Eglwys Sant Cwyfan, Sir Ddinbych
Eglwys sydd a'i hadeilad yn dyddio i'r 15C yw Eglwys Sant Cwyfan, Llangwyfan, ger Llandyrnog, Sir Ddinbych. Fe'i codwyd o dywodfaen lleol, coch ond gwyngalchwyd drosto.
Eglwys Sant Cwyfan | |
---|---|
Llangwyfan, Sir Ddinbych | |
Eglwys Sant Cwyfan | |
Lleoliad | Ger Llandyrnog, Dinbych, Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cristnogaeth | Yr Eglwys yng Nghymru |
Gwefan | Yr Eglwys yng Nghymru |
Hanes | |
Cysegrwyd i | Sant Cwyfan |
Pensaerniaeth | |
Statws gweithredol | Ar ddefnydd |
Dynodiad (etifeddiaeth) | Gradd II* |
Dynodiad | 19 Gorffennaf 1966 |
Pensaerniaeth | Eglwys (adeilad) |
Torri tywarchen | 12g |
Manylion | |
Cynulleidfa | c. 100 |
Hyd allanol | 15m |
Lled allanol | 4m |
Defnydd | Tywodfaen gyda tho a llawr llechen |
- Erthygl ar eglwys yn Sir Ddinbych yw hon. Am erthygl ar Eglwys Sant Cwyfan, Ynys Cribinau, Ynys Môn gweler yma. Ceir hefyd eglwys Sant Cwyfan yn Nhudweiliog, Gwynedd.
Un o ddilynwyr Sant Beuno oedd Sant Cwyfan a roddodd ei enw i'r eglwys leol. Mae'r eglwys tua 1.5 km i'r gogledd-ddwyrain o Eglwys Sant Tyrnog, Llandyrnog a sonir amdani'n wreiddiol yn 1254 fel "Langeifin", ond dylid cofio nad oedd cofnodwr trethi y Norwich Taxation yn deall Cymraeg, heb sôn am ei sillafu. Ceir hefyd eglwys o'r un enw ar Ynys Cribinau ym Môn ac un arall yn Nhudweiliog, Gwynedd. Canfyddwyd olion yr eglwys cynharaf, canoloesol ger wal yn y gogledd, ond perthyn i'r 15C mae'r adeilad presennol.[1]
Cofnodwyd pob rheithor a fu yma ers 15C. Ceir y dyddiad 1684 ar y tu allan i un o'r ffenestri ac 1714 ar y porth. Ychydig iawn o adnewyddu a moderneiddio a gafwyd yn ystod y ddau gan mlynedd diwethaf.
Ystyrir mai hon yw'r eglwys leiaf yn Nyffryn Clwyd.
-
Ye eglwys o'r ffordd.
-
Yr eglwys o'r cefn
-
Cyffion i ddal dihirod
-
Croes Geltaidd a chefn yr eglwys
-
Beth dyn a fu fyw dros gyfnod o dros tair cansrif: 1699-1801
-
Tu fewn yr eglwys
-
Ffenestr yng nghefn yr eglwys
Ceir nenfwd crwm a chorau (neu seddi ag ochrau iddynt) twt sydd wedi eu peintio’n wyrdd, ers dyddiau Cadwalader Edwards a Thomas ap Hugh, wardeniaid yr eglwys, a roesant eu henwau uwchben eu porth newydd ym 1714.
Gweler hefyd
golygu- Eglwys Sant Saeran, Llanynys
- Eglwys Llanychan, ger Rhuthun
- Eglwys Sant Sadwrn, Henllan
- Eglwys Sant Meugan, Llanrhudd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 26 Medi 2016.