Gorsaf reilffordd Cryw

Gorsaf reilffordd yn Cryw, Lloegr
(Ailgyfeiriad o Gorsaf reilffordd Crewe)

Mae gorsaf reilffordd Crewe yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref Crewe (Cryw) yn Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr.

Gorsaf reilffordd Crewe
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCrewe Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1837 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDwyrain Swydd Gaer Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.089°N 2.433°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ710547 Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Nifer y platfformau12 Edit this on Wikidata
Côd yr orsafCRE Edit this on Wikidata
Rheolir ganVirgin Trains, Avanti West Coast Edit this on Wikidata
Map
 
Trên Virgin yng Ngorsaf reilffordd Cryw

Agorwyd gorsaf reilffordd Cryw ar 4ydd Gorffennaf 1837, gan Gwmni Rheilffordd Grand Junction. Cyrhaeddodd y trên cyntaf o Lerpwl, ac aeth i Birmingham.[1] Nod y cwmni oedd uno Rheilffordd Llundain a Birmingham efo Rheilffordd Lerpwl a Manceinion. Aeth y lein o Orsaf Reilffordd Stryd Curzon yn Birmingham i Warrington, lle'r ymunodd hi â Rheilffordd Warrington a Newton, cangen leol o Reilffordd Lerpwl a Manceinion.[2] Penderfynwyd symud gweithdai'r rheilffordd o Edge Hill, Lerpwl, i safle mwy canolog yng Nghryw;[1] prynwyd tir ar gyfer gweithdai rheilffordd ym 1840. Yn Hydref 1840, agorwyd Rheilffordd Caer a Chryw. Yn Awst 1842, agorwyd rheilffordd arall o Gryw i Fanceinion trwy Wilmslow a Stockport. Ym 1848, agorwyd lein o Gryw i Kidsgrove, rhan o Reilffordd Gogledd Swydd Stafford, yn hwyluso cludo glo o byllau gogledd Swydd Stafford.[1] Ffurfiwyd Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin ym 1846 wrth uno cwmnïau Grand Junction, Llundain a Birmingham, a Birmingham a Manceinion,[3] ac ym 1948, agorwyd lein o Gryw i Amwythig gan y cwmni. Adeiladwyd y gweithdai erbyn 1846, a chrëwyd y dref o ganlyniad i dwf sydyn yn y boblogaeth leol, o 148 ym 1831 i 4571 ym 1851 a 17810 erbyn 1871.[2]

 
Trên Arriva Cymru'n cyrraedd Cryw o Amwythig

Ailadeiladwyd yr orsaf yn 1861 ac ychwanegwyd platfformau 5 a 6. Ychwanegwyd lein osgoi ar gyfer trenau nwyddau tua diwedd y 19g, ac yn enwir "the muck hole" gan selogion y rheilffyrdd hyd at heddiw.[4]

Daeth y Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin yn rhan y Rheilffordd Llundain, Canolbarth ac Albanaidd ym 1923, fel rhan o ad-drefniant cenedlaethol y rheilffyrdd, ac ym 1948 daeth y cwmni'n rhan o Ranbarth Llundain Canolbarth o'r Rheilffyrdd Prydeinig.[5]

Dechreuodd gwaith trydaneiddio'r rheilffyrdd o Lundain i Fanceinion, Lerpwl a Glasgow ym 1959, a chwblhawyd y prosiect ym 1974.[6] Cafodd y lein rhwng Cryw a Kidsgrove ei thrydaneiddio fel rhan o'r cynllun Llundain-Manceinion; Mae'n cysylltu â lein arall o Lundain i Fanceinion trwy Stoke-on-Trent, ac yn cael ei defnyddio fel gwyriad o bryd i'w gilydd. Erbyn hyn, dim ond y rheilffyrdd o Gryw i Amwythig, a Chryw i Gaer a Chaergybi, sydd heb eu trydaneiddio.

Gwasanaethau presennol

golygu

Yn ddyddiol, mae 22 drên yn mynd trwy Gryw pob awr, yn ogystal â gwasanaethau llai aml. Dyma grynodeb:[7][8][9][10][11][12]


Gorsaf gynt   RHEILFFYRDD GWREIDDIOL   Gorsaf nesaf
Worleston   Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin
Rheilffordd Caer a Chryw
  Terminws
Lein ar agor, gorsaf wedi cau
Minshull Vernon
Lein ar agor, gorsaf wedi cau
  Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin
Rheilffordd Grand Junction
  Betley Road
Lein ar agor, gorsaf wedi cau
Terminws   Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin
Rheilffordd Amwythig a Chryw
Rheilffordd Nantwich a Market Drayton
  Willaston
Lein ar agor, gorsaf wedi cau
Terminws   Rheilffordd y Great Western
Rheilffordd Nantwich a Market Drayton
  Willaston
Lein ar agor, gorsaf wedi cau
Terminws   Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford
Lein Cryw - Derby
  Radway Green
Lein ar agor, gorsaf wedi cau
Gorsaf gynt   RHEILFFYRDD PRESENNOL   Gorsaf nesaf
Nantwich   Trafnidiaeth Cymru
Lein y Gororau
  Wilmslow
Terminws neu Stafford   Trafnidiaeth Cymru
Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru
  Caer
Terminws   East Midland Trains
Lein Cryw - Derby
  Alsager
Llundain (Euston)   First ScotRail
Sleeper Celyddon
  Preston
Stafford   London Midland
Birmingham - Lerpwl
  Winsford
Terminws   London Midland
Llundain-Cryw
  Alsager
Terminws   Northern Rail
Lein Cryw - Manceinion
  Sandbach
Stafford   Cross Country
Rhwydwaith Traws Gwlad
  Wilmslow
Wolverhampton   Virgin Trains
Birmingham - Glasgow/Caeredin
  Warrington
Bank Quay
Stafford   Virgin Trains
Lein Lerpwl
  Runcorn
Stafford
neu Llundain (Euston)
  Virgin Trains
Lein Manceinion
  Wilmslow
Milton Keynes Canolog   Virgin Trains
Canghennau Caer/Caergybi/Wrecsam
  Caer

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 William Henry Chaloner, The Social and Economic Development of Crewe, 1780-1923 (Gwasg Prifysgol Manceinion)
  2. 2.0 2.1 "Tudalen Grand Junction o wefan Cymdeithas Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-01. Cyrchwyd 2013-09-04.
  3. "Tudalen LNWR o wefan Cymdeithas Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-27. Cyrchwyd 2013-09-04.
  4. "Gwefan Locoscene". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2013-09-04.
  5. Tudalennau Swydd Caer o'r Archifdy Genedlaethol
  6. Gwefan Clwb cerddwyr hanes rheilffyrdd
  7. "Gwefan Virgin Trains". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-04. Cyrchwyd 2013-09-04.
  8. Gwefan London Midland
  9. "Gwefan Trenau Arriva Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-12. Cyrchwyd 2013-09-04.
  10. "Tudalen Cryw-Manceinion ar wefan Northern Trains" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-07-21. Cyrchwyd 2013-09-04.
  11. "Tudalen Derby-Cryw ar wefan East Midlands Trains" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-05-21. Cyrchwyd 2013-09-04.
  12. "Gwefan Cross Country Trains". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-19. Cyrchwyd 2013-09-04.
  Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.