Dinas ym Maden-Württemberg, yr Almaen yw Reutlingen. Dyma brifddinas eponymaidd dosbarth Reutlingen. Yn Ebrill 2008 ei phoblogaeth oedd 109,828. Ceir yn Reutlingen ddiwydiant tecstiliau hirsefydlog, ynghyd â chyfleusterau peirianwaith, nwyddau lledr, a chynhyrchu dur. Mae un o'i strydoedd, Spreuerhofstrasse, yn enwog am ei bod yn stryd gulaf y byd (lled 31 cm).

Reutlingen
Mathdinas fawr, bwrdeistref trefol yr Almaen, prif ddinas ranbarthol, tref ardal mawr Baden-Württemberg Edit this on Wikidata
Poblogaeth117,547 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1240 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethThomas Keck Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Aarau, Roanne, Dushanbe, Ellesmere Port, Reading, Bouaké, Szolnok, Pirna Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirReutlingen Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd87.04 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr382 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPfullingen, Eningen unter Achalm Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.4833°N 9.2167°E Edit this on Wikidata
Cod post72760, 72770, 72762 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethThomas Keck Edit this on Wikidata
Map
Golygfa yn Reutlingen

Daearyddiaeth golygu

Lleolir Reutlingen oddeutu 35 km i'r de o brifddinas dalaith Baden-Württemberg, Stuttgart. Gorwedd yng nghornel de-orllewinol yr Almaen, ger y Jura Swabaidd, sef y rheswm y'i gelwir yn fynych 'Clwyd y Jura Swabaidd' (Almaeneg: Das Tor zur Schwäbischen Alb). Mae Afon Echaz, un o isafonydd Afon Neckar, yn llifo trwy ganol y ddinas.


  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.