Cwmni theatr Gymraeg oedd Theatr Ddieithr. Fe'i sefydlwyd gan Valmai Jones a Clive Roberts ar gychwyn y 1970au. Bu'r actor a'r dramodydd Meic Povey a Stewart Jones yn rhan o'r cwmni ym 1972, yn ogystal â Mici Plwm.[1] Dim ond dau gynhyrchiad a lwyfannwyd, a hynny ar un daith o Gymru.

Theatr Ddieithr
CrëwrValmai Jones a Clive Roberts
GwladBaner Cymru Cymru
Dod i ben1973
Dechrau/Sefydlu1972
Hyd1972-1973

Cefndir byr

golygu

Yn ôl yr actor Stewart Jones yn ei hunangofiant:

"...[y] fenter mwyaf newydd ac arloesol y bûm i'n cymryd rhan ynddi erioed oedd y Theatr Ddieithr. Dechrau'r saithdegau oedd hi, a'r unig gwmni theatr teithiol Cymraeg ar y pryd oedd Theatr Cymru. [...] Dau actor y bûm i'n gweithio llawer efo nhw oedd Clive Roberts a Valmai Jones. Roedden nhw'n ŵr a gwraig ar y pryd, a'u syniad nhw oedd sefydlu'r Theatr Ddieithr er mwyn llenwi bwlch, fel yr oedden nhw'n gweld pethau, yn y ddarpariaeth i gynulleidfaoedd Cymraeg. Roedd yna grant bychan i'w gael gan Gyngor y Celfyddydau ond mi fyddai unrhyw incwm i'r fenter yn dibynnu bron yn llwyr ar yr arian y byddai pobol yn ei dalu wrth y giât. Roedd Clive yn benderfynol o roi cynnig arni, cyn belled a bod pawb oedd yn ymuno yn deall ei bod hi'n fenter heb lawer o sicrwydd ariannol. Cytunais innau i gymryd rhan, ar y ddealltwriaeth honno. Doedd ganddon ni dim seiliau nac asedau yn y byd, ond mi gawsom ddefnyddio Theatr y Gegin yng Nghricieth ar gyfer ymarfer."[2]

"Yr un peth oedd wedi sbarduno Theatr Ddieithr, Theatr yr Ymylon a Bara Caws, am wn i," yn ôl Meic Povey, "sef yr ysfa i dorri'n rhydd o ddylanwad Cwmni Theatr Cymru ac unbennaeth Wilbert. Yn achos Bara Caws, yr eironi oedd fod y rhan fwyaf o’r aelodau cynnar yn gweithio i Gwmni Theatr Cymru, ac amharodrwydd y cwmni hwnnw i roi iddynt ryddid creadigol roddodd yr hwb a’r hyder iddynt fynd ar eu liwt eu hunain. Tasa Wilbert wedi'i gweld hi, mae'n bur debyg na fyddai Bara Caws wedi bodoli mor gynnar. Roedd Clive a Valmai'n awyddus i wreiddio'r cwmni newydd yn Eifionydd (yn [Theatr] y Gegin, Cricieth, roedden ni'n ymarfer), gan roi pwys ar ddramâu Wil Sam fel rhan hanfodol o'r arlwy. Theatr Genedlaethol Eifionydd, os mynnwch chi."[3]

"Beth bynnag oedd ein gwendidau ni, allai neb amau'n hawl i alw'n hunain yn theatr deithiol" medde Stewart Jones. "Mi gawsom adolygiadau digon caredig gan y beirniaid, ond yn ariannol, doedd ganddon ni ddim gobaith gan ein bod ni'n gorfod talu cymaint am ddefnyddio'r gwahanol lefydd. Mae'n siwr bod Clive [Roberts] wedi colli cryn dipyn o arian ar y fenter ond mi gawson ni lawer o hwyl."[2]

Methiant priodas Valmai Jones a Clive Roberts oedd yn gyfrifol am chwalu'r cwmni, cyn i Valmai fynd ymlaen i fod yn un o sefydlwyr Theatr Bara Caws.[3]

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1970au

golygu

"Doedd yna ddim dynes ar gyfyl y cast yn yr un o'r dramâu," medde Stewart Jones,[2] "felly doedd Valmai [Jones] ddim yn actio, ond roedd o'n gyfnod prysur iawn iddi hithau gan mai hi oedd yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith trefnu", ychwanegodd.

"Clive [Roberts], Michael Povey a finnau oedd yn actio, efo Clive yn cyfarwyddo Y Pry a finnau'n cyfarwyddo Dinas Barhaus. Roedd ganddon ni un aelod arall yn y tîm, sef Mici Plwm. Fo oedd y trydanwr a'r rheolwr llwyfan ac ar y pryd roedd ganddo fo wallt hir, bron i lawr at ei sgidia. Doedd ganddon ni ddim props gwerth yr enw, er y byddai wedi bod yn help inni gael rhai yn nrama Michael. Y cwbl oedd ganddon ni oedd batins wedi'u peintio'n wyn a'u gwneud yn sgwariau ar draws y gwaelod er mwyn iddyn nhw sefyll i fyny. Roedden ni wedyn yn clymu rubanau gwyn o un i'r llall i wneud waliau, a gadael un lle yn wag ar gyfer drws. Try hwnnw y byddai rhywun yn gwneud ei 'entrance'. Dyna ichi holl asedau materol y Theatr Ddieithr. Mewn hen fan fawr y byddai'r rhain yn cael ei cludo o gwmpas y wlad, ac yn honno y byddai Povey, Mici a finnau yn teithio hefyd. Roedd Clive a Valmai yn trafeilio mewn car: nhw oedd yr 'executives'!"[2]

"Roedd y daith yn agor yn [Theatr] Y Gegin ar y degfed o Ebrill 1972. I ffwrdd â ni wedyn i Bwllheli, Amlwch, Bangor, Dolgellau, Bala, Llanelwy, Llanfyllin, Aberystwyth a Chaerfyrddin, gan orffen efo dwy noson yn yr hen Theatr Casson yn Clifden Street, Caerdydd."[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Povey, Meic (2010). Nesa Peth At Ddim. Carreg Gwalch.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Jones, Stewart Whyte McEwan (2001). Dwi'n Deud Dim, Deud Ydw I. Gwasg Gwynedd. ISBN 978-0860741794.
  3. 3.0 3.1 Povey, Meic (2010). Nesa Peth At Ddim. Carreg Gwalch. ISBN 9781845272401.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.