Edward Owen (Maes Llaned)
Roedd Edward Owen (6 Chwefror 1846 - 29 Hydref 1931) yn beiriannydd, syrfëwr a masnachwr o Gymru a wasanaethodd fel cadeirydd Cyngor Dinas Chubut deirgwaith. Roedd yn un o arloeswr gwladychu Cymreig yn nyffryn isaf Afon Chubut ac ar ynys Choele Choel, yn nhalaith Río Negro, yr Ariannin.
Edward Owen | |
---|---|
Ganwyd | 6 Chwefror 1846 Llandderfel |
Bu farw | 29 Hydref 1931 Talaith Chubut |
Dinasyddiaeth | Cymru Yr Ariannin |
Galwedigaeth | peiriannydd |
Bywgraffiad
golyguGanwyd ef ar 6 Chwefror 1846 ar Fferm Tŷ Uchaf, Llandderfel, ger y Bala, Sir Feirionnydd. Ei dad oedd Owen Owens, tenant y fferm, a'i wraig Mary Jones, a oedd â dau fab arall, a thair merch.
Bywyd ym Mhatagonia
golyguYmadawodd Edward Owen am Batagonia ar 20 Ebrill 1874 o Lerpwl, ar y llong Hipparchus [1] ynghyd â 49 o deithwyr eraill o Gymru a oedd yn dod o wahanol rannau o Gymru, gan gynnwys Aberdâr, Aberteifi, Rhuthun a Ffestiniog. Gan gyrraedd Chubut ym Mhatagonia, fel y rhan fwyaf o fewnfudwyr o ffermwyr, trosglwyddwyd 100 hectar o dir yn ardal Drofa Dulog yn nyffryn isaf Afon Camwy rhwng pentrefi Gaiman a Threlew iddo.[2]
Gweithiodd Edward Owen ei fferm i drawsnewid y tir ac adeiladu ei dŷ a'i atodiadau. Gwnaeth cyflwyno peiriannau amaethyddol am y tro cyntaf yn Chubut. Enw'r fferm oedd "Maes Llaned", sef Maes Llan Ed(ward). Yn ei fferm roedd ganddo siop gof a gweithdy mecanyddol lle adeiladodd ei gerbydau ei hun. Fe greodd melin ddŵr a generadur ei hun i gynhyrchu trydan gan ddefnyddio sianel ddŵr Afon Chubut gerllaw. Ei fferm oedd y cyntaf yn y dyffryn cyfan, ledled talaith Chubut, ac o bosibl ar draws Patagonia, i gael trydan.
Erbyn 1876 roedd Edward Owen wedi creu argraff dda ymysg awdurdodau'r Ariannin am ei wybodaeth a'i sgiliau peirianneg. Cafodd ei benodi i gynnal arolwg a mesur y tiroedd ar ochr ddeheuol Afon Chubut, gyda'r bwriad o'u paratoi ar gyfer mewnfudwyr newydd. Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys cynllunio'r rhwydwaith o ffyrdd neu lwybrau gwell, byddai'n addas ar gyfer cysylltu'r ardal o ffermydd bach yn y dyffryn â Puerto Madryn lle gellid allforio cynhyrchion amaethyddol.[3]
Am flynyddoedd lawer roedd yn berchen ar ran o long o'r enw Monte León, a ddefnyddiwyd ar gyfer masnach rhwng y wladfa a Buenos Aires, ac ym 1893 fe'i penodwyd yn llywydd y Phoenix Patagonian Mining Company. Cwmni cwbl Gymreig oedd hwn a grëwyd i archwilio'r posibiliadau o fanteisio ar fwyngloddio metel gwerthfawr ym mynyddoedd yr Andes. Roedd Llwyd ap Iwan hefyd yn rhan o'r cwmni hwnnw.[4] Er gwaethaf yr holl weithgareddau hyn, cymerodd Edward Owen amser i fynychu gwasanaeth Sul yng nghapel Nasareth yn Drofa Dulog, lle roedd hefyd yn deacon ac yn rhoddwr y tir lle adeiladwyd y capel.[5]
Bu'n llywydd Comisiwn Bwrdeistrefol Chubut (yr unig fwrdeistref ar y pryd, sef Gaiman bellach) ym 1894, 1896 a 1897, a chynghorydd ym 1887, 1900 a 1901. Bu hefyd yn aelod a llywydd Cyngor Bwrdeistref Trelew. Roedd Owen hefyd yn llywydd Dinesig Rawson ym 1895. Yn ystod ei gyfnod gweinyddol cynlluniwyd adeiladu'r ar gyfer llys barn, carchar a gorsaf heddlu.
Erbyn 1903, roedd Owen yn cyfarwyddo'r gwaith adeiladu camlesi yn ardal Choele Choel. Ystyrir Owen fel sylfaenydd wladfa Gymreig Rio Grande, Luis Beltrán, a oedd yn cael ei alw'n Villa Galense yn ei flynyddoedd cynnar.[6] Symudodd Owen i Río Negro ar gais llywodraethwr y Diriogaeth Genedlaethol José Eugenio Tello, a fu hefyd yn llywodraethwr Chubut. Aeth tua saith deg o ddynion gyda'u teuluoedd i'w ganlyn yno.
Teulu
golyguBu'n briod ddwywaith ei wraig gyntaf oedd Elizabeth Jones a briododd ym 1876, Owen oedd ei thrydydd gŵr, bu iddynt chwech o blant. Bu Elizabeth farw ym 1889 wedi geni ei phlentyn olaf.[7] Priododd eto ym 1890 a Mary Rogers gan gael chwe phlentyn arall.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref, "Maes Llaned," yn ardal Drofa Dulog, ar 29 Hydref 1931 yn 85 mlwydd oed. Daearwyd ei weddillion y dydd canlynol ym mynwent Trelew yng ngŵydd tyrfa enfawr.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Y FINTAI BATAGONAIDD - Y Dydd". William Hughes. 1874-04-24. Cyrchwyd 2019-07-23.
- ↑ "LLANDDERFEL - Y Dydd". William Hughes. 1874-10-30. Cyrchwyd 2019-07-23.
- ↑ "ORWLADFAGYMREIG - Yr Herald Cymraeg". Daniel Rees. 1904-04-12. Cyrchwyd 2019-07-23.
- ↑ Companion to the Welsh Settlement in Patagonia Archifwyd 2022-06-09 yn y Peiriant Wayback adalwyd 23 Gorffennaf 2019
- ↑ "GOHEBIAETHAU - Y Celt". H. Evans. 1892-10-21. Cyrchwyd 2019-07-23.
- ↑ TESTIMONIOS VARIOS - II adalwyd 23 Gorffennaf 2019
- ↑ "Anqeu - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1889-05-29. Cyrchwyd 2019-07-23.
- ↑ Y Ford Gron, Cyf 2; rhif 3; Tud 25; Ionawr 1932 PATAGONIA'N COLLI UN O'I SEFYDLWYR adalwyd 23 Gorffennaf 2019