Emma Davies Jones
Seiclwraig proffesiynol o Loegr ydy Emma Davies Jones (enw cyn priodi Emma Davies, ganwyd 4 Hydref 1978).
Emma Davies Jones | |
---|---|
Ganwyd | 4 Hydref 1978 Knutsford |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Taldra | 177 centimetr |
Pwysau | 66 cilogram |
Gwefan | http://www.emmadaviesjones.co.uk |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Experza–Footlogix Ladies Cycling Team, Vision 1 Racing |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Emma Davies yn nhref Knutsford, Swydd Gaer. Dechreuodd seiclo yn 1990, yn 12 oed, bu sôn iddi ddisgyn oddi ar ei beic ar ei reid gyntaf gan wneud i Harry Hall addo i beidio a dweud wrth ei rhieni rhag ofn iddynt ei hatal rhag cymryd rhan.[1] Mwynhaodd y profiad gymaint aeth ymlaen i rasio a chystadlodd dros Brydain ym Mhencampwriaethau Iau'r Byd yn 1995 ac 1996. Newidiodd yn 1997 o fod yn sbrintwraig i fod yn reidiwr dygner ar y trac. Fe ddatblygodd ei reidio, ac adlewyrchodd ei chanlyniadau ei haeddfediad. Dewiswyd hi i gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn 2000.
Priododd Jason Jones ym mis Medi 2005, a mis yn ddiweddarach cafodd ddamwain drwg hit and run ym Manceinion.[2] Torrodd ei chefn yn y ddamwain, a bu'n poeni na fedrai reidio'i beic eto, ond ail-gychwynnodd ei hymarfer ar y beic ar y 10 Ionawr 2006.[3] Ar 20 Mawrth yr un flwyddyn reidiodd y ras Pursuit i ennill medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn Melbourne, Awstralia. Yn 2006 a 2007 bu Emma yn byw ac yn ymarfer gyda'i thîm yng Ngwlad Belg. Mae wedi arwyddo cytundeb gyda Team Swift ar gyfer tymor rasio 2008. Bu'n byw yn Alsager, Swydd Stafford am gyfnod on erbyn hyn mae Emma'n byw yn Llanychan ger Rhuthun.
Yn dilyn yr anaf i'w chefn, sefydlodd Emma elusen, Emma's Spinal Hope, er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil i anafiadau sbinol.[4]
Canlyniadau
golyguTrac
golygu- 1998
- 3ydd Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1999
- 2il Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 5ed Pursuit, Pencampwriaethau Trac Ewrop Dan 23
- 2000
- 2il Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2001
- 1af Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Pursuit, Cymal 1, Colombia, Cwpan y Byd Trac UCI
- 5ed Pursuit, Pencampwriaethau Trac y Byd UCI
- 2002
- 1af Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Prydain
- 1af Pursuit, Cymal 1, Mecsico, Cwpan y Byd Trac UCI
- 4ydd Pursuit, Pencampwriaethau Trac y Byd UCI
- 4ydd Pursuit, Gemau'r Gymanwlad
- 2003
- 1af Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 3ydd Ras Scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2004
- 1af Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Pursuit, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd Trac UCI
- 2il Pursuit, Cymal Los Angeles, Cwpan y Byd Trac UCI
- 3ydd Ras Scratch, Cymal Los Angeles, Cwpan y Byd Trac UCI
- 3ydd Pursuit, Cymal Mecsico, Cwpan y Byd Trac UCI
- 4ydd Pursuit, Cymal Sydney, Cwpan y Byd Trac UCI
- 4ydd Ras Scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2005
- 2il Pursuit, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd Trac UCI
- 2006
- 3ydd Pursuit, Gemau'r Gymanwlad
Ffordd
golygu- 1998
- 1af Ras Ryngwladol Merched Ynys Manaw
- 2004
- 4ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
- 2005
- 1af Wortel-Horzvagel GP
- 2il Cymal 4 Tour De L'Aude
- 3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dyddiadur Emma ar ei gwefan Swyddogol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2007-12-08.
- ↑ Davies-Jones injured in collision BBC 14 Hydref 2005
- ↑ "Gwefan Swyddogol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-19. Cyrchwyd 2007-12-08.
- ↑ "Gwybodaeth Elusen Emma". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-09. Cyrchwyd 2007-12-08.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Swyddogol Archifwyd 2009-11-19 yn y Peiriant Wayback
- Proffil ar wefan Archifwyd 2020-04-14 yn y Peiriant Wayback British Cycling
- Bywgraffiad ar wefan Gemau'r Gymanwlad 2006 Archifwyd 2008-03-11 yn y Peiriant Wayback
- Emma Davies Jones: 'I just wanted to sleep: that was the only time when I felt no pain' The Observer 30 Gorffennaf 2006