Enid Wyn Jones

gwraig nodedig am ei gweithgarwch ym mywyd crefyddol a chymdeithasol Cymru a Lloegr

Roedd Enid Wyn Jones (17 Ionawr 190915 Medi 1967) yn amlwg mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr ac yn lladmerydd cymdeithasol ar nifer o gyrff fel Y.W.C.A. (World Young Women’s Christian Association).

Enid Wyn Jones
Ganwyd17 Ionawr 1909 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
Bu farw15 Medi 1967 Edit this on Wikidata
Bangkok Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Yr Ysgol Gymraeg i Merched
  • Ysbyty Brenhinol Caerdydd Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweithiwr cymdeithasol Edit this on Wikidata
PriodEmyr Wyn Jones Edit this on Wikidata
PlantGareth Wyn Jones Edit this on Wikidata

Bu'n llywydd Cyngor Cymru ac is-lywydd Cyngor Y.W.C.A. o 1959 hyd 1967 ac roedd yn aelod o gyngor byd y mudiad gan gynrychioli Cymru mewn cynadleddau tramor.[1] Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn crefydd hefyd ac fe'i hetholwyd yn llywydd Cyngor Cenedlaethol Merched Eglwysi Rhyddion Lloegr a Chymru rhwng 1958 a 1959. Bu'n llywydd Adran y Merched o Undeb Cymru Fydd yn 1966-67 ac roedd yn ynad heddwch yn Sir Ddinbych o 1955 hyd 1967. Bu farw mewn awyren wrth ddychwelyd i Gymru o Gynhadledd Byd y Y.W.C.A. ym Melbourne, Awstralia, ac fe'i claddwyd yn Llansannan.

Bu'n weithgar hefyd yn y maes meddygol fel is-gadeirydd Pwyllgor Gweinyddesau Bwrdd Ysbytai Cymru; fel aelod o Fwrdd Rheolaeth Ysbytai Clwyd a Dyfrdwy; o Bwyllgor Gweinyddol Meddygon Dinbych a Fflint ac o Bwyllgor Canolog Cronfa Elusennol Frenhinol y Meddygon. Roedd pynciau crefyddol a chymdeithasol a heddychaeth yn agos at ei chalon, a bu'n annerch cymdeithasau'n gyson ar y pynciau hyn.

O ran crefydd, roedd yn aelod gyda'r Crynwyr yn ogystal â'r Presbyteriaid Cymreig a bu hefyd yn aelod o Bwyllgor Crefyddol y B.B.C.

Magwraeth

golygu

Ganed Enid Wyn (née Williams) yn Wrecsam, yn ferch i'r Dr. David Llewelyn Williams a Margaret Williams. Symudodd y teulu i Gaerdydd ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn ystod y rhyfel fe'i magwyd hi yn y Rhyl. Derbyniodd ei haddysg yn y Welsh Girls’ School, Ashford, ac yna fel gweinyddes yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Priodi

golygu

Ar 9 Medi 1936 priododd ag Emyr Wyn Jones o'r Waunfawr, Caernarfon oedd yn ffysigwr yn Lerpwl, a chawsant ddau o blant. Cartrefodd y teulu yn "Llety'r Eos", Llansannan. Mae Enid Wyn Jones yn nain i'r gwleidydd yr Athro Richard Wyn Jones.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 15 Medi 2016.
  2. Gwefan X; adalwyd 20 Medi 2024.