Ffordd yr A525
ffordd dosbarth A, Swydd Stafford
Priffordd yng ngogledd-ddwyrain Cymru a rhan o Loegr yw'r A525. Mae'n cysylltu'r Rhyl a Newcastle-under-Lyme,Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Math o gyfrwng | ffordd dosbarth A |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Swydd Stafford, Swydd Gaer, Swydd Amwythig |
Hyd | 73 milltir |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
O'r Rhyl, mae'n arwain tua'r de, ac yn troi'n ffordd osgoi ddeuol heibio Rhuddlan. Wedi croesi'r A55 ger Llanelwy, mae'n dilyn Afon Clwyd tua'r de, ychydig i'r gorllewin o'r afon. Ychydig i'r de o Rhuthun, mae'n troi tua'r dwyrain, ac yn mynd trwy Wrecsam cyn croesi'r ffin i Loegr ychydir i'r gorllewin o'r Eglwys Wen yn Swydd Amwythig. Wedi cyd-redeg a'r A41 am ychydig ar hyd ffordd osgoi'r Eglwys Wen, mae'n ymwahanu ac yn arwain i'r dwyrain a'r gogledd-ddwyrain i groesi'r M6 a chyrraedd Newcastle-under-Lyme, lle mae'n ymuno â phriffordd yr A34.
Trefi a phentrefi ar yr A525
golygu- Rhyl
- Rhuddlan
- Llanelwy
- Trefnant
- Llanrhaeadr (ffordd osgoi)
- Rhewl
- Rhuthun
- Llanfair Dyffryn Clwyd
- Bwlchgwyn
- Coedpoeth
- Wrecsam
- Marchwiel
- Bangor-is-y-coed (ffordd osgoi)
- Yr Eglwys Wen (ffordd osgoi)
- Broughall
- Audlem
- Buerton
- Woore
- Madeley;
- Newcastle-under-Lyme