Huw Morus (Eos Ceiriog)
Bardd Cymraeg oedd Huw Morus neu Huw Morys, weithiau Huw Morris (1622 - Awst 1709), a adnabyddir hefyd dan ei enw barddol Eos Ceiriog. Roedd yn un o feirdd mwyaf toreithiog a phoblogaidd ei gyfnod a gyfansoddodd nifer o gywyddau a cherddi carolaidd ar sawl fesur. Bardd yn pontio'r bwlch rhwng y canu caeth a thraddodiad Beirdd yr Uchelwyr ar y naill law a'r canu rhydd poblogaidd ar y llall ydoedd.
Huw Morus | |
---|---|
Ffugenw | Eos Ceiriog |
Ganwyd | 1622 Llangollen |
Bu farw | Awst 1709 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguGaned Huw Morus ym 1622, yn Llangollen yn ôl pob tebyg, yn fab i Forys ap Siôn ap Ednyfed. Symudodd ei dad a'r teulu i fferm Pont-y-meibion ym mhlwyf Llansilin, Glyn Ceiriog, tua'r flwyddyn 1647. Ychydig a wyddys am flynyddoedd cynnar y bardd ond mae'n debyg iddo gael ei addysg naill ai yn Ysgol Ramadeg Rhuthun neu yn Ysgol Rad Croesoswallt dros y ffin yn Swydd Amwythig. Ymddengys iddo dreulio ei oes yn ddi-briod ar fferm y teulu.
Gwaith llenyddol
golyguCafodd Huw nawdd gan sawl uchelwr yn y Gogledd-ddwyrain, yn cynnwys William Owen, Brogyntyn, Syr Thomas Mostyn, Gloddaeth, a Syr Thomas Myddleton, Castell y Waun. Canodd sawl marwnad nodedig, yn cynnwys un ar ffurf ymddiddan rhwng y byw a'r meirw i Barbara Miltwn, gwraig Richard Middleton o'r Plas Newydd, Llansilin, a gyfrifir yn un o'r rhai gorau yn hanes llenyddiaeth Gymraeg.
Roedd yn eglwyswr pybyr a breniniaethwr brwd ac mae sawl un o'i gerddi yn ymosod ar y Pengryniaid, Oliver Cromwell a Gwerinlywodraeth Lloegr. Ni allai ddioddef syniadau'r Piwritaniaid Cymreig fel Morgan Llwyd o Wynedd, Vavasor Powell a Walter Cradock, a chawsant eu dychanu a'u enllibio ganddo'n gyfrwys ond didrugaredd. Canai nifer o gerddi moesol a defosiynol yn ogystal.
Ond ar y cyfan nid ei ganu politicaidd sy'n amlygu dawn y bardd ar ei gorau. Enillodd yr enw 'Eos Ceiriog' am ei fod yn cyfansoddi cerddi serch a natur mor berseiniol, gan ddefnyddio gan amlaf y mesurau carolaidd a cheinciau poblogaidd. Carolau Mai a Charolau Haf yw llawer o'r rhain, llawn swyn natur a'r byd amaethyddol. Roedd yn arloeswr ar y math yma o ganu, gan gymryd y canu poblogaidd ar y pynciau hyn a'i gynganeddu i greu math arbennig o ganu rhydd acennog. Sefydlodd ysgol o ganu rhydd telynegol a ddaeth yn boblogaidd iawn yn y 18g, ond prin bod llawer o'i efelychwyr niferus yn dod yn agos iddo o ran crefft a mynegiant.
Canu cymdeithasol yw llawer o'i gynnyrch, a thrwyddo gawn gip cofiadwy ar fywyd y werin bobl yng nghefn gwlad Cymru yn ail hanner yr 17g.
Llyfryddiaeth
golygu- Eos Ceiriog, gol. Gwallter Mechain mewn 2 gyfrol (Wrecsam, 1823)
- Gwaith Huw Morus, gol. Owen M. Edwards (Cyfres y Fil, 1902). Detholiad.
- Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg. Dwy gerdd gan Huw Morus.
Cyfeiriadau
golygu- Thomas Parry, Hanes llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944)
- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd)
- E. Wyn James, ‘Ann Griffiths: Y Cefndir Barddol’, Llên Cymru, 23 (2000), 147-70