Galisia
Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen yw Galisia (Galisieg: Galicia; Galiza[1], Sbaeneg Galicia). Saif yng ngogledd-orllewin yr orynys Iberaidd. Mae nifer o ynysoedd megis y Cíes, Ons, Cortegada, Arousa, Sálvora a Vionta yn rhan o Galisia. Ystyrir Galisia yn genedl hanesyddol, fel Catalwnia ac Ewskadi (sef Gwlad y Basg).
Math | Cymunedau ymreolaethol Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Santiago de Compostela |
Poblogaeth | 2,695,645 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Os Pinos |
Pennaeth llywodraeth | Alfonso Rueda |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Wakayama |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Galiseg, Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 29,574 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Môr Cantabria |
Yn ffinio gyda | Asturias, Castilla y León, Norte Region |
Cyfesurynnau | 42.8°N 7.9°W |
ES-GA | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Xunta de Galicia |
Corff deddfwriaethol | Parliament of Galicia |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | President of the Xunta of Galicia |
Pennaeth y Llywodraeth | Alfonso Rueda |
Mae gan Galisia ei hiaith ei hun, Galisieg, sy'n iaith Rufeinaidd, sy'n debygach i Bortiwgaleg na Sbaeneg. Yn ôl astudiaeth ddiweddar defnyddir yr iaith gan tua 80% o'r boblogaeth. Ymhlith ei harwyr chwedlonol mae Pedro Pardo de Cela (c. 1425 - 17 Rhagfyr 1483). Ystyrir Ramón Piñeiro (31 Mai 1915 - 27 Awst 1990) yn Athronydd, awdur a chenedlaetholwr o bwys. Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn ei ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi Rhyfel Cartref Sbaen.
Roedd Rosalía de Castro (1837 – 1885) yn brif lenor Galisia a heddiw yn arwres ffeministaidd. Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Cantares gallegos (Caneuon Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel Día das Letras Galegas - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn Galisia. Un o brif ffigyrau eraill Galisia yw Castelao (1886 – 1950) a oedd yn arweinydd y mudiad cenedlaethol, ysgrifennwr, arlunydd, cartwnydd, dramodydd a doctor.
Cysylltiad Celtaidd
golyguMae Galisia yn cael ei hystyried fel gwlad Geltaidd am ei gysylltiadau Celtaidd hanesyddol.
Enw un o brif glybiau pêl-droed y wlad yw Celta de Vigo (Celtiaid Vigo) ac mae cerddoriaeth draddodiadol Galisia yn cynnwys offerynnau Celtaidd fel y bibgod.
Mae Os Pinos - anthem genedlaethol y wlad yn cyfeirio at Galisia fel ‘Cenedl Breogán’. Roedd Breogán (Breoghan, Bregon neu Breachdan)[2] yn arwr yn hanes Celtaidd. Mae’r llyfr Gwyddelig Lebor Gabála Érenn [3](Llyfr llafar Iwerddon) o’r canoloesol yn cyfeirio at Breogán a’i disgynyddion yn teithio i Galisia a sefydlu dinas Brigantia (A Coruña heddiw). Mae cerflun modern enfawr o Beogán yn sefyll yn A Coruña yn edrych tua'r môr ac Iwerddon.
Prif drefi Galisia
golygu- Vigo (poblogaeth 300,000)
- A Coruña (poblogaeth 250,000)
- Ourense (poblogaeth 110,000)
- Santiago de Compostela (poblogaeth 90,000)
- Lugo (poblogaeth 90,000)
- Ferrol (poblogaeth 80,000)
- Pontevedra (poblogaeth 80,000)
Yn economaidd, mae Galisia yn dibynnu i raddau helaeth ar amaethyddiaeth a physgota. Mae twristiaeth hefyd yn elfen bwysig, ac mae miloedd o bererinion yn cyrchu i Santiago de Compostela bob blwyddyn ar hyd y Camino de Santiago.
Oriel
golygu-
Ymgyrch rhai Galisiaid i gael eu hadnabod yn wlad Geltaidd, ar ffurf baneri Celtaidd.
-
Torch aur o Burela, o Oes yr Haearn
-
Llywodraeth Galisia: y Pazo de Raxoi, yn Santiago
-
Dwysedd y boblogaeth
-
Baner Galisia gyda seren dros annibyniaeth
Dinasoedd a threfi mawrion
golyguY prif ddinasoedd yw: Vigo, A Coruña, Ourense, Lugo, Santiago de Compostela (y brifddinas), Pontevedra a Ferrol.
Yr ardaloedd mwyaf poblog yw:
- Vigo-Pontevedra – 660,000
- A Coruña-Ferrol – 640,000
Rhestr dinasoedd a threfi yn Galisia yn ôl poblogaeth | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Tref/Dinas | Rhanbarth | Poblogaeth (2013) | Tref/Dinas | Rhanbarth | Poblogaeth (2013) | |||||
1 | Vigo | Pontevedra | 294,997 | 11 | Carballo | A Coruña | 31,303 | |||
2 | A Coruña | A Coruña | 244,810 | 12 | Arteixo | A Coruña | 30,482 | |||
3 | Ourense | Ourense | 106,905 | 13 | Redondela | Pontevedra | 30,006 | |||
4 | Lugo | Lugo | 98,007 | 14 | Culleredo | A Coruña | 29,207 | |||
5 | Santiago de Compostela | A Coruña | 95,207 | 15 | Ames | A Coruña | 28,852 | |||
6 | Pontevedra | Pontevedra | 82,946 | 16 | Ribeira | A Coruña | 27,699 | |||
7 | Ferrol | A Coruña | 70,389 | 17 | Cangas | Pontevedra | 26,121 | |||
8 | Narón | A Coruña | 39,450 | 18 | Marín | Pontevedra | 25,864 | |||
9 | Vilagarcía de Arousa | Pontevedra | 37,621 | 19 | Cambre | A Coruña | 23,649 | |||
10 | Oleiros | A Coruña | 34,470 | 20 | Ponteareas | Pontevedra | 23,561 |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Fraga, Xesús (2008-06-08). "La Academia contesta a la Xunta que el único topónimo oficial es Galicia". La Voz de Galicia. Unknown parameter
|trans_title=
ignored (help) - ↑ "Breogán" (yn en), Wikipedia, 2020-01-13, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Breog%C3%A1n&oldid=935528972, adalwyd 2020-10-24
- ↑ "Lebor Gabála Érenn" (yn en), Wikipedia, 2020-10-18, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Lebor_Gab%C3%A1la_%C3%89renn&oldid=984132599, adalwyd 2020-10-24
Andalucía ·
Aragón ·
Asturias ·
Cantabria ·
Castilla-La Mancha ·
Castilla y León ·
Catalwnia ·
Extremadura ·
Galisia ·
Gwlad y Basg ·
Madrid ·
Murcia ·
Navarra ·
La Rioja ·
Valenciana ·
Ynysoedd Balearig ·
Yr Ynysoedd Dedwydd ·
Dinasoedd ymreolaethol
Ceuta ·
Melilla