Anafwyd Raleigh yn 1596 adeg Cipiad Cadiz, a Raleigh oedd Ôl-lyngesydd mordaith Robert Devereux, 2il Iarll Essex, i Ynysoedd yr Azores yn 1597.[11] Wedi iddo ddychwelyd o’r Azores, bu’n bwysig yn helpu i amddiffyn Lloegr rhag 3ydd Ymosodiad yr Armada yn Hydref 1597, ac fe wnaeth ef a’r Arglwydd Howard o Effingham drefnu i gipio llongau Sbaenaidd a oedd yn cludo gwybodaeth werthfawr am gynlluniau’r Sbaenwyr.[4]

Penodwyd ef yn Aelod Seneddol dros Dorset yn 1597 a thros Gernyw yn 1601. Roedd hyn yn anghyffredin yn y cyfnod am ei fod wedi cynrychioli tair swydd wahanol. Penodwyd ef yn Llywodraethwr Ynys Jersey yn 1600.

Achos llys a charchariad golygu

Er bod Raleigh wedi bod yn ffefryn gan Elisabeth I nid oedd hyn yn wir am ei berthynas gyda’i holynydd, sef Iago I. Bu Elisabeth farw ym Mawrth 1603 ac ychydig fisoedd wedi hynny, yng Ngorffennaf 1603, cyhuddwyd Raleigh o deyrnfradwriaeth am ei ran mewn cynllwyn i ddiorseddu Iago. Carcharwyd ef yn Nhŵr Llundain.[11] Er iddo gael ei ganfod yn euog, arbedwyd ei fywyd gan y Brenin Iago. Arhosodd yn y Tŵr hyd 1616 ac yn ystod y cyfnod hwnnw ysgrifennodd gyfrol gyntaf The Historie of the World am hanes hynafol Groeg a Rhufain (argraffiad cyntaf 1614).

Ail fordaith i Guiana golygu

Yn 1617, cafodd Raleigh bardwn gan y Brenin Iago I, a rhoddwyd caniatâd iddo gynnal ail fordaith i Feneswela er mwyn ceisio dod o hyd i ‘El Dorado’. Yn ystod y fordaith, ymosodwyd ar un o ragorsafoedd y Sbaenwyr, sef Santo Tome de Guayana ar lan yr Afon Orinoco, gan un o gyfeillion Raleigh ar y daith, sef Lawrence Keymis. Roedd yr ymosodiad yn torri telerau'r cytundeb heddwch gyda Sbaen ac yn weithred a oedd yn mynd yn groes i bardwn Raleigh. Un o delerau pardwn Raleigh oedd y dylai osgoi unrhyw fath o wrthdaro neu ymosodiad ar drefedigaethau neu longau’r Sbaenwyr. Yn ystod yr un ymosodiad, lladdwyd Walter, mab Raleigh. Ar ôl ddychwelyd i Loegr, mynnodd y Llysgennad Sbaenaidd, Iarll Gondomar, bod Raleigh yn colli ei bardwn ac yn cael ei ddedfrydu i farwolaeth. Ni allai’r Brenin Iago I amddiffyn Raleigh, a daethpwyd â Raleigh o Plymouth i Lundain i wynebu ei achos llys. [4][12]

Dienyddio golygu

 
Dienyddiwyd Raleigh yn Iard yr Hen Balas ym Mhalas San Steffan ar 29 Hydref 1618. Gwaith celf o tua 1860.

Dienyddiwyd Raleigh yn Iard yr Hen Balas ym Mhalas San Steffan ar 29 Hydref 1618. Claddwyd ef yn Eglwys y Santes Margaret yn San Steffan, sydd wedi ei lleoli yn Sgwâr y Senedd, Llundain, ond rhoddwyd ei ben i’w wraig.

Yn ôl yr hanes, roedd ei wraig yn cadw ei ben mewn bag melfed, a phan fu hi farw 29 mlynedd yn ddiweddarach, dychwelwyd ei ben i gael ei gladdu gyda’i gorff yn San Steffan.[13][14][15]

Barddoniaeth golygu

Roedd Raleigh hefyd yn fardd eithaf adnabyddus yn ei gyfnod. Ystyriwyd ef fel bardd a oedd yn ysgrifennu barddoniaeth a oedd yn ymwrthod ag arddull farddonol y Dadeni Dysg, a oedd yn cynnwys llawer o gyfeiriadau clasurol a thechnegau barddonol cymhleth. Ysbrydolwyd ef i ysgrifennu cerddi a oedd yn seiliedig ar ddigwyddiadau real, a chanolbwyntiai ar themáu fel cariad, colled, amser a phrydferthwch. Ymhlith ei gerddi mae ‘What is Our Life’ , ‘The Lie’, ac ysgrifennodd un o’i gerddi hir, sef ‘The Ocean’s Love to Cynthia’, tra'r oedd wedi ei garcharu yn y Tŵr yn Llundain. Defnyddiodd ei farddoniaeth hefyd i ymateb i gerddi a ysgrifennwyd gan feirdd adnabyddus eraill y cyfnod, fel Christopher Marlowe. Ymatebodd i gerdd Marlowe, ‘The Passionate Shepherd to His Love’, a ysgrifennwyd yn 1592, gyda’i gerdd, ‘The Nymph’s Reply to the Shepherd’.

Rhestr o farddoniaeth

Cerddi sydd wedi eu cwblhau, neu wedi eu cwblhau'n rhannol, ac a ysgrifennwyd gan Raleigh neu sy’n cael eu cysylltu ag ef:

  • The Advice
  • Another of the Same
  • Conceit begotten by the Eyes
  • Epitaph on Sir Philip Sidney
  • Epitaph on the Earl of Leicester
  • Even such is Time
  • The Excuse
  • False Love
  • Farewell to the Court
  • His Petition to Queen Anne of Denmark
  • If Cynthia be a Queen
  • In Commendation of George Gascoigne's Steel Glass
  • The Lie
  • Like Hermit Poor
  • Lines from Catullus
  • Love and Time
  • My Body in the Walls captive
  • The Nymph's Reply to the Shepherd
  • Of Spenser's Faery Queen
  • On the Snuff of a Candle
  • The Ocean's Love to Cynthia
  • A Poem entreating of Sorrow
  • A Poem put into my Lady Laiton's Pocket
  • The Pilgrimage
  • A Prognistication upon Cards and Dice
  • The Shepherd's Praise of Diana
  • Sweet Unsure
  • To His Mistress
  • To the Translator of Lucan's Pharsalia
  • What is Our Life?
  • The Wood, the Weed, the Wag

Raleigh a Shakespeare golygu

Honnodd Delia Bacon, arbenigwr ar waith Shakespeare, yn 1845 mai grŵp o awduron mewn gwirionedd oedd wedi ysgrifennu dramâu a ysgrifennwyd gan William Shakespeare. Honnai mai Walter Raleigh oedd y prif awdur ac yn ddiweddarach, damcanodd George S.Caldwell mai Raleigh oedd yr unig awdur. Mae’r damcaniaethau hyn wedi cael eu cefnogi gan arbenigwyr eraill, ond mae’r mwyafrif o arbenigwyr Shakespearaidd yn anghytuno â'r syniad hwn.[16][17][18]

Gwaddol golygu

Yn 1792 enwyd prifddinas talaith Gogledd Carolina yn Raleigh, mewn teyrnged i Walter Raleigh, ac un o brif fuddsoddwyr Trefedigaeth Roanoke. Mae cerflun efydd o Raleigh yn y ddinas ac mae’r ‘Drefedigaeth Goll’ yn cael ei choffau yn Safle Hanesyddol Cenedlaethol Caer Raleigh ar Ynys Roanoke, Gogledd Carolina.[19]

Mae Raleigh County, yng Ngorllewin Virginia, wedi cael ei enwi ar ei ôl, ac mae Mynydd Raleigh, yng nghadwyn y Môr Tawel, sy’n rhan o Fynyddoedd Arfordirol Columbia Brydeinig, Canada, wedi eu henwi ar ei ôl hefyd. Mae cyfeiriadau hefyd at Rewlif Raleigh a Chilfach Raleigh sy’n gysylltiedig â Mynydd Raleigh. Enwyd Mynydd Gilbert, sydd wedi ei leoli i’r de o Fynydd Raleigh, ar ôl ei hanner brawd, Syr Humphrey Gilbert.[20]

Honnwyd ar draws y canrifoedd mai Raleigh a gyflwynodd datws i Ewrop ac i Iwerddon. Er hynny, mae haneswyr erbyn hyn yn anghytuno ar y cwestiwn a yw hyn yn wir, oherwydd byddai wedi bod yn amhosibl iddo ddarganfod tatws yn y mannau yr ymwelodd â nhw.[4]

Gweler Hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Ralegh, Sir Walter (1554–1618), courtier, explorer, and author". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-25.
  2. Ronald, Susan. (2007). The pirate queen : Queen Elizabeth I, her pirate adventurers, and the dawn of empire (arg. 1st ed). New York: HarperCollins Publishers. ISBN 978-0-06-082066-4. OCLC 76961179.CS1 maint: extra text (link)
  3. Nicholls, Mark, 1959- (2011). Sir Walter Raleigh : in life and legend. Williams, Penry. London: Continuum. ISBN 978-1-4411-1209-5. OCLC 648934521.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 "Sir Walter Raleigh | Biography & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-25.
  5. "Avalon Project - Charter to Sir Walter Raleigh : 1584". avalon.law.yale.edu. Cyrchwyd 2020-08-25.
  6. "roanoke". web.archive.org. 2015-11-01. Cyrchwyd 2020-08-25.
  7. Quinn, David B. (1985). Set Fair for Roanoke: Voyages and Colonies, 1584-1606 (yn Saesneg). UNC Press Books. ISBN 978-0-8078-4123-5.
  8. "Sir Walter Raleigh". Biography (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-25.
  9. Raleigh, Walter (26 Maw 2006). The Discovery of Guiana (yn Saesneg).
  10. ":: The Lost World:: Travel and information on the Gran Sabana, Canaima National Park, Venezuela". web.archive.org. 2012-02-09. Cyrchwyd 2020-08-25.
  11. 11.0 11.1 May, Steven W. (1989). Sir Walter Ralegh. Boston: Twayne Publishers. ISBN 0-8057-6983-8. OCLC 19670805.
  12. "Stucley, Sir Lewis (1574/5–1620), local politician". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/26740. Cyrchwyd 2020-08-25.
  13. Trevelyan, Raleigh. (2002). Sir Walter Raleigh. London: Allen Lane. ISBN 0-7139-9326-X. OCLC 47231404.
  14. Brushfield, T. N. (Thomas Nadauld) (1896). Raleghana. University of North Carolina at Chapel Hill University Library. [Plymouth : s.n.
  15. Lloyd, John, 1951-. The book of general ignorance. Mitchinson, John, 1963- (arg. 1st ed). New York. ISBN 978-0-307-39491-0. OCLC 122973425.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  16. Farrand, Michael J. (2013-01-26). "far and few between: Walter Raleigh Wrote Shakespeare?". far and few between. Cyrchwyd 2020-08-25.
  17. Hechinger, Paul. "Did Shakespeare Really Write His Plays? A Few Theories Examined". BBC America (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-25.
  18. "Who Really Wrote Shakespeare's Plays Sir Walter Raleigh". www.trivia-library.com. Cyrchwyd 2020-08-25.
  19. "Music : Mathew Holmes lute books". Cambridge Digital Library. Cyrchwyd 2020-08-25.
  20. "The Province of British Columbia - GeoBC". web.archive.org. 2014-05-19. Cyrchwyd 2020-08-25.