Glan-y-don

pentref yn Sir y Fflint

Pentrefan yng nghymuned Mostyn, Sir y Fflint, Cymru, yw Glan-y-don[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif hanner milltir i'r de-ddwyrain o bentref Mostyn, ar lan aber Afon Dyfrdwy, tua dwy filltir a hanner i'r gogledd o Dreffynnon. Hanner milltir i'r dwyrain ceir pentref bychan Llannerch-y-môr. Dim ond cilfach o dir sy'n gorwedd rhwng y pentref a Mostyn. Rhed briffordd yr A548 heibio i'r pentref. Mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn pasio tua chwarter milltir i'r gogledd ond does dim gorsaf i'r pentref.

Glan-y-don
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.306158°N 3.246254°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auRob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[3]

Cyfeiriadau golygu