Draig y Brythoniaid

(Ailgyfeiriad o Draig Y Brythoniaid)

Roedd y sarff neu'r ddraig yn symbol a ddefnyddwyd gan y Brythoniaid. Defnyddiwyd symbolau a phersonliaethau amrywiol o'r ddraig cyn iddi chael ei ddefnyddio fel symbol ar faner fel draig aur neu goch y Cymru modern.

Sarff neu ddraig y Celtiaid

golygu

Mae motiff y ddraig yn hysbys mewn celf Geltaidd mewn arddulliau amrywiol a thybir ei fod yn deillio o lên gwerin hynafol y Dwyrain Canol a Groeg sy'n debyg i neidr neu sarff. Roedd y Groegiaid a'r Rhufeiniaid yn ystyried y sarff yn ysbryd gwarchod, wedi'i gynrychioli ar eu hallorau.[1] Mae’n bosib bod y ddraig Geltaidd wedi datblygu o'r neidr corniog a gwenwynig sy'n anadlu tân. Mae'n bennaf yn neidr sy'n trawsnewid i fod yn anghenfil.[2] Yn ôl un geiriadur, roedd y sarff yn symbol am yr haul o'r un deilliad a "draig", "adon", "addon", "bel", "bal" ymysg y Cymry.[3]

Mae rhai yn awgrymu efallai fod Brythoniaid brodorol Ewrop wedi dod â’r ddraig gyda nhw pan ymfudodd nhw i Brydain cyn yr Oes Rufeinig.[4] Dywed yr hanesydd B. Deane bod y Brythoniaid dan addysg y Derwyddon yn addoli duw haul a gynrychiolwyd gan symbol y sarff. Dywed yr hanesydd y byddai derwyddon a ddilynai y Duw "Hu rheolydd-ddraig y byd" yn cael eu hadnabod fel gwiberod.[5] Roedd y derwyddon Cymreig yn addoli duw'r ddraig, y duw gleidio. Roedd y Glain neidr, neu Wŷ'r neidr yn ddirgelwch mawr y derwyddon ac roedd hefyd cysylltiad rhwng Ceridwen a'r neidr.[6]

Tystiolaeth archaeolegol

golygu
 
Bathodyn sarff/draig Celtaidd 50 - 150 OC

Mae tystiolaeth cynhanesyddol mor gynnar a 500 CC o'r Celtiaid fel diwylliant neu gwlt sarff yn ymddangos mewn lluniau ar dorciau rhan fwyaf ond nid yw hi bob amser yn glir os mai sarff neu ddraig sydd arnynt. Mae nadroedd corniog yn aml yn ymddangos gyda'r duw Cerunnos o amgylch ei wddf nei ei ganol. Gwisgwyd fathodynnau a phinnau gyda nadroedd yn y cyfnod La Tene (500CC i 0) Ymddengys gleddyfau gyda nadroedd neu ddreigiau o'r 3g CC a cheiniogau o'r 2g CC a gwisgwyd fibulae (bathodynnau enamel) yn ystod rheolaeth y Rhufeiniaid o Brydain.[7]:39

Roedd pobloedd Celtaidd y Gorllewin yn gyfarwydd â dreigiau yn yr oes cyn-Gristnogol a bod pobl frodorol Prydain yn gwisgo addurniadau Celtaidd gyda motiffau o ddreigiau arnynt yn ystod goresgyniad y Rhufeiniaid. Mae tystiolaeth archeolegol hefyd fod y Celtiaid cyfandirol wedi defnyddio tlysau a phinnau ar ffurf draig yn ystod cyfnod La Téne o c.500CC hyd 1 OC.[8][9][10]

 
Cerunnos yn dal nadroedd corniog yn wynebu ei gilydd, Cirencester

Mae cysylltiad rhwng Duwiau Celtaidd yr awyr a'r haul a nadroedd gan gynnwys rhai corniog. Mae enghraifft o gerfiad Celtaidd yng Nghaerloyw sy'n addoli Duw haul. Mae'n cynnwys cerfiad o olwyn haul a neidr gyda cyrn hwrdd.[11] Defnyddiwyd symbol o sarff gorniog gan y Celtiaid cyfandirol yn Gâl gan y Gâliaid, yng ngogledd-orllewin Ewrop cyn ac ar ôl y cyfnod rhufeinig. Mae'n ymddangos tair gwaith ar y pair Gundestrup a cysylltir y neidr corniog gyda Cerunnos mor gynnar a'r 4g CC yng ngogledd yr Eidal mewn cerfiadau carreg yn Val Camonica.[12] Roedd temlau y Derwydd yn gylch gerrig gyda craig fawr yn y canol i gyrochioli duwdod a thragywyddoldeb; y sarff fel y cylch, a'r wy. Mae cylchoedd cerrig fel hyn cerrig fel hyn yn yr Alban; Avebury, Stanton Drew, a Côr y Cewri yn Lloegr â llawer yn Llydaw. Temlau y sarff yw rhain ac maent yn gysylltiedig gyda ffynhonnell popeth neu bywyd popeth yn ôl yr athro W.G. Moorehead.[13]

Dargafuwyd hefyd freichledi "glain neidr" yng Nghymru, Cernyw ac Uchedldiroedd yr Alban a gynrychiolodd wyau sarff ac yn oes y Rhufeiniaid defnyddwyd "wyau" tua maint afal fel amulet.[14]

 
Darn o gleddyf Celtaidd 50 OC

Mae'r defnydd cynharaf y gwyddys amdano o'r ddraig gan y Celtiaid yn ymddangos mewn cleddyfau a gwain yn y 4edd ganrif CC.[15] Un enghraifft a ddarganfuwyd ym Mhrydain yw cleddyf Celtaidd o'r oes haearn gynnar sy'n cynnwys dwy ddraig yn wynebu ei gilydd ar gleddyf o bosib o'r diwylliant Hallstatt.[16][17] Darganfuwyd dau gleddyf ddiwylliant La Tène neu ddiwylliant Hallstatt a thrydydd cleddyf o ddiwylliant La Tene hefyd yn afon Tafwys.[18][19][20] Mae darganfyddiad y gwain dreigiau celtaidd yn y Tafwys yn awgrymu yr oedd cysylltiadau rhwng Prydain a gweddill y byd Celtaidd yn y degawdau o gwmpas tua 300 CC.[21] Yn ogystal a hyn, mae tystiolaeth o ddreigiau Celtaidd hefyd ar ddarnau arian Prydeinig o'r cyfnod 50-45 CC .[22]

Corn y Celtiaid

golygu
Gweler hefyd: Corn Celtaidd

Mae tystiolaeth i awgrymu y byddai'r Corn yn cael ei ddal gan bennaeth, fel y dangosir gan ffigwr Bituitos a oedd o bosib yn Frenin Galaidd.[23] Roedd darnau arian a fathwyd gan y Rhufeiniaid yn dangos trympedi rhyfel y Celtiaid. Mae'r trympedi Celtaidd hyn yn annhebyg i utgyrn Rhufeinig, gan fod ganddynt "bennau angenfilod".[24] Roedd y Corn Celtaidd neu Galaidd yn cael ei ddefnyddio gan y Celtiaid mewn ffordd debyg i'r ffordd roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio baneri a bu enghreifftiau o'r Cyrn yn Rhufain mewn cofiant o frwydrau'n erbyn y Galiaid. Ceir enghraifft o gorn â phen y Ddraig ar waelod Colofn (Rhufeinig) Trajan.[25] Disgrifiwyd y Corn gan rai yr un fath â thrwmped Dacia. Mae tebygrwydd amlwg rhwng corn Celtaidd y Galiaid a baner draig Dacia La Tene a gemwaith gyda dreigiau a seirff.[26] Mae dynes sy'n dal corn Celtaidd hefyd yn ymddangos ar fronblat yr ymerawdwr Awgwstws.[27] Darganfuwyd corn Celtaidd efydd gyda phen baedd yn dyddio o'r Oes Haearn yn Suffolk, Lloegr yn 2021.[28]

Draco a safon Rufeinig

golygu

Mae'r defnydd milwrol o'r term "ddraig" (yn Lladin, "draco") yn dyddio'n ôl i'r cyfnod Rhufeinig ac mae hyn yn ei dro yn debygol o gael ei ysbrydoli gan symbolau'r Scythiaid, Indiaid, Persiaid, Dacianiaid neu Parthiaid.[7] Ystyriwyd y ddraig gan y Persiaid a'r Indiaid fel arwyddlun brenin.[29] Er ei bod yn gytun mai Brythoniaid Rhufeinig a amddiffynnodd Prydain i ddechrau rhag y Sacsoniaid, megis Ambrosius Aurelianus a Artorius; mae'n bosib nad oes gan ddraig y Cymry unrhyw gyswllt o gwbl gyda draig filwrol y Rhufeiniaid. Fodd bynnag, fe wnaeth draig y Rhufeiniaid gryfhau'r cysylltiad rhwng y ddraig a'r rhyfelwr ym Mhrydain.[7]:43

Gall y term draco gyfeirio at ddraig, sarff neu neidr ac mae'r term draconarius (Lladin) yn dynodi "cludwr y safon sarff".[30] Mae Franz Altheim yn awgrymu bod ymddangosiad cyntaf y draco a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid yn cyd-daro â recriwtio milwyr nomadaidd o dde a chanolbarth Asia yn ystod cyfnod Marcus Aurelius gan y Rhufeiniaid.[31] Mae tystiolaeth archiolegol i ddangos bod Sarmatiaid wedi'i lleoli yn Ribchester yn ystod y 3g ac mae delwedd o farchog a dargafuwyd yno yn debyg i ddelwedd o farchog yn dal baner gyda draig, a ddarganfuwyd yng Nghaer.[32] Cynrychiolwyd carfannau o filwyr gan y safon filwrol draco o'r drydedd ganrif yn yr un modd ag yr oedd safon yr eryr Aquila yn cynrychioli'r llengoedd. Yr enw ar gludwr safonol y fintai oedd draconarius ac roedd yn cario ffon euraid gyda draco ar y brig.[7] Er enghraifft, tystir bod Gâl wedi gorymdeithio o dan y ddraig i wahaniaethu rhwng y fintai Galaidd a'r llengoedd Rhufeinig.[33]


Yn ôl Wade-Evans, mae'n bosib olrhain y ddraig goch yn ôl i Macsen Wledig (Magnus Maximus). Mi fyddai ymerawdwr Rhufeinig yn chwifio'r ddraig borffor wrth orymdeithio i ryfel ac mi wnaeth Macsen orymdeithio i ryfel o Gymru.[34]

Personoliad Brenhinoedd y Brythoniaid

golygu

Ar ôl i'r Rhufeiniaid adael Cymru, awgrymwyd mai'r Brythoniaid Rhufeinig a wrthwynebodd oresgyniad y Sacsonaidd. Mae hyn i'w weld yn yr enwau a briodolir yn y chwedl i'r rhai a arweiniodd yr wrthblaid, gan gynnwys Emrys Wledig (Ambrosius Aurelianus) ac efallai Artorius. Gallai hyn esbonio sut y daeth y derminoleg Rufeinig i gael ei mabwysiadu gan Brydeinwyr.[7]

O gofnodion ysgrifenedig cyntaf y Brythoniaid, daeth yn amlwg bod dreigiau eisoes yn gysylltiedig ag arweinwyr milwrol. Wrth ysgrifennu tua 540, soniodd Gildas am y pennaeth Brythonig Maelgwn Gwynedd ("Maglocunus") yr "insularis draco", sy'n golygu "bwystfil yr ynys"yn llythrennol neu "bennaeth yr ynys".[35]

Mae'r beirdd Cymraeg neu Frythonig cynnar, Taliesin ac Aneirin yn defnyddio dreigiau yn helaeth fel delwedd ar gyfer arweinwyr milwrol,[7] ac i'r Brythoniaid, dechreuodd y gair draig olygu arweinydd rhyfel, tywysog neu reolwr erbyn y 6g.[36] Dyddiad traddodiadol ysgrifennu Y Gododdin yn ôl Thomas Charles-Edwards yw 580-660 OC. Dywed David Dumville fod hyn yn bosib ond iddynt gael eu hysgrifennu i lawr yn y 10g-13g.[37] Yn Y Gododdin, disgrifia Aneirin ei noddwr, Mynyddog Mwynfawr fel "y ddraig" pan sonia am "wledd y ddraig". Disgrifia hefyd yr arweinydd rhyfel, Gwernabwy mab Gwen, fel draig brwydr Catraeth.[38][39] Disgrifiodd Taliesin, Urien Rheged, arweinwyr dibrofiad a medrus fel "dreic dylaw" (draig dibrofiad) a "dreic hylaw" (draig medrus) yn y drefn honno.[40] Gelwir Aeddon o Fôn yn Ben Ddraig hefyd gan Taliesin. Disgrifir Lludd fab Beli ac Uthr Bendragon hefyd fel dreigiau mewn cerddi di-awdur.[41] Yn ogystal, galwyd Owain ap Urien yn "Owain ben draic", y brif ddraig.[7] Galwyd Selyf ap Cynan yn Selyf Sarffgadau ("Selyf neidr y brwydrau") a bu farw yn 616 yng Nghaer.[42] Mae cerddi Taliesin yn diweddarach yn cyfeirio at ddychweliad Cadwaladr (tua 655 i 682) a dyfodiad rhyddid o'r Sacsonaid. Serch hynny efallai fod y rhain cyn hyned â diwedd y 7fed ganrif, ac yn sôn am y "draig ffaw ffyst gychwyned".[40]

Baner cyntaf o'r Ddraig Goch?

golygu

Yn ôl Nennius, roedd y ddraig goch yn symbol o wrthwynebiad milwrol ym Mhrydain cyn 800AD. Mae'r gerdd "Gorchan Maelderw" gan Aneirin yn dyddio o tua 600 OC ac yn cyfeirio at "rud dhreic" a all ei chyfieithu fel "draig goch" a "pharaon" yn cyfeirio at yr hen enw Dinas Emrys sydd i'w weld yn Nhrioedd Ynys Prydain a Lludd a Llefelys. Mae'r gerdd yn profi bod draig goch genedlaethol y Brythoniaid yn gyfredol mor gynnar â 600AD (dwy ganrif cyn cael ei hysgrifennu yn Lladin gan Nennius).[7] Mae'n bosib mai dyma'r cyfeiriad cyntaf at ddraig goch yn llenyddiaeth Cymru yn y 6g. Mae'r gair "pharaon" yn enw hynafol ar Ddinas Emrys, ac mae'r cyfeiriad hon dwy ganrif cyn cofnod Nennius yn Historia Brittonum o stori Lludd a Llefelys; arwydd posib o darddiad hyd yn oed hŷn na hyn.[43]

Yn y gerdd, fe sonir am y ddraig goch yn hedfan yn yr awel yn ystod Brwydr Catraeth yn ogystal a'r haul a'r Duw "Hu". Ysgrifenwyd y gerdd gan Taliesin ond mae'n ymddangos yn y Llyfr Aneirin. Crewyd y faner gan "Archimagus" neu archdderwydd ar gyfer Maelderw, arweinydd y lluoedd brodorol er mwyn amddiffyn y Brythoniaid.[44][45] Mae'r faner hon yn cynnwys delwedd o'r arweinydd, yr haul a'r ddraig goch. Roedd y derwyddon Gwyddelig hefyd yn paratoi baneri'r haul i'w harweinwyr, sef y faner "Dal-greine" gyda'r haul arno.[46]

Gwelir y farddoniaeth gwreiddiol o Gwarchan Maeldrw ac ymdrech i'w gyfieithu (o gyfieithiad Saesneg:[47][44]

Molawt rin rymidhin rymenon.

(Moliant yw rhaniad y rhai a ryfeddant.)

Dyssyllei trech tra manon.

(Syllai'r buddugol tra teg.)

Disgleiryawr ac archawr tal achon

(Disgleiro ac amlwg tal flaen.)

ar rud dhreic fud pharaon.

(a'r rhudd-ddraig fydd pharaon.)

Kyueillyawr en awel adawaon.

(Cyfeilir ar awel ei bobl.)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gosden, Christopher; Crawford, Sally; Ulmschneider, Katharina (2014-08-29). Celtic Art in Europe: Making Connections (yn Saesneg). Oxbow Books. t. 27. ISBN 978-1-78297-658-5.
  2. Heinz, Sabine (2008). Celtic Symbols (yn Saesneg). Sterling Publishing Company, Inc. t. 31. ISBN 978-1-4027-4624-6.
  3. Pughe, William Owen (1832). A dictionary of the Welsh language. [Preceded by] A grammar of the Welsh language. 2 vols. [in 3 pt.]. [Followed by] An outline of the characteristics of the Welsh. 2 vols. [in 4 pt.] (yn Saesneg). t. 477.
  4. "Y Ddraig yn Nychymyg a Llenyddiaeth y Cymry c.600 – c.1500" (PDF).
  5. Pictet, Adolphe (2000). Celtic Linguistics, 1700-1850: pt. 3. The history of the Celtic language (yn Saesneg). Taylor & Francis. ISBN 978-0-415-20485-9.
  6. Bonwick, James (1894). Irish Druids and Old Irish Religions (yn Saesneg). Griffith, Farran. t. 184. ISBN 978-0-524-00695-5.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 7.5 7.6 7.7 Lofmark, Carl (1995). A History of the Red Dragon. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0-86381-317-8.
  8. Haverfield, F (1924). The Roman Occupation of Britain. t. 24.
  9. Jones, Frances (1969). The Princes and Principalities of Wales. tt. 167–189.
  10. "Y Ddraig yn Nychymyg a Llenyddiaeth y Cymry c.600 – c.1500" (PDF).
  11. Green, Miranda (2002-01-04). Animals in Celtic Life and Myth (yn Saesneg). Routledge. t. 228. ISBN 978-1-134-66531-0.
  12. Green, Miranda (2002-01-04). Animals in Celtic Life and Myth (yn Saesneg). Routledge. tt. 227–8. ISBN 978-1-134-66531-0.
  13. Moorehead, W. G. (1885). "Universality of Serpent-Worship". The Old Testament Student 4 (5): 207. ISSN 0190-5945. https://www.jstor.org/stable/3156392.
  14. MacCulloch, J. A.; Rolleston, T. W.; Evans-Wentz, W. Y. (2023-11-16). CELTIC MYTHOLOGY (Illustrated Edition): The Legacy of Celts: History, Religion, Archeological Finds, Legends & Myths (yn Saesneg). DigiCat.
  15. Heinz, Sabine (2008). Celtic Symbols (yn Saesneg). Sterling Publishing Company, Inc. t. 31. ISBN 978-1-4027-4624-6.
  16. "sword; sword-sheath | British Museum". The British Museum (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-30.
  17. Stead, Ian. Antiquaries Journal (Vol.64). tt. 269–279.
  18. "sword; sheath | British Museum". The British Museum (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-31.
  19. "sword; sword-sheath | British Museum". The British Museum (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-31.
  20. Stead, Ian Mathieson (2006). British Iron Age swords and scabbards. British Museum.
  21. Stead, I. M. (September 1984). "Celtic Dragons from the River Thames" (yn en). The Antiquaries Journal 64 (2): 269–279. doi:10.1017/S0003581500080410. ISSN 1758-5309. https://www.cambridge.org/core/journals/antiquaries-journal/article/abs/celtic-dragons-from-the-river-thames/6F18B4BE95E43C6B19BCB2E592CA27DF.
  22. Arsdell, Robert D. Van (1989). Celtic Coinage of Britain (yn Saesneg). Spink. t. 126. ISBN 978-0-907605-24-9.
  23. Megaw, J. V. S. (1970). Art of the European Iron Age: A Study of the Elusive Image (yn Saesneg). Adams & Dart. t. 177. ISBN 978-0-239-00019-4.
  24. The Numismatic Chronicle, and Journal of the Numismatic Society (yn Saesneg). Tayor & Walton. 1865. t. 11.
  25. Kinnee, Lauren (2018-03-12). The Greek and Roman Trophy: From Battlefield Marker to Icon of Power (yn Saesneg). Routledge. ISBN 978-1-351-84657-8.
  26. Pârvan, Vasile (1928). Dacia: An Outline of the Early Civilizations of the Carpatho-Danubian Countries (yn Saesneg). CUP Archive.
  27. Penner, Todd C.; Stichele, Caroline Vander (2007). Mapping Gender in Ancient Religious Discourses (yn Saesneg). BRILL. ISBN 978-90-04-15447-6.
  28. "Rare Bardwell Iron Age trumpet sells for more than £4k". BBC News (yn Saesneg). 2021-12-03. Cyrchwyd 2023-02-07.
  29. The Millennial Harbinger ... (yn Saesneg). A. Campbell. 1832. t. 214.
  30. Charlesworth, James H. (2010-01-01). The Good And Evil Serpent: How a Universal Symbol Became Christianized (yn Saesneg). Yale University Press. t. 454. ISBN 978-0-300-14273-0.
  31. Tudor, D. (2015-08-24). Corpus monumentorum religionis equitum danuvinorum (CMRED), Volume 2 Analysis and Interpretation of the Monuments (yn Saesneg). BRILL. ISBN 978-90-04-29475-2.
  32. Littleton, C. Scott; Thomas, Ann C. (1978). "The Sarmatian Connection: New Light on the Origin of the Arthurian and Holy Grail Legends". The Journal of American Folklore 91 (359): 513–527. doi:10.2307/539571. ISSN 0021-8715. https://www.jstor.org/stable/539571.
  33. Science, British Association for the Advancement of (1892). Report of the ... Meeting of the British Association for the Advancement of Science (yn Saesneg). J. Murray. t. 807.
  34. Evans, Gwynfor (1983). "MACSEN WLEDIG a Geni'r Genedl Gymreig" (PDF). John Penry. t. 22.
  35. Bromwich, Rachel (2014-11-15). Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 100. ISBN 978-1-78316-146-1.
  36. Llywelyn, Mared (2017). "Y Ddraig yn Nychymyg a Llenyddiaeth y Cymry c.600 - c.1500" (PDF). t. 44.
  37. Schustereder, Stefan J. (2015-09-16). Strategies of Identity Construction: The Writings of Gildas, Aneirin and Bede (yn Saesneg). V&R Unipress. tt. 114–117. ISBN 978-3-8470-0431-8.
  38. Canu Aneirin. Cyfieithwyd gan Winterbottom, M (arg. 2. argraffiad). Caerdydd [Wales]: Gwasg Prifysgol Cymru. 1961. ISBN 9780708302293.
  39. Chadwick, Nora K. (1991). The Celts. London: Penguin Books. ISBN 978-0140136074.
  40. 40.0 40.1 Williams, Sir Ifor (1960). Canu Taliesin. Gwasg Prifysgol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 February 2023. Cyrchwyd 25 September 2022.
  41. Davies, Edward (1809). The Mythology and Rites of the British Druids, Ascertained by National Documents; and Compared with the General Traditions and Customs of Heathenism, as Illustrated by the Most Eminent Antiquaries of Our Age. With an Appendix, Containing Ancient Poems and Extracts, with Some Remarks on Ancient British Coins... (yn Saesneg). J. Booth. tt. 557, 568.
  42. Craven, Maxwell (2023-03-15). Magnus Maximus: The Neglected Roman Emperor and his British Legacy (yn Saesneg). Amberley Publishing Limited. ISBN 978-1-3981-1137-0.
  43. "Y Ddraig yn Nychymyg a Llenyddiaeth y Cymry c.600 – c.1500" (PDF).
  44. 44.0 44.1 Davies, Edward (1809). “The” Mythology And Rites Of The British Druids, Ascertained By National Documents; And Compared With The General Traditions And Customs Of Heathenism, As Illustrated By The Most Eminent Antiquaries Of Our Age ; With An Appendix, Containing Ancient Poems And Extracts, With Some Remarks On Ancient British Coins (yn Saesneg). J. Booth. tt. 582–588.
  45. "Gwarchan of Maelderw". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2024-01-14.
  46. Cambrian Quarterly Magazine and Celtic Repertory (yn Saesneg). proprietors. 1832. t. 322.
  47. Maclagan, Robert Craig (1882). Scottish Myths: Notes on Scottish History and Tradition (yn Saesneg). Maclachlan and Stewart. t. 70. ISBN 978-0-598-73846-2.

Llyfryddiaeth

golygu