Agor y brif ddewislen

Huw Morus (Eos Ceiriog)

bardd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Eos Ceiriog)

Bardd Cymraeg o'r 17g oedd Huw Morus neu Huw Morys, weithiau Huw Morris (1622 - Awst 1709), a adnabyddir hefyd dan ei enw barddol Eos Ceiriog. Roedd yn un o feirdd mwyaf toreithiog a phoblogaidd ei gyfnod a gyfansoddodd nifer o gywyddau a cherddi carolaidd ar sawl fesur. Bardd yn pontio'r bwlch rhwng y canu caeth a thraddodiad Beirdd yr Uchelwyr ar y naill law a'r canu rhydd poblogaidd ar y llall ydoedd.

Huw Morus
Ganwyd 1622 Edit this on Wikidata
Llangollen Edit this on Wikidata
Bu farw Awst 1709 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Wynebddalen Eos Ceiriog, casgliad o waith Huw Morus. gol. Gwallter Mechain, a argraffwyd yn Wrecsam yn 1823

Cynnwys

BywgraffiadGolygu

Ganed Huw Morus ym 1622, yn Llangollen yn ôl pob tebyg, yn fab i Forys ap Siôn ap Ednyfed. Symudodd ei dad a'r teulu i fferm Pont-y-meibion ym mhlwyf Llansilin, Glyn Ceiriog, tua'r flwyddyn 1647. Ychydig a wyddys am flynyddoedd cynnar y bardd ond mae'n debyg iddo gael ei addysg naill ai yn Ysgol Ramadeg Rhuthun neu yn Ysgol Rad Croesoswallt dros y ffin yn Swydd Amwythig. Ymddengys iddo dreulio ei oes yn ddi-briod ar fferm y teulu.

Gwaith llenyddolGolygu

Cafodd Huw nawdd gan sawl uchelwr yn y Gogledd-ddwyrain, yn cynnwys William Owen, Brogyntyn, Syr Thomas Mostyn, Gloddaeth, a Syr Thomas Myddleton, Castell y Waun. Canodd sawl marwnad nodedig, yn cynnwys un ar ffurf ymddiddan rhwng y byw a'r meirw i Barbara Miltwn, gwraig Richard Middleton o'r Plas Newydd, Llansilin, a gyfrifir yn un o'r rhai gorau yn hanes llenyddiaeth Gymraeg.

Roedd yn eglwyswr pybyr a breniniaethwr brwd ac mae sawl un o'i gerddi yn ymosod ar y Pengryniaid, Oliver Cromwell a Gwerinlywodraeth Lloegr. Ni allai ddioddef syniadau'r Piwritaniaid Cymreig fel Morgan Llwyd o Wynedd, Vavasor Powell a Walter Cradock, a chawsant eu dychanu a'u enllibio ganddo'n gyfrwys ond didrugaredd. Canai nifer o gerddi moesol a defosiynol yn ogystal.

Ond ar y cyfan nid ei ganu politicaidd sy'n amlygu dawn y bardd ar ei gorau. Enillodd yr enw 'Eos Ceiriog' am ei fod yn cyfansoddi cerddi serch a natur mor berseiniol, gan ddefnyddio gan amlaf y mesurau carolaidd a cheinciau poblogaidd. Carolau Mai a Charolau Haf yw llawer o'r rhain, llawn swyn natur a'r byd amaethyddol. Roedd yn arloeswr ar y math yma o ganu, gan gymryd y canu poblogaidd ar y pynciau hyn a'i gynganeddu i greu math arbennig o ganu rhydd acennog. Sefydlodd ysgol o ganu rhydd telynegol a ddaeth yn boblogaidd iawn yn y 18g, ond prin bod llawer o'i efelychwyr niferus yn dod yn agos iddo o ran crefft a mynegiant.

Canu cymdeithasol yw llawer o'i gynnyrch, a thrwyddo gawn gip cofiadwy ar fywyd y werin bobl yng nghefn gwlad Cymru yn ail hanner yr 17g.

LlyfryddiaethGolygu

 
Y Rhyfel Catrefol; golygwyd gan Ffion Mair Jones

CyfeiriadauGolygu

  • Thomas Parry, Hanes llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944)
  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd)
  • E. Wyn James, ‘Ann Griffiths: Y Cefndir Barddol’, Llên Cymru, 23 (2000), 147-70

Gweler hefydGolygu