Gonepteryx cleopatra
Cleopatra: gwryw, Dyffryn Algendar, Menorca
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Pieridae
Genws: Gonepteryx
Rhywogaeth: G. cleopatra
Enw deuenwol
Gonepteryx cleopatra
(Linnaeus, 1767)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn Cleopatra, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gloynnod Cleopatra; yr enw Saesneg yw Cleopatra, a'r enw gwyddonol yw Gonepteryx cleopatra.[1]

Isrywogaethau

golygu

Ceir deg isrywogaeth:


Lleoliad

golygu

Gellir canfod y glöyn byw hwn yn ardal y Môr Canoldir sef de Ewrop, Gogledd Affrica ac Anatolia): gweler uchod.

Cynefin

golygu

Ei gynefin yw tir coediog agored a mân lwyni ysgafn. Mae ar ei adain rhwng Mai ac Awst yn y rhan fwyaf o wledydd ac eithrio Sbaen ble mae'n deor ddwywaith ac ar ei adain bron drwy'r flwyddyn. Mae'n gallu cysgu dros y gaeaf mewn coed bytholwyrdd neu lwyni. Mae'r siani flewog yn hoff iawn o fwyta'r planhigyn Rhamnus.

Mae oddeutu 30 milimetr (1.2 mod). Mae gan y fenyw adenydd o liw melyn golau ac mae adenydd y gwryw yn felynach gydag ychydig o oren ar flaen yr adenydd. Mae gan y ddau ddotiau brown yng nghanol pob adain ac mae'r rhan isaf o bob adain yn lliw sydd rhywle rhwng melyn a gwyrdd.

 
Chwiler gwryw, a'i guddliw yn ymdebygu i ddeilen.

Cyffredinol

golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r glöyn Cleopatra yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.