Priffordd yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n cysylltu Caer yn Lloegr â Llanrwst yw'r A548.

Ffordd yr A548
Mathffordd, ffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yr A548 ger y Rhyl

Mae'n cychyn o gyffordd gyda phriffordd yr A470 yng nghanol tref Llanrwst, ac yn arwain i'r de-ddwyrain, gan ddilyn Afon Elwy cyn belled â Llanfair Talhaearn, lle mae'n troi tua'r gogledd i Abergele. Yno, mae'n troi tua'r dwyrain ar hyd yr arfordir, ac yn croesi Afon Clwyd ychydig cyn cyrraedd Y Rhyl. Ger Gwespyr mae'n troi tua'r de-ddwyrain i ddilyn ochr orllewinol aber Afon Dyfrdwy. Gerllaw Kelsterton mae'n troi'n ddeuol, ac yn croesi Afon Dyfrdwy. Ychydig yn nes ymlaen i'r dwyrain, mae'n ymuno a'r A550, cyn ymwahanu eto rhyw filltir i'r de ac yn arwain tua'r dwyrain, gan groesi'r ffin i Loegr ychydig cyn cyrraedd Caer.

Trefi a phentrefi

golygu

Dyma restr o'r prif drefi a phentrefi ar lwybr y ffordd, neu yn ei hymyl, wedi'u rhestru o'r gorllewin i'r dwyrain:

Sir Conwy

golygu

Sir Ddinbych

golygu

Sir y Fflint

golygu

Swydd Gaer

golygu