Horseman's Green

pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Pentref yng nghymuned Hanmer, bwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Horseman's Green.[1][2] Saif yn ne-ddwyrain y sir, yn agos at y ffin â Swydd Amwythig, Lloegr.

Horseman's Green
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9652°N 2.8272°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ445411 Edit this on Wikidata
Cod postSY13 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auSimon Baynes (Ceidwadwyr)
Map

Mae'r pentref yn un o nifer o bentrefi ym Maelor Saesneg sy'n cynnwys yr elfen "Green" yn eu henwau, sy'n dangos iddyn nhw ddod i fodolaeth yn y cyfnod cymharol fodern ar ôl cau tir a oedd gynt yn dir cyffredin. Mae'r cofnod cyntaf o'r enw "Horseman's Green" yn dyddio o ddiwedd yr 17g ar ffurf "Horse Math's Green", sy'n debygol o ddeillio o'r gair Saesneg "math", sy'n golygu "lladd gwair" (h.y. tir dôl).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Baynes (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 26 Rhagfyr 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-26.
  4. Gwefan Senedd y DU